Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
TY'R CAPEL FRON OLEU.
TY'R CAPEL FRON OLEU. Nos FAWRTH,—RHIF I. DEWC g: yn tnlaen frodyr. Hugh Morgan, eistedd yn y gadair yna. John Williams, 'machgen 1, tyr'd yn mlaen i'r ochr yma. Wmffre Dafydd, stwffa dithau i'r cornel draw dyna dy le di bob amser. WeI, nigawsom gyfar- fod gweddi hyfryd heno, frodyr," ebe William Sion. Do, hyfryd iawn, hyfryd neillduol," ebe'r brodyr. Ychwanegai Hugh Morgan Yr oedd Abraham Wil- liams yn ei hwyliau goreu heno; yr oedd pawb yn dda, ond yr oedd ef yn neillduol. Mae o yn gallu bod yn hapus iawn ar ei linia, yn yr vmadroddion ysgrythyrol mae yn fynych yn eu harfer. Oddeutu mis yn ol dywed- odd ddarn o ryw adnod; yn wir, yroeddwnl yn teimlo'n annghyffredin." Dyna lle'r oedd ei ogoniant heno hefyd," ebe John Williams. Pan y soniodd am y rhan helaeth o'r byd sydd yn blantos, yn bwhaman, ac yn cael eu cylcbarwain a phob awel dysgeidiaeth. Pan oedd ef yn dweyd fel mae awelon dysgeidiaeth cyfeiliornadau yn chwythu; awelon athrawiaethau gau, a dynion yn cael en hysgubo ymaith ganddynt, yr oeddwn I ar y pryd yn dych'mygu fy mod I yn gweled dynion yn cael eu troelli yxa a thraw gan yr awelon sydd yn y byd, yn debyg fel ag y gwelais weithiau ryw frychau, neu blu yn cael eu troelli yn yr awyr gan yr awelon naturiol." "Ond dyna'r amser y da'th hi yn hwylus/'atebaiWm- ffre Dafydd, "pan yr oedd o yn ceisio am 'r awal o Gal- faria ac 'n wirionedd I, yr ydw I'n meddwl yn 'nghalon y cafwd hi hefyd. Wyddoch, pan o'dd oyn dytnunadam dani arnom I, dechr'odd y bobol ysgwd bob y gun, fel gwilan goed 'nunion deg. Ac 'n wir, frodyr bach, rhaidi chi ada'l i fi ddwevd 'y nheimlad fy hunan, yr o'n inna yn teimlo 'i d'lynwad hi; 'ro'dd hi yn f'ysgwyd a bron a nghodi fel tasa odda'r y ddaear." Yr oeddwn inna bron yn yr un teimlad a thi," ebe William Sion. Mae eisieu mwy o weddio fel yna wir —eisieu gweddio am i'r awelon yna beidio, a'r awel o Galfaria i chwythu. Mae llawer iawn yn y dyddiau hyn yn cael eu troelli a'u harwain neu, fel y dywed y gair, eu cylcharwain. Cymmaint sydd yn awr yn ateb yn llyth'renol i'r gair cynnwysfawr yna, "cylcharwain. Mae miloedd o'r Mormoniaid yna yn ateb 'yn llyth'renol iddo wrth roundio y belen ddaearol i fyn'd tua'r Llyn halen. Ac yn wir, mae awelon gau ddysgeidiaeth ya chwythu yn gryf iawn ar y llyn hwnw mae'r gwyntoedd a'r awelon mor gryf, nes y mae miloedd bob blwyddyn yn colli eu bywyd. Priodol iawn vdyw yr enw yna arno fe, Llyn Halen mae yn hallt iawn i lawer. Mae amrvw iawn yn cael eu cylcharwain a phob awel dysgeidiaeth o Eglwys Rhufain ac mae'r awelon hyny yn cylcharwain llawer yn Nghymru yma hefyd oddiwrth y gwahanol en- wadau, yn round about." "Diolch yn fawr i chwi, William Sion," atebai Hugh Morgan, "am eich awgrymiadau. Erbyn edrych, mae eisieu gweddio am i'r awelon vna beidio; a phriodol iawn y gwnai Abraham Williams heno. Ond yr ydwyf fi o'r farn, mai nid ar yr awelon mae'r bai i gyd; mae bai. ar y dynion hefyd, i gymmeryd eu cylcharwain gan- ddynt." "Ond be' 'newch chi o blu?" ebe Wmffre Dafydd; plu o ddynion sydd yn cael eu roundio, eu troelli, a'u cylcharwain felly ac wyddoch, mae plu yn rhw'm o fyn'd gyda'r gwynt." Wedi ychydig o eiriau yn mhellach, gwasgarwyd, ac aeth pawb i'w fan, wedi cael bias ar yr ymddyddan. GWRANDAWWR.
(SolvcMactfau. :-,1(-
(SolvcMactfau. :1( AT MR. T. GRIFFITHS, ABERNANT. SYR,—Synwyd fi yn fawr pan welais eich nodyn talentog, cyfeiriedig aUf, yn argraffedig yn y SEREN. Rha d eich bod yn meddu haerlluijrwydd tu hwnt i'r eyffredin, cyu i chwi an- turio d'od allan i ddywedyd nad oedd ffrwyth fyawen yn werth ei lledrata, a chwithau yn euog o wneyd hyny. Oni wyddoch chwi mai arfer plant yw cablu bwyd a'i fwyta ? Y ffaith yw, Mr. Griffiths, fy mod I yn deall rheolau englynio,, yn lied dda, beth bynag am farddoniaeth yn gyffredinol ae ni,l yw yr eng- lynion dan svlw yn gwrthbrofi hyn, oblegid yr oeddynt yn swnio cystal i'r glust y pryd hwnw a phe buasent yn rheolaidd. Ni fwriadais I iddynt gael eu hargraffu, naddo na'u lledrata chwaith. Da i chwi mai:cregyn diwerth a ddaeth i'r go leu p&.n oeddech yn chwilio'r SEREN gyda'r amcftn O ledrata, onite buasai eich cosp yn sicr o fod yn drymach. Dywedweh mai ty anwybodaeth a barodd i mi ddywedyd y gellir casglu oddiwrth eich ail englyn nad oodd y ddarlith wedi cymmeryd lie etto dywedaf yr un peth etto, oblegid yr wyf yn rnethu casglu dim arali oddiwrtho. Onid yw y gair cawn yn arddangos yr amser dyfodo) ? Ond beth diUsiarad y mae y llinell fawreddog hon yn mhell uwchlaw fy amgyffredion gwanaidd I Heb geisio cawn yma gysur." Yr oeddwn I yn methu cael eysnr yn ami er ei geisio ond dichon eich bod chwi yn gwybod rhywbeth yn wahanol. Os hoff genych gael dadl fach ar farddoniaeth, gwell i chwi roddi eich achos yn llwyr yn lIaw Brodor o'r Traethgwyn, canys y mae efe yn uwch o'i ysgwyddau fyny na chwi fel bardd. Y mae Brodor wedi dysgu enwau Gwallau Cerdd Dafod yn bur dda. Yr eiddoch hyd hyth, Blaenfos, DIDYMDS. [A gawn ni y fraint o osod terfyn ar y ddadl fach hon yn y fan yma ? Os felly, byddwn yn wir ddiolchgar.—GOL.]
STOCKTON.
STOCKTON. Mr. GOL.Hawddammor i chwi, ac i'r SEREN wythnosol, ac i'r darllenwyr yn gyffredinol. Daritennis y Uythyr yn y SEREN am Ionawr 16eg, dan y teitl Sylw ar Ysgrif Ab Arthur; ond yn lie sylw ar fy ysgrif yn SEREN Rhagfyr 19eg, y mae yn ym- osodiad personol, anloneddigaidd, annghrefyddol, ac hefyd yn un hollol anwireddog. Wedi i mi ddarllen y llythyr, dywedais Y mae yn hollol deilwng o'r dynion fu wrtho." Yn awr, Mr. R. Arthur, a chwiy mae a fynwyf, gan mai eich enw chwi sydd wrtho. Nid wyf yn bwriadu crafu hen grach, gan nad oes un hyfrydwch o'u gweled yn gwaedu ac ni fyddai fy mod yn achosydd o'u gwaedu yn un gogoniant yn y byd- ni wna gwron byth y fath beth. Mae'n debyg, pan y soniwch yn eich llythyr am actio y Beibl, nad ydych yn bwriadu i uii fyned ar y stage i wneyd hyny, ond eich meddwl yn ddiatnheu ydyw, am i mi fyvf yn fwy crefyddol. Eithaf da, gyfaili, a chwithau yr un modd. Nid wyf yn fy ysgrif wedi rhoddi ar ddeall i chwi na neb arall fy mod yn cynnyg y Beibl na'j e"- wvddorion i neb. I bwy y darfu i mi gynnyg y cyffeiriau y cyfeiriwcli atynt, pa bryd, ac yn mha fan? Dechreuad yr ysgol Sabbothol a'r cyfarfodydd yn Stockton a roddais mewn rhan yn fy llythyr o'r blaen, pryd y darfu i mi brynu lIyfrau Cymraega Saesneg at wasanaeth yr ysgol ar gost fy hunan, pan oedd y cyfeillion heb ddechreu gweithio. Tebyg mai at fy afiechyd moesol y cyfeiriwch (o herwydd ni fu'm erioed etto ddiwrnod yn afiach o gorff) ond gan bwyll, gyfaill, ar y pen yna-tlial hi ddim yn y byd clywed son am ddyn, hwn a'r llall yn dweyd fel hyn ac fel hyn am dano mae gormod o'r hen fasnach yna wedi bod yn ein mysg fel cenedl, ac wedi llwyddo i lusgo i raddau mawr, ac ymgymmysgn a'n llenyddiaeth fel y mae gwaethaf y modd. Gan fod yr awgrymiadau a daflasoch o flaen y darllenwyr mor gyfeiriadol, 'does ar Ab Arthur ddim mymryn o ofn i ym- chwil manwl i gael ei wneyd ar y pen yna. Yr wyf yn ennill fy mywiolaeth yn onest, a hyny yn nghanol estroniald, pa rai a gyfiwynant y parch dyledus i mi. Yr wyf yn hollol yr un brofiad a Chuhelyn Fy ngwaith fy nhal! fy mwyd A'm dynol freintiau im', Fy iechyd, 0 Dduw a hawl i fyw, Heb grefu ar ddyn am ddim 0 am gael byw fel hyn Heb blygu clun i ddyn— Cael dilyn fy ngwaith heb ddiolch fel caeth I neb, ond i Dduw ei hun. Gofyn&f yn awr i chwi, fel dyn sydd yn feddiannol ar y boneddigeiddrwydd ag yr hawliwch i chwi eich hun er pan yn y wlad hon (nidyw hyny yn llawer), pa bryd y darfu i mi gyf- lawnu neu ddweyd rhywbeth ag sydd yn achosi i chwi gywil- yddio fy arddel ? Cofiwch, gyfaill, fy mod yn perthyn i gym- deithasau yn Stockton, ac y mae yr aelodau yn fy arddel yn mhob man, yr hyn a ystyriwyf yn gan mil mwy o anrhydedd na'ch arddeliad chwi. Mae y rhan fwyaf o'r Cymry ag sydd yn JVgogledd Lloegr yn fy adnabod, gan fy mod wedi talu fy ymweliadau a'r llefydd y trigant ynddynt, a hyny yn unig er mwyn cywreinrwydd a heriaf chwi na neb arill i brofi mai
ATHROFEYDD Y BEDYDDWYR YN…
mae yn rymus, ac hynod o ddedwydd yn netholiad ei eiriau, a thrinia ei bwnc gyda deheurwydd. Oddiwrth "Daflen y Swyddogion," fe welir fod y Dr. Thomas wedi bod yn unig Athraw am y pedair mlynedd gyntaf o'r sefydliad vn Mhontypwl. Tua diwedd y flwyddyn 1840, teimlai'r pwyllgor a'r Llywydd, yn nghyd a rhai cyfeillion da i'r sefydliad, awydd am gael Athraw ych- wanegol, er ysgafnhau y gwaith ar y Llywydd, ac er gwell mantais i'r myfyrwyr. gan fod eu rhif yn cyn- nyddu, a'r gwaith yn mvned yn bwysicach. Yn y cyfamser, deallwyd fod Mr. George Thomas, gweinidog y Drefnewydd, ar ymadael a'i eglwys. Meddyliwyd y peth hwn yn Rhagluniaethol; a gwelai y pwyllgor yn Mr. Thomas y gwr a'r doethawr ag oeddent hwy ar y pryd yn chwilio am dano—un yn meddu y evmhwysderau i fod yn Classical Tutor." Gyda boddlonrwydd llwyr a chalonog y Llywydd, ys- grifenwyd at Mr. Thomas gyda phob brys, a chafwyd atebiad tra ffafriol oddiwrtho. Gwnawd hyn gan y pwyllgor cyn dvfodiad cwrdd blynvddol 1841, ac felly ar eu cyfrifoldeb eu hunain, am nad oedd amser i golli, a bod ganddynt hyder cryf y buasai i'w dewisiad o Mr T. gyfarfod a boddlonrwydd eyffredinol y pwyllgor. blynyddol. Ac er mwyn symud ymaith bob rhwystr, addawodd rhai o aelodau y pwyllgor, os na ddarfu idd- ynt fyned gam yn mhellach ag i ymrwymo eu hunain i gymmeryd arnynt yr oil o'r gyfrifoldeb o hyn, a dwyn rhan, os nid yr oil, o'rdraul yn nygiad Mr. Thomas yno hyd y ewrdd blynyddol, a chaniatau na fuasai'r symud- iad yn cwrdd a boddlonrwydd y cyfarfod blynyddol. Ond ni chawsant achos i edifarhau-mawr gymmer- adwywyd eu gweithred, a phrofodd Mr. Thomas ei hun yn gyrnhwys i'r swydd o fod yn Athraw Ieithyddol. Gwell swydd a gwaith i'n eyfaill trylwyr a'n hathraw parchus-gwaith i ateb ei chwaeth ei hun-nis gallesid byth gael. Mae yn gwbl yn ei elfen-wrth ei fodd i'r dim-pan yn ymdroi yn nghanol yr ieithoedd, ac yn cyfeillachu a'r hen awdnron clasurol. Ganwyd Mr. G. Thomas mewn ty o'r enw Blaen- lliwau," yn Sir Gaerfyrddin, lie y preswylia rhai o'i berthynasau agosaf yn awr. Derhyniwyd ef yn aelod yn eglwys y Bedyddwyr yn Bwlchygwynt, gerllaw i le ei enedigaeth. Treuliodd bedair mlynedd yn Athrofa Brystau, ac urddwyd ef i waith y weinidogaeth yn Rbydfelen yn y flwyddyn 1833. Yn canlyn mae hanes ei urddiad, gwel Greal y Bedyddwyr" am 1833 "URDDIAD MR. GEORGE THOMAS.—Awst 19eg, yn Rhydfelen, Swydd Drefaldwyn, neillduwyd y brawd George Thomas, o Bwlchygwynt. i waith cyflawn y weinidogaeth. Gweddiodd y hrawd T. Jenkins, myfyr- iwr, yn Saesneg a'r brawd J. Davies, Pantycelyn, yn Gymraeg. Gofynwyd yr holiadau arferol i'r gweinidog gan y brawd B. Price, Drefnewydd yna dyrchafwyd yr urdd-weddi gan y brawd E. Carey, Serampore; a phre- gethodd y brawd J. G. Penny, Calcutta, i'r gweinidog; a'r brawd E. parey i'r eglwys, oddiar Col. 1. 28, aRhuf. 13. 1 L-B. PRICE." Price (Cymro Bach) a ysgrifenodd yr hanes uchod, a chafodd ef a Mr. Thomas yr hyfryd- wch o gyd-weinidogaethu ar ol hyny, am rai blynyddau, yn y Drefnewydd. Mae yn debyg i Mr. Thomas fod yn llafurus iawn mewn lleoedd ereill heblaw y ddau uchod, fel y dengys Hanes y Bedyddwyr," gan D. Joaes, tud. 504. Llyma'r geiriau Treuliodd Mr. Thomas agos holl ddyddiau ei ieuenctyd mewn ysgolion, ac yn Athrofa Caerodor; ac mae yn ysgolhaig rhagorol, :1 yn bregethwr da iawn, ac yn dduwinydd treiddgar. Treuliodd amryw o flynyddoedd wedi dyfod allan o'r Athrofa mewn gwahanol leoedd yn Nghymru, Lloegr, a'r Iwerddon ond y mae wedi bod er ys blynyddau (o.c. 1839) yn gyd-weinidog a Mr. B. Price yn y Dref- newydd, un o'r eglwysi mwyaf blodeuog, lluosog, a grymus yn Nghymru." Fe welir ein bod yn dr' byr mewn enwau a dates yn ein darn hyn o'n hanes; ond nid oes help, gan fod rheswm dros hyny. Tua dechreu y flwyddyn 1841, daeth Mr. Thomas yn Athraw leithyddol yn Mhonty- pwl. Derbyniodd y diploma o M.A. o William Jewell College, Missouri, North America." Ma'3 Mr. George Thomas yn wr tua chanol size, ac yn gwargamu ychydig, ac yn cerdded fel pe wrtbo ei hun yn y byd. Mae o edrychiad syml, serchus, a boneddigaidd. Dyn trwyddo yw-ysgolhaig aeddfed, meddyliwr dwfn, pre.. gethwr meddylgar, a Christion trwyadl. Ni chlywsom ef erioed yn pregethu heb ei fod yn bared wedi rhag- feddwl, a llonaid col o feddwl ganddo. Mae yn un o'r dynion mwyaf diniwed a fu byw erioed—ni wna-ni ewyllysia wneyd-drwg i neb, na dim mewn modd yn y byd. Mae yn un o'r dynion mwyaf gwylaidd—mae yn ormodol felly i ateb mawredd ei feddwl, dyfnder ei ddysg, ac eangder ei wybodaeth. Saif llawer un yn ddigon pen-uchel, a meddylia lawer am ei ddysg a'i ddawn ei hun, pan, mewn gwirionedd, heb ddefnyddio gormodedd, nad yw deilwng i ddattod esgidiau George Thomas. Nid yw y ddau Athraw parchus wedi cael treulio eu blynyddau yn Mhontypwl heb gael arwydd o barch neillduol e.u hen fyfyrwyr tuag atynt. Cymmerodd y presentation i Dr. Thomas le yn y fl. 1857, a'r pre- sentation i Mr. G. Thomas yn y fl. 1861. Gwel y cy- hoeddiadau am y blynyddau hyny. Ysgrifenyddion. Bu i Athrofa y Fenni bump Ysgrifenydd, a'r pummed oedd y Parch. D. Phillips, Caerlleon-ar-Wysg am 9 mlynedd, a gwasanaethodd y sefydliad yn Mhontypwl am 4 mlynedd arall, y cwbl am 13 mlynedd. Rhoddodd ef ei swydd i fyny yn y flwyddyn 1840, pryd y pasiwyd y penderfyniad a ganlyn Fod y cwrdd hwn, tra yn gofidioyn ddidwyll am benderfyniad yr Ysgrifenydd i ymneillduo o'i swydd, yn fr hon y gwasanaethodd y sefydliad eyhyd ac mor ffyddlawn a thra yn derbyn ei ymroddiad, yn cyflwyno iddo y diolchgarwch gwresocaf am y caredigrwydd, y ddoethineb, a'r sel a ddangosodd yn wastadol yn ei ymdrechiadau i hyrwyddo amcanion y sefydliad, a'i godi i'w safle presenol." O'r flwyddyn 1840 hyd 1856, sef un ar bumtheg o flynyddau, bu i'r sefydliad ddau Ysgrifenydd, sef 1. Hiley, Ysw., a'r Parch. S. Price, Abersychan, yr hwn yw ei Ysgrifenydd presenol. Mae ef wedi gwasanaethu y sefydliad yn y swvdil hon am 23 mlynedd gyda ffyddlondeb neillduol. Beth berodd i Mr. Hiley ymneillduo, nis gwyddom ond hyn a wydd- om, ei fod yn ddyn A llygad vc ei ben, er ei fod yn ddall yn awr er vs rhai blynyddau-yn ddyn o synwyr cryf, ac yn gyfaill ffyddlawn. Meddwn baich a serch neill- duol tuag ato. Dymunwn iddo lawer o wenau Duw yn "Lletty'r Pererin." Trysoryddion. Bn i Athrofa y Fenni chwech Trysorydd, a'r chweched oedd W. W. Phillips, Maesydderwen, Pontymoil, am 7 mlynedd. Gwasanaethodd y sefydliad yn Mhontypwl, fel Trysorydd, am yr yspaid o 25 mlynedd, ac i gyd am 32 mlynedd. Am y 10 mlynedd olaf, bu iddo gyd-dry- sorydd, sef Wm. Conway James, Ysw., Pontrhydyryn. Yn yr un flwyddyn ag y bu farw Mr. Phillips, rhoddodd Mr. James ei swydd i fyny, pan y pasiwyd y penderfyn- iad canlynol:—" Fod y cwrdd hwn, wrth dderbyn ym- roddiad Mr. Win. C. James, yn cyflwyno iddo ei ddiolch- garweh gwresocaf am y modd caredig ac effeithiol y darfu iddo gyflawnu dyledswyddau ei swydd. Am Mr. Phillips, gallwn ddweyd fod ei enw yn anwyl gan bawb a'i hadwaenai. Un o rai rhagorol y ddaear oedd efe. Boneddwr yn mysg y mawrion a'r bychain-dyn gartref, gyda'r cyfoethog, a'r tlawd. Gellir dweyd am dano yn ngeiriau "Ymofidiwr," yn ei Awdl i Carnhuanawe- Un uchel i uchel oedd, Ac isel i'r isel radd Mwyn i fwyn mewn hoewaf wedi, I anfwyn mwyn fu un modd." Yr oedd Mr. Phillips yn un o'r diaconiaid mwyaf hedd- ychlawn, ac yn un o'r gweddiwyr mwyaf gafaelgar a adwaenasom erioed. Cyfaill i'w weinidog. brawd i'w frodyr, a thad i'r myfyrwyr oedd efe. Pawb a'i had- waenai, a wyddant nad ydym yn dweyd un gair ond y gwirionedd am dano. Yr oedd ei galon a'i enaid yn y gwaith ac yn y sefydJiad. Gwasanaethodd yr Athrofa yn mhob peth gyda ffyddlonlleb digyffelyb; nesaodd at Dduw ar ei rhan gyda gweddiau taerion a ffydd gref. Cof am ei weddiau yn y cyrddau wythnosol yn Crane-street ar ran yr Athrofa, yr Athrawon, a'r Myfyrwyr! Ni byddai ef un amser yn eu hannghofio. Gyda'r fath daerineb ac ymddiried yr arllwysai gynnwysiad ei galon gerbron Duw O frawd heddweh i'th Iwch. Dyn oeddet, a dyn cyflawn. Cynlluniaist a chynghofaist, gweddiaist a chyfrenaist—nid er mwyn dy weled, ond er mwyn gwasanaethu Duw a'tli genedlaeth. A ganlyn yw y penderfyniad a basiwyd gan y pwyllgor wedi ei farw: —" Fod y pwyllgor hwn yn galaru yn herwydd colli y diweddar W. W. Phillips, Ysw., Maesydderwen, yr hwn oedd wedi llanw y swvdd o Drysorydd am dros 30 mlyn- edd ac yn cofnodi ei barch o'i gymmeriad Cristionogol a'i deimlad dwys o rwymedigaeth am ei wasanaeth hir a ffyddlawn, ac yn cynnyg i'r aelodau sydd yn aros o'i deulu ei gydymdeimlad parchus o dan eu hamddifadrwydd gofidus, pa un y maent wedi ei deimlo." Gobeithiwn fod deuparth o'i ysbryd wedi syrthio ar ei fab, trysorydd presenol y sefydhad, yr hwn sydd yn ymddangos i ni fod yn un ag sydd yn teimlo dyddordeb neillduol yn y sefyd- liad, ac yn mawr ddymuno ei lwyddiaut.