Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

YMDDYDDANION Y TEULU.

SoltfliiacttaM.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SoltfliiacttaM. "HENGOEDIANA." .j Gwelliant Gwall. Mr. Watkin EdwarJs ydoedd ehweehed weinidog hen eglwys b-irchus Hengoed. Gelwid ef yn gvffredin yn "VVatkin Evun, yn ol enw blaenaf ei dad, Mr. Evan Edwards, o bhvyf Llan- wonno. Tyddynwr oedd Nl-. Watkin Evan, neu Watkin Ed- wards, neu, fel y gelwid ef weittiau, Watkin Evan Edwards, ac yn byw yn ffermd^ Gelliwrgan, Llanwonno. Yn Hen., tud. 06 (?) (ond yn gywir 76), cawn y geiriau aganlyn Cladd- wyd Mr. W. Edwards, y mae yn debyg, gyda ei dad wrth dy cwrdd y Cymmer. Gorphenodd ei yrfa ddefnyddiol yn Ebrill, 1794, o gylch 72 oed." Gwn y maddeua, neu yn hytrach y bydd yn dda gan Mr. LI. Jenkins, i mi wella y gwall uchod gyda golwg ar y dates, ac hefyd symud yr amheuaeth gyda golwg ar feddrod yr enwog ddyn uchod. Rhyw amser yn ol, bum (ac yn wir yr wyf etto yn parbau) yn casglu yn nghyd yehydig ffeithiau hanesiol mewn cyssylltiad ag achos y Bedyddwyr yn Ystiad-dyfodog a deallais, wrth edrych dros lease a trust deed ein cspel, fod gan Mr. W. Ed- wards rhyw beth i'w wneyd a dechreuad yr achos yma. Felly ymholais ag hen drigolion y plwyf, a chefais fy nghadarnhau yn fy nhyb. Teitnlais awydd i wybod pa le a pha bryd y claddwyd ef. Daethum ar draws rhai o'i berthynasau, a gwnaethum yr ymholiadau uchod ond nis gallent eu hateb, ond eu bod hwy yn meddwl eu bod wedi ciywed mai yn Llan- wonno y claddwyd ef. Cymmerais daith tuag eglwys W onno; eyrhaeddais y lie, aethum i'r fonwent, a darllenais headstone ar ol headstone, tomb ar ol tomb,. ond yn ofer. Bedd y gweinidog da uchod nis gallwn ddo'd o hyd iddo er bod arno fwy nagun- waith. Canfyddais headstone yno wedi ewyrnpo ac yn ddau ddarn, yn orchuddiedig bron gan bridd a mwswg. Nid oedd na gair, na sillaf, na llythyren yn y golwg. Cymmerais fy nghyllell, a chrefais lawer o honi, chwiliais am yr argraff, a glanheais lytliyren ar ol llythyren, nes bron treulio fy nghyllell i'r earn ond nid gwaeth oedd genyf, canys bum lwyddiannus -bedd chweched gweinidog Hengoed ydoedd I Mawr oedd fy llawenydd. A dyma'r argraff air yn ngair fel ag yr oedd ar y gareg-fedd HERE lieth the Body of the Revd. Watkin Evan of G-elliwrgan in this Parish J Minister of the Gospel at Cefenhengod. who di- ed March the 29, 1793, 1! •' Aged 73. Hysbysais ei berthynasau am fy llwyddiant, a chynghorais hwvnt i landau oddeutu y bedd, a gosod careg newydd yno ond mae'n debyg y gwneir hyny ganddynt yn yr un adeg ag y bydd "pawb yn talu eu gilydd," fel y dywedir, h.y., by th. Beth am hen eglwys barchns a chefnog Cettnhengod ? Ni fyddai yn llawer rhwng llawer sydd yuo i wneyd hyn o beth i un o'n hen deidiau yn yr efengyl. Byddai yn glod iddynt, pe byddai ond rhywbeth ag y gellid ei ddarllen gan wahanol ym- wehvyr &'r fynwent ucbod. Ystrad. RUFUS.

[No title]

ATEBION.

QOFYNIADAU.

"Y DDANNODD.

ERCHYLLDRA CAETHFASNACH.

ENGLYNION

DEIGRYN Y MILWR.

,.,, CO L U M B I A B R Y…