Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
SIRYDDION CYMRU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SIRYDDION CYMRU. Y mae y personau canlynol wedi eu henwi fel rhai cymhwys i lanw y swydd am y flwyddyn ddy. fodol; bydd i'r Frenines etto ddewis pa rai o hon- ynt sydd i lanw y swydd :— MON.-R. Lloyd Jones Parry, Ysw., Tregaian W. Massey, Ysw., Cornelyn yr Anrhyd. Henry Warrender Fitzmaurice, Tre'rgof. BRYCHEINIOG.—Thomas de Winton, Yswaiu., Cantref; Syr Joseph Russell Bailey, Barwnig; Howel Morgan, Ysw., Cilfach yr haidd. CERBDIGION.—Price Lewis, Ysw., Gwastod ger Hanbedr; J. G. Parry Hughes, Ysw., Alltlwyd J. Lewes, Ysw., Llanllear. SIR G-AERFYRDDIN. — H. L. Puxley, Ysw" Llwyndrysu; Syr James Williams Drummond, arwnig. ARFON.—J. Platt, Ysw., Brynyneuadd Abram Jones Williams, Ysw G-elliwig Griffith Humphrey Owen, YHW., Amlwch. DINBYCH.—John Lloyd, Ysw., Rhaggat.; H. R. Hughes, Ysw., KinmeI; Boscawen Trevor Griffith, Ysw., Trevallyn HaH. FuNT.—C. Butler Clough, Ysw., Llwynoffa; W. B. Buddicom, Ysw., Penbedw; Edmund Peel, Ysw., Brynypys. MORGANWG.- T. M. Talbot, Ysw., Margam Abbey J. P. Treherne, Ysw., Coytrakene; R. F. Lascelles Jenner, Ysw., Castell Wenvoe. MEHHON.—Charles Ansell, Ysw., Glanrhaiadr; H. Morgan, Ysw., Hengwrtuchaf; Lewis Williams, Ysw., Fronwnion. Sm DREFALDWYN. John Dugdale, Vsw., Llwyn; George William Gold, Ysw., Garthmyll Hall. SIR BENFRo.-William Rees, Ysw., Scoveston T. Harconrt Powell, Ysw., Hosk; T. Henry Davies, Ysw., Clarbeston. SIR FAESYFED.—John W. Vaughan, Ysw., Felin, newydd, sir Frycheiniog; Henry Thomas, Yaw., Penceryg R. Green Price, Norton.
HANESION CYFFREDINOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HANESION CYFFREDINOL. CLODDFEYDD AUR NEW ZEALAND.—Hysbysa llythyr adderbyniwyil o Melbourne dyddiedig Meili 25ain, eu bod wedi derbyn newyddion o Otago yn hysbysu darganfyddiad maes aur newydd, o ha un y cododd dau ddyn 78 pwys mewn ychydig amser. Parodd y newydd hwn i rhwng 3,000 a 4,000 o gloddwyr fyned yno o Melbourne mewn pythefnns neu dair wythnos. Yr oedd pob llestr yn cael ei Henwi o deithwyr tra y parhaodd y cyffro. ARIAN BATHOL I INDIA.—Rhai dyddiau yn ol, cymmerodd yr agerlong Ellora ddim llai na j £ l,G95,390 o arian bathol, o ba rai yr oedd £1,000 yn aur i Alexandria j a £132,100 yn aur, a £926,290 yn arian i Bombay. Dyma y swm mwyaf a anfonwyd erioed i un porthladd, er fod cymmaint wedi ei anfon o'r blaen i'r Dwyrain mewn un llong i'w dosparthu mewn gwahanol farchnadoedd. Yr oedd y swm uchod yn cael ei hanfon i Bombay i dalu am gotwm. DINYSTRIAD Y BLANCHE."—T[ mae y Times yn cyhoeddi manylion o ffynnonell Americanaidd am ddinystriad y llong Brydeinig Blanche gan yr Undebwyr. Y mae yr boll achos yn hollol eglur. Nid oes un ammheuaeth na chyflawnwyd trais hollol annghyfiawn. Yr oedd pob peth-y llong, y faner, y He yr oedd yn myned iddo, a'r lle y dal- iwyd hi--oll yn anmbleidiol, ac felly cyflawnwyd trosedd beiddgar ganol dydd goleu yn erbyn gwa- hanol ranau o Gyfraith y Gwledydd. Y mae Times yn ychwanegu—" Gallwn fod yn sier fod Arglwydd Russell wedi cymmeryd mesurau pri- odol i gael iawn am y dirmyg a daflwyd ar faner ei Mawrhydi, a'r niwed a wnaed i eiddo Prydeinig. Cyfrifa Cadben Smith fod ei.golled yn £ 40,000. PROCLAMASIWN LINCOLN.— Ymddengys fod Proclatnasiwn rhyddljad Lincoln eisoes yn dechreu cynnyrchu effeithiau pwysig yn y Taleithiau De- heuol. Y mae gwybodaeth am dano yn ymledu yn gyflym yn mhlith y negroaid_; a dysgwyliant yn awyddus am y dydd cyotafo Ionawr; y mae nifer mawr o negroaid yn parhaui ddianc i linellau byddin yr Undeb ar ol clywed son am dano; crogwyd dau ar bumtheg o negroaid yn Virginia, yn unig o herwydd fod y gwrthryfelwyr wedi cael copiau o hono yn eu llogellau. Y mae Uuaws o'r caethfeistriaid yn anfon eu caethion i Cuba, ac yn eu gwerthu i'r Yspaeniaid yno. Mae y fyddin wrthryfelgar yn methu cael digon o negroaid i weithio gwarchgloddiau, o herwydd fod y mestriaid yn ofni rhoi ei benthyg, rhag iddynt ddianc. Cyf- rifir nad oes dim llai nag o bedwar ugain mil i gan mil o gaethion wedi ffoi o Virginia yn unig, ac oddeutu triugain mil o Missouri, heblaw lluaws mawr o daleithiau ereill. CYFLAFAN DDYCHUYNLLYD YN MISSOURI.— Ar yr 18fed o Hydref, saethodd y Cadfridog M'Neil ddeg o Wrthryfelwyr gwibiol ac yspeilgar dan yr amgylchiad canlynol Pan gymmerwyd meddiant o'r dref gan y Gwrthryfelwyr hynod Porter a'i ganlynwyr, gwnaethant rywbeth i hen Or parchus o'r enw Andrew Alisman-tybid eu bod wedi ei lofruddio o herwydd ei fod wedi gwneyd gwasanaeth da i achos yr Undeb, er na bu erioed o dan arfau. Pan adfeddiannwyd y He gan ein milwyr, anfonpdd y Cadfridog M'Neil nodyn at Porter yn hysbysu os na ddychwelid Mr. Allsman, o fewndeng niwrnod y byddai iddo saethu deg a wyr Porter, y rhai a ddelid ganddo fel carcharorion. Gan na anfonwyd un atebiad i'r nodyn, rhoddwyd y bygythiad mewn gweithrediad, fel y dywedwyd uehod. Yr oedd y dynion oil yn preswylio yn Missouri. Yr oedd y deg dyn a ddewisiwyd i gael eu saethu wedi eu gosod i eistedd bob nn wrth ben ei arch. Ar ol gweddi'o, rhoddwyd y gorchyinyti- Pob peth yn barod, annelwch, tauiwch Syrth- iodd dau yn feirwon i'w heirch; rhoddodd Cadben Sidner gam yn mlaen, saethwyd ef trwy ei galon, a bu farw yn y fan. Gan na chafodd y saith ereill ond yn unig eu clwyfo, saethwyd atynt drachefn. Hawliwyd saith o'r cyrff gan gyfeillion, a chladd- wyd tri mewn claddfa gyhoeddus. Yn gyffredinol, amlygent bwyll mawr. Cadben Sidner oedd yr unig ddyn enwog yn eu plith hwynt. LLOFRUDDIDETH DDYCHRYNLLYD GEH. PRES- TON.—Rhai dyddiau yn ol, cyflawnwyd llofrudd- iaeth yn Ribchester, pentref bychan ychydig filltir- oedd o Preston. Y llofruddiedig oedd hen wraig weddw, 80 tnlwydd oed, o'r enw Ann Walne, yr hon oedd YI1 cadw tafarndy o'r enw Joiner's Arms, yn Fleet-street-lane. Yn'gyffredin,byddai yn byw wrthi ei hun. Heblaw cadw y tafarndy, yr oedd ganddi ychydig o wartheg. Tybid yn y gymuaydogaeth fod gauddi swoi mawr o arian yn ei meddiaut, Yr oedd yn gwneyd masnach dda; ac er ei bod yn bedwar ugain mlwydd oed, gwasanaethai wrth y bar, ac arolygai ei hamgylchiadau gyda gofal a medrusrwydd mawr. Nos Lun, cauodd ei thy, ac aeth i'w gwelv ar yr awr arferol mewn ichyd da. Am saith o'r gloch boreu dydd Mawrth, aeth y dyn oedd yn gofalu am ei gwartheg at ddrws y tý, yn ol ei arfer, a churodd, i'r dyben o gael y piseri llaeth, &c. Curodd y drws am gryn amser, ond nid oedd neb yn ateb. Wedi hyny, efe a aeth o gwm- pas i'r drws cefn, pan y cafodd fod un o'r ffenestri yn agored. Tybiodd yn y fan fod rhyw ddrwg yn bod, galwodd y cymmydogion yno, a llwyddasant i fyned i mewn. Mewn un o'r ystafelloedd, yn y Hofft, cafwyd Mrs. Walne yn ei gwely. Yr oedd ei dwylaw wedi eu rhwytno wrth byst y gwely, ac yr oedd dwy shawl dros ei gwyneb. Wedi symud y shawls, cafwyd fod yr hen wraig yn hollol farw. Yr oedd ei gwyneb yn ddu, ei llygaid wedi chwyddo, a gwaed yn rhedeg o'i chlustiau. Yr oedd yn amlwg fod yr hen wraig wedi ymdrechu yn galed am ei bywyd, a bod y shawls wedi eu rhoddi ar ei gwyneb i'w hattul rhag gwaeddi. Wedi ei chael yn y sefyllfa hon, anfonwyd am heddgeidwaid, Credir mai rhyw un o'r gymmydogaeth a gyflawnodd y weithred ond er fod yrheddgei 1 wad wedi gwneyd ymQhwiliad manwl, ni chafwydunrhyw oleuni eglur ar y mater. Daliwyd un o'r enw Thomas Davies, Uafurwr amaethyddol, ar ddrwgdybiaeth. NEGIIO YN LLOFRUDDIO PLENTYN.-Dywed y Memphis Union Appeal am Awst25ain,—Yr ydym yn deall wrth ymdeithydd ar yr agerfad Soline, yr hwn oedd yn yr ymchwiliad, ac yn bresenol pan gafwyd hyd i'r corff llofruddiedig y crybwyllir am I dano yn yr hanes canlynol, fod y gyflafan ganlynol wedi ei chyflawnu, yr hon na ddarllenir yn fynych am ei cnyffelyb. Gweddw yw Mrs. Bradley, sydd yn byw wrth droed Clark's Towhead," vn agos i Walnut Bend, yn swydd Phillips, Arkansas, AM- erica. Yr oedd ganddi un plentyn, geneth anwyl a phrydferth, naw mlwydd oed.-Brydnawn ddydd Mercher diweddaf, clywodd y plentyn yn galw arni mewn Ihis dychrynedig, a chan brysuro i'r drws, gwelodd ryw symudiad yn y llwyni yn y peUder, o'r lie y clywsai waedd y plentyn. Aeth peth amser heibio cyn y gallwyd cael cynnorthwy, a gwnaed ymchwiliad am yr eneth, ond daeth yn auilwg ei bod wedi ei chario ymaith, a chafwyd mai caethwas ieuanc 19 mlwydd oed, perthynol i Mr. John Ashley, yn byw yn yrun gvmmydogaeth, oedd wedi gwneyd hyny. Cafwyd hyd i'r Negro dranoeth, ond gwrthodai yn bendant ddywedyd beth a wnaethai a'r plentyn. Er ei fflangellu a'i gospi mewn amryw ffyrdd, yr oil a geid ganddo ydoedd ei fod wedi ei gadael yn y coed, ond dy- wedai nad oedd un gallu ar y ddaear a allai wneyd iddo hysbysu yn mha le uac yn mha gyflwr. Dyg- wyd yr ymchwiliad yn mlaen ddydd Iau a dydd Gwener.—Cymmerasant y Negro i'w canlyn a cheryddent ef ar adegau, ond daliai i wrthod gwneyd unrhyw ddatguddiad. Ddydd Sadwrn drachefn, aethant yn mlaen a'r ymchwiliad gan gymmeryd y Negro i'w canlyn. Tra gyda eu gorchwyl, daeth- ant o hyd i fintai o Guerriliaid, i'r rhai y mynegas. ant y manylion am golli y plentyn. Llanwyd y Guerrilliaid gan ddigllonedd, a thyngent y dialent ar y Negro hyd yr eithaf. Rhwym • asant ef wrth goeden, a phentyrasant danwydd o'i gwopas.—Pan y gwelodd fod marw geialaw, dy- wedodd wrthynt fod yr eneth wedi marw yr oedd efe wedi ei tlireisio a'i lladd, ac yr oedd ei chorff wedi ei guddio mewn llanerch yr oeddynt droion wedi myned heibio iddi. Wedi iddo wneyd y cyf- rtddefiad, llosgwyd y negro i farwolaeth.—Cafwyd 0 y hyd i gorff y plentyn, yr hwn oedd yri ymddangos yn dra gresynol. Achosodd y dygwyddiad gyffro dirfawr yn yr ardaloedd, ac addefai pawb fod ei gosp yn gvfiawn. BANCIAU CYNNII-O Y LLYTHYHDY.—Ymdden- gys fod y sefydliad hwn yn gweithio yn dda. Yn
Y LLOFJIUDDIAETH YN YSTRADYFOD-WG.—Y…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
rwymo ytt syth wrth yearn. Wedi dwyn gerbron amryw fSn dystiolaethau pellach, gofynndd Mr. Verity am ganiatad i anerch y rheithwyr, yr hyn a wrthodwyd, gan had yw yn arferiad cyffredinol yn llysoedd y trengholwyr. Yna anerchwyd y rheith- wyr gan yr Is-goroner mewn araeth hirfaith a rha- gorol o dda. Dangosodd fod yr oil o'r tystiolaeth- au yn profi yn ddiymwad fod yr ymadawedig wedi cael ei llofruddio; ac os na allent hwy bwyntio allan y Jlofrudd, nid oedd gamidynfc ond dwvn i mewn reithfarn agored. Wedi awr o ymgynghor- lad, y rheithfarn a ddygodd y rheithwyr i fewn oedd Fod Jane Lewis wedi cyflawnu hunanladdiad tra mewn pang o orphwylldra." Dywedai y treng- holwr nad oedd efe yn medru canfod cyd-darawiad rhwng y rheithfarn a'r dystiolaeth, ond eu mater hwy oedd hyny, ac nid yr eiddo ef. Y mae y carcharor o hyd mewn dalfa, a dygir ef o ftaen ynadon Caerdydd i'w brofi am lofruddiaeth wirfoddol. Y mae'r pwnc hyd yn hyn dan fantelli diwybod.