Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB Y TRI ENWAD YMNEILLDUEDIG.

ATHROFEYDD Y BEDYDDWYR YN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ATHROFEYDD Y BEDYDDWYR YN NGHYMRU. GAN BUFUS. (Parhad.) SWYDDOGION ATHROFA PoNTYPWL. Llywydd ac Athraw Duwinyddol Parch. T. Thomas, D.D., o'r fl. 1836, hyd yn bresenol (1863). Am 27 mlynedd. Athraw Ieithyddol a Mesuronol Parch. G. Thomas, A.C., o'r fl. 1841 hyd yn bresenol (1863). Am 22 mlynedd. Trysoryddion: Wm. W. Phillips, Ysw., Pontymoil, o'r fl. 1836 hyd 1851. Am 25 mlynedd. Wm. C. James,. Ysw., Pontrhydyrynj „ 1851 „ 1861. Am 10 mlynedd. Henry Phillips, Ysw., Casnewydd 1861 1863. Am 2 flynedd. Ysgrifenyddion: Parch. David Phillips, Caerlleon „ 1836 1840. Am 4 mlynedd. Isaac Hiley, Ysw., Aber^ychan 11 1840 „ 1856. Am 16 mlynetld. Parch. S. Price, Ahersycban 1840 1863. Am 23 mlynedd. Mae swyddogion y sefydliad, un ac oil, oddieithryr Athrawon, yn agored i gael eu newid neu eu hail-ethol bob blwyddyn, er nas gwyddom fod neb o honynt, oddieithr yr auditors, wedi cael eu newid erioed, ond bob amser yn cael eu hail-ethol hyd nes y byddent o honynt eu hunain yn rhoddi eu swyddau i fyny, neu yn syrthio yn yr angeu. Yr oedd hyn, o gwrs, am eu bod un ac oil yn llanw eu gwahanol swyddau i foddlonrwydd hollol y pwyllgor. Fe welir fod y ddau athraw parchus o'r un cyfenw, yr hyn sydd wedi peru i lawer gael eu cam-arwain i feddwl mai dau frawd naturiol ydynt. Ond nid felly hefyd er mai cystal dau frawd ynt mewn meddwl a dawn, mewn ymdrech a chydweitbrediad, ac mewn heddwch a thaognef,lag a fu byw erioed. Nid yw yn wybodus i ni fod cymmaint ag un gair croes erioed wedi bod rliyng- ddynt, ac nid yw yn debyg y bydd byth—Jonathan a Dafydd ydynt, o un galon ac o un enaid." Am y Dr. Thomas, Morganwr yw efe. Ganwyd ef mewn ty a elwid Three Boars' Head," yn nhref Pont- faen, ar y l2fedo Ionawr, 1805. Felly, mae y Doctor yn 52 mlwydd oed. Bedyddiwyd ef yn afon Taf, yn nhref Caerdydd, pan nad oedd yn gwbl 14 oed, sef yn mis Tachwedd, 1818, gan y Parch. Griffith David, gweinidog cyntaf yr eglwys Fedyddiedig Gymreig yn Nghaerdydd, y rhai a addolent y pryd hwnw mewn ys- tafell a elwid y Star and Garter," ond yn awr eglwys barchus y Tabernacl. Lie y traddododd ei bregeth gyntaf oedd mewn cyfeillach yn yr ystafell grybwyll- edig, ond yn y Tabernacl y traddododd ei bregeth gyn- taf yn gyhoeddus, ary 12fed o Ebrill, 1821, pan yn 16 mlwydd oed. Derbyniwyd ef i Atbrofa y Fenni yn Medi, 1822, lie y treuliodd ddwy flynedd o dan ofal yr Hybarch Micah Thomas. Awst 23, 1824, cafodd dder- byniad i Athrofa Stepney, yn awr Regent's Park, lie y bn bedair blynedd o dan ofal yr enwog Ddr. Murcb. Gadawodd Stepney yn mis M.ehefin, 1828. Yn yr un mis, eymmerodd ofal yr eglwys yn Heol Henrietta, Brunswick Square, LIundatn.—Gwel Hanes y Bed- yddwyr," gan D. Jones, tud. 631. Yn canlvn mae hanes ei urddiad, allan o Greal y Bedyddwyr." 1828 Gorph.18, 1828, neillduwyd Mr. T. Thomas, gynt o Gaerdydd, I gymmeryd gofal yr eglwys Fedyddiedig yn cyfarfodxaddoli yn Heol Henrietta, Petryal Bruns- wick, Llundain. Darllenodd a gweddiodd Mr. J. Elvey traddodwyd araeth ar natur eglwvs efengvlaidd, yn nghyd a gofyn yr holiadau arferol, gan Mr. J. Har- greaves; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Dyer, Cofiadur Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr pregeth- odd Mr. W. H. Murch (athraw Mr. Thomas) ar ddyled- swydd y gweinidog. oddiar Col. 1. 7 a therfynwyd trwy weddi gan Mr. R. Davies o Walworth. Yn y pryd- nawn, darllenodd a gweddiodd Mr. R. H. Smith (A ) yna traddododd Mr. J. Mann, A.C., bregeth ragorol ar ddyledswydd yr eglwys, oddiar Heb. 13. 17; a ther- fynwyd gwaith y dydd trwy erfyn bendith Ddwyfol ar yr undeb a ffurfiwyd ac a gydnabyddwyd." Parhaodd yr undeb hwn am 8 mlynedd, sef hyd Mai, 1836, pan r rhoddodd Mr. T. ofal yr eglwys i fyny er dyfod yn Llywydd Athrofa Pontypwl. Yn Awst, 1836, sefyd- lwyd ef fel Athraw yr Athrofa hon, pryd y canwyd yr Anerchiad canlynol iddo gan y Parch. John Williams, Aberduar:— "THOMAS, boed iechyd, hir iechyd i chwi Ar Benygarn,* i gadarn wych godi Y praff wiw odiaeth feibion prophwvdi, Mewn dysgedigawl a dethawl deithi"; Yn hir b'och yn blaenori--a pharchus, Neu wir glodus, heb unrhyw galedi. Rhoddwch i'r dynion glewion win gloyw Ar fwrdd dysgeidiaeth, da odiaeth ydyw A gwledd fawr yr aeg Gymraeg, ae ainryw Seigiau ifithyddol, gwir haeddol heddyw A gweler chwithau, 'r gwiw-Lyw-eu tadmaeth, A da lywodraeth, mewn parch diledryw. Prawf i'r eithaf o y prif areithwyr, Gwraidd a brig ieithoedd, gwir dda bregethwyr, iawn agwedd, nes d'od vn enwogwyr, A mwy o fawrion, rhoed eich myfyrwyr;- Eich meibion, son am eu synwyr,—eu gras, A'u sain addas, y byddo Seneddwyr." Fe welir fod y Dr. Thomas wedi bod .yn Llywydd Athrofa Pontypwl am yn agos i 27 mlynedd o amser a dymunwn gyda Williams, Iechyd, hir iechyd iddo fel Llywydd ein sefydliad. Graddiwyd ef a D.D. gan Franklyn College, Indiana, U.S. Am hyn, cawsom achlysur i ddweycl gair mewn ysgrif flaenorol. Hefyd, fel gwr o feddwl, dysg, a dawn. (Er mwyn rhai nad ydynt yn ei adwaen, teimlwn awydd i ddweyd gair yn mhellach am yr Athraw). Mae'r Doctor o ran corff yn wr tal, syth, ac hardd—gyda'r harddaf. Ei glust sydd drymglyw, ond ei lygad sydd graffus. Ei dalcen sydd fawr ac uchel, a'i olwg sydd serchus a boneddigaidd. Nid gormod yw dweyd am dalio, er ei fod yn fyw, ei fod yn ddyn cyflawo-o rodiad gweddus, o dymher addfwyn, ac o ymarweddiad boneddigaidd. Mae hyn o'r pwys mwyaf, gan ei fod yn Llywydd sef- ydliad mor bwysig ag yw Athrofa. Tuedd sydd yn mhawb i efelychu, a dichon fod y duedd yma ynom yn llawer cryfach nag y meddyliwn ac, o ganlyniad, mae o bwys i wyr ieuaine gael un o'u blaen na fydd perygl iddynt, os syrthiant i gopio, gael eu harwain ar gyfeil- iorn. Nid oes dim ag sydd fongleraidd yn perthyn i'r Athraw; ond gwelir rnawredd a boneddigeiddrw.dd yn mhob edrychiad ac ysgogiad o'i eiddo. Hyfdia ac eofndra gormodol nis gall neb gym men d arno; ac etto, mae yma diriondeb a sirioldeb ag sydd yn alltudio pob ofn gwasaidd, ac yn gwasgaru pob pryder o feddwl y gwyleiddiaf. Teimla'r myfyriwr, pan o'i flaen, ei fod yn mhresenoldeb yr Athraw a'r Tad. Fel traddodwr, Penygarn yw enw y fan lie mae yr Athrofa.