Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

GRAMADEG Y GYMRAEG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GRAMADEG Y GYMRAEG. GAN JAMES JAMES, ABERDAR. [Mae yn hyfrydwch genym i alw sylw ein darllenwyr at gyfres o ysgrifau ar y pwnc uchod gan Mr. James James, un oathrawon Ysgol LenyddolCalfaria, Aberdar. Oddiar ein hadnabyddiaeth a'r brawd, gallwn addaw y bydd yr ysgrifau hyn yn wir ddyddorol. Cyflwynwn hwy yn galonog i sylw darllenwyr SEREN CvMRU.— GOL,] AR gais ein parchus olygydd a chyfeillion ereill, yr wyf yn bwriadu cynnyg ychydig o wersi byrion ar Ramadeg i sylw darllenwyr SEREN CYMRU. Mae gair o ymddiheuriad yn ddyledus oddiwrthyf, am fy rhyfyg yn ymosod ar orchwyl mor bwysig, gan fod cymmaint wedi ei ysgrifenu eisoes ar y pwne gan brif lenorion ein cenedl. Yr wyf fi yn berffaith argyhoedd- edig er ys amryw flynyddau (a gwn am ddynion cyfrifol sydd yr un farn a mi), er yr holl Ramadegau sydd genym yn Gymraeg, nad oes genym etto un Gramadeg ■4 cymhwys i fod yn wers-Iyfr (text-book) i ddosparth. Nid am nad yw y Gramadegau hyn yn ddigon manwl, ac yn traethu yn ddigon eywir ar elfenau a theithi yr iaith, eithr, yn hytrach, am eu bod yn rhy faith, dadleu- gar, ac anmhenderfynol. Dylai Gramadeg gynnwys darnodiadau byrion a chynnwysfawr o brif elfenau yr iaith, fel y galler dysgwyl i'r dysgyblion eu trysori yn eu cof yn llythyrenol. Yr wyf wedi cael prawf eglur o'r diffyg hwn yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, mewn cyssylltiad a dosparth o ddynion ieuainc yn Nghym- deithas Lenyddol Calfaria, Aberdar. Tra yr oedd y dosparth Gramadeg Saesonaeg yn myned yn mlaen yn llwyddiannus, yr oedd y dosparth Cymraeg yn gwywo ac yn marw a hyny yn unig o herwydd y diffyg a nodais. Ceisio llanw i fyny y bwlch hwn fydd amcan y gwersi a gynnygir i'ch sylw. Nid wyf yn ymgyrnmeryd a'r gorchwyl hwn am fy mod yn ystyried mai myfi yw y mwyaf cymhwys ato, ond am fy mod yn ymwybodol fod angen ei gyflawnu, ac heb weled un argoel fod neb arall yn bwriadu ym- aflyd ynddo. Nid wyf yn bwriadu tori unrhyw dir newydd, ond ymdrechaf wneyd y defnydd goreu o bob peth o hyd cyrhaedd ag sydd yn dal perthynas ar pwnc. Byddaf yn siarad yn hollol benderfynol ar bob pwynt, fel pe na fyddai dau feddwl o barth iddynt. Gwn fod amryw yn barnu yn wahanol i mi ar lawer o bynciau ond nid fy amcan yn y gwersi byn yw dadleu a'r cyfryw. Fy amcan yw hyfforddi yr anwybodus, ac nid dadleu &'r dysgedig. Gobeithiwyf y bydd i'r gwersi hyn roddi cipolwg i rai o'u darllenwyr ar Natur Gram- adeg, a phrif deithi yr iaith, a chreu awydd ynddynt i wneyd ymchwiliad pellach i lyfrau mwy manwl ac helaethach. GWERS I. Rhagarweiniad. Iaith yw y gelfyddyd sydd gan ddynion i amlygu eu meddyliau. Mae iaith naill ai yn llafaredig neu yn ysgrifenedig. Elfenau iaith lafaredig yw seiniau. Elfenau iaith ysgrifenedig yw llythyrenau. Gramadeg Cymreig sydd yn traethu am y Rheolau i siarad ac ysgrifenu Cymraeg yn briodol. Rhenir Gramadeg i bedair rhan sef, Llythyreniaeth, Geiryddiaeth, Cystrawiaeth, a Thonyddiaeth. PEN. I. Llythyreniaeth. Mae Llythyreniaeth yn cynnwys dosparthiad a chyf newidiad y llythyrenau, a'r modd i sillebu geiriau. Mae saith ar ugain o lythyrenau yn y Gymraeg. Rhenir hwynt i ddau ddosparth sef, Unseiniaid a Chydseiniaid. Mae saith 0 Unseiniaid; sef, aeiouwy: ac ugain o Gydseiniaid sef, b c d dd f ff g ng h I 11 m n p ph r s t th. Mae Unsain yn dynodi sain agored a cbyflawn ynddi ei hun. Mae pob Cydsain yn gofyn cynnorthwy Unsain er seinio ei henw; megys bi, ec, eff. Mae pump o Unseiniaid yn cyfnewid yn nghyfansodd- iad geiriau, sef, a e o w y; a naw o'r Cydseiniaid, sef, bcdg 11 m p rn t. Tajlen o gyfnewidiadau yr Unseiniaid. Gwreiddiol. Cyfnewidiadau. A E Ei I Y ^lberth,jBbyrth Bardd, Beirdd Alarcli, Elyrch E I Y Maen, Meini Aber, Ebyr WO Y Trwm, Trom Twll, Tyllau 0 Y Ffon, Ffyn Y E Llym, Llem Gwelwn wrth y daflen uchod fod A yn myned drwy dri chyfnewidiad E ac W drwy ddau 0 ac Y drwy un. Rhoddwn etto daflen o gyfnewidiadau y Cydseiniaid. Tajlen o gyfnewidiadau y Gydseiniaid. Gwreiddiol. Meddal. Chwyrn. Ysgafn. C G Ngh Ch Car Dy Gar Fy Nghar Ei Char P B Mh Ph Pren Dy Bren Fy Mhren Ei Phren T D Nh Th Tad Dy Dad Fy Nhad Ei Thad G Ng- Gwraig Dy Wraig Fy Ngwraig B F M Brawd Dy Frawd Fy Mrawd D Dd N Duw Dy Dduw Fy Nuw LI ~L Llaw Dy Law M F Mam Dy Fam Rb R Rhwyd Dy Rwyd Gwelwn fod y Cydseiniaid cyfnewidiol yn ymranu yn dri dosparth. Y dosparth cyntaf yn myned drwy dri chyfnewidiad; yr ail drwy ddau; a'r trydydd drwy an. SlLLAU. Sill yw gair neu ran 0 air—cymmaint a seinir ag un ysgogiad o'r Uais; megys ab yn aber, neu df. Mae pob Sill yn cynnwys un neu ychwaneg o Un- seiniaid. Gall Unsain wneyd Sill wrthi ei hun megys a yn addysg. Nis gall unrhyw nifer o Gydseiniaid gyf- ansoddi Sill heb Unsain i'w cynnorthwyo. Cyfansoddir Sillau o un lythyren hyd saith; megys a, pe, tri, trwm, trist, gwnawn, gwnaent. Pan fyddo dwy Unsain yn nesaf i'w gilydd yn yr un Sill, megys ae yn aeth, gelwir hyny yn Ddeusain. Pan fyddo tair yn nesaf i'w gilydd, gelwir hyny Trisain, j, megys iae yn iaeth. YMARFERIAD. Noder allan yr Unseiniaid, y Cydseiniaid, y Deusein- iaid, a'r Triseiniaid yn y deg adnod gyntaf o'r Bennod- gyntaf o Efengyl loan.

,.,, CO L U M B I A B R Y…

-,-ATHROFEYDD Y BEDYDDWYR…