Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

MARWGOFFA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWGOFFA. Tach. 21, yn St. Clears, Mrs Lucy Martell, yn 70, mlwydd oed, wedi hir gystudd, o'r ddarfodedigaeth. Bu am tlynyddau yn wanllyd iawn ei hiechyd, ond dyoddefodd y cwbl mewn amynedd a mwyneidd-dra mawr, gan ystyried mai ewyllya ci Thad nefol oedd yr oruchwyliaeth, er ei bod yn boenus a blin iawn yn ami. Bu y wraig ddahon yn briod a Mr. John Martell, tanner, am 50 mlynedd, a buont byw yn gy- surus a dedwydd iawn am yr amser hirfaith hwnw. Cawsant 9 o blant, a'u gweled wedi eu dwyn oil i fyny, oddigerth un, fel y mae 8 o honynt yn fyw yn bresenol'i alaru ar olmam dyner a gofalus, ond wedi BU gwasgaru lawer o honynt yn mhell oddiwrth eu gilydd; a thybiwyf fod yr oil o'r plant yn grefyddol, ac yn Fedyddwyr; ac y mae y rhai a adnabyddwyf fi yn enwog mewn crefydd a duwioldeb. Ni chafodd plant erioed well siamplau, yn ddiamheu, ac ni buont yn ofer iddynt. Yr oeddent yn byw, ac yn cadw tdnyard yn Conwil, pan ymunodd yr ymadawedig a chrefydd yn Ffynnonhenry. Yr enwog Watkins, Caerfyrddin, a'i bedyddiodd hi, pan yn 25 oed; bu felly gyda chrefydd am 45 o flynyddoedd. Yr oedd y wraig dda hoh wedi ei geni yn mhlwyf Meidrym, mewn lie y gelwir y Dderry arno. Yr oedd perthyn- asau Mrs. Martell, o du ei thad, yn Fethodistiaid selog iawn. Yr oedd ei thad yn flaenor seiet, a'i hewythr, brawd ei thad, oedd Mr, Charles, y Bala; ond yr oedd ei mam yn aelod selog gyda'r Bedyddwyr yn Salem, Meidrym; a phlanodd y fam ei hegwydd- orion yn ei merch pan yn blentyn, ac felly proffesodd hwynt yn selog drwy ei hoes. Cafodd lawer o erled- igaeth yn nechreuad ei chrefydd; yn Conwil, yr oedd perchenog eu ty a'r tanyard yn Fethodist selog iawn, ;» Mrs. Martell yn wraig rinweddol iawn yn ei olwg tra fu yn myned i gapel y Methodistiaid, ac i'r ysgol Sabbothol yno; byddai yn arfer gosod allan ei chlod fel gwraig gall a rhinweddol, a'i bod wedi hanu o'r teulu goreu, ac wedi arfaethu iddi fod yn ranks y Methodistiaid, wrth gwrs, gan ei bod or hAd neillduol. Ond cyn hir iawn, cafodd y wraig dda hon adnabydd- iaeth o Ffynnonhenry, a'i phobl ddewisol ei hun. Credodd dystiolaeth Duw, a bedyddiwyd hi ar broffes o'i ffydd, ac ymunodd a'r eglwys ag oedd hi yn farnu agosaf at air y gwirionedd; ond darfu y landlord a. hi ar unwaith, ac fe aeth yn chwerw iawn ei ysbryd, ac ymddialgar iawn ei ymddygiad, fel y rhoddodd rybydd iddynt ar unwaith i ymadael o'i diriogaeth ef, gan iddi wneyd y fath dro salw ac annghymmodlawn iddo ef. Trugaredd oedd nad oedd hwnw yn frenin, fel llawer cyffelyb. Oddiyno symudasant i Gastell- newydd, lie y buont am flynyddau; ac oddiyno i Meidrym ac yn y diwedd i St. Clears. Bu y wraig rinweddol hon, yn nghyd a'i hanwyl briod (er nad oedd efe y pryd hwnw yn proffesu crefydd) yn hynod ffyddlon at gy.nnal crefydd a llettya cenadau lJuw. Meddyliwyf mai nid anrnhriodol dweyd,—" Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth." Yr oedd ynddi lawer o rinweddau, a gobeithiwyf y parha ei merched hoff i'w hefelychu tra byddont byw. Gadawodd ei phriod serchus ar ol, yn 85 oed, yr hwn yn fuan a'i canlyna, ac yn obeithiol am gael yr un mwynderaU tragwyddol tu draw i'r bedd. Claddwyd ei rhan farwol y dydd lau canlynol wrth addoldy Capel Seion, yn y graig. Pregethwyd ar yr amgylchiad yn y t^ cyn cychwyn gan y brawd j, Rowlands, ac yn yr addoldy ganyr ysgrifenydd. Dacth llti mawr yn nghyd i hebrwng ei gweddillion marwol i'r bedd, a dangoswyd y parch mwyaf iddi gan ei pherthynasau a'i chymmydogion. Yr Arglwydd a fyddo yn dirion iawn o ein hen frawd hyd derfyn ei ddydd, ac o'r plant caredig. B. WILLIAMS.

HANESION CARTREFOL.

FFRWYDRIAD MEWN PWLL GLO.

HANESION GREFYDDOL.