Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

GOHEBIAETHAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GOHEBIAETHAU. NID YDYM Y« YSTYRIED ElN HUNAlN YN GYFRIFOL AM SYNIADAU BIN GOHEBWYR. COFIANT MR. WILLIAMS, BLAENYWAEN MR. GOL.,—Awgrymais yn ddiweddar yn y SEREN a'r Great, fy mod, ar ddymuniad gweddw y brawd doniol a phoblogaidd uchod, yn parotoi Coflant o hono yn Hyfryn Chwe Cheiniog. Yn awr, y mae y Coflant yn barod i'r wasg, gydag un o bregethau Mr. Williams, a daw allan yn fuan. Taer ddeisyfaf ar ryw frawd ffyddlon yn mhob eg- lwys am edrych mewn yn mhlith eu cyfeillion pa nifer o'r Cofiant a brynant, ac anfon y gorchymyn- ion ataf fi erbyn dydd Nadolig o bellaf, fel y gwy- bydder pa nifer i'w argraffu. Golygir gwneyd ychydig er cynnorthwyo y weddw. a'r amdd faid oddiwrth y gwerthiant. Da frodyr, gwnewch eich goreu yn y mater hwn. Y mae Jesse Conway Davies, Yswain, lienor clodfawr, a meddyg medrus o Dreffynnon, (yr hwn a wasanaethodd ar Mr. Williams yn rhad pan yn'gystuddiol yn y dref hono,) yn cymmeryd ugafn 0 gopiau. Pe gwnelai rhyw nifer o gyfeillion y diWeddar Mr. Williams ddilyn yr.un cynllun anrhydeddus,buasid cyn hir yn debyg o gyrhaedd yr amcan. 0 ie, gan gofio, y mae Mr. Roberts, gweinidog parchus y Felinfoel, yn cymmeryd hanner cant o leiaf. Pwy etto a ddaw yn miaen ? Amser a ddengys. Yr eiddoch oil yn gywir, T. E. JAMES. Glyn Nedd, Tachwedd 13eg, 1862.

Y LLYFR HYMNAU NEWYDD.

LLYPR HYMNAU NEWYDD.

Y WASG.

LLOFFION.