Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

GROEG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GROEG. Y mae y Groegiaid yn awyddus iawn am gael ait fab ein Brenines Victoria,y Tywysog Alfred, i fod yn frenin arnynt. Y mae yn dwrw drwy yr holl wlad am dano-wnaiff neb v tro. iddynt ond Alfred. Y mae yn ammheus pa un a ddichon efe,yn ol y cytun- deban sydd yn bodoli rhwng y tri Gallu Amddiffynol, dderbyn y gwahoddiad. Y mae papyrau Ffrainc mewn twvsged o gyffro mewn perthynas i'r pwnc, a dywedir fod rhai Groegiaid yn Paris wedi llawnodi gwrthdystiad yn erbyn etholiad Tywysog Pilydeinig i orsedd Groeg. Danfonodd ein Llysgenadwr yn Athens adref i hysbysu y Llywodraeth fod y bobl yn gwaeddi am y Tywysog Alfred i fod vn frenin, a'r ateb a ddanfonwyd iddo ef oedd "nadoedd efi ymyru yn yr etholiad," yn yr hwn ateb yr oedd papyrau Paris yn gweled achos drwg- dybiaech. Er gwaethafgwg Ffraine a Rwsi.a y mac y bobl yn parhau i wneyd amlyg- iadau eglur a diamwys o blaid y Tywysog Alfred yn Athens a'r Pirceus. Yn Lamar, argyffiniau Twrci, y mae'r tfobl, y fyddin, a'r swyddogion cyhoeddus, wedi cyhoeddi y Tywysog Alfred yn Frenin Groeg.

IFFRAINC.

MANION.

Y RHYFEL YN AMERICA.