Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
YMDDYDDANION Y TEULU.
YMDDYDDANION Y TEULU. GAN Y PRYFGOPYN. PEN. II. AR nos Wener, Ionawr 16eg, yr oedd aelodau teulu Morgan Jones wedi cyfarfod yn lied gryno, a dau neu dri o ymwelwyr gyda hwy, y rtiai a fyddent i'w gweled yno yn ami. Yr oedd Robert wedi It-oil yn rhoddi tro allan, ac ar ei ddychweliad, estynodd rhyw hapyr i law ei dad, yr hwn oedd yn y cornel yn mwynbaut-i bibelled ddybaco, gan ddweyd, Dyna, nhad. Beth feddyliwch am hon yn awr ?" "Yh! B> tii yw, Robert? SEREN CYMRU? Yh! SEREN CYMRU-le, y SEREN yw hi, os 'dwy I yn y fan yma. Dyma hi yn bapyr news on te? Ac yn wir y mae yn 'dysgwyl' yn hardd—odi, y, sier i chwi, mae yn edrych yn dlos, ar odi. Yn -enw dyn, Rotwrt, b'le ce'st di hi mor gynnar a hyn ?" Felly y siaradai Moi-gan Jones wedi derbyn y Rhifyn cyntaf o'r SEREN yn ei liagwedd newydd. Taflwyd ef i hollol syndod a rhwng crafu fton ei glust, fel y byddai yn arfer, weithiau, pan mewn rhyw *t-vmp, ys dywed y bobl, a'i awydd am weled y SEREN oddit't-wn ac oddiallan, syrthiodd y bibell o'i law, a daeth i fyny y,. fwy o ddarnau nag yr aeth i lawr. B'le ce'st SEREN mor gynted. Robert?" gofynai Mor- gan eilwaith. "0, yr oell,ik-n yn rhyw led ddysgwyl am dani," oedd ateb y mab benaf. Aethym i dy Mr. David Davies, Bookseller, Cornel House ac yno y bu efe, minnau, Ann, ac Eliza, yn bwrw y farn ami. Yr ydym 'vedi ei hedrych yn lied fanwl." Wet, beth yw dy farn di am dani, Robert ?" Wei, nhaU, ar yr olwg gyntaf, chwi welwch fod y papyr yn dda iawn—yn llawer gwell na general run y papyrau wyth- nosol. Mae y llythyren yn ardderchog y gwaith yn bob peth a ellir ddysgwyl. Felly, mae yr olwg yn fy moddio yn fawr." Purion, Robert. meddai e. fam, Mrs. Martha Jones "ond beth am y cynnwysmd ?-beth am yr ymborth sydd wedi ei ddarparu i'r meddwl yn y SEREN wythnosol ? Mae hyny o bwys, ti wyddost." Wel, mam allwyl, yr ydych chwiyn iawn, fel arfer, ac yn eich lie i'r dim—mae y cynnwysiad o bwys, ae, yn wir, yn fwy pwysig n& dim arall. O bartlied i'r pen hwn yn y SEREN, bu David Davies a minnau yn lied fanwl trwy y rhifyn hwn, a'n barn ni'n dau, ac yr oedd Ann, Eliza, a Thomas Morris o'r un farn a ni, oedd,-fod y rhifyn hwn yn gynllun da iawn o'r peth a garem i'r SKREN fod yn ol llaw. Mae yn dda gen' I am hyny, 'machgen I, ond ar bwy sail y ffurfiasoch eich barn," oedd ateb Mrs. Jones. I- Wel, mam," meddai Robert, "ofnwyf y bvddwch chwi am fyned i'r gadair feirniadol yn y man ond er hyn, mae eich gofyniad yn eithaf teg. Dyna y trefniant cytfredin, ac maeyn dda..Mae yna chwareu teg yn cael ei gadw rhwng y cryf a'r gwan, y trwm a'r ysgafn, y Golygwyr a'r gohebwyr, y rhydd. iaith a'r farddoniaeth, y cartrerol a'r tramor. Yr oedd yn ymddangos i ni yn nhy David Davies fod pob peth megys wedi -caeI ei le priodol, ac fod ei le ei hun i bob peth. Mae gan y Golygwyr bedair o ysgrifau gwreiddiol ar, Y Cymry yn Lloegr, Budd Gymdeithasau yr Eglwys, Adolygiad y Pythefnos, ac ysgrif arall yn Adolygiad ar y flwyddyn 1862. Mae yno hefyd bennod ar bwne teuluaidd, gan Y Pryfgopyn; llythyr pwysig iawn gan y Parch. Robert Ellis (Cynddelw) ac un arall gwir bwysig gan y Parch. Edward Roberts, Pontypridd. Mae dwy ran o dair o wyneb dalen ar Ofyniadau, Atebion, a Barddoniaeth Hanesion yn cael eu lie priodol, tra mae y tndalen olaf wedi ei lanw ag Hysbysiadau. Ymddengys i mi, lnam, fod y Golygwyr a'r Cyhoeddwr wedi bod yn hynod o ffortunus yn nygiad y rhifyn hwn allan; ac os yw hwn yn sianipl deg o'r hyn a gawn yn y dvfodol, yr wyl fi yn mentro dywedyd y bydd SEREN CnlRu yn fwy o favourite nag y bu erioed o'r blaen." Eithaf da, Robert, yn wir, gobeithio w'i y cai di dy ddy- TOuniad," meddai Martha Jones. "A ma' hi 'ddod allan bob wythnos o hyn i ma's, odi ?" Ydyw, mam, meddai Robert; "a bydd yma bob nos "Wener 0 hyn allan." Robert, onid yw yn drueni na bai y SMIEN yn cyhoeddi y ffftsiynau (fashions), fel mae rhai o'r cyhoeddiadau Seisnig yn Swneyd," meddai Miss Maria Jones, yr hon oedd wedi rhoddi heibio ei gwaith gwnio, ac yn gwneyd i fyny un o'r cwmpeini <8g oedd o amgylch yr aelwyd. Nid wyf yn meddwl, Maria, fod eisieu i ni, y Cymry, dalu ua beth fel hyny. Yr wyf yn gweled digon o honynt yn cael eu gyru i'r wlad gan y Saeson a'r Ffraucod," oedd atebiad Robert i hyny. 0 ma' nhw mor bert, Robert," meddai Alice fach, gan *pdeg i fwrd i Maria i gyrchu supplement un o'r cyhoeddiadau seisnig a ddei oyuiai Maria er mwyn ei gwaith. Edrychwch, Robert, dyma udwy lady nice, a dyma y flasiwn am y mis presenol." Duw faddcuo iddynt," meddai Robert. Oni fuasai yn agoB cystal i lUlla, ar y llaw ddeheu, fod heb un corff i'w Swn J Beth YII eilw cynhesrwydd a synwyr cyflredin y mae yn dynoethi ru ui m'lr fawr o gortf yr eneth fel yna ? Dyna flasiwn di, Alice, aie? Wei, os bydd i mi byth gael gwraig, raodded yr Arglwydd ferch i mi & digon o enaid ganddi i allu oddifaes u«u uwchtaw eich ffaoiwn chwi." Ie, Robert, on i mae yma lawer iawn o bethau o werth," Meddai Mari.i. Dyma siamplau o velvet glare gauntlet, dress cujP, braided bonnet string, a dyma batrynau dresses, frockS) peliste.i," &c. Brenin u.wr, Matia! a oes genyt batrwn polices yna?', gOfynai Thotn os, gan godi ei ben megys o ryw lyfr, lie yr oedd y" yfed gwyWiaetti o'i tfrydiau. Nonsense, Thomas," meddai Maria, "pelisses wedes i felly, 'dwy ddim etto yn gwybod y ■.Wa >aui.eth rhwng ddau.- mcddiii Thomas. "Dyma y muslin cuff a'r habit shirt," meddai Alice fach, gan winco yn sly ar Robert, y silk apron, moire apron, cord- ed silk apron, plaid silk apron, trimmed with ruching." Both ? troubled with reching," gofynai Morgan Jones. "Wet 'dwy'n synu dim—mae yn ddigon, ar odi Stopwch, nhad, meddai Alice, yr hon oedd erbyn hyn wedi mjned i hwyl dangos y patrynau. Dyma)- butterfly pennuper, cushion a la duchesse, a 'Dw I yn hidio dim am dutch cheese, ferch. Fu gen I gynnyg erioed iddi nw. Mae yr un man gen I erfin bron," meddai Morgan Jones. Dyma etto," meddai Alice, gan droi'r ddalen, Costume A L'espagnole, Fancy Bodice, Garibaldi looped up A La Watteau "———. ¥ 0, ho, fe nsiff Garibaldi o'r gore' a Watt-ne haner dwsin o honynt, o ran hyny," meddai Morgan. O'r beauty," meddai Alice, dyma bethau pert-house jacket, highland cloak, the traveller, gipsy cloak, A La Militaire, a dyma y Ifordd i ddodi y gwallt, tiliad-Caiffare A La Rosse." Holt, holt, Alice, yn wir," meddai pen y teulu. Dyna ddigon. Yr wyf fi er ys blynyddau wedi gorfod cribo fy ngwallt cyn dydd, a ta nhw yn gwneyd hyn, byddai llai o boen yn eu penau yn ami." Holo, meistr, dewch yn y fan, a Master Robert hefyd mae y crane wedi tori yn number one, ac mae y ewbl yn sang de fang, yn hyfflon jibbets, yno." Felly y siaradai Wil o'r North ar yr adeg yr oedd Alice wedi myned i hwyl i ddangos v gwallt. Torodd hyn y gyfeillach i fyny am y tro hwn, ac felly ma yn rhaid i minnau wneyd, rhag colli'm ana'l ar y dechreu
SoltfliiacttaM.
SoltfliiacttaM. "HENGOEDIANA." .j Gwelliant Gwall. Mr. Watkin EdwarJs ydoedd ehweehed weinidog hen eglwys b-irchus Hengoed. Gelwid ef yn gvffredin yn "VVatkin Evun, yn ol enw blaenaf ei dad, Mr. Evan Edwards, o bhvyf Llan- wonno. Tyddynwr oedd Nl-. Watkin Evan, neu Watkin Ed- wards, neu, fel y gelwid ef weittiau, Watkin Evan Edwards, ac yn byw yn ffermd^ Gelliwrgan, Llanwonno. Yn Hen., tud. 06 (?) (ond yn gywir 76), cawn y geiriau aganlyn Cladd- wyd Mr. W. Edwards, y mae yn debyg, gyda ei dad wrth dy cwrdd y Cymmer. Gorphenodd ei yrfa ddefnyddiol yn Ebrill, 1794, o gylch 72 oed." Gwn y maddeua, neu yn hytrach y bydd yn dda gan Mr. LI. Jenkins, i mi wella y gwall uchod gyda golwg ar y dates, ac hefyd symud yr amheuaeth gyda golwg ar feddrod yr enwog ddyn uchod. Rhyw amser yn ol, bum (ac yn wir yr wyf etto yn parbau) yn casglu yn nghyd yehydig ffeithiau hanesiol mewn cyssylltiad ag achos y Bedyddwyr yn Ystiad-dyfodog a deallais, wrth edrych dros lease a trust deed ein cspel, fod gan Mr. W. Ed- wards rhyw beth i'w wneyd a dechreuad yr achos yma. Felly ymholais ag hen drigolion y plwyf, a chefais fy nghadarnhau yn fy nhyb. Teitnlais awydd i wybod pa le a pha bryd y claddwyd ef. Daethum ar draws rhai o'i berthynasau, a gwnaethum yr ymholiadau uchod ond nis gallent eu hateb, ond eu bod hwy yn meddwl eu bod wedi ciywed mai yn Llan- wonno y claddwyd ef. Cymmerais daith tuag eglwys W onno; eyrhaeddais y lie, aethum i'r fonwent, a darllenais headstone ar ol headstone, tomb ar ol tomb,. ond yn ofer. Bedd y gweinidog da uchod nis gallwn ddo'd o hyd iddo er bod arno fwy nagun- waith. Canfyddais headstone yno wedi ewyrnpo ac yn ddau ddarn, yn orchuddiedig bron gan bridd a mwswg. Nid oedd na gair, na sillaf, na llythyren yn y golwg. Cymmerais fy nghyllell, a chrefais lawer o honi, chwiliais am yr argraff, a glanheais lytliyren ar ol llythyren, nes bron treulio fy nghyllell i'r earn ond nid gwaeth oedd genyf, canys bum lwyddiannus -bedd chweched gweinidog Hengoed ydoedd I Mawr oedd fy llawenydd. A dyma'r argraff air yn ngair fel ag yr oedd ar y gareg-fedd HERE lieth the Body of the Revd. Watkin Evan of G-elliwrgan in this Parish J Minister of the Gospel at Cefenhengod. who di- ed March the 29, 1793, 1! •' Aged 73. Hysbysais ei berthynasau am fy llwyddiant, a chynghorais hwvnt i landau oddeutu y bedd, a gosod careg newydd yno ond mae'n debyg y gwneir hyny ganddynt yn yr un adeg ag y bydd "pawb yn talu eu gilydd," fel y dywedir, h.y., by th. Beth am hen eglwys barchns a chefnog Cettnhengod ? Ni fyddai yn llawer rhwng llawer sydd yuo i wneyd hyn o beth i un o'n hen deidiau yn yr efengyl. Byddai yn glod iddynt, pe byddai ond rhywbeth ag y gellid ei ddarllen gan wahanol ym- wehvyr &'r fynwent ucbod. Ystrad. RUFUS.
[No title]
DYWEDYD FFORTUN YN MANCHESTER.—Yr wyth- nos ddiweddaf dygwyd achos hynod gerbron yr hedd- geidwaid yn Manchester. Cyhuddwyd hen Wyddeles, o'r enw Catherine Ellis, o feddiannu penadur, swllt, a hugan oddiwrth Mrs. Lowe, gwraig gwneuthurwr blychau, mewn ffordd annghyfreithlawn. Ymddengys, yn ol y dystiolaeth, i'r ffortun-wraig alw yn nhy Mrs. Lowe, gwr yr hon oedd yn dra thueddol i yfed i ormod- edd. Wedi ychydig ymddyddan, dywedodd y ffortun- wraig j byddai iddi hi ei wella o'r pechod hwnw am ychydig o dal. Yn ganlyriol, rhoddodd Mrs. Loew swllt iddi. Wedi ychydig seremoni, gorchymynodd y ffortun-wraig iddi osod y swIlt mewn papyr ond yn ddisymmwth, dywedodd y dylai gael dernyn o aur. Ar hvn rhoddodd Mrs. Lowe benadur iddi, yr hwn a osod- odd mewn papyr, fel y tybid. Gosodwyd y papyr a'r penadur mewn blwch, a chlowyd arnynt. Cymmerodd y ffortun-wraig yr allwedd, a dywedodd y byddai iddi alw yn mhen dau ddiwrnod. Yn mhen awr neu ddwy, dechreuodd Mrs. Lowe dybied ei bod wedi ei "gwerthu" fel y dywedir. Agorwyd y blwch canfydd.vvyd y twyll, gan nad oedd yno ond swllt; a daliwyd y dwvilwraig. 9. Dygwyd hi gerbron yr ynndon, ac wedi gwrandaw ar y dystiolaeth, dedfrydwyd hi i dri mis o garchariad.
ATEBION.
ATEBION. Ateb i ofyniad Ab Iorwerth, yn y §v.RKX,ddiweddaf. Mr. GOL.Gofyna Iorwerth, pa un yw y bennod ganol yn y Beibl ? Os Rolyga wrth y Beibl yr Hen Destament, y 29ain o Lyft Job yw ond os golyga yr Hen a'r Newydd Destamentau, Saloi 116 yw. 2. Pa adnod yn y Beibl sydd yn cynnwys yr boll egwyddor Seisnig ? Ateb, Ezra 7. 21. 3. Pa ddwy bennod yn y Beibl sydd yn yr un fath ? Ateb, 2 Bren. 19, ae Esay 37. Dymunaf hir oes i Ab Iorwerth i chwilio ei Feibl. Swindon. J. JARMAN.
QOFYNIADAU.
QOFYNIADAU. Mr. GOL.Pa un ai cyfariod gweddi pobl ieuainc, neu ynta ysgol gan sydd fwyaf priodol ar nos Sabboth ? CYW YR ESTRYS. [Mae pob un o'r ddau yn hollol briodoI-rhoddwch i bob peth ei le a'i amser.—GOL.] At Bwyllgor Cyfarfod Llenyddol Siloh, Tredegar. Mr. GOL.A fyddwch mor garedig a gadael i'rychydig linellau canlynol ymddangos yn eich SEREN glodwiw 1. Carwn ofyn i'r brodyr uchod, os byddant inor garedig a chy-* hoeddi beirniadaeth y Traethodau ar y Beibl, gan Mr. Lewis. 2. A fyddant hwy mor garedig achyhoeddi Traethawd buddugol y cyfarfod uchod ? Atebion i'r uchod a rydd foddionrwydd i lawer heblaw UN O'R LLB. DYCHYMMYG. 1". P Fel 'roeddwn rhyw ddiwrnod Yn eistedd yn fy nhy, Canfyddais wrthddrych hynod A hwnw yn llwyd-ddu. Yr oedd yn teithio'n gyflym, Gan fyned ffwrdd o'r wlad; Mae'n debyg mai 'run fynyd Y ganed ef a'i dad. Nid oes na throed, na chynffon, I Na llaw 'n ei feddiant e', Na llygaid chwaith i weled Un peth o dan y ne'. Nis gall y daearyddwyr I fesur hwn ychwaith, 0 herwydd mae'n rhy gyflym Pan fyddo ar ei daith. Anaml iawn ceir bwthyn Ar wyneb daear lawr, Heb i'r dychymmyg yma Fod ynddo lawer awr. Ohebwyr SEREN CYMRU, 1-tholweh wybod 'nawr i mi, Pa beth yw'r gwrthddrych hynod Sy'n ami yn fy nhy. Ferwig. GELODYDD.
"Y DDANNODD.
Y DDANNODD. Ow y ddannodd annyddan,-dienydd Y dannedd teg purlan,; Poen a gwae i'r pen egwan, Darnio dant a dwrn o dan. Garn, DYODDEFYDD.
ERCHYLLDRA CAETHFASNACH.
ERCHYLLDRA CAETHFASNACH. Tair miliwn o fodau annedwydd, 0 gad wyn i gadwyn sy'n gaeth, — Yn dyoddef eithafion caethiwed, Pob cyfnod yn myned waeth waeth Wrth boeni, dirdynu'rrhai duon, Fe dorodd y gadwyn yn ddwy, Rhoi'r ffarwel mewn tair haleliwia- Dim cadwyn—dim Massa-mi mwy. Cefnmawr. THOS. JONES SIMON.
ENGLYNION
ENGLYNION Ar bnodas y Parch. Fred. Evans, Llangynidr, a Miss Frances Williams, Aberlionddu. Evans a'i fun yn gytunus —unwyd 'Nol auiau gariadus, 'N dirion a gwyliidwrus-bo'nt eii dau, A chant eu mawrhau a mydrau medros. Mwyn ganu yma'n gynhes-a garwn I'r rhagorol Frances 'N Ngwalia b'le ceir angyles O'i bath dro er llunio lies ? Bendithion fyrdd i'w ffyrdd a ffy,-cariad F'o coron eu Hetty; Pellhau bo'r drygau hwy dry 1 Abred—annwn obry. Gwenau'r Nef gaffout hefyd,—am gysur Ymgeisient bob ennyd; Dygant trwy haeddiant o hyd Ogonedd i Langynyd. Brynmawr. GOMJR L^EK.
DEIGRYN Y MILWR.
DEIGRYN Y MILWR. Ar ael y bryn fe droes i gael yr olaf drem O'r dyffryn teg, o'r Ilauerch hoff, o'r deiIdy harddliw gem Gan wrando sain y ffrwd i'w serch oedd felusiawn, Ymbwysai'r mihvr ar ei gledd, a sychai y deigryn llawu. Gerllaw y deildy hardd, penliniai geneth lan, I fyny daliai lain liw'r ia, hwn noliai'r gwynt ar da'n Gweddiai ar ei rami, nis clywai ef mo'i dawn, Ond safai a bendithiai hi, a sychai y deigryn llawn. Gan droi, gadawai'r bryn, na thybi wch ef rhy brudd, Mae calon gwron tan ei fron, er dagrau ar ei rudd Ar ben y flaenaf lin, mewn brwydr enbyd iawn, Grymusaf yno, dyna'r llaw a sychai y deigryn llawn. ROBIN DIJU ERVRI.
,.,, CO L U M B I A B R Y…
Mae ei gynghorion profiadol wedi bod yn Uusern i'm traed mewn lleoedd peryglus; yn alia i ddiogelu fy eiddo a fy nghymmeriad. Yr wyf yn dynauno arnat i adysgrilenu y llin- ellau hyn, a'u hanfon i fy hoff weinidog (Mr. Price) odid, os gwel ynddynt ychydig deilyngdod, y cant ymddangos yn y SEREN (Seren Cymru). Felly gorphenaf hyd yr amser y caf siarad 4 thi wyneb yn wyneb. Yr wyf yn ymwybodol y medraf siarad yn well nag ysgrifenu. Yr eiddot hyd y bedd, MORGAN LEWIS." "D. R. LEWIS."