Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

LLOFFION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLOFFION. GWLEDD Y METHDALWR.-—Y mae Dr. Franklin 5n adrodd yr hanesyn canlynol am Mr. Denham masnachwr Americanaidd gyda'r hwn yr aeth ar fordaith i Loegr. "Yr oedd wedi bod gynt," meddai, mewn masnach yn Bristol; methodd, ac yr oedd yn ddyledwr i lawer o bobl; cyfrandalodd (compound), ac aetb i America yno, trwy ddilyn ei orchwyi yn ddiwytHfel—inusnachwr, casglodd gytoeth mawr mewn ychydig o flynyddoedd. Ar ol dychwelyd i Loegr yn y llonggyda mi, gwahoddwjd ei hen ofvnwyr i gydwledda ag ef, ya mha Ie y diolohodd iddynt am eu tiriondeb yn cymmeryd swm ilai nag oedd yn ddyledus; a phau nad oedd- ynt y-n dysgwyl dim ond y wledd, cafodd pob dyn o dan ei blat, ar y newidiad cyntaf, order ar y banc am yr holl swm oedd yn aros heb ei dalu yn nghyd a Hog." Dyma enghraifllt nodedig o wir onest- rwyùd. a theitwng o efelychiad gau bob un a daflir i amgylchiad cytlelyb. SIOMEDIGAETHAU PRIODAS.—Gwrandewch ha- nes y rhai a siomwyd mewn priodas, cesglwch eu holl gwynion, gwrandewch arnynt yn llaUd ar eu gilydd; ar ba bwynt marwol y mae y rhan fwyaf o honynt yn troi ? "Camgymmerasa¡¡t yn y person ?" Gwelir trwy ryw ffugwisg o eiddo y meddwl lieu y corft. yn yr,ymrafael teuluaidd cyntaf; y mac rhyw addurn teg, hwyrach yr un hwnw a enuillodtl y galon-addurn ysbryd addfwyn a llonydd, yn syrthio ymaith. Byddwch gywir, byddwch onest; ym- ddangoswcii y peth ydych na chuddiwch ddim, ac na orliwiwch ddim ac os na wna yr arfau teg hyn y tro, gwell i chwi beidio gorehfygu o gwbi, na gorchfygu am ddiwrnod. Os twylla y galou ei hun yn y dewisiad, ac o» crea y dychymmyg ragoriaethau nad ydynt yn perthyn i gig a gwaed, pan a y breu- ddwyd drosom ac y deffrown yn y bore, nid ydyw o nemawr bwys gyda phwy y mae yr hunan-dwyiledig wedi priodi. Pwy bynagtyddo y gwtthddrycb, gau y rhaid iddo fod o leiaf ar yr ochr ddaiarol i ber- ffeithrwydd, fe syrth yn fyr o ateb i'r dychymmyg, yr hwn sydd a'i brtswylfod yny cymylau. Y n y cyfryw amgylchiad o hunan-dwyll, na ddyweded neb, Pa bethau a wnaethost i mi ?" canys ei waith ef ei hun ydyw, ac nid oes ganddo un peth i roddi y bai arno, ond calon ac annoethineb dychymmygol ei nwyd ef ei hun. GWRAIG MEWN CYFYNGDEH.—Mor fynych, pan y bydd dyn yn gadael y llyw mewn ambaith,y bydd merch yn ymaflyd ynddo, ac yn dwyn y Hong adref drwy y dymhestl ? Bydd dyn yn fynych yn diauc oddicartref ac oddiwrth ei deulu, i ochelyd y tlodi neu y trucni fydd yn debyg o ddyfod i'w ran ond ni welir merch byth yn gadael ei chaitref fel hyn. Anfynych y elywir fod merch yn cyflawnu hunan- laddiad, neu yn ffoi o'i chartref er mwyn goehelyd adfyd tymhorol. Y n hytrach na byw i weled ei dlodi yn cael ei gyhoeddi yn y newyddiaduron, gwell gan y banciwr balch chwythu ei ymenydd allan, a gadael ei wraig a'i blant mewn eisieu, heb feddu un amddiffynwr buasai gwraig hawddgar yn ei gy- nghori i ddyoddef tlodi, a byw i fagu ei deulu, a gwneyd ei oreu i adferu ei amgylchiadau. Dylid ymgynghori a, ac ymddiried mewn merch ar bob achos oblegid y mae ei gallu i weled a chynllunio yn gyflymach na dyn. Bydd dyn yn fynych yn treulio llawer o amser i betruso cyn penderfynu ond ni bydd athrylith merch byth yn colli amser i betruso. Y mae merch yn teimlo, pan y bydd dyn yn meddwl yn gweithredu pan y bydd ef yn ymres- ymu yn gobeithio pan y bydd ef yn anobeithio, ac yn buddugoliaethu pan y bydd ef yn syrthio. SARAII A'l MAM.—Un diwrnod yn St Louis, yr oedd amryw ferched wedi dyfod ar ymweliad am y prydnawn i dy cyfaill iddynt, pan y cymmerodd yr amgylchiad a'r ymddyddan caniynoi ie :—Yr oedd plenfcyn pump oad i un o'r bvneddigesau wedi bod .vn euog o ymddygiad anfoesgar ac anweddaidd—yr hyn sydd yn dra annymunol mewn plant bach ar bob adeg, ond yn fwy felly yn nhai dyeithriaid. Ceryddodd ei mam hi mewn ysbryd caredig, gan ddyweyd—" Sarah, rhaid i chwi beidio gwneyd hyn yna." Yn fuan, annghofiodd y plentyn ei cherydd, ac aeth wedi hyny mor drystiog ag erioed. Dywedai y fam yn llvm drachefn, "Sarah, os bydd i chwi wneyd hyn yna etto, mi a'ch cospaf;" ond cyn hir, gwnaeth Sarah "hyny drachefn." Pan oedd y cwmpeini ar ymadael bawb i'w fan, aeth y fam am fyn d i dy cymmydog, gan fwriadu dyfod yn ol drachefn i geisio y plentyn. Darfu i'r meddwl am fyned gartref i adgofio i Sarah y gospedigaeth y dy- wedasai ei mam yr oedd i'w dysgwyl j a throdd hyny ei hanfoesgarwch a'i hanfeddylgarwch yn dristwch a galar. Wedi i foneddiges ieuanc oedd yn brescnol ddeall yr achos, mewn trefn i'w thawelu, dywedai wrthi: .1 Na ofelwcb, gofynaf i'ch main beidio eich chwipio." "O!" ebe Sarah, ni wna hyny un lies o herwydd nid yw fy mam yn arfer dweyd aiz. wiredd." Y mae yn werth pob peth wrtb addysgu plentyn, ei ddwyn i deimlo na byddai ei fam byth yn dywedyd anwiredd. FfREDERic A't WAS.—Un diwrnod, canai FfreUeric, brenin Prwsia, y glocli; a chan nad oedd neb yn ateb, agorodd y drws, a chanfu ei was yn cysgu mewn cadair freichiau. Aeth yn nes ato ac yr oedd ar ei ddeffroi, pan y canfu ddarn o lythyr yn hongian o'i logell; ac o gywreinrwydd i wybod pa beth ydoedd, cymmerodd afael ynddo gan ei ddarllen. Llythyr oddiwrth fam y dyn ieuanc yd- oedd, yn mha un y diolchai yr hen wraig iddo am anfon rhan o'i gyflog i w chynnorthwyo yn ei hadfyd -gan ddibenu trwy sicrhau y byddai i Dduw ei wobrwyo am ei serch mabaidd. Wedi i'r brenfn ei ddarllen, aeth yn ol i'w ystafell; cymmerodd gwd yn llawn o ddarnau o aur, a gollyngodd y llythyr ac yntau i lawr i logell y gwas. Wedi my tied i'r ystafell drachefn, canodd y gloch pior uchel nes deffroi y gwas, yr hwn a wnaeth ei ymddangosiad yn y fan.—" Cawsoch huno yn gysurus," ebe y brenin. Ni wyddai y dyn ieuanc pa fodd i ymesgusodi. Ar ddamwain, tarawodd ei law yn ei logell; ac er ei ddirfawr syndod, cafodd y pwrs a'r ducats yno. Tynodd ef allan, edryuhodd ar y brenin, a'i wyueb- pryd gwelw a chan ollwng flrwd o ddagrau, meth- ai lefarai un gair. "Beth yw hwn yna?" ebe y brenin—" Beth yw y mater ?" A syr," meddai y dyn ieuanc, gan syrthio ar ei liniau—" Y mae rhyw ut) yn ceisio fy ninystrio. Nid wyf yn gwybod dim am yr aur hwn a gefais yn fy Uogell." Fy nghyfaill ieuatic," atebai Ffrederic—" y mae Duw yn fynych yn gwneyd pethau mawr efom ni hyd y nod pan y byddwn yn cysgu anfonwch hwn yna i'ch mam—cyferchwch hi ar fy rhan i; gan ei sicr- hau y bydd i mi ofalu am danoch eich dau."—Dyma wobr cariad mabaidd.

GOHEBIAETH 0 OGLEDD LLOEGR.