Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y "CODE NEWYDD."

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Y "CODE NEWYDD." Dydd Mawrth diweddaf, gosododd Mr. Walpole ei benderfyniad ar y Code, Newydd gerbron Ty y Cyffredin. Gosodwn bwynt gerbron ein darllen- wyr:— 1. Lie y eynnygir rhoddi cymhorth y llywodr- aeth i ysgolion elfenol, nad priodol ydyw i boll swm y cyfryw help ddibynu ar arholiad personol pob plentyn mewn darllen, ysgrifenu, a rhifo. 2. Y byddai y gyfundrefn o ddosparthu yrysgol- heigion yn ol eu hoedran yn annheg yn ei gweith- rediad, ac yn brawf annigonol o'r gwaith a wnaed yn yr ysgolion, ac yn hynod o anfanteisiol i'r plant yr esgeuluswyd eu haddysg foreuol. 3. Fod darpariaethau y Code newydd yn yr ystyr- iaethau a enwyd yn y penderfyniadau blaenorol, os na ddiwygir hwynt, yn cynnyddu yr anhawsdero es- tyn manteision rhoddion y llywodraeth i ddosparth- iadau tiodion sydd hyd yma wedi eu hesgeuluso. 4. Fod gwrthoJ cyfran o'r rliodd senetidol ar gyf- rif plant fyddont unwaith wedi pasio arholiad yn y dosparth uchod yn debyg o effeithio yn niweidiol, am ei fod yn tueddu i gynnyddu y drwg o dynu plant yn gynnar o ysgolion elfenoW 5. Nad priodol ydyw i'r Capitation grant argvfrif plant o dan saith mlwydd oed ddibynu ar arholiad personol y plant hyny. 6. Fod darpariaethau y Code newydd gyda golwg ar yr ysgolion nosawlyn anfoddhaol, am y byddai yr athrawon mewn llawer o amgylchiadau yn analluog, ar ol eu llafur yn ystod y dydd, i arolygu ac addysgu yr ysgolheigion nosawl yn briodol. 7. Fod y rheolau a gynnwysir yn y Code newydd gyda golwg ar ddysgybl-athrawon, yn annghy6awn ac annoeth. 8. Y byddai yn annghyfiawn Uwyr attal manteis- ion ereill y rhodd seneddol oddiwrth y pwyllgorau a wrthodant ymgymmeryd &'r cyfrifoldeb o dalu y cyflogau a'r rhoddion a delir yn awr i'r dysgybl-atii. rawon, yn ystod parhad eu prentisiaeth bresenol. 9. Y byddai. yn annoeth rhedeg y perygl o ddy- cbwelyd at y gyfundrefn fonitoraidd trwy annghefn- ogi defnyddiad dysgybl-athrawon, ac y rhoddid gwell cefnogaeth i'r cyfryw ddefnyddiad trwy dal-wobrau arianol na thrwy gospedigaeth arianol. 10. Os diwygir y Code, neu os bydd unrhyw gyf. newidiad pwysig yn angenrheidiol ynddo, fod iddo gael ei argratfu yn mis Ionawr yn mhob blwyddyn, yn y fath ffurf ag a ddengys yn eglur bob rheol a ddiddymir, pob cyfnewidiad a wneir, a phob rheol newydd a ffurfir. 11. Pa bryd bynag y gwneir y cyfryw ddiwygiad neu gyfnewidiad ag a enwwyd yn y penderfyniad blaenorol, na bydd yn gyfreithlawn ei roddi mewn grym hyd nes y gosoder ef gerbron y senedd, ac y rhodder ef- ar fwrdd y ddau DO am o leiaf un inis." Cynnygiai Mr. Paget hefvd y penderfyniadau canlynol: — 1. fodtr lioll blant a orfodir gan y gyfraith i roddi eu presenoldeb mewn ysgol fel ainmod can. iatad i weithio, gael rhyddid i dderbyn capitation grant tra y byddy cyfryw bresetioldeb yn orfodol. 2. Gan fod darllen yn dda yn fwy pwysig i blant tlodion nag ysgrifenu a rhifo, fod i'r capitation grant gael ei rhanu yn bedair rhan, a bod i Uil neu ddwy Or Cyfryw ranau yn ol fel y barno yr arolygwyr yn oreu, am ddarllen, nen ysgrifenu, ac un am rifo.

HANESION CYFFREDINOL.

TY Y CYFFREDIN.