Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

DRYGEDD ATHROD.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

DRYGEDD ATHROD. MAE llawer math o ymarferiadau gan ddynol- ryw—rhai o honvnt yn dda ac ere ill yn ddrwg; rhai yn werth eu harferyd, ac ereill yn darostwng dyn o'i sefyllfa greadigol wrth eu harfer. Ar- feriadau da sydd gan ddynion er cynnal eym- deithasau dyngarol, — gwneyd eu goreu o'u plaid, a dweyd yn dda am y cyfryw gymdeith- asau a'u haelodau; arferiadau da ereill yw bod yn ffyddlon ac ewyllysgar gyda phob gwaith da yn ffyddlon i gadw ein cydgynnnlliadau, ac ewyllysgar i gyfranu at bob achos teilwng. Ereill sydd felly yw, byw yn sobr, yn onest, ac yn gyfiawn yn y byd sydd yr awr hon," a dweyd yn dda am bawb yn en habsenoldeb. Ond ysywaeth, y mae arferiadau drwg yn cael au harferyd gan ddyoion, sef, gloddest, meddw- dod, anlladrwydd, anffyddlondeb, annghyfiawn- derau, ac athrodaeth;" dyna'r olaf, ond nidy Ileiaf ei ddrygau. Dyna yw y testun," Drygedd Athrod." Ceisiwn ddangos, yn mlaenaf, beth ydyw Athrod." Athrod sydd air ag y mae y Sais yn ei alw yn back-biting. Back-biter.-athrodwr, neu en- llihwr; h.y:, dyn fyddo'n siar?d yn fach am ddyn arall, a thrwy hyny yn drwgliwio ei gym- meriad, a hyny yn ei absenoldeb. Nid yn unig dweyd y gwir, ond anwir am dano. Dyna yn fyr, vn ol fy marn i, yw athrod, O ganlyniad, ihaiii fod i athrod ddrygau lawer. Sylwn, 1. Mae Athrod yn anaddasu dyn i fod yn aelod o unrhyw gymdeithas,—daearol na dyn- garol. Mae yn wirionedd ddiamheuol fod y Creaw- dwr mawr wedi creu dyn, a'i wnellthur yn fod addas i gymdeithasu ond y mae can wired a hyny fod pethau sydd yn hollol anaddasu dyn at hyny, ac un o honynt yw athrod. Dyn ath- rodus mewn cymdeithas sydd debyg i'r gwifyn sy'n bwyta'r dilledyn, neu y rhwtl yr haiarn; difair y pethau yna gan y gwifyn a'r rhwd yn ddystaw bach, megys heb yn wybod iddynt; felly mae'r athrodwr i gymdeithas,-mae ef yn brysur yn bwyta ei grym hi, a hithau'n hollol ddifeddwl am hyny; ae os dvgwydd iddo gyf- arfod a rhyw un heb fod yn aelod eymdeithas, dyweda'n ddrwg am ei haelodau, yn fach am ei rheolau, a dywed bob gau chwedl a all ef a'i feistr feddwl a'i ddychymrifygn am y cyfryw gym- deithas, a thrwy hyny gyr ddynion i edrych yn faeh arni, a'r eanlyniad fydd gwanychu ei grym, attal ei chynnydd, a lladd ei llwyddiant. 2. Mae athrod yn anaddasu dyn i fyw yn mysg gweithwyr. Ni a gawn am Naaman, yr Assyriad, ei fod yn wr cyfoethog, boneddigaidd, ac ymddan- gosai nad oedd neb yn addasach nag ef i drigo yn mhlith y llwythau; ond nid felly yr oedd, am fod un peth arno, a'r peth hwnw oedd y gwahanglwyf. Yr oedd yn wahanglwyfus, a thyna ddigon i'w gau rhag cyfeillachu a dyn. Tebyg i hynyna, mewn rhai ystyriaethau, yw athrodwr, neu ddyn athrodus, yn mysg gweith- wyr. Medr ymddangos oddiallan yn foneddig- aidd, hawild-ei drin, a chan ddiniwed a'r abwydyn, ynogoneddns yn mhlith dynolryw; ond erbyn ei chwilio a chraffu ar ei ymddy- ddauion, a dyfod yn adnabyddus o'i gasts a'i weithredoedd, cawn mai llew yn ngwisg oen, neu flaidd yn nghroen dafad, ydyw felly mae athrod yn gwneyd dyn yn feltdith i'w gyd- weithwyr. ac yn warth i gymdeithas. 3. Mae drygedd athrod yn fawr mewn cys- sylltiad a'r gwahanol alluoedd gwladol. Mae athrod wedi gyru y rhai hyn i ymrafaelio llawer &'u gilydd. Mynych y clywir un yn dywedyd fod gyda hi well cyfreithiau, gwell trefn ar bethau, a mwy o ryddid idd ei deiliaid na hon acw felly wrth hir siarad ac hir eullibo, clyw y Ibll; a thyna hi yn ferw gwyllt. ac yn ddadleu brwd rhyngddynt, nes o'r diwedd herio y naill y llall i dori y ddadl trwy rym arfau, a'r eanlyniad o hyny fydd, gyru miloedd o eneidiau i'r byd tragwyddol yn anauiserol, gwneyd llawer tad a mam yn amddifaid o'u plant a phlant o'u tad, llawer gwraig o'i gwr anwyl a hoff, yr hwn, fe allai, oedd ei hunig obaith am gysuron tym- horol. Wele, ynte, faint o ddrygau y mat athrod yn ei wneyd. 4. Mae ei ddrygedd yn fawr yn mhlith y rhyw d6g. Un fenyw athrodus a yr deulu yn benben, a lygra ardal, a fflamia gymmydogaeth, a ladd ei chysuron yn ei thewu ei hun. Wna y fangre lie y triga 'N ail mewn melldith i Sodoma O gan hyny, lladder athrod A chledd cariad, gweithiwr hynod. Gwelwn oddiwrth yna fod drygedd athrod yn fawr mewn cyssylltiad a phethau tymhorol a daearol; ond, a'u cymharu a'r drygedd sydd ddichonadwy iddo eu cyflawnu mewn modd ys- brydol, y maent fel pluen yn yvayl mynydd, dafn yn ymyl y mor, llwchyn yn ymyl craig, neu wreichionen yn ymyl yr haul, a hyny am mai dros brydnawn yr erys wylofain." Gallwn gyfaddef yn rhwydd nad ydym yN alluog i osod yr annghyfartalwch sydd rhwng drygedd athrod yn dymhorol a'i ddrygedd yn ysbrydol yn ddigon eglur; fodd bynag, gwnawn sylwi, yn gyntaf, Fod athrodaeth yn niweidiol iawn i'r eglwysi neu y cynnulleidfaoedd Cristiooogol. Faint o ddrygioni all un athrodwr wneyd yn un o'r cyfryw leoedd, ni fedrwn (Hweyd; ond y mae yn ddiamheu ei fod yn achlysur i droi llawer cloff allan o'r ffordd, a hyny trwy ei fod yn

DIAREBION Y BYD.