Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

SYLW AR YSGRIF AB ARTHUR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SYLW AR YSGRIF AB ARTHUR. MR. GOL.,—Gyda'ch caniatad, wele fi yn anfon y llinellau hyn i sylw y dyn hynod hwnw, Ab Arthur, yr hwn sydd yn byw yn bresenol yn Stockton, Swydd Durham, o berthynas i mi, ac ereill, yn y SEREN cyn y ddiweddaf. Y mae yn ddrwg genyf glywed rhai dynion yn siarad am y Beibl a'i egwyddorion. Pe byddai Ab Arthur yn dysgu actio y Beibl yn gyntaf, cyn s6n cymmaint am dano, byddai mwy o nerth yn ei gyffeiriau, ac ni byddai cynnifer yn dywedyd am dano, Y meddyg, iacha dy hun yn gyntaf." Cymmerwch eich cyffeiriau eich hun yn gyntaf; yna, os bydd ereill yn gweled fod eich cyffeiriau yn eich gwella chwi, byddai hyny yn cenedlu awydd yn ereill i gymmeryd eich cyfarwyddiadau, ac iddod i ymofyn am danynt; oblegid y mae y rhai sydd yn eich adnabod yn gwybod eich bod yn afiach. Ond at y pwnc, gan nad wyf yn meddwl blino y darllenydd a meithder y tro presenol. Am yr Annibynwyr yn Stockton, a Mr.Jooes yn Middlesboro', y maent yn alluog i aarddiffyn eu hunain, os byddant yn ewyllysio. Ond hyn a ddywedaf, mor bell ag yr wyf fi yn eu hadnabod, y maent yn byw i fyny a'u proffes, yr hyn nid yw Ab Arthur, y meddyg, yo ei wneyd. Yr wyf fi o ran fy hun yn caru gweled pob un yn byw i fyny i'r hyn y maent yn ei broflesu. Os Annibynwr ydyw, bydded felly os yn Drefniedydd, bydded felly neu yn Fedyddiwr, bydded iddo yntau actio ei egwyddorhon yn ei fywyd. Am danoch chwi, Ab Arthur, y mae arnaf gywilydd o'ch arddel yn un o'r Bedyddwyr yr wyf yn gwadu y berthynas a chwi fel brawd crefyddol yn Ngogledd Lloegr. Nid oes angen ar y Cymry yn Swydd Gaerefrog a Durham i gael gwybod nad yw Ab Arthur yn dalun cyssylltiad a'n cyfundeb yn y wlad hon ond er eich mwyn chwi, Mr. Gol., yr wyf yn dywedyd nad yw yn dal un berthynas a'n henwad yma ond os yw yn dal cys- sylltiad ag ef yn Nghymru, gwnaed ef neu rhyw un arall ddangos hyny trwy gyfrwng y SEREN, fel y gallom ni amlygu ei ddolur i'r Gymmanfa hono, er iddi anfon cyffeiriau iduo cyn y byddo farw, os bu fyw erioed. Y mae dan foddion yn y wlad hon o'r wythnos gyntaf y daeth yma hyd heddyw, a dim Un argoel am wellhad, ond yn hollol i'r gwrthwyneb. Y mae Ab Arthur yn gofyn eich barn, Mr. Golygydd, yn ei lythyr, am y brodyr sydd yn dyfod oMiddlesboro' i bregethu i Stockton, ar yr adeg yr oedd ysgol a chyrddau cyhoeddus gan y Bedyddwyr o'r iawn ryw yn y lie. Yr wyf yn cyfaddef, Mr. Gol., fod bai arnom os ydym yn euog o hyny ond yr wyf yn dywedyd nad OPS gan y Bedyddwyr Cymreig un achos wedi ei sefydlu yn y lie hyd yma. Nid wyf yn gwybod dim am dano, beth bynag, ac yr wyf yn byw oddeutu pedair milldir i'r He, ac yno yn aml.fjggjjfjgM v Y mae Ab Arthur yn gofyn, "A oes dim parch gan Rees Arthur a Levi Morgan i'r eglwys y maent yn perthyn iddi ?" Oes, mwy o barch na chwi, Ab. "Aoesganddyntddim parch i weithredoedd y capel ?" Oes, mwy na chwi, Ab, onide bydded ein gweithredoedd yn farnwyr, a rhoddaf gyfle i chwi brofi yn wahanol er pan wyf yn y wlad hon. Yr ydych yn cyfaddef y gwir yn eich llythyr am y rhwystrau y mae Mr. Mathews wedi gael, sef, ei fod wedi cael mwy o rwystrau oddi- 'Vrth rai sydd yn cyfenwi eu hunain yn Fedyddwyr, fel chwi a'ch bath. Ebe etto, Da frodyr, dysgwch dipyn ar Lefi Mor- gan." Yr wyf fi, ac ereill, yn barnu fod y brawd wedi dysgu hyw yn grefyddol yn well n&'r cyhuddwr. Dyma ydyw barn y cyhoedd, y rhai sydd yn adnabod y ddau, fod mwy o arwydd- Ion Cristion ar Levi Morgan nag ar Ab Arthur. Gwir jr ydych yn ei ddywedyd, fod dyn yn greadur rhyfedd. Yr ydych chwi yn un o'r creaduriaid rhyfeddaf a adnabyddais I erioed, o Lanygors hyd yma, a gwnaf brofi hyny yn fy llythyr nesaf, os "ydd angen am hyny. Terfynaf y tro hwn, gan osod ychydig Ofyoiadau i chwi i'w hateb. os ewelwch vn dda 1. Yn mha le yn Stockton y mae achos Cymreig gan y Bedyddwyr? 2. Pwy a'i sefydlodd yno ? 3. Aelodau o ba le oeddent pan eu sefydlwyd yn achos ? 1. Pwy ydyw y brodyr o'r iawn ryw yr ydych yn son am danynt, sydd yn cynnal yr achos yn Stockton ? 5. 0 ba eglwys yr ydych yn aelod eich hun ? Sylw buan i'r uchod a foddlona lawer heblaw REES ARTHUR.

Sy!w ar atebiad D. Phillips,…

Ateb i ofyniad leuan, Glan…

G-OFYNIADATJ.

DYCHYMMYG.

I'R YSGOL SABBOTHOL.

1 • • " '' CAN 0 GLOD

ESGUSAWD.

CARN INGLI.

!(fiohcMarfltmt. -