Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD BULAH, CWMTWRCH.

ffiongl lit (f)fvm4mad.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

ffiongl lit (f)fvm4mad. ATEBIQ3S". Ateb i Ofyniadau Didymus. 1. Cyfrifa yr luddewon wyth a deugain o brophwydi, a saith o I brophwydesau. Dywed Clement o Alexandria, un o hen dadau yr egl wys a fu byw tua diwedd yr ail ganrif, mai pumtheg ar hugain fu o honynt ar ol Moses. Hysbysa Epiphadius, gwr enwog fel esgob a duwinydd yn y bedwaredd ganrif, mai nifer y prophwydi oedd 63, a 12 o brophwydesau. 2. Bu 13 byw cyn rhoddiad y ddeddf; sef Adda, Enoch, Lamech (Gen. 5. 29), Noah, Abraham, Isaac, Jacob, Joseph, Job a'i gyfeillion, a Balaam; a thair o brophwydesau, sef Sara, Hagar a Rebecca. 0 dan y ddeddf. Yn yr anialwch, dau sef Moses ac Aaron, a'r brophwydes Miriam. Yn ngwlad Canaan, 41 sef Joshua, Dienw (Barn. 6. 8-10), Dienw (I Sam. 2. 27, 36), Samuel, Nathan, Gad, Asaph, Heman. Jeduthan, Dafydd, Solomon, Ahiah y Siloniad (1 Bren. 11. 29, a pen. 14.), Semiah (Cron. ll. 2, a 12. 5—16), Ido (2 Cron. 12. 15, a 13, 22), y Gwr i Dduw a ddaeth o Judah i Bethel, ac a lefodd yn erbyn yr allor a adeiladid yno gan Jeroboam (I Bren. 1. 8), yr hen brophwyd ag oedd yn trigo yn Bethel (l Bren. 13. ll, &c.), Azariah mab Oded (2 Cron. 15. 1), Oded (2 Cron. 15. 8), Hananiah y gweledydd (2 Cron. 16. 7). Jehu mab Hananiah (2 Bren. 16. 1, a 2 Cron. 19, l), Elias, Micheah mab Jimlah, y Prophwyd a geryddodd Ahab o herwydd iddo adael i Benhadad, brenin Syria, ddianc (1 Bren. 20. 35—43), Jahaziel mab Zacharia (2 Cron. 20. 14), Eliezer mab Dodafah (2 Cron. 20. 37), Elisens, Zachariah mab Jehoiadah (2 Cron. 24. 20, 21), Dienw (2 Cron. 25. 7), Oded (2 Cron. 28. 9), Uriah mab Semaiah (Jer. 26. 20), Jonah, Hosea, Amos, Joel, Esaiah, Micah, Naum, Habacuc, Obadiah, Sephaniah, Jeremiah a'r brophwydes Huldah (2 Bren. 22. 14). 3. Yn amser y caethgludiad i Babilon, dau; sef Ezeciel a Daniel. 4. Ar ol dychweliad yr luddewon o Babilon, tri sef Haggai, Zechariah, a Malachi. 5. 0 dan y Testament Newydd, chwech; sef Zechariah, Simeon, loan Fedyddiwr, Azabius, Paul, loan, awdwr y Dad- guddiad, ac Anna y brophwydes. Nifer y cwbl yw 73, a nifer y proph wydesau yw 6. 6. Daniel yw yr unig un y cawn banes sicr iddo brophwydo yn Babilon. Prophwydodd Ezeciel yn Caldea, a Jeremiah yn Judea a'r Aifft. 4. Er fod pob prophwyd ar ryw olwg yn weledydd etto, ni elwir y gweledyddion yn brophwydi. Yruddengys mai y gwa- haniaeth rhyngddynt oedd, fod y gweledyddion yn cael dadgudd- iad o bethau dyfodol fel canlyniadau i amgylchiadau neillduol perthynol i blant Israel fel cenedl, ac yn cael ei anfon gan Dduw ar negesau neillduol yn y cyfryw amgyichiadau ond nid oeddynt yn gallu rhagfynegu pethau a gymmerent le mewn oesoedd ar eu hol, a phethau tu hwnt i amgyffred dynion i'w rhagweled heb ddwyfol ysbrydoliaeth, megys Esaiah, Jeremiah, Ezeciel, ac ereill, v rhai oeddvntbroDhwvdi mewn modd Driodol. BACHGENVN MAIN. Ateb i Ddychymmyg Gelodydd. Dywedwch wrth Gelodydd, Er nad wyf fawr o brydydd, A hyny hefyd heb ddim gwg, Mai Mwg i gyd a genfydd. MORGAN Y BADWR.

.CAN 0 GLOD

UN ARALL AR YR UN TESTUN.

STOCKTON.