Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

TJNDEB RHWNG YR ENWADAU YMNEILLDUEDIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TJNDEB RHWNG YR ENWADAU YMNEILL- DUEDIG. GWNAETHOM ychydig sylwadau yr wythnos ddi- weddaf ar y pwnc hwn, yr hwn a grybwyllasom ei fod yn cael svlw y dyddiau hyn yn y papyrau Seisnig ■crefyddol. Gallasem grybwyll hefyd fod Mr. Lewis, Rhumni, wedi dwyn y peth i sylw y Cymry, yn ei Lyfr, mewn atebiad i Mr. Hughes, Pen main ac y c y mae yn debygfod Mr. H. Hughes (Tegai) yn beirn- iadu anerchiad Mr. Lewis yn y Faner," yr hyn nad ydym ni wedi ei weled etto. Beth bynag, ein gwaith ni yr wythnos hon ydyw, gwneyd ychydig sylwadau y 0 pellach, at yr hyn a ddywedasom yr wythnos ddi- weddaf, a hyny yn gwbl annibynol ar yr hyn a ddy- wedwyd ac a ddywedir gan ereill. Wedi i ni jddangos yn fyr a sathredig yr wythnos ddiweddaf, fod yr en- wadau ymneillduedig yn lluosog, yn gryf, yn ddysg. edig, yn ddylanwadol, &c., darfu i ni ledgrybwyll y buasem yn sylwi yr wythnos hon ar ba dir y gall yr enwadau hyn fod yn unol; hyny yw, na byddo un "asgwrn y gynhen yn bodoli rhyngddynt. Yn awr, gadawn y Presbyteriaid heb son yn neill- duol am danynt, ond bydd i ni gadw o flaen ein llygaid yn fwyaf pennodol yr Annibynwyr a'r Bed- yddwyr. Dyma y ddau enwad o Annghydffurfwyr ag yr edrychir arnynt yn fwyaf cilwgus gan y rhai sydd yn eydio crefydd a'r wladwriaeth wrth eu gilydd. Yn sicr nid peth bach i edrych arno yw, dau enwad yn unig o Annghydffurfwyr yn meddu dros 6,000 o eg- lwysi, a channoedd o aelodau, a gwrandawwyr yn mhob un o'r rhai hyn ar y cyfartaledd, a'r rhai hyn oil yn dywedyd fod undeb y wlad a chrefydd yn ddrwg, ac annghyfreithlon, am ei fod yn anysgrvth- yrol. Nid cymmaint o ofn y fam sydd ar yr Huntingdoniaid, y Wesleyaid, a'r Trefnyddion Cal- finaidd, gan eu bod yn gweled nad ydynt wedi ym- neillduo yn mhell iawn ac wrth yr olwg bresenol, Jijd ydynt lawer yn mhellach, ac felly nid yw hi yn gwbl anobeithiol na fydd iddynt ddyfod yn ol etto, fel plant da, i fyw dan ei chronglwyd foethus, a chyf- addef eu beiau a'u ffolineb am fyw ar grwydr cyhyd. Ond am yr Annibynwyr, nid oes obaith am iddynt ddyfod yn ol byth; ac am y Bedyddwyr, mae yr Eglwys Sefydledig yn gwybod na fuont hwy o'i ttewn hi erioed, ac felly nid oes y gradd lleiafo obaith iddynt fod yn unol a hi; a'r sect hon yw y sect waethaf o bob sect yn ngolwg yr Episcopaliaid, am ei bod yn ymwrthod a phob math o draddodiadau dynol. Mae y "Cymro" (cyhoeddiad bach o eiddo vr eglwys, a gyhoeddir yn Ninbych), yn cyfaddef o hvd, mai dyma y sect waethaf o lawer o'r holl sectau Wrth gwrs, am y rheswin a ddywedwyd uchod, y maent y rhai gwaethaf. Wel, i fod yn fwy neilldnol gyda ein pwnc, gofyn- Wn, A oes modd, neu, a ydyw yn beth tebygol, y gellir cael gweU ac agosach undeb rhwng yr An- nibynwyr a'r Bedyddwyr nag sydd yn bodoli rhyog- ddynt yn bresenol, heb i'r naill enwad niweidio y Hall, ae heb i'r naill na'r Hall o honynt aberthu yr egwydd- orion a broffesant yn bresenol ? I hyn yr atebwn ar uuwaith, I Nad yw yn bosibl i agosach ttndeb fodoli rhyngddynt, heb i rywbeth gael ei aberthu gan y naill blaid neu y lIall, neu i'r ddwy blaid aberthu ychydig bob tu; ac felly, gwneyd cyf- addawd (compromise). Am gompromiso, nid ydym yn gweled v gwna, nac y gall y Bedyddwyr, tra fyddont yn Fedyddwyr, wneyd y fath beth ac am y peth cyntaf, nid oes eisieu arnynt aberthu dim ond un peth, er Lod yn gwbl fel yr Annibynwyr, sef yw "yny, taenellu ar fabanod, vn He bedyddio y credin- fy > ac o'r tu arall, nid oes dim gan yr Annibynwyr I aberthu ond un peth, er bod yn hollol fel y Bedydd- wyr; sef, bedyddio y crediniol, a gadael heibio taenellu ar fabanod. Neu, os compromiso, y ffordd i wneyd hyny oreu, tyddai rhoddi taenellu a bedyddio heibio o gwbl, ac yna byddem yn dyfod a fewn i ychydig yn Gwaceriaid. Ond a oddef gair Duw i ni wneyd hyny, heb ei aberthu ef ? Efallai fod rhai yn barod i ddywedyd mai fel y canlyn y gallwn ni gompromiso oreu, sef i'r Bedyddwyr a'r Annibynwyr newid capeli i bregethu gweinidogion y Bedyddwyr i bregethu, tori bara, a bedyddio, neu daenellu, fel y byddo y bobl a'r amgylchiad yn gofyn; a gweinidog yr Annibynwyr i bregethu, tori bara, bedyddio neu daenellu, fel y byddo y bobl a'r am- gylchiad yn galw. Neu, ynte, fel hyo,-fod i'r pre- gethwyr a'r aelodau gymmysgu a'u gilydd; ac os byddai taenellu neu fedyddio i gymmeryd lie, i wein- idog y taenelliad i daenellu, a gweinidog y trochiad drochi; ac felly i oddef eu gilydd, yn ngwydd eu gilydd, yn ddystaw a chariadus a pheidio son yn y pregethau, nac yn un lie arall, am daenellu a throchi. Wel dyna. feI byddai compromiso a chymmysgu yn ddiesgus Yr ydym yn gwybod pe byddai i'r Bed- yddwyr gynnyg at y fath gymmysgwch —yr hyn ni wnant byth—na fyddai iddynt aros ynddo am gwpl o wythnosau, chwaethach cwpl o flynyddau. Wei, ar ba dir ynte y gellir cael gwell undeh? A ydyw y peth yn gyrhaeddadwy ryw ffordd ? I hyn yr atebwn etto ein bod yn gweled ei fod yu alluadwy, a hyny ar un tir yn unig, a hwnw yw y tir canlynol 1. Mae pawb dysgedigion, o bob enwad cristion- ogol, nid yn unig yn addef, ond yn profi, fod trochi y crediniol yn ysgrythyrol. 2. Mae pawb dysgedigion yn cyfaddef, o angen- rheidrwydd felly, nad oes un siampl na gorchymyn pendant am daenellu ar fabanod-yr ydym yn ar- feryd yr un geiriau a Dr. Lewis, Annibynwyr neu, mewn geiriau ereill, nad yw y fatn beth a bedyddio, neu daenellu babanod, i'w gael, ali weled, yn y Test- ament Newydd, neu yr holl Feibl. 3. Fe welir, ynte, nad oes un ddadl yn nghylch Z2 bedyddio trwy droehiad, nac yn nghylch y credinwyr, fel deiliaid cymhwys i'r ordinhad. Gan hyny, nid oes achos i'r Annibynwyr wneyd dim ond taflu ymaith o'u dwylaw y peth ag sydd yn gwbl ansicr, ac ymarferyd y peth sydd yn wir sicr yn ol eu golygiadau hwy eu hunain, er i'r ddau enw- ad fod yn gwbl unol eu golygiadau am ymarferiadau ac athrawiaethau crefydd Crist; sef yw hyny, fel y gwelir, bedydd, neu yn hytrach, daenellu ar fabanod. Ni fyddai yn un golled ysbrydol, na nemawr o golled dymhorawl, iddynt hwy, na dim i'r babanod bach,trwy daflu y fath ddefod o'r neilldu am byth. Nid yw yr Annibynwyr, fel y credwn, yn golygu fod eu babanod un mymryn yn well ar ol y taenellu acnid ydynt yn meddwl fod babanod y Bedyddwyr un gro- nvn yn waeth, er eu bod heb eu taenellu. Nid ydym yn credu fod ein brodyr, yr Annibynwyr, yr un farn am effeithiolrwydd taenellu ar fabanod ag yw y faro a goleddir gan y Pabyddion, Eglwys Loegr, y Luther- iaid, &c.; sef, yn fyr, eu bod, y babanod, yn cael gras cadwedigol yn y ddefod, a'u bod yn cael eu llwyr waredu oddiwrth lygredigaeth a cholledigaeth trwyddi. O'r tu arall, pe byddai iddynt fel enwad adael y fath ddefod anysgrythyrol heibio, rhoddent ergyd a glwyfai ei phea a'i chalon iBabyddiaeth, yn nghyd ag archoll anfeddyginiaethol i'r eglwys a'r wladwriaeth o herwydd y mae taenellifar tabanod, yn ol athraw- iaeth y Pabyddion a'r Episcopaliaid, yn brif golofn i ddal y ddwy gyfundraeth ar eu traed. Dyna ynte, yr unig ffordd, yn ngolwg y Bedydd- wyr y dydd heddyw, i gael undeb rhwng y pleidiau hyn, a chael crefydd yn burach hefyd oddiwrth draddodiadau. Bydd I i ni sywli etto ar y pwnc hwn, fel y byddo amser ac amgylchiadau yn galw arncm. A cy byddai yn dda genym glywed oddiwrth, a chael ys- grifau byr a chynnwysfawr gan rai o'n gohebwyr gaUuog ar y peth hwn. 0

YMDDYDDANION Y TEULU.