Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
♦ : ATHROFEYDD Y BEDYDDWYR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
♦ ATHROFEYDD Y BEDYDDWYR YN SIR FYNWY. G A N RUFUS. GAIR 0 vchwanegiad at yr hyn sydd wedi ei ddweyd yn barod am "Dy Athrofaol Ponty- pwl." Gwn y maddeua fy mrawd Mr. Mor- gan i mi am hyn. Ein hamean yw, cael cym- tnaint o hanes y sefydliad ag a ellir ei gael. Wedi symud y Gymdeithas o dref y Fenni i dref Pontypwli ac wedi dewis Dr. Thomas.yu athraw, y peth nesaf oedd cael Ty Athrofaol —^adeilad o werth. Ond pa le yr oedd yr Athraw a'r Myfyrwyr i ymgyfarfod yn yr ■ amser y buasai y Ty yn cael ei adeiladu. Dy- wedasom yn un o'n hysgrifau blaenorol,.i'r pwyllgor, wedi cael cydsyniad Mr. Thomas i argymmeryd v swydd athrawol, lwyddo i gael ty iddo ef a'i deulu, ac iddynt osod swm fechan o arian allan, er mwyn ei adgyweirio, a'i wneyd yn gymhwys i dderbyn y myfyrwyr i mewn i gyfrann gvversi iddynt. Mae y ty bychan hwnw yn sefvll ar yr ochr ddeheu i'r heol, fawr sydd yn arwain o dref Pontypvvl i Bont Crum- lin. Saif y tu hwnt i'r Toll-glwyd. Dyna lie y buwyd am flwyddyn gyfan, ac mae'r n'aith hon wedi rhoi peth hynodrwydd ac. enwog- rwydd i'r ty hwnw. Mae llawer i fyfyriwr, adnabyd(itis ,i'r ffaith, wedi edrych ar yr hen dy gyda'r teimladau cynliesaf ac anwylaf, ar gyfnf hyny, a gobeithio na fydd iddo gael cam gan neb, ond y ca chwareu teg i sefyll hyd nes y syrthio o hono ei bun. ^Yn ystod yr amser hwn ni buwyd yn cysgu nac yn segura ond yn meddwl yn ddwys, yn cynllunio yn dda, ac yn gweithio yn galed. Pa fath dy oedd y Ty Athrofaol i fod? Ty mawr ac hardd, cysurus a chyfleus, gwasan- aethgar i'r sefydliad, a theilwng o'r enwad. Cydunwyd i A. Crosford, Ysw., ddwyn i'r pwyllgor y plans a'r specifications o'r adeilad, yr hyn a wnaeth i foddlonrwydd hollol; a mwy, rhoddodd ei lafur yn rhad—heb arian ac heb werth. Teirnlai y pwyllgor yn awr galon i weithio—cydunwyd i brynu tir ar estate Capel Hanbury Leigh, Ysw., Lord Lieutenant of the County. Ond pa le mae'r arian i'w cael? Dyma ddyrysachi Na; mae gan y sefydliad gyfeillion gwresog a chalooog-yn foddlawn rhoi benthyg digon o arian at yr adei!ad—cyilwynwyd ganddynt at wasanaeth y pwyllgor ddim llai na .£1,400 am y tal o ..£50 y flwyddyn. Dywedodd Esquire Leigh y rhoddai efe werth jE25 o geryg at yr adeilad ac felly, ar y 3ydd o Awst, 1836, ymgytinull., wyd i Beuygarn, i'r ysmotyn tir, pryd y go- sodwyd i lawr gareg sylfaen Ty Athrofaol y Bedyddwyr yn Mhontypwl. Ar yr achlysur, cyfansoddwyd yr Englynion canlynol gan y Parch, J. Williams, Aberduar :—
DADL RHWNG Y CREFYDDWR A'R…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
wastadedd Sodom, a'i hennid yn delpyn byw 0 dan yn uffern, oblegid ei gwrthgiliad, p^n, digon tebyg, y cawsai hi ei chadw rhag y farn yr un raodd a'i dwy ferch ragrithiol, pe Da buasai yn gwrthgiIio. Dyna Judas hefyd, dy frawd anwyl di, tra bu yn aros yn mhlith pobl yr Arglwydd fel rhagrithiwr, edrychid arno gan Grist ei hun gyda pharcb, a llanwai swydd bwysig yn yr eglwys; ond pan y trodd yn wrthgiliwr, dyna y ddaear a'r nef yn ei wrthod, ac nid oedd ond uffern a'i derbyniai. Pan dan bangfeydd cydwybod euog, efe a aeth ymaith, ac a ymgrogodd. A phan y mae Crist yn amlygn tynged y gwrthgiliwr, efe a ddywed, Pwy bynag gan hyny a'm gwado I gerbron dynion, minnau a'i gwadaf yntau gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Y mae yn ddystaw am y crefyddwr gwael, ond efe a wad am byth bob cyssylltiad a'r gwrth- giliwr, fel y mae dy, gyflwr di, Morgan, yn eithaf drwg. M. Gan bwyll, Dafydd, yr wyt ti yn dar- lunio cyllwr y gwrthgiliwr fel y bradwr gwaethaf, a'r pechadur duaf, a all y ddaear hon ei ddangos, ac nad oes lie iddo yn un man ond yn uffern. Ai, tybed, nad oes modd iddo gael trugaredd ? D. Gwir bob gair, Morgan, ac nid wyf yn meddwl y gall haul natur dywynu ar un cym- meriad gwaeth na'r gwrthgiliwr—y mae yn rhy ddrwg gan yr eglwys i'w oddef ynddi, ac nid yw y byd chwaitb yn foddlawn ei dder- hyn ond y mae Duw yn gwybod am le iddo yn y byd arall, yr hwn nad yw yn well na dyfnder uffern Y mae lie i lawer pechadur mawr i ymlochesu, ac i lawer euog guddio ei ben yn nghlwyfau yr Oen a laddwyd, trwy gael eu cludo yno gan drugaredd faddeuol Duw; ond yr wyt ti wedi gwrthod cymmwynas trugaredd, "barnu yn aflan waed y cyfam- mod," a diystyru Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd," a thrwy hyny yn ymvvisgo yn y cymmeriad y dywed Paul am danynt, "Canys anmhosibl yw i'r rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofasant v rhodd nefol, ac a wnaethpwyd yn gyfranogion o'r Ysbryd Glan, ac a brofasant ddaionus air Duw, a nerthoedd y byd a ddaw, ac a syrth- iant ymaith, ymadnewyddu drachefn i edi- feirwch, gan eu bod yn ail groeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw, ac yn ei osodyn watwar." Felly, ti a weli nad myfi sydd yn duo dy gymmeriad, ac yn amraheu dy gadwedig- aeth, ond y mae Gair Duw yn dy ddangos yr hyn a ddywedais dy fod. Ond cofia, nid wyf yn dweyd nad oes digon o allu yn lawn Crist, a digon o rinwedd yn yr Aberth i faddeu beiau mor fawr a'th eiddO di, ac nid yw yr Apostol yn dywedyd hyny chwaith, ond dywed ef a minnau ei bod yn." an. mhosibl," ac y mae yr anmhosiblrwydd hyn yn ymgocli oddiwrth dy fod di wedi gwrthod unig drefniant galluog Duw ar dy gyfer; a ehandy fod di wedi gwrthod hwnw, ac na threfna Duw un arall yn ei Ie, am hyny y bydd dy ymadnewyddiad yn anmhosibl. M. Dywedi fy mod yn rhy ddrwg i'r eg- lwysfy ngoddef ddim yn hwy ynddi. Dy haerllugrwydd di yw hyny, oblegid gadael" yr eglwys o honof fy hun a wnaethym I, ac nid cael fy ngwrtbod ganddi, canys tybiwn fy hun yn rhy santaidd i fod yn mhlith rhai mor halogedig a hwy. Y mae genyf barch i Air Duw, a gwn fy mod yn ei wybocl yn well na liawero honynt hwy. Y mae genyf barch i Grist, ac i'r Ysbryd Glan a gymhwysodd ei waed er ghnhau fy enaid ac o hervvydd hyny nis gallaswn aros yn eu plith hwy ddim yn hwy. D. Yr wyf yn teimlo fy nghalon fel yn gwaedu, a'm henaid yn griddfan, wrth wran- daw arnat yn tystio mai gadael" yr eglwys a wnaethost, ac md cael dy wrthod gan- ddi, yn gystal a'th ymffrost o'th wybodaeth ysgrythyrol, a'r serch, rneddi, a deimli at lesu Grist a'r Ysbryd Glan, am y gwaith a haeri iddynt wneyd ar dy enaid. Morgan anwyl, gwrandaw beth yw barn Paul am danat etto, Canys os o'n gwirfodd' y pechwn, ar ol derbyn gwybodaeth o'r gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach, eithr rhyw cldysgwyl ofnadwy am farnedig- aeth ac angerdd y tan, yr hwn a ddifa y gwrth- wynebwyr. Yr un a ddirmygai gyfraith Moses a fyddai farw heb drugaredd dan ddau nen dri o dystion, pa faint mwy cospedigaeth (debygwch cbwi) y bernir haeddu o'r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfammod, trwy yr hwny santeiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Xsbryd y gras." Dyna dy gyflwr- fel gwrtbgiliwr, er dy holl ymffrost mewn gwyhodaeth a santeiddrwydd nid wyt ond fel y condemniedig a rhy; ddysgwyl" ofnadwy am ddydd dy ddienjddiad, am dy waith yn ymgodi yn erbyn llywodraeth foesol Duw, trwy adael crefydd yn wirfoddol, gwneyd camddefnydd o'tb wybodaeth ys- grythyrol, mathru Mab Duw dan dy draed, barnu gwaed y cyfammod yn aflan, a difenwi yr Ysbryd Glan. Ofnwyf dy fod, wedi cyf- lawnu pechodau ac nas maddeuir i ti, oblegid fod dy waith yn gwrthgilio yn "difenwi Ysbryd y gras," oblegid priodoli gwaith yr Ysbryd Glan i Beelzebub oedd y pechod y tystiai Crist nad oedd maddeuant o hono i'r fnddewon. Y gwir yw, yr wyf yn rhyfeddu pa fodd yr wyt yn gallu siarad, gweithio, cerdded, ymborthi, na gwenu fel dynion ereill, na pha fodd y rhoddi gwsg i'th lygaid, na hiin i'th amrantau, rhag ofn mai yn uffern y byddi yn dihwno—" Peth ofnadwy yw syithio yn nwylaw y Duw byw," wedi bradychu ei Fab ef, a diystyru ei ddoethineb yn ei gogon- iant uchelaf, yn ei gynllun dwyfol i gadw byd o bechaduriaid wedi haeddu eu damnio Y mae Duw yn gofyn i ti, Morgan, yn awr yr hyn a ofynodd i teibion Eli gynt, Paham y sethmch cliwi fy aberth;" ac os oedd yn bechod ynddynt hwy i gamarfer yr aberthau luddewig, pa faint mwy yr Aberth mawr ei hun ? Os oes niwed i sathra ar y cysgod, pa faint mwy ai y sylwedd ? CAN OLW it.Gwi-an dewch air eicli dau. Yr ydych wedi cario y ddadl yn ddigon pell yn mlaen, fel y mae yn amlwg, bellach, na ddaw dim datoni o honi, yn neillduol i'r dosparth ag y perthyni <ii, Morgan, iddo. Gwir fod rhai gwrthgilwyr yn teimlo fel y dylent wrth ym- resymu a hwy, a gwir edifeirwch yn euealouau oblegidgadnè1 crefydd, ac yn dychwelyd yn ol i eglwys Dduw dan ddwfngystudd enaid, acyn gwneyd mwy o ddaioni gyda chrefydd na neb arall ar ol ell dychweliad, a gall y dosparth yua dderbyn lies oddiwrth eich dadl; :ac os yw pob crefyddwr u'r un teimlad a mi yma, wrth wran- dawarresyLaucedyrn fy mrawd Dafydd, yn nghyd a'r ysgrythyrau a ddygodd yn nilaen i brofi ei nodmdau, gwn mai y peth pellaf oddi- wrthym fydd gwrthgilio. Felly, gall eu dadl fod yn fbddion i'n cadvv yn fyvy selog a gweithgar gyda chrefydd. Ond y mae yn rhaid i mi gvfaddef fod rhyw ddospartb b wrthgilwyr, nfd yw yn debyg; y teimlant d¡Jim yn. eft'cithiol, hyd nes i farn Dl1w ddisgyo arnynt mewn gwlad anobeithiol. Hwy yw y tyngwyr gwaetliaf, yr halogwyr mwyaf ar y Sabbothau, dilynwyr ffyddlonaf y tafarnnu, y rhai mwyaf anynad yn eu tenluoedd, a'r es- genluswyr penaf o foddion gras. Yr wyf yn credn mai un o'r dosparth yna yw Morgan. Gan hyny, rhoddwch i fyny y ddadl, fel na -rodder y "gemau o flaen y moch," a chad- wer pawb rhag myned yn wrthgilwyr. Victoria G. ARMON: