Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
.Y DRYSORFAGOFFADWRIAETHOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DRYSORFAGOFFADWRIAETHOL. ER fod pob mymryno le wedi ei gymmeryd i fyny am y rhifyn presenol, nis gallwn feddwl am adael y SEREN i fyned o'n dwy- law v waith hon, heb air am y DRYSORFA. Dydd Mawrth, Tach. 25, cyfarfyddodd y Pwyllgor Gweithiol yn y Casnewydd-ar- wysg, a hwn oedd y pwyllgor mwyaf lluosog a dylanwadol o lawer a galwyd o'r defihreu hydyn awr. Mae y Drysorfa yn awr yn established fact. Mae 37 o eglwysi Mor- ganwg wedi addaw dros £2,000, tra rqae y cwbl o'r addewidion am y deg wythnos diweddaf dros a63,000, tra mae genym etto dros 500 o eglwysi heb anfon i mewn eu haddewidion. A golygu fod y rhai sydd ar ol yn gwneyd fel y rhai ag ydynt wedi gweithredu, daw y swmyn agos i £ 19,000. Ond nid yw y pwyllgor ynamcanu at hyny; ond mae efe yn awr wedi penderfynu am- canu at X10,000 yn y man Heiaf. Nis gall y pwyllgor help i hyn—mae yr eglwysi yn eu gorfodi i fyned yn rnlaen a digon tebyg yu awr fod y safon yn rhy isel. Wei, nid oes dim i'w wneyd ond codi £5.000 etto, a gwneyd y Drysorfa yn £15,000. N id ydym yn cellwair yn hyn, ond mae haehoni a brwdfrydedd yr eglwysi, a phersonau unigol yn gorfodi y Pwyllgor i godi y safon., I'r Arglwydd y byddo y clod. Mae y Bedydd- wyr Cymreig yn gweithredu yn deilwng o honynt eu hunain yn y mater pwysig hwn.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
GENEDIGAETH. Tach. 23, priod Mr. Isaac Griffiths (Odydd), Glan- ymor, ar ferch, yr hon a enwwyd Rhode. Yn debyg i'rmornvynion c;ill Mewn diniweidrwydd yn ddiball, Fo'r eneth dlos brydweddol hardd, l'7 Ail yw i Efe yn yr ardd. Llanelli. CKDWGAN. PRIODASAU. Tach. 4, yn eglwys Llanfihangel-penbedw, Mr. D. Davies (D. ab Dewi), Gors, ger Blaenffos, a Miss K, Owens, Boncath Inn. Tach. 22, yn nghapel y Bedyddwyr, Ponypound, Aberdar, trwy drwydded, gan y Parch. Thos. Price, Si ngwyddy cofrestrydd—Mr. Richard Thomas, o'r ythyrfa, Treherbert,— Mr. James. Thomas, Y»yR- wen, a Miss Margaret Williams, Blaenrhondda, v ddau o blwvyf Ystrad-dyfodog. Tachwedd 18, yn eglwys Llandilo-fawr" gan y Parch. Mr. Mareden, curad y He, Mr. Daniel Jones, & Miss Ann Jones, y ddau o'rplwyf uchod. Tach. 22, yn nghapel Adulam, Felinfoel, gan y Parch. M. Robt-rts, gweinidog y lie, Mr. W. Morris, a Mias Eliza Williams, y ddau o Felinfoel. Boed bendith lor i ddilyn "1. Y ddall a unwyd 'nawr, > Irma Eu,gyrfa fyddo'ndaweI, f Eu cysur fyddo'n fawr; Hir oes, mewn hedd a llwyddiant, Gwych freiniau ar eu taith, A'u hymgais yn feunyddiol Flo boddiolr Hwn ai gwnaoth. W. G. Tach. I, yn Seion, Llanelli, gan y Parch. W. Hughes, Bethel, Glanymor, Mr. Edwin Mongerra Miss Mary Price, yddau or He hwn. Trwy gynhes serch fe g'lymwyd dau Mewn undeb priodasol, Fel byddo cariad 'naill a'r llall Yu myn'd yn fwy gwresogol. Os mewn hoy'der neu mewn glendid o wynebpryd teg y mae, Gwir serchiadau pur y galon, Digon byth sydd yn y ddau. Edwin Monger a adawodd '• :f^sm *« hi A chysuru8 adreu mad, n, Ac yspeiliodd yn gymhares Braidd angyles lana'r wlad. Helaothrwydd o gysuron gant, A llwyddiant fel oent gynt, A phan ddaw angeu du 'n, ei dro, Ein Iôr fo'n geidwad iddynt.' ME^ynog TjBtG. MARWOLAETHAU. Taoh. 13, yn 16 mis oed, Richard Edward, ac ar y 22ain o'r un mis, Stephen Thomas, o'r dolur gwddf, dau blentyn anwyl j Mr. R. W. Richards, masnach- ydd, o'r dref hon. Tach. 11, yn dra disymmwth, yn Rhydlydan, pan ar ei daithi Aberystwith, Mr. David Jenkins, eludydd gyda Mr. R. Morgans, Llanidloes. Tach. 11, yn 55 mlwydd oed, Mrs. Margaret Davies, Glanthemes, plwyf Llandilo-favrr. Yr ydoedd Vn aelod fiyddlon ac haelionus iatvn.gyday Bedyddwyr yn Cwmifor a theimlir colled mawr gan yr eglwys ar ei hoi. Tach. 17, yn 82 mlwydd oed, Mrs. Elizabeth Thomas, Gelynengoch, plwyf Llandiloi-fawr. Yr oedd hon yn hen aelod parchus yn yr eglwys uchod, ac yn byw yn yr un tyddyn er ys dros ddeugain mlynedd. Teimlir yn hiraethlon yn y gymtaydogatth ar ei bol. Tach. 26, yn Llechryd, bu farw ein hanwyl frawd, Thomas Watkins, crydd, yn nghyd a dau o'i blant o'r dolur gwddf. Oedran ein brawd ydoedd 27, a'r plant un yn 4, a'r llall yn 2 flwydd oed. I, Tachwedd 11, yn 7 mlwydd a chwech mis ced, Evan, mab henaf Mrr Benjamin ac Ann Jones, Wern, Ystalyfera. Tachwedd 17, yn nhy ei thad, Mr. H. Jones, Vic- toria, Sarah Jones, yn 19 mlwydd oed. Yr oedd wedi cael y fraint o ddilyn Crist yn y beiydd er yn foreu, a daliodd ei phroffes hyd y diwedd. Hofifai gadw ei chydgynnulliad, ffieiddiai falchder, a sobfwydd a dif- rifoldeb a eisteddai ar ei gwyneb. Claddwyxl hi 111 Nebo, pryd y pregethodd Gwilym Armon, tB.U'l iSi
CALEDU LANCASTER-CYMDEITHASAU…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
dyblu trwy ddystrywio y cymdeithasau dyn garol, ag ydynt wedi bod y fath gynndrthwy i'r trethi trwy y blynyddoedd. Yn her- wydd hyn, mae yr Odyddion wedi pender- fynu cadw y mater yn en dwylaw eu hunain, trwy ddefnyddio y cyfraniadau i gadw dyn- ion yn dda ar y llyfrau, Mae yn mhlith y dyoddefwyr dros 21,000 o Odyddion, y rhai nas gallant mewn an modd dalu eu clubiau, ac felly o gwrs yn myned allan o hawl, acyn ymddibvnw yn hollol ar y pwyllgorau cyn- Wxthwyol a'r plwyf. Yn ngwyneb hyn, mae yr Uchel Feistr, a Bwrdd y Cyfarwydd- -wyr,wedi dyfod i'r penderfyniad canlynol "That in the opinion of this Board,in order to render effectual aid to the distressed operatives belonging to the Manchester Unity in the manufacturing dis- tricts, it would be necessary to pay six months' con- tributions to those members unable to pay for themselves. To do this would require a subscrip- tion of at least £10,000. The Directors are also oiopinion that the amount required is too large to be raised by voluntary subscriptions within the required time. They, therefora, taking into consideration the unparalleled exigences of the case, recommend that Lodges, under the sanction of the District Officers, be empowered to give credit for six months' codtributions to those members who prove their inability to pay for themselves; and that all members who avail themselves of this recommenda- tion shall repay the amount so credited within twelve months from the 1st day of January, 1863, or such other time as may be decided upon the next A.M.C. In the event of any such members or their wives dying previous to the repayment of the loan, thattbe balance then due be deducted from the funeral money." Trwy hyn golygant achub dros ugain m!l o aelodau ffyddlon rhag colli eu hawl i'w breintiau fel Odyddton. Bydd hyn yn y pendraw yn annhraethol well na phe buasent yn tailu cyfraniadau yr Odyddion i'r drysorfa gyffredin. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod ar y drydedd wythnos yn llhagfyr a'r ail wythnos yn Chwefror, er gweled pob cyf- raniadau yn cael eu rhanu yn briodol. Dyma gyfle i Odyddion Cymru i ddangos teimlad brawdoltnag at ein cydaelodau mewn gwir galedu. Da genym feddwl fod rhai yn barod wedi gwneyd yn enwog—Merthyr wedi achub y blaen,ac wedi anfon £ 20. Rha- gorol Merthyr Mae ein ffydd yn gref yn Nosparth Aberdar. Yroedd ein ffydd ary cyntaf ana £50,. mae erbyn hyn wedi codi i a6100 a da pnym feddwl nafyddun Dos- parth trwy Gymru ar ol. Wet, nid oes dim amser i'w golli. Frodyr Iforaidd, a Brodyr Alfredaidd, a fyddai yn ormod i ni appelio atoch chwi ar y fath achos pvysig ? Credwn nad yw yn ormod. Mae miloedd fel chwitbau ag ydynt yu aelodau mewn cymdeithasau am flyn- yddau, ond yn awr ar golli pob braint, heb gaeleich help chwi ac ereill. lihoddwch law o gymhorth iddynt hwy yn awr;— dichori y gallant ein had-dalu rhyw adeg etto. Byddai yn dda genom fod yr Undeb- au hyn yn gwneyd a allont fel Undebau yn y mater; trwy hyn y gallwn ddangos i'r s.wlad ein bod yn fyw, ac yn teimlQ, Nid ydym yn appelio mor daer at y Fforestwyr, am y gwyddom eu bod hwy wedi cyfranu j6500ynbarod. Bydd yn dda gan lawer o Iforiaid wybod fod rhai cyfrinfaoedd yn Adran Aberdaryn teimlo ácyu gweithredu, gan benderfynu cynnorthwyo eu brodyr Odyddol yn eu caledu presenol. Mae yn hyfrydwch mawr genym ddyfod yn nes adref etto, a chanfod gweithrediadau rhai o'n Eglwysi. Mae Mr. Thomas, Caer- dydd, ac eglwysbarchus y Tabernael,wedi danfon dros £34 i fyny. Rhagoro11 0; am i bob eglwys wneyd ei rhan fel hon. Yr ydym am i n brodyr anwyl yn yr Arglwydd nid yn unig i fyw, ond hefyd i fwynhau cre- fydd ein Harglwydd Iesu Grist, yn y tym- hor niwlog a thywyll hwn. Mae yn yr ardal- oedd sydd yn nghanol y trychineb hwn o 25 i 80 o eglwysi gan y Bedyddwyr, yn cynnwys o 1,500 i 2,000 o aelodau—ryr oJl yn dyoddef i raddau mwy neu lai. Felly, yr ydym ni am gofio am y rhai hyn yn ein gweddiau a'n cyfraniadau., heb beidio am foment wneyd ein rhan gyda y miloedd cyffredinol. Bydd yn bleser genym ni roddi fel dinaswyr, fel Odyddion, fel Iforiaidj fel Alfrediaid, ac fel Fforestwyr ond nid ydym yn annghofio y rhai sydd yn cydlafurio a ni yn ngwinllan lesn Grist-ein brodyr yn y ffydd 'ie, ein harwyddair ni yn y cyfwng pwysig hwn yw, —Gwnawn ddaioni i bawb, yn neillduol i deulu y ffydd."