Y CYFYNGDER YN SIR LANCASTER. At Drigolion Sir Aberteifi. ANWYL GYFEILLION, Yr wyf yn credu fod yr adeg wedi dyfod oddiam- gylch, pryd yr ystyriwyf hi yn ddyledswydd arnaf i'ch anerch chwi ag ycliydig eiriau ar yr achos sydd yn awr, fel y mae gwaethaf y modd, yn hysbys i ni gyd, sef, Y CYFYNGDER YN SIR LANCASTER ac hyderaf na fydd fy ymyriad ag ef yn cael edrych arno gan neb, yn y mesur Heiaf, fel awydd ynof i'w, cyfarwyddo yn y llwybr y dylent gymmeryd. Ofewny misoedd diweddaf, derby niais erfyniadau liuoaog, oddiwrth wahanol Bwyllgorau Cynnorth. wyol sydd wedi eu ifurfio, i ofyn Tanysgrifiadau drwy y Sir hon. Yr oedd genyf ddau reswm tiros beidio gwneuthur feUy hyd yn awr. Yn laf, Yr oeddwn yn gobeithio na fuasai y cyfyngder, yr hwn a oddefwyd yn amyneddgar a cltanmoladwy, yn parhau ond am ychydig amser, a thrwy hyny gallesid ei gynnal heb gymhorth oddiwrth ddyeithr- iaid ond, fel y mae mwyaf yr anffawd, nid felly y bu ac, yn 2il, Yr wyf yn cyfaddef ruai fy main! ostyngedig i oedd, ac ydyw etto, mewn ymweliad mor bennodol a hwn, os bydd y lie a drallodir yn, analluog i gynnal ei hun,fod yr achos yn dyfod yn un Amherodrol, a dylai dderbyn cynnorthwy cyfar- tal oddiwrth Drysorfeydd y Llywodraeth, at ba rai y gorfyddai i bawb danysgrifio; fel mai effaith cynllun gwahanol, hyny yw, ymddibynu ar elusen bersonol, fyddai, yr wyf yn credu, cyfeirio ffrwd y cyfryw elusen oddiwrth y gwahanol teoedd yr ar- fcrent eu dyfrbau iun rhedle mawr, gan adael eu rhedfa arferol yn sych ac anffrwythlawn. Pa fodd bynag am hyn, y mae barn wahauol yn cael ei choledctu ar yr adeg bresenol, fel y gellid meddwl ac fe'm siomir yn fawr os ymddengys Sir Aberteifi yn glaiar yn nghanol y cynnorthwy a'r cydymdeiinlad cytfredinol a dd&ngosir yu awr tuag at ) r ardaloedd trallodedig. Yr wyf yn ostyngedig feddwl nad Cyfarfodydd Cyhoeddus ydynt y cyfryngau goreu i gael Tanys- grifiadau Elusengar, o herwydd ynddynt hwy tueddir llawer, gan deirnladau y fynyd, i roddi mwy nag a allant, neu fwy nag a roddent oui bai hyny ac nid dyma yr elusen y mae ein Harglwydd yn ofyn, fel y gellir profi drwy ddigon o enghreifftiau o'r Ysgrythyrau Santaidd. Gyda'r ychydig sylwadau rhagarweiniolhyn, dy- wedaf, bellach, fy mod wedi trefna gyda'r gwa- hanol Ariandai yn Aberystwyth, Llanbedr, Castell- newyd'l yn Emlyn, ac Aberaeronj i dderbyn Tanysgrifiadau at wneyd Trysorfa, i gael ei galw ''TRYSORFA GYNNORTHWYOL SIR LANCASTER ■—fy mod yn cynnyg gadael.y cyfryw gyfrifon yn ago red liyit Ionawr y lOfed, 1863;—y gwnaf, yr amser hwnw, gasglu y gwahanol symbu o bob Ariandy, a'u bunion i'r Pwyllgor Cynnorthwy ol Canolbarthol; y bydd y syiuiau, yn nghyd ag 0 Enwau y Tanysgrifwyr, i gael eu cyhoeddi yn y Newyddiaduron cylchynol. Y mae yn ddiamhen genyf y gwna Llythyr rha- gorol ein Hesgob, (yr hwn a glywais yn cael ei ddarllen heddyw yn yr Eglwys), dueddi pawb i danysgtifio a fyddant yn yr Eglwys ar y dyddiau y byddo yn cael ei ddarUen; ac nid Oes genyf ond gobeithio y ca y Llythyr hwn y fath ddylanwad ag i gymhell pawb nas tanysgrifiasant o'r blaen i wneyd hynylyn awr, ac i gymmeryd yr un llwybr ag yr wyf fi yn fwriadu gymmeryd, sef, rhoddi yr hyn a allant hebgor, heb ddrygu eu helusenau car- trefol, i'w brodyr yn Sir Lancaster, ar barai y mae adfyd lleol yn gwasgu yn drwm yn awr. Ychwanegaf, fy mod yn credu, yn mhob Tanys- grifiadau Elusengar, fod ceiniogau .y dyn tiawd mor dderbyniol, ac, ft allai, yn y cyfanswm, pior effeithiol, a phunnoedd y dyn cyfoethog; ac y gwnai Cyfeisteddfodau Lleol hwylusu i gasglu Tanysgrifiadau y rhai nad oes gauddynt amser 11a chyfleusdra i ynrweled a'r Ariandai. Ydwyf, anwyl Gyfeillion, Yr eiddoch yri ffyddlawn, Peithyll, Tach. 30, I8G2. E. L. PaYSE.
HANESION CYFFREDINQL, IECHYD GARIBALDI.—Y mae Garibaldi bellach allaiv b berygl. Liythyr o Pisa a hysbysa ei fod yn bwyta ac yn cysguyn dda, ac yn dyfod yn mlaen gystal ag y gellid dysgwyl. Teimla yn siriol a chalonog; ac nid oes amheuaeth nad y w cwymp gweinyddiaeth Ratazzi wedi rhoddi boddhad °riia&r i'w feddwl. Nid yw yn debyg yr a i America, fel y bwriadai ychydig amser yn ol, g an ei fod yn dys- gwyl y caiff gyfleusdra yn fuan etto i wneyd gwas- anaeth i'w wlad; Dywedir fod boneddwr o'r wlad hon wedi cynnyg mil o bunnau am y belen a dynwy'd o goes Garibaldi. YMFUDUETH. Ymddengys oddiwrth adrodd- iadau ymfud:aeth porthladd Liverpool, fod ymfud- iaeth yn parhau i gynnyddn. Cyfaririf y ttyfiiiydd ar y flwyddyn oedd yn diweddu ar y 30ain o Dach- wedd, oedd 8 328. Y nifer a ymadawodd o'r Mersey yn ystod y mis oedd 4346, yr hyn oedd yn gynnydd o T,729 ar fis Hydref. Aeth 2,622 i'r Unol Daleithiau yn ystod y mis, a 1,310 i Aws- tralia. ETHOLIAD SOUTHAMPTON. — Dydd Gwener, Rbagfyr, 5ed, terfynodd yr etholiad |nvn yri nych- weliad yr ymgeisydd Toryaidd, yr AVglwydd Faer Rose. Saflli nifer y pleidleiswyr fel y canlyn Rose, lj586 Mangles, 1,572, yr hyn a ddengys ei bod yn ymdrechfa galed. Dywedir mai Rose yw y Tory cyntaf a eisteddodd erioed dros y fwrdtis- dref. Priodolir y gorch'ygiad hwn i anmhoblog. rwydd yrymgeisyfld Rhyddfrydig yn Southampton, ar gyfrif ei waith yn gwrtliwynebu mesurau a ys- tyrid yn fanteisiol i'r fsj^deisdref. CYFADDASRWYDDMoRMONIAETH.—Cyhaeddtr yr hyn a ganlyn m«wn ncwyddiadar o Boston; Aeth cwmni o ymfudwyr Mormonaidd tiwy Boston ychydig ddyddiau yn ol, ar ea taith tuag .Utah.. SylWyd ar un gwr ieuanc neilldunl yn ou plith, ymddangosiad yr hwn oedd yn pern iddo fefd yn hyuod yn mhlith yr holl gwmni, a cbydag ef yr oedd dwy ferch ieuainc, a phob ystum ac agwedd arnynt yn dangos eu bod yn perthyn i gylch uchel mewn cymdeithas. Mab ydyw'r lIanc i dirfedd- iannwr cyfoethog yn Norway, a dwy chwaer amddi- faid oedd y merched ieuainc, y rhai a ddygasid i fyny er yn blant gydag ef yn nh^ ei dad, Aeth ef i'r coleg, a phan ddychwelodd yn mhen ychydig flynyddoedd, synwyd ef wrth weled y ddwy enetb wedi tyfu yn Ilancesau hardd dros ben. Teimiai rywbeth yn cyffwrdd a'i galon wrth edtych arnyat. Aeth 'dros ei ben a'i gtustiau' mewn cariad. Ond a pha un yr oedd ef mewn cariad ? Yr oedd y naill cyn hardded ac mor hawddgar a'r Hall. Teimlai ei fod yn caru'r ddwy. Aeth i benbleth ac anmhenderfyniad. Yn ei ddyryswch meddwl, dy- wedodd wrth y ddwy eneth fel yr oedd yn teimlo. Chwerthinasant am ei ben ar y cyntaf. Yn y eyl. amser, daetb Apostol Mormonaidd i'r lie. Gwran- dawsant arno, a'r canlyniad fu i'r ddwy benderfynu eu bod yn caru Ludwig. Nid oedd deddfau llygr- edig Mormoniaeth yngroes i hyny, a'rdiwedd fu i'r tri ymfudo i Utah." CYFRANIADAU I DDTOEDEFWYR SiR LAN- CASTER.—Yn ddiweddar be'iid cyfoethogion sir Lancaster o esgeuluso cynnorthwyo y trueiniaid ag ydynt yn dyoddef yn eu hymyl.. Pa un ai gwir ai anwir oedd y cybuddiad hwn, y maent ero) n hyn vvedi dangos eu bod yn wir ddyngarwyr. Cyfar- fyddodd gwyr cyfoethog y sir mewn cyfarfod cy- hoeddusyrwythnos cyn y diweddaf, ac y mae yr hyn a wnaethant yn ddigori i beru syndod i'r byd. Tanysgrifiwydyn y cyfarfod hwn gymmaint a chant a deng mil ar hugain, o bunnau. Credwn fod hyny yn fwy nag unrhyw swm a danysgrifiwyd mewn un cyfarfod erioed. Nis gall hanesyddiaeth y byd ddangos ei gyffelyb. Y cyfan wedi ei wneyd mewn un sir, mewn un cyfarfod, ac at unpwrpas! Dylid cofio. hefyd mai nid y swm mawr hwn ydyw yr hyn oil a wnaeth nac a wna cyfoethogion haelionus Lan- caster yn ystod y trychineb presenol. Y mae hyn yn chwanegol at y eyfraniadau a wnaethpwyd eisoes
———— VAURYNNGHYMRU. Amserynolmawr oedd y stwr am gloddfeydd aur Califfornia ac Awstralia, a llawer a ymdyrent yno, gan feJdwl gwneyd eu ffortun. Ond yn bre- senol nid oes eisieu i'r Cymro ieuanc adael gwlad ei enedigaeth, er trieddiannu y llwch meljn, gan ei fod i'w gael yn Nghymru. Hynodir deheubarth y Dywysogaeth gan faesydd glo a haiarn, pan y mae y meteloedd mwyaf gwerthfawr i'w cael yn y Gog- ledd. Y mae yn ffaith bellach y gellir cario yn mlaen y cloddfeydd aur gyda llwyddiant mawr. Y mae dirprwywyr yr Arddangosfa yn Llundain wedi cadarnhau hyn, drwy roddi bithodyn gwobrwyol i Gwmni y Yigra a'r Clogau, amyr ymdrech Iwydd- iannus gyntaf a wnawd yn Mhrydain i weithio gwythien o aur. Gellir cael aincaniaeth am gyfoethogrwydll maesydd euraidd Cymru, drwy y dychweliadau a wnawd gan Gwmni y Vigra a'r Clogau hyd y 30ain o fisMedi diweddaf,y rhai a brofant i'r Cwmui, gyda'r cost o dair mil o buhnau, godi 7892 wns o aur; yr hwn a gynnyrchodd yn Ariandy Lloegryn agos i ddeng mil ar hugain o bunnau. Wrth siarad am faesydd aur Cymru, dywellaiy Cadbeu Treloar, o Gwmni St. John del Rey, fel y canlyn Y mae llwyddiant GogJedd Cymru yn guddiedig yn y dyfodol; oud byddedy canlyniad beth a fyddo, y mae yn bresenol faes aur yn agos i Ddolgellau ag sydd yn addaw yn dda, ac yn deilwng o ystyriaeth y mwnwr a'r arianog; y mae y inaes hwn yn dwyn argofi mi ran o faes aur yn Brazil. Gorfodir fi i ddywedyd, fod maes aur Dolgellau yn le ag sydd yn addaw cynnyrch mawr. Da genym gael ar ddeall Jod Cwmni newydd wedi cael ei ffurfio, dan yr ensv East Cambrian Gold Mining Company," amcan yr hwn yw, gweithio y gioddfa aur yn y Moel Yspri, tua thair milltir o Ddolgellau. Y mae yr eiddo yn cael ei ddiil drwy les, tair blynedd ar ddeg o ba un sydd heb redeg allan. Ceir yno fwn arian, plwm, copr, a sulphur, ac oil yn cynuwys rhyw gymmaint o aur. Heblaw hyn, y mae yno wythien o aur, yr hon. mewn rhai lleoedd sydd yn ddeg troedfedd ar hugain o led. Dywedir na fyddai y cost o osod peiriannau i weithio y mwnglawdd dros chwech mil o bunnau; ac unwaith y gvvneir hyn, bydd y can lyniad yn wir foddliaol, gan y dywedir fod yr aur braidd yn anysbyddadwy. Dywodir gan bersoriau teilwng o y rnddiried, os ceir dynioii digon haelfrydig i osod allan eu harian, y bydd i'r ennill droi allan yn wir foddhaol. Hyderwn y cymmerir at yr an- turiaeth gan foneddigion Cymru, fel na fyddo i'r cyfoeth y ma gael ei ddwyn o'n gwlad gan estroniaid, fel y gwneir yn rhy auil. Byddai yn dda i Gymru pe byddai ei meibion arianol yn meddu rhagor o ysbryd anturiiiethus, • tJt!dl' (.OJ. -.h.ij, h | £ IKC
cychod yo dduon, y rhai oeddynt o'r bis en yn wynion. Tra yr oeddwh wrth yr olwyn, gwelwn rai o'r dynion yn myned i'r caban, yn cymmeryd corff y cadben, Be yn ei daflu dros y bwrdd. Yr oedd y carcharor yn y caban tra y gwnaent hyn. Am banner awr wedi saith o'r gloch, aethum i'r caban, a gwelwn wraig y cadben yn gorwedd yno. Ni ddarfu iddi slarad. Yn mhen ychydig amser arc! hyn, rhoddodd y carcharor ei bistolion o'r neilldu, a chan gynted ag y gwelsom hyny, ym- aflasom ynddo, rhwymasom ef, a drogelasom ef yn ngwaelod y llong. Cadwasom ef yno hyd nes y cyrhaeddasom i Rio Grande, yn mhen oddeutu pum niwrnod ar ol hyny. Bu y wraig, yr hon oedd wedi ei chlwyfo yn drwm, farw dranoeth, a thaflasom hi dros y bwrdd ar y Sabbath, gan nas gallein ei chadw yn hwy. Tystiod-3 un arall o'r dwylaw ei fod wedi gweled y carcharor yn trywanu gwraig y cadben. Traddodwyd y carcharor i garchar i ai-OS, gorchymyn y Bwrdd Masnachol.