Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

— LLYTHYR 0 GALIFFORNIA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

— LLYTHYR 0 GALIFFORNIA. Port Wine, Sierra County, Califfornia, Awst 25. 1862. Anwjl Dad a Llysfam,—Yr wyf yn danfon yr ychydig linellau hyn, gan obeithio eich bod eich dau yn iach a chysurus. Yr wyf ti, trwy drugar. edd, wedi cael iechyd hynod o dda hyd ynhyn. Y mae yn ddiammheu fod hon yn wlad hynod o iacbus, oblegid y mae yr awyr mor deneu. Y mae yn dywydd twym iawn, ond nid yw byth yn ffog- lyd; y mae yn oeri gvda'r nos, fel bo'r haul yn myned lawr, fel nad ydyw byth yn rhy dwym i gysgu'r nos, a dillad trwm arnoch. Yr wyf yn y wlad hon er ys tri mis i heddyw, ac yr wyf heb weled yr un dyferyn o wlaw oddiar hyny hyd yn awr. Ni ddaw amser gwlaw nes y byddo tua diwedd Tachwedd neu ddechreu Rhagfyr; a thua miaoedd Ionawr a Chwefror, bydd yma tua 10 neu 12 troedfedd o eira ar y ddaear.. Yr oedd yma lawer o droedfeddi pan y daethom ni yma yn mis Mai, ac y mae yma ddigon o hono ar y mynyddau yn aros hyd heddyw, tua deg milldir yr ochr uchaf i ni. Rhyw wlad rhyfedd yw bon o ran ei hin- sawdd; i lawr ar y gwastadedd nid oes eira byth yn disgyn; ond os bydd i ni gymmeryd taith ar geffyl am ddiwrnod, gallwch fyned i wlad yr eira oesol. Yn ol fy marn I, y mae hon yn wlad rhagorol i ddvn tlawd byddai yn fendith fawr i'm llysfam a chwithau pe buasech o hyd iddi. Yr ydych yn ymofyn tipyn o dir i gadw ychydig o dda-po bu- asech yma, galjasech gael He i gadw faint fynasech o wartheg heb dalu dim am cu He. Gallech gael dam o dir yma, a'i drin, fel y galluech godi pob math o ffrwythau. Y mae yma ffrwythau apbethau at fwyta nas gwn pa fodd i'w cymmtTyd, nac at ba beth y maent yn dda. Pan y daethyin i'r wlad yma .gyntaf, yr oedd cymmaint o fathau o fwydydd arjbyrtldBu fel nas gwyddwn yn y byd pa beth oeddynt, na pha ffordd i'w bviyta yr unig beth oedd g»nyf i'w wneyd oedd, cadw golwg pa fodd zany I.w yr oedd dynion ereill yn gwneuthur. Yr oedd y chwedi hono am ryw hen ddynion yn dod i'm cof, eef eu bod wedi prynu chwarter o de, a'n bod yn ei ferwi, a thafla'r dwr ymaith, a bwyta'r ground*. Yr wyf yn sier y gallwn I wneyd troion mor chwithig yma hefyd lawer tro, oni bai f/ mod a'm llygaid yn fy mhen. Yr wyf wedi bod yn hynod o ffortunus oddiar pan yr ydwyf yma o gael gwaith. He anhawdd iawn i ddyn gael gwaith yw hwn, oblegid y mae pob cwmni sydd yma yn weithwyr eu hunain. Y mae'r aur wedi ei ddarganfod yn y.wlad hon er ys 13 o flynyddau. Ffordd y maent yn gweithio yr aur yn awr yw, danfon levlau i mewn i'r mynyddau, a'u gweithio bron yr un fath a gwaith glo yn hela Aeading, a throi talcenau. Nid oes nemawr o'r aur i'w weled ond y maent yn ei gael mewn gravel. Y maent yn hela tua phedair troedfedd o'r stwff hwn i maes, a'i osoll wrth y gwddf; yna y mae ganddynt bib fawr yn cario dwfr o'r Hyn sydd tu nchaf i'r gwaith, a'i ollwng ar y tywod. Y mae y dwfr yn cario'r tywod i gafan mawr, a'i redeg trwy'r cafan am ddau neu dri chant o latbeni. Yn ngwaelod y cafan y mae grates wedi eu gosod, ae yM. y maent yn daIs', aur. Costia agor gwafth newydd gannoedd o bannau felly y mae yn an- mhosibl i ddyn dyeithr, heb ddim arian, i erlid am yr aur yn y rhan hon o'r blaned. Gwlad ryfedd ydyw hon am goed y mae yma'r coed mwyaf a welais erioed-coed deto bob rhyw, yn mesur o ddwy i dair llath o drwch. P« bai dim ond un o'r coed mawr yma yn tyfu wrth Gaer- fyrddin, buasai excursions o bob rhan o'r wlad yn dyfod yno, er ei weled, yr wyf yn sicr. Y peth gwaethaf sydd yma yw, fod crefydd mor isel. Nid oes yma dy cwrdd am filltiroedd. Y mae digon o ddynion yn y lie hwn i lanw dau neu dri o gapeli mawrion. Y mae yma gannoedd o Gyrnry-mwy o Gymry nag un genedl arall, o ba rai yr oedd llawer o honynt yn ddynion crefyddol yn yr hen wlad. Yr unig foddion crefyddol sydd yma yw, ysgol am ddau o'r gloch bob Sul, a phre- geth unwaith bob pythefnos. Y mae eglwysi America wedi anfon llawer o bregethwyr yma o bryd i'w gilydd, heb fod o fawr ddefnydd gyda chrefydd hyd yn hyu. Mae llawer o'rcyfryw bre- gethwyr wedi troi i erlid yr aur a rhai o honynt, er gâlar, wedi troi yn gamblers. Lie ofnadwy yw am gamblers. Y maent yn dystrywio cannoedd o ddynion. Y mae hwn yn lie rhagorol i ferched. Trueni na bai ffordd gan ferched Sir Gaer i ymfudo yma- gaUasent gael o 6 i 8 punt ye y mis, cymmaint a g&ntyna am flwyddyn, a llawer gwell eu parch a'u byd ac nid hir y caent fod yn y sefyllfa o forwyn- ion, oblegid gall merch gael gwr' pryd y myao ac ond iddi fod yn bwyllog, gall gael match da. Mae cannoedd o ferched doeth yma wedi bod yn for- wynion am ychydig flynyddau, ond yn awryu cadw morwynion eu hunain. Y mae'r bwyd yn lied ddrud yma oddiwrth fel y mae yna; ond nid yw yn agos cyn ddruted i ateb yr ennill. Yr hyn wyf fi yn ennill yw, 4 dollar y dydd, neu 16s. 8c. o'ch arian chwi; y mae tua 16s. yr wythnos yn myned arnaf am fwyd nid oes dim arnaf i dalu am letty; yr wyf yn byw gyda Bili Dafydd Arnold, gynt o Aberdar dim ond ni ein dau sydd yn byw yn y caban. Tai coed sydd yma i gyd y rhan amlaf o blancau wedi eu llifo ond y ty lIe yr ydym ni sydd wedi ei godi o goed cyfain, heb eu hollti, ond fel yr oeddynt yn tyfu. Y mae digori o goed yn hwn i adeiladu tri thy plancau. Gobeithio y bydd i chwi ddanfon Uvthyr yn ol mor gynted ag y daw hwn ileii Uaw buaswn Wed ysgrifenu yn gynt, oni bai fod arnaf chwant dod i wybod tipyn o hanes y wlad yn gyntaf. Cofiwch ft at ty mherthynasau oil. Derbyniwch fy serch gwresocaf. Ydwyf, eich didwyll, A'ch ffyddlon fab, JOHN DAVIES. 'j

LLOFFION.

DARLLENYDDIAETH.