Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
PRWSIA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PRWSIA. Newyddion o'r wlad hon a hysbysant fod y Seriedd. wediei dadgorffori. Ewyllysiai y cynnrychidlwyr gael rheolaeth ar y GyU- ideb; ond barnai y brenin fod gormdd o duedd chwildroadol yn eu penderfyniad, a gwrthododd gydsynio ag ef. Arhyn rhodd- odd y Weinyddiaeth eu swyddi i fyny; ond gwrthododd ei Fawrhydi ei derbyn, gan ddewis yri hytrach ddadgorffori y senedd. Yr oedd y rhan fwyaf o'r cynnrychiolwyr yn rhy ryddfrydig gan y brenin. Yr oedd yn anmhosibl cael mwyrif dros un ysgrif o duedd gacthiwol a gwrthweithiol. Yr oedd y Radicaliaid oedd yn eu plith yn poeni enaid ei Fawrhydi. Ond y mae bron yn sicr yr ail-etholir y rhan fwyaf o honynt. Nid oes un tebygolrwydd y bydd y senedd Z) nesaf yn llai rhyddfrydig, ond y debygol- iaeth yw y bydd yn fwy rhyddfrydig. Y mae cyftro nid bychan yn ffynu yn Berlin. Gwylir y prif heolydd gan gatrodau o filwyr. Ymddengys yn awr fod yn rhaid i'r brenin un ai symud yn mlaen, neu beryglu heddweh y wlad.
.ITALI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ITALI. Y mae Protestaniaeth yn ennill tir yn raddol a sefydlog yn Itali. Dosperthir llyfrau a chyhoeddiadau crefyddol drwy y wlad, ac y mae y bobl yn eu darllen gydag awyddfryd mawr. Yn Naples y mae cyf- reithiwr lied enwog, o'r enw Albaralla d' Afflitts,yn pregethu yr efengyl gyda hyawdt- 0 oy edd mawr, ac y mae y gwirioneddau a dra- ddodir ganddo yn tynu sylw ppb graddau o'r boblogaeth. Y mae yr un gwr hefyd wedi ysgrifenu traethodau galluog ar Bab- yddiaeth, a Phrotestaniaeth, y rhai a led- aenir wrth y miloedd Mr. Cresi sydd weithiwr galluog arall yn yr un maes. Y mae efe wedi sefydlu" ysgol ddyddiol i en- ethod, yr hon sydd dan arolygiaeth athrawes Brotestanaidd fedrus. Y mae egwyddorion Protestanaidd wedi- cynnyddu yn ddirfawr yn Florence hefyd yn ystod y misoedd di- weddaf. Y mae nifer yr aelodau protfes- edig rhwng 300 a 400. Y prif lafurwr yw AI. Ferretti, yr hwn sydd nid yn Unig yn pregethu yr efengyl, ond hefyd yn arol- ygu ysgolion dyddiol i fecbgyn a genethod. Y mae gweinidog ieuanc Waldensaidd yn llafurio yn ddiwyd a llwyddiannlis yn Leg- horn, He y mae un o'r cynnuUeidfaoedd Protestanaidd mwyaf biodeuog yn Italy. Yn ddiweddar, ffurfiwyd cymdeithas newydd ya Ititli dan yr enw Cymdeithas Rhyddhad Itali." Ei hamcan yw diogelu y pedwar peth canlynol1. Rhoddi cyn- llun Hydref 20fed, 1860, mewn gweithred- iad, trwy gyhoeddi Itali yn un deyrnas an- nibynol dan lywodraeth Victor Emmanuel. 2. Cael Rhufain yn brif ddinas Itali. 3. Cydraddoldeb iawndprau politicaidd i bob dosparth. 4. Cael cydweithrediad y fyddin i gefnogi undeb a rhyddid y wlad. Ei llywydd yw Garibaldi, yr hwn oedd yn bre- senol rhai dyddiau yn ol yn ei chyfarfod agoriadol. Llywodraethir Rhyddhawr Italy yn barhaus gan yr nn egwyddorion. Nid ydyw yn bwriadu gorphwys hyd nes gweled holl Itali yn wlad rydd, dan un penadur. Taenir y gair yn Paris fod milwyr Ffraine i gael eu galw adref tua chanol y mis nesaf, ac mai amcan y cyfnewidiad yn ngwein- vddiaeth Turin oedd rhwyddhau y ffordd i hyn. ] lIfll1LI'{jJj:
CHINA..
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CHINA. Newyddion o'r amherodraeth bellenig hon, a hysbysant fod y gwrthryfelwyr yn parhau i aflonyddu y Uywodraeth. Y maent yn ddi'veddar wedi ennill amryw fuddug- oliaetbau ar fyddin yr amherawdwr, wedi cymmeryd Dinas Ningpo, ac ar eu taith tua Shanghai. Dy-vpedir eu bod wedi cyflawnu gwe:thredoedd ysgeler, wedi anrheithio rhanau eang o'r wlad, ac yn parhau i gyn- nyddu mewn nerth. Y maent yn awr yn poeni yr amherodraeth er's oddeutu deu- ddeg mlynedd, ac wedi llwyddoi wrtbsefyll ZD holl fyddinoedd yr amherawdwr. Mae yn eu plith amryw bleidiau. Rboddir gwahanol hanesion am danynt gan wahanol y&grifen- wyr. Weithiaurhoddirar ddeall ell bod yn gwybod cryn lawer am grefydd Crisc, a phryd arall gorfodir ni i edrych arnynt fel barbariaid creulawn a drygionus. Pa un o'r ddau adroddiad yw y cywiraf, y mae yn anhawdd penderfynu. Haera y Times mai yr olaf sydd wirionedd ond ysgrifena am- ryw o genadon Cristionogol fod yn eu plith nifer mawr yn gwybod ychydig am Grist- ionogaeth, ac yn awyddus am chwaneg o addysg yn ei hegwyddorion. Y peth tebyeaf yw, fod graddau o wirionedd yn y naill a'r llall o'r adroddiadau hyn.
HUNGARY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HUNGARY. Mae yr Allianza wedi newydd gyhoeddi y rhaghysbyslen a gytunwyd ami gan Kos- suth, Klapka, a Turr, mewn perthynas i Hungary. Prif nodau y rhaghysbyslen yw sefydliad teyrnas gyfansoddol, gan gau allan yrach Hapsburgaidd (s f teulu amherodrol Awstria) o'r orsedd cydraddoldeb yr oll o'r trigolion a cbynghrair ymosodol ac am- ddiffynol rhwng Hungary, Servia, Croatia, a Roumelia.
MANION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MANION. Cyfnfir fod ennillion Blondin yn y wlad hon rhwng £ 30,000 a £ 40,000. Y mae Prwsia wedi dyfod i'r penderfyniad o gydna- bod annibyniaeth teyrnas Itali yn ddioed. Y mae adroddiadau Bwrdd Masnach am fig Ionawr diweddaf wedi eu cyhneddi. Hall werth yr allforiou am y mis yw £8,439.055,yn arbyn £ 8,344,741 am fis lonawr 1861, a £9-,366,4t}7am Ionawr i860. Mynega llythyr o Washington fod y Parch. Dr. Cheever newydd bregethu pregeth yn erbyn caethwas- aeth yn Y stafell Cynnrychiol wyr yr U nol Daleithiau. Dywed papyrau seneddol fod y nifer o 8,466 wedi cael eu lladd mewn gweithfeydd gloyn y deng mlynedd yn diweddu yn I860. Cod wyd 605,154,940 tunell yn y cyfamser. Mewn cymmydogaeth boblog yo Lluodaill, y mae eill- iwr wedi gosod astell i fyny yn cynnwysy raynegiad canlvnol:—"Gan fod toll y papyr wedi ei thynu, gall dynion gael en heillio, ymolchi, a choler crys newydd, am ddwy geiniog." Ni bydd prinder gorchwylion annghyhoedd yn y senedd yr eisteddiad preseno). Nid oes eisoes ddim llai na 270 o ysgrifau anghyhoedd wedi eu dwyn i mewn i'r naill dy neuy llall. Cynnygiai ysgrifau ffyrdd haiarn wneyd 1,800 o filldiroedd o linelIau newyddion yn y Deyrnas Gyfunol—1,497 yn Lloegr. Y ffordd oreu i wr ieuanc ydyw siarad ychydig, gwrandaw llawer, myfyrio yn ddwys ar yr hyn a glyw, ammheu ei farn ei hun, a pharchu ereill a haeddant eu parchu. Dywed yr Observer fod cyfarfod difyrus a dyddor. ol wedi ei gvnnal yn Tyburnia, ar y pwnc o ddiddym- iad yr anghenfil aruthrol a elwir crinoline. Cymmer- odd amryw o foneddigesau dyianwadol ran yn y cyfar- fod. Pasiwyd penderfyniad fod defnyddio crinoline yn annghyfleus, yn warthus, ac yn beryglus. Swm presenol r eotwm yn Liverpool yw 420,000 o sypvnau, yn erbyn 881.000 y lIynedd. Fel arwydd yr amser yn Unol Daleithiau America, y mae tri o'r chwareudai yn Efrog Newydd yn hysbyau adnewyddiad y drama Caban F'ewythr Twm." Derbyniodd milwr o'r enw Jones, perthynol i'r 23ain Welsh Fusiliers, 50 flangell y dydd arall, yn Walmer, yn ol penderfyniad y Llys Milwrol, am daraw swyddog. Llythyr o Rufain a hysbysa y bydd i'r Pab encilio i Malta, os bydd raid iddo adael y Ddinas Santaidd. Dygodd Arglwydd Ponsonby fryslythyrau o'r Dwy- rain, oddiwrth Dywysog Cymru. Cyrhaeddodd ei Uchelder Breninol yr Aifft ar y laf o'r mis hwn a chafodd dderbyniad croesawgar iawn gan y Brenin. Y mae Ardalydd Waterford wedi ei ddewis yn Llywydd ar Gymdeitbas Amaethyddol yr Iwerddon am y flwyddyn 1862. Y mae y gair bychan yma i'w weled yn newyddiadur Darmstadt:- Civildienerwittweninstilut. Yn y Gymraeg, ymddengys mai ei ystyr yw, sefydliad i weddwon swyddogion gwladol. Y mae y elfrigwyr Pabaidd yn Iwerddon yn rhifo 4 archesgob, 29 o esgobion, 1,036 o offeiriaid plwyfol, a 1,491 oguradiaid, &c. Nifer y Pabyddion yn ol y cyfrifiari di weddaf yw 4,490,583. Nifer y lleoedd addoliad Pabaidd yn Iwerddon yw 2,339. CYSGU YN YR ADDOLIA.D.-Pan y byddai Dr. Lawson yn gweled pobl yn cysgu yn ei eglwys, arferai yn ddisymmwth aros heb fyned ynmlaen i lefaru. Byddai y cysgaduriaid mewn canlyniaj yn ebrwydd yndefrro; a hwy a dderbynient cerydd tyner, Onid ydych yn bobl od iawn ? Pan y llefarwyf, yr ydych yn cysgu a phan y peidiwyf, yr ydych oil yn effro." Cyfrifir mwngloddwyr Lloegr a Chymru yn 300,000. Fel dosparth, nid ydynt ond tlodion.etto y maent trwy eu llafur yn chwanegu £31,000,000 yn flynyddol at gyfoeth y wlad, Maent o ysbryd annibynol, fel y gellir casglu oddiwrth y ffaith fod uwchlayv 20,000 eisoes wedi cytuno i danysgrifio at drysorfa ddarbodol y Gymdejthas Gynnorthwyol Genedlaethol. Canolrif damweiniau angeuol mewn pyllau glo yn y dehg mlynedd diweddaf oedd 909 yn flynyddol, a chyfriiodd Mr. Thomas Hunt, F.R.S., ceidwad cofnodau mwn- gloddiau, yn yegol mwngloddiau y llywodraeth, fod y marwolaethau mewn mwngloddiau meteloedd yn Lloegr a Chymru yn fwy lluosou; o'r hanner nag mewn pyllau glo, ac nad ydyw canolrif oes y rnvvngloddwyr ond deng mlynedd ar hugain.
-¡ d) AMERICA. v
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
farchnad fwyaf ffafriol i nwyddau tramor. Byddai cotwm, reis, tybaco, a sugr, yn nwyddau cyfnewid deniadol; ni therfysgid sefydlogrwydd y cyfleuwadau gan ryfel, byddai nerth y Cynghrair Deheuol yn rhy fawr i demtio ymosodiad. Nid yw y cyf- ansoddiad yn addef rhyfel o orchfygiad. Nis gall rhyfel cartrefol ddygvvydd yn mhlith taleithiau sydd yn cael eu cad w wrth eu gilydd gan ewyllys da. Sefydlir. ein y ir-, pi,g perthynasau a gwledydd tramor yn y model mwyaf boddhaol. Defnyddir pob moddion priodol i helaethu masnaeh, ac 1 adferu llwyddiant y wlad. Yr ydym yn bender- fynol o ymdrechu hyd oesy diogelwa ein rhyddid a'n haunibyniaeth."