Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

DADL RHWNG Y CREFYDDWR A'R…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DADL RHWNG Y CREFYDDWR A'R GWRTHGILIWR. GAN DAFYDD A MORGAN. DAFYDD.-Wel, Morgan, sut yr wyt ti yn awr ? MORGAN.—Lied dda, diolch i ti, Dafydd ond yr wyt ti yn edrych fel dyn wedi tori ei galon bob amser. Beth sydd yn llwfrhau dy ysbryd yn wastad ? D. Yr wyf yn cydnabod fod dy ofyniad yn eithaf priodol, Morgan, oblegid nid oes dim yn yr egwyddonon a fynwesaf, na'r grefydd a broffesaf, yn galw arnaf i fodyn llwfr fy ysbryd ond yr wyf felly bob amser y cyfarfyddwyf a thi, oblegid dau peth. Un peth yw" am fy mod yn teimlo gofid am y llygredd sydd ynof fy bun a'r Hall yw, fod ystyriaeth i'th gyflwr di, fel Gwrthgiliwr, yn I hoddi y fath boen i'm meddwl, fel uas gallaf ar un adeg y cyfarfyddwyf a thi, fod yn llawen. M. Er mwyn dyn, gad yna am danaf fi nid oes eisieu i ti ymboeni am dani 1; a pheth arall, Dafydd, yr wyf wedi blino ar dy dafod cas i mi bob amser y cwrddom. Ni bydd genyt ddim i siarad a mi byth ond rhywbeth am fy ngbyflwr. Gad glywed, beth yw fy ngbyflwr i ti ?

m L) i if., EGLWYSIG. u'*