Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
EISTEDDFOD BULAH, CWMTWRCH.
EISTEDDFOD BULAH, CWMTWRCH. Cynnaliwyd yr Eisteddfod hon dydd Nadolig diweddaf, pryd -y gwobrwywyd y rhai buddugol yn ol penderfyniad y beirniaid parchus. Ar Gerddoriaeth, Mr. David Griffiths, gwr ieuanc Thagorol, a brawd Mr. Wm. Griffiths. Pontardawe; ac ar y Farddoniaeth, y Parch. Benjamin Thomas, Gyrnos. Cym- merwyd y gadair gan ein llywydd parchus, Mr. Richard Phil- lips, agent, Wernplymis. Y cyfarfod cyntaf a ddechreuodd am 1 o'r gloch. pryd y cawsom 1. Anerchiadan r bordd,—Mrd. Kees Powell, Richard Aaron, a Rees Rees. 2. Adroddiad Dau a Dwy." Tri ymgeisydd buddugol, John Lewis. 3. Unawd, "Thou shalt break them." Cystadleuodd 5; buddugol, Wm. Jenkins. 4. Am y deg pennill digtif goreu i Dwrch a'i Phontydd. Yn gyd-fuddugol, Phillip Davies, Rhydyfro, ac Evan Gething, Gwaencaegyrwen. 5. Gwalia," i ddeuddeg i ganu. Dau barty yn cystadlu buddugol, William Watkin a'i gyfeillion. 6. Adroddiad Dau Englyn i'r Glecwraig." Pump ym- geisydd buddugol, John Thomas, Cwmdulais. 7. Deuawd, Anerchiad i Delyn y Cymru." Pedwor ym- geisydd, Dyfarnwyd y wobr i Llewelyn Williams a'i chwaer. 8. Araeth Ddifyfyr. Pedwar ymgeisydd buddugol, Wm. Rees ac Evan Gethin. 9. Cadwwch oddiwrthi, onite ?" „ Tri dosparth yn cys- tadlu buddugol, Wm. T. Davies a'i gyfeillion. 10. Beirniadaeth Rhiangerdd. Rhanwyd y wobr rhwng John Evans, Gwaencaegyrwen, William Rowland, a Rees Rees, Ystivtd. 12. Ho, ho, dewch deithwyr." Trichôr yn cystadlu buddugol, Sardis, Ystradgynlais. Yr ail gyfarfod a ddechreuodd am chwech o'r gloch, pryd y cawsom y pethau canlynol:— 1. Araeth bwrpasol iawn gan Mr. David Williams ar Ddai- oni yr Ys^ol Sabbotbol a Chyfarfodydd Llenyddol i leuenctyd Cymru. 2. Beirniadaeth ar y deg pennill goreu o glod i Mrs. Price, Glantwrch, am ei phresenoldeb a'i haelioni yn ein Heistedd- fodau; buddugol., Evan Gethin. Gwaencaegyrwen. 3. Unawd, Molawd Cymru." Cystadleuodd naw budd- ugol,W. rr. Davies a LI. Williams. 4. Adroddiad dau englyn i'r Corddu. Ci-,I-ftiditiz,,It John sLewis a David Harries. 5. Triawd, "Yr Eiaryg WyHt." Dim cystadleuaeth. Rhoddwyd y wobr i'r Brythoniaid. 6. Call, John." Pedwar dosparth yn cystadlu buddugol, W. T. Davies a'i gyfeillion. 7. Araeth Ddifyfyr. Chwecb yn cystadlu buddugol, Wm. Rees, Ystrad. 8. "Winifreda." Dim cystadleuaeth. Rhoddwyd y wobr i fab a merch. 9. Araeth ar Ddyledswydd yr Eglwysi i bleidio Canu Cyn- nulleidfaol. Pump ymgeisydd buddugol, D. Williams. 10. I ti, Arglwydd." Dau gor yn cystadlu; cyd-fuddug- ol, Cor Bethania a Chor Bulah. S. GRIFFITHS, Ysg.
ffiongl lit (f)fvm4mad.
ffiongl lit (f)fvm4mad. ATEBIQ3S". Ateb i Ofyniadau Didymus. 1. Cyfrifa yr luddewon wyth a deugain o brophwydi, a saith o I brophwydesau. Dywed Clement o Alexandria, un o hen dadau yr egl wys a fu byw tua diwedd yr ail ganrif, mai pumtheg ar hugain fu o honynt ar ol Moses. Hysbysa Epiphadius, gwr enwog fel esgob a duwinydd yn y bedwaredd ganrif, mai nifer y prophwydi oedd 63, a 12 o brophwydesau. 2. Bu 13 byw cyn rhoddiad y ddeddf; sef Adda, Enoch, Lamech (Gen. 5. 29), Noah, Abraham, Isaac, Jacob, Joseph, Job a'i gyfeillion, a Balaam; a thair o brophwydesau, sef Sara, Hagar a Rebecca. 0 dan y ddeddf. Yn yr anialwch, dau sef Moses ac Aaron, a'r brophwydes Miriam. Yn ngwlad Canaan, 41 sef Joshua, Dienw (Barn. 6. 8-10), Dienw (I Sam. 2. 27, 36), Samuel, Nathan, Gad, Asaph, Heman. Jeduthan, Dafydd, Solomon, Ahiah y Siloniad (1 Bren. 11. 29, a pen. 14.), Semiah (Cron. ll. 2, a 12. 5—16), Ido (2 Cron. 12. 15, a 13, 22), y Gwr i Dduw a ddaeth o Judah i Bethel, ac a lefodd yn erbyn yr allor a adeiladid yno gan Jeroboam (I Bren. 1. 8), yr hen brophwyd ag oedd yn trigo yn Bethel (l Bren. 13. ll, &c.), Azariah mab Oded (2 Cron. 15. 1), Oded (2 Cron. 15. 8), Hananiah y gweledydd (2 Cron. 16. 7). Jehu mab Hananiah (2 Bren. 16. 1, a 2 Cron. 19, l), Elias, Micheah mab Jimlah, y Prophwyd a geryddodd Ahab o herwydd iddo adael i Benhadad, brenin Syria, ddianc (1 Bren. 20. 35—43), Jahaziel mab Zacharia (2 Cron. 20. 14), Eliezer mab Dodafah (2 Cron. 20. 37), Elisens, Zachariah mab Jehoiadah (2 Cron. 24. 20, 21), Dienw (2 Cron. 25. 7), Oded (2 Cron. 28. 9), Uriah mab Semaiah (Jer. 26. 20), Jonah, Hosea, Amos, Joel, Esaiah, Micah, Naum, Habacuc, Obadiah, Sephaniah, Jeremiah a'r brophwydes Huldah (2 Bren. 22. 14). 3. Yn amser y caethgludiad i Babilon, dau; sef Ezeciel a Daniel. 4. Ar ol dychweliad yr luddewon o Babilon, tri sef Haggai, Zechariah, a Malachi. 5. 0 dan y Testament Newydd, chwech; sef Zechariah, Simeon, loan Fedyddiwr, Azabius, Paul, loan, awdwr y Dad- guddiad, ac Anna y brophwydes. Nifer y cwbl yw 73, a nifer y proph wydesau yw 6. 6. Daniel yw yr unig un y cawn banes sicr iddo brophwydo yn Babilon. Prophwydodd Ezeciel yn Caldea, a Jeremiah yn Judea a'r Aifft. 4. Er fod pob prophwyd ar ryw olwg yn weledydd etto, ni elwir y gweledyddion yn brophwydi. Yruddengys mai y gwa- haniaeth rhyngddynt oedd, fod y gweledyddion yn cael dadgudd- iad o bethau dyfodol fel canlyniadau i amgylchiadau neillduol perthynol i blant Israel fel cenedl, ac yn cael ei anfon gan Dduw ar negesau neillduol yn y cyfryw amgyichiadau ond nid oeddynt yn gallu rhagfynegu pethau a gymmerent le mewn oesoedd ar eu hol, a phethau tu hwnt i amgyffred dynion i'w rhagweled heb ddwyfol ysbrydoliaeth, megys Esaiah, Jeremiah, Ezeciel, ac ereill, v rhai oeddvntbroDhwvdi mewn modd Driodol. BACHGENVN MAIN. Ateb i Ddychymmyg Gelodydd. Dywedwch wrth Gelodydd, Er nad wyf fawr o brydydd, A hyny hefyd heb ddim gwg, Mai Mwg i gyd a genfydd. MORGAN Y BADWR.
.CAN 0 GLOD
CAN 0 GLOD I Mr. Richard Rosser, masnachydi, am ei rodd werthjawr o Oriadur i eglwys y Bedyddwyr yn Aberdulais. Testun erbyn Eisteddfod y lie hwn, JSadolig, 1862. Mae genyf wych destun yn awr o fy mla'n, Mae'n deilwng o'r awen i lunio gwir gan fiaelfryd-ddyn yw'r gwrthddrych, haelionus ei waith Fe ddeil y cymmeriad heb drosedd ar iaith. Ar brydiau canmolir rhyw ddynyn mor fawr, Fel tyna'r ormodiaith e'n hollol i lawr Ond am ein masnachwr, hoffnsaf a hardd, j Gorgaumawl ei haeledd nis gallai y bardd. Mae'r naill o'i rinweddau yn dilyn y llall, Fel ffrydiau tryloewion yn rhedeg heb ball; A'r rhinwedd sydd olaf yn dod ger ein bron,- Meddylir yn wastad mai'r oral y w hon. 'J Nid rhyfedd mo hyny, pan welom yn nghyd, Y gwyr beth i'w roddi, ac hefyd pa bryd; ■ v Mae ganddo ef lygad i weled y fan, "I A chalon a gallu i helpu y gwan. Wrth wel'd y Bedyddwyr hebawrlais i'w gael, Fe deimlodd ei galon, sydd beunydd yn hael; Dewch," ebe fe, 'n gymhwys i waered i'r dre' A mynaf Oriadur fo'n deilwng o'ch lie. Cewch ddewis eich hunain wrth oleu y dydd, Y goreu a farnoch, a'r harddaf a fydd 0 fewn i'r masnachd^—le'r goreu a gawn, Ei gludo ef adref yn union a wnawn. Bydd ef i chwi.n eiddo tra fyddoch chwi byw, A'ch plant ar eich olau, o fewn i; dy Dduw; Dangosa yr amser i'ch tyned a dod, A bydd i chwi'n bleser tra fyddoch is rhod." Ac felly fe'i cyrchwyd heb rodres na 'stwr, 'Nol archwaeth y rhoddwr, neu duedd y gwr A balch oedd y brodyr am gael y fath rodd, Diolchent i'r gwron yn gywir o'u bodd. Tref Castellnedd. Nid rhoddwr yw'n Rosser a chloch wrth ei ddant, Nis gwy'ddir ei roddion, am un o bob cant; Mae'n un or rhai hyny a geir yn eiii plith, Sy'n rhoi a'r Ilaw ddeau heb wybod i'r chwith. Os rhaid ei ddatguddio am roddion gwir rad, Derbynwyr wna hyny ar gloedd yr holl wlad T. Ond ceidw e 'i hnnan yn hollol wr rhydd, Heb olrhain, heb yngan—yn dawel fe fydd. Mae ef wedi dysgu gwers Iesu, yn wir, Sef peidio udganu o'i flaen trwy'r holl dir I" Ond gwneuthur elusenyn ddirgel, heb nad, r A thelir ar gyhoedd gan Un, sef y Tad. Tra Nedd k dwr ynddi yn llifo drwy'r lie, A Dulais aberu yn hon o'r tu de', Bydd gwyr Aberdulais yh cofio y fraint, Gael Awrlais mor rheidiol i'w Iloni fel saint. Tra 'deryn yn hedeg a'i aden uwch gwynt, I Tra rhodau'r melinau yn troi ar eu hynt, L Tra gle;siad yn chwareu yn nghanol y llyn, Bydd cofio ein Rosser am weithred fel hyn. Gwyllysiaf i'w enw gael aros dros fyth, Mewn craig a fo'n eglur, a'i golwg yn syth Agwynblwm mewn cerfiad, er gweled yn glir, Fel galler ei ddarllen gan bawb drwy ein tir. Ond os na chaiff hyny, boed iddo gael rnwy, Set enw a erys, trwy Iesu a'i glwy' Ac heddwch i'w enaid, a llwydd ar ei waith, A Nefoedd yn artref ar derfyn ei daith. 'Rwv'n dioich o'm calon i'r arwr ddyn glan, Boed bendith i'w ddilyn, er darfod o'm can Boed rhagor o ddynion fel hwn yn ein gwlad, Ac yna bydd ffyniant, a derfydd am frad. DIOLCHWR, Sef B. Evans.
UN ARALL AR YR UN TESTUN.
UN ARALL AR YR UN TESTUN. Mae'n chwithig i weled addoldy Heb Awrlais yn perthyn i'r He, Er dangos ei bod yn bryd ciniaw, Neu'n bryd i'r menywod wneyd te. Fel hyny bu gwyr Aberdulais, Wrth amcan cyflawnent eu gwaith, Ond Rosser a roes i Idynt A wrlais- Hwy gofiant ei weithred yn faith. Pan ydoedd pregethwr dyeithr, Heb oriawr yn dyfod i'n plith, Nis gwyddai, o angen am Awrlais, Pa bryd ydoedd gorphen ei lith A'r bob] edrychent yn ddiflas, Pan fyd'dai'n eu cadw yn hir, Ond Rosser wnaeth i ni gymmwynas, A'r eglwys a'i carant e'n bur. Y mae y pregethwr gwir fedrus, Mewn pethau ac amser yn gall, Er myned i liwyliau cynhyrtus, Pan orphen ddweyd synwyr, rhydd ball,- Tra dywed rhai ereill am ddwy awr Ffolineb, wna'r bobl yn syn Ond rhydd yr Oriadur roes Rosser I ni, hollol derfyn ar hyn. Ac hefyd y mae pregethwyr Jack/ddol, dienaid, sy'n bod, Bob amser ar ol eu cyhoeddiad, Fel pe byddai hyny yn gnd A thaerant eu bod hwy yn brydlon," Er colli gerllaw banner awr Ond bydd i'r Oriadur roes Rosser, Roi terfyn ar haeru yn awr. Bum bron ag annghofio dywedyd, Fod hefyd aelodau i'w cael, A gyagant hyd ddeg ar y Sabbath, Yr hyn sydd resynus o wael I Ond bellach fe'u gwelir yn dyfod I'r capel gan ostwng eu pen, Oblegid amlyga'r Oriadur Eu gweithred, er gwaethaf pob lien. Er fod amser dyn yn myn'd heibio, I groth tragwyddoldeb ar ffrwst, Mesura'r Oriadur, heb flino, Ei holl ysgogiadau, heb drwst. Darnodi pob awr y mae'n eglur, _■ A'u rhifo yn hyglyw wnaiff oil, Mae'n rhybydd tra dwys i bechadur, I'w teilwng ddefnyddio'n ddigoll. t ¡r Mesura 'i fys arall fynvdau, Mynydau ei fywyd bob un Bechadur! mesura ddyfnderau Holllygredd dy galon ddilun Er deall p'le'r yd wyt yn sefyll, A theim!o'th ddyledswydd ddilyth, I gilio o lwybrau y Gollfa, Rhag clywed ei Hawrlais hi byth. Fel hyny mae'r Awrlais roes Rosser I ni, 'n ddefnyddiol iawn, iawn, Er trefnu ein holl gyfarfodydd, A gweled taith amser a gawn. Hi ddyga ei rhoddwr haelionus I'n cof, nes y carwn ni ef, A ffrydlif o serch tuag ato, Trwy'n calon sy'n rhedeg yn gref. 0 herwydd fe wnaeth Richard Rosser i Ryw fawr garedigrwydd i ni, Ac hefyd gwnaeth hwn mewn cyfyngder, Yr hyn bair i'w enw fwy bri. Gwir iddo wneyd Ilawer cymmwynas, I'n heglwys heb geisio o'r blaen, Ond dyma y seren ddysgl..iriaf, O'i wybren, rydd oleu ar daen. Ei galon oedd orlawn o gariad, Ac agor ei logell a wnaeth, Trwy hyny, er mwyn ein cyfnerthiad, Ei arian a'i aur ef a ddaeth .•, Dymunwn lwydd mawr ar eit asnach, Ac eled yn mlaen yn y byd, 3 Fel gallo barhau'n elusengar, i Yn unol ag ansawdd ei fryd. Ac O er yn selog wrandawwr, A rhoddi ei arian heb baid, O cofied mitilr hwn sy'n wneuthurwr 0 galon, gniff lesu yn blaid Ar ol rhoddi'r Awrlais i'r capel, Boed iddo ro'i 'i enaid i Dduw, Trwy hyny caiff goron a gwrel, A'i enaid trwy ras a fydd byw. RYNALI.T, Sef H. Gwerfyl James-
STOCKTON.
"barn pawb sydd yn fy adnabod ydyw fod fy moesau yn afiacli. Syr, beth oedd barn y rhan luosocaf yn Middlesbro y Llun di- weddaf am eich ymosodiad arnaf ? Dyna ddigon 1 chwi. Ond at y pwnc, fel y dywedwch. Dywedwch fod yr Annibynwyr yn Stockton, a Mr. Jones yn Middlesbro, yn alluog i amddiffyn -eu hunain os byddant yn ewyllysio. Pwy.'amdditfyn sydd gan- ddynt i wneyd mwy na chwithau ? 'Does dim modd troi gwirionedd yn ol. Un cadarn yw. Er mwyn eich hysbysu, y mae yr Annibynwyr yma yn gallach na chwi o lawer-eyd. nabyddant iddynt fod yn fyrbwyll a beius. Dyna bob peth drosodd mewn cyssylltiad a hwy. Maent yn gymmydogion oesaf i mi, a pharchwn ein gilydd fel y cyfryw. Er mwyn cael tipyn rhagor o esboniad pellach ar y mater dan sylw, ewch at y Parch. B. James, Mid ilesbro y mae yn gweithio yn yr un gwaith a chwi; ac nid wyf yn meddwl y troseddwch un ddeddf yn y byd wrth gael ymgomiad ag ef. Gofynwch yn 1. Beth oedd vr achos iddo beidio pregethu yn nhy Annibynwr yma ar un nus Sabboth nodedig? ac yn 2. Beth yw y rheswm na ddaeth yma byth wedi hyny? Gwir ddll ddw'r bob amser ■—ymddygodii Mr. Jam-s yn Fedyddiwr trwyadl yn yr am- gylchiad ond am danoch chwi, buoch yn wasaidd i'r Anni- bynwyr, a hyny ar draul mathru egwyddorion y Bedyddwyr. Buasai yma eglwys gan y Bedyddwyr heddyw, oni bai annoeth ineb a chlepyddiaeth. Treiwch ddod allan o'r rhwyd a wau. asoch eicb hun trwy grio anwybodaeth. Ni wna ateb. Onid ydych yn C"fio i mi grefu arnoch ar fwrdd yr agerfad rhmig ^Stockton a Middlesbro am beidio dod i Stockton wedi hyny i -bregethn at yr Annibynwyr hyd nes y clywech oddiwrthyf ? .Ar y pryd addawsoch beidio. Ond dyfod a wnaethoch. Nid -oeddech yn anwybodus o'r Bedyddwyr sydd yma pan y buoch yn casglu at gapel Beaumaris, Mon, gyda y Parch. T. Davies. Cyfeiriwci bump o ofyniadau ataf. A ganlyn ydyw yr -atebion :—Mae yr ysgoldy He bu y B-dyddwyr gonest yn cyn- nal eu hyssjol y tri mis diweddaf yn No. 11, Caroline street, Rupert Buildings. Dynion oeddynt yn alluog i wneyd hyny ddarfu ei sefydlu. Credent yn ngrym yr hen addewid hono, Yn mha le bynag y bydd dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw I, yno y byddaf yn y canoL" Mae yma aelodau o Gymru o wahanol fanau, megys Pontypwl, Risca, Ponthir, a Plionty- pridd ac-os oes awydd arnoch am eu gweled a gwybod eu henwau, deuwch i'r lan, a mi a'ch arweiniaf i'w tai, a dios genyf y byddant yn barod i gydsynio a'ch cais, ae hefyd i y roddi rheswm am y gobaith da sydd ynddynt. Beth waeth yn mha le yr oeddynt yn aelodau o'r blaen Mae Ilawer iawn o'r Cymry yn cael eu taflu yn ol yn bur bell we.;i dyfod i fyuy i'r Gogledd yma, fel nas gallant fod fel ag y dymunant. A oedd gan y Cristionogion hyn ddim awdurdod i ddangos eu hochr, yn lie bod fel chwi yn was bach i'r Annibynwyr ? Cewch glywed oddiwrth rai o honynt yn y SEttEN nesaf. Byddwch yn fwy manwl efo darlleniad y llythyrhwn na'r un o'r blaen ni ddartu i mi grybwyll dim a rwystrai Mr. T. Mathews. Doethineb ac nid rhwystrau oedd yn y SEREN, gan fod yn Middlesbro ddynion wedi cael cymmaint o rwystrau ag yntau. 0 berthynas i'ch awgrym i Gymmanfa i anfon cyffeiriau i mi rhag fy marw, boed hysbys i chwi nad oes angen eich cyffeiriau chwi nac unrhyw Gymmanfa yn y byd arnaf i fyw nac i farw, gan fod yn fy meddiant egwyddorion byw ag sydd yn peru i mi ehedeg uwchlaw dynion, ac i edrych gydl>'r gwawd a'r dirmyg mwyaf ar gorachod ag sydd yn ymhyfrydu mewn lladd, a lldrpio, liC iselhau eu gilydd o gornel i gornel. Mae hen ddiareb yn dweyd, Ni raid i Arthur wrth ffyn baglau." Mae'n debyg i Rees Arthur orfod ymostwng i gym- meryd ffyn gweinion ddigon. Os wyt tiyn gall, paid a gwneyd roor fach o honot dy bun a rhoddi benthyg dy enw i neb er mwyn iddo (" rw ei lysnafedJ ar neb arall. Os oes arnat eisieu ysgritenu, gwna hyny dy hun os na elli, bydd yn llonydd. Adwaenwn awdwr eich llythyr yn dda iawn; a gwyddwn o'r goreu fod y spleen arno er ys tro, a chafodd y fraint o arllwys peth o hono ar draul eich enw. Os peltio right and left yw hi i fod, niedraf ar y gwaith yn ffamws, ond cael chware teg, ac y mae digon o ddefnyddiau wrth law. Yr oeddwn wedi meddwl bob amser mai pethau ac nid personau ydoedd motto SEREN CYMRU. At y pwnc, gyfeillion, y tro flesaf. Yr eiddoch, &c., AB ARTHUR.