Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

HANESION TRAMOR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HANESION TRAMOR. Y RHYFEL YN AMERICA. Y mddengys vn ol y newyddion o America fod y Cadfridog Burnside yn bwriadu gwneyd un ymdrech araJli feddiannt-l Richmond, prif- ddinas y gwrthryfelwyr. Ofnir, fodd bynag, na fydd yn Uwyddiannus yn ei ymgais; ac awgryma rhai o newyddiaduron Efrog Newydd, y dylid bod yn ofalus, rhag i Washington syrthio i ddwylaw y gwrthry- felwyr. Daliwyd y llong California, gyda Hwyth o gotwm, gan longau'r Undeb. Daeth y Hong Kate i Nassau gyda chotwm. Barna'r New York Times ei fod o'r pwys mwyaf i achos y Gogledd ar fod i'r Ffrancod gael eu gyru o Mexico. Bu ymladdfa fywiog tuhwnt i ddinas Brashear, i fyny i'r afon Techs, Louisiana, rhwng gwnfadau Gogleddol a Deheuol, y rhai a gynnorthwyid gau fagnelfeydd ar y lan.Niweidiwyd cryn lawer ar y ddwy blaid. Dywed un o newyddiadurog y De fod y Gogledd wedi ymosod ar St. Mary's, Georgia, a chael eu gyru yo ol. Gan i'r Gogleddwyr fethu glanio, distrywiasant y dref trwy ei thanbelenu. Y mae'r Gogleddwyr yn dal meddiant o Fredericksburg. Galwodd y Cadfridog Gogleddol Sumner, ar faer Fredericksburg i roddi'r ddinas i fyny, gan rybuddio'r trigolion rhag cynnorthwyo'r gwrthryfelwyr. Os na roddid y ddinas i fyny cyn ¡,en un awr ar bumtheg, efe a benderfynai ei than- belenu. Atebodd yr awdurdodau, tretol y byddai i'r trigolion beidio cynnorthwyo'r Gwrthryfelwyr, ond na roddent y ddinas i fyny achwynent yn fawr o herwydd b* rdra yr amser a roddwyd iddynt i ddanfon y gwragedd a'r plant ymaitb. Y mae'r Cadfridog Longstreet (Deheuwr) wedi ymwersyllu o'r tu allan i Fredericks- burg, a dysgwylir brwydr am icddiant o'r ddinas. Y mae'r Gwrthryfelwyr yn gosod mag nelfeydd ar hyd glanau deheuol yr afon Rappahannock, i rwystro'r Gogieddwyr rhag croesi. Y mae'r Monitor, gydag amryw agerlong- au rhyfel, wedi myned tuag afon James i gydweithredu a'r fyddin. Nid oes neb yn gwybod beth ydyw sy- mudiadau nac amcanion y Cadfridog 11 Stone- wall" Jackson. Y mac 100,000 o filwyr Gogleddol yn awr ar restr y cleifion. Rhifa'r newyddiaduron Deheuoi eu colled mewn milwyr, trwy glefyd a'r cleddyf, yn ystod y deng mis diweddaf yn 75,000. Cynnygion Heddwch. Dywedir yn Washington fod llythyrau, oddiwrth Ddeheuwyr dylanwadol, y rhai oeddynt aelodau o'r Gynnadledd Heddwch, at aelodau Gogleddol o'r gynnadledd hono, ar gael eu cyhoeddi a'u gwasgaru trwy'r holl wlad tuag amser agoriad y Congress. Dywedir fod y llythyrau hyn yn cynnwys appeliad grymus am attaliad ar y rhyfel, a chynnygion boddhaol i'r ddwy blaid am j heddwch rhwng y Gogledd a'r De. r Yr Ymosodiad ar Richmond. Mynegir mewn llythyr o Washington fod pob rheswm dros gredu y cenfydd byddin y Potomac amddiffynfeydd cedyrn ar ei ffordd tuil Richmond. Cyhoeddwyd eisoes fod llu o beiriannwyr, yn ystod y flwyddyn, wedi cael eu danfon o Richmond i arolygua mesur y wlad rhwng yr afon Anna Ogledd- ol a'r Anna Ddeheuol, gyda'r bwriad o godi gwerthyroedd ac amddiffynfeydd yn mhob man cyfleus a chredir fod gweithfeydd am- ddiffynol mawrion wedi eu cyfodi yn y gym- mydogaeth lie y mae yn debyg y bydd i fyddin y Cadfridog Le^ sefyll i ymladd ji'r fyddin ymosodol. jEfrog Newydd j Tach. 22ain. Y mae byddin y Potomac wedi cyrhaedd cyn belled. a Falmouth, yn agos i Freder- icksburg, ac y mae'r Cadfridog Lee yn y gymrnydogaeth gyda byddin gref o'r Gwrth- ryfelwyr. Nid ydyw'r Gogleddwyr wedi gwneyd un cais, hyd yn hyn, at groesi yr afon Rappahannock. Bu gwlawogydd trymion yn ystod yr wythnos. Ymledodd yr ystorm dros yr holl Ogleddbarth cyn belled a Deheubartb Virginia. Nis gellir croesi'r Potomac yn un lie uwchlaw Harper's Ferry. Nid oes un gwirionedd yn yr hyn a ddy- wedwyd am y Cadfridog Siegel, sef fod Stonewall Jackson wedi ymosod arno a'i orchfygu. Dywedir mewn rhai newyddiaduron fod y llywydd, yn ei lythyr nesafat y gynnadledd yn penderfynu amddilfyn ei gynllun gyda y golwg ar gaethwasiaeth yn NhaJeitliiau'r Cyffiniau, yn ughyd a rhyddhad y caethion yn mhob talaeth a fydd mewn gwrthryfel ar y laf o Ionawr. JEfrog Newydd, Tach. 25. Y mae llywodraeth yr IJndeb wedi anfon allan orchymyn, i ryddhau yr holl garchar. orion a ddaliwyd dan y cyhuddiad o wrth wynebu cofrestriad milwyr. Rhyddheir y per- sonau a ddaliwyd mewn taleithiau gwrthryfel gar hefyd, ar yrammod eu bod yn gadael y wlad. Nid yw hyn yn cynnwys y rhai hyny a ddaliwyd mewn arfau yn erbyny llywodraeth. Y mae y gwrthryfelwyr wedi codi am- gaerau mawrion yn Fort Hudson, ar y Mis- sissippi, 50 milltir o Orleans, gan gymmer- yd meddiant o enau yr afon. Y mae yr Undebwyr wedi anfon hynt fil- wraidd, yn cynnwys 40,000 o wyr, a 40 o ^nrfadau, er agor y Mississippi. Y mae Jefferson Davies wedi gorchymyn i'r Cadfridog Gwrthryfelgar a lywydda ddcsparth y Mississippi i fynu gan yr Un- debwyr i roddifyny y Cadfridog M'Neil, am lofruddio deg o ddinasyddion Missouri. Os gwrthodiry cais, cyfarwyddir y Cadfridog Gwrthryfelgar i ddienyddio y deg Cadfridog cyntaf a ddalir.iSoLuoi Efrog Newydd, Tach. 26. Yr oedd yr Undebwyr wedi hwyhau yr amser i drigolion Fredericksburg i syrnud y gwragedd a'r plant hyd y 23ain. Nid oedd un ymosodiad wedi ei wneyd ar y dref; yr oedd pob peth yn dawel. Yr oedd y Cad- fridog Gwrthryfelgar Lee yq Fredericksburg, ac, y mae yn debyg, a wrthwyneba yr Un- debwyr hyd y gall Y mae y Gwrthryfelwyr yn aros yn gym- hwys gyferbyn a'r Undebwyr yn Harper'# Ferry. Taenir amryw chwedleuon gvdagolwg ar dynged yr hynt filwraidd dan" v Cadfridog Banks. Dywed rhai y bydd iddi fyned i'j Orynys, er cydweithredu a'r gyn-fadau mewn ymosodiad ar Richmond. Dehonglir gwrthwynebiad swyddogol Iarlj Russell i gydweithredu aFfrainc mewn eyr- lafareddiad mewn gwahanol ffyrdd ystyriai rhai nad yw ewestiwn y cyflafareddiad ond yn unig wedi ei ohirio. Gwnaeth triugain o'r gwrthryfelwyr ym- osodiad disymmwth ar Poolesville, Maryland, gan ddala gweithwyr y gwetrehydd. Cyferfydd y Senedd Undebol dydd Llun nesaf. Gan ei bod yn ddydd o ddiolchgar- wch yfory, ui wneir un masnach yn Efrog Newydd. Efrog Newydd, Tach. 27'. Y mae y Gwrthryfelwyr yn cryfhau eu si'fyllfa yn Fredericksburg, gan fod sefyllfa y ffordd yn ei gwneyd yn aumhosibl. i'r Undebwyr symud yn mlaen. Y mae newyddiaduron Efrog Newydd yn dra chyffredin yn gwneyd sylwadau ar yr ohebiaeth swyddogol o berthynas i'r cyflaf- areddiad cynnygiedig y mae eu ton briidd oil yn erbyn Ffrainc a Lloegr. diaredir yn iFafriol am wladlywiaeth Rwsia ar y cwestiwn. 11 Efrog Newydd, Tach. 28. Y mae y gwarchae ar Fredericksburg wedi ei ohirio. Ymadadodd y Llywydd Lincoln o Wash- ington dydd Mercher, a chafodd gyfeiUach bwysig gyda y Cadfridog Burnside yn Belle. y 0 Dysgwvlir y bydd i genadwri y Llywydd Lincoln gael ei gosod o flaen y Senedd ar y dydd cyntaf o'i heisteddiad. Efrog Newydd, Tach. 29. Yr oedd cyfarfod Democrataidd lluosog iawn wedi ei gynnal yn Efrog Nevydd. Traddodwyd areithiau bywiog dros gario y rhyfel yn mlaen gyda phob egni, er ail-sef- ydlu y cyfansoddiad Undebol drwy y Gog- ledd a'r Deau. Coleddid gobeitbion y byddai y Gogledd a'r Deau i gael eu huno etto, i'r dyben o ymosod ar Loegr. Bytbeirir allan fygythiou melldithiol yn erbyn Lloegr gan y Wasg, o'r Pwlpidau, a chan areithwyr cyhoeddus, yr hyn, fel yr ymddengys, a gymmeradwyir yn fawr gan y boblogaeth. [Dyma y modd y telir i ni gan y Yankees am ein hamynedd goddefol yu y mater hwn!]