Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD LLENYDDOL YSGOL SILOH,…

EISTEDDFOD UNDEBOL BEDYDDWYR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD UNDEBOL BEDYDDWYR MERTHYR TYDFIL. Cynnaliwyd yr Eisteddfod uchod yn y Tabernacl, dydd Nadolig diweddaf. Llywydd, y Parch. B. Lewis, Bethel) Trefnydd, Mr. D. Oliver, Morgan Town. Beirniaid yr Awdl, Mr. Aneirin Jones (Aneurin Fardd). Beirniad y Bryddest, &c., y Parch. J. E. Jones (loan Emlyn). Y Gerddoriaeth, Mr. Rees Lewis, Caerdydd. Cariwyd gwaith y dydd yn mlaen fel y canlyn. Cyfarfod 10 o'r gloch. Yn laf, canwyd pennill o'r gerdd genedlaethol. 2. Anerchiad i'r cyfarfod gan yr hen fardd Ifor Cwmgwys." 2. Adrodd Mercy, gan blant dan ddeuddeg oed. Saith yn cystadlu y goreu Richard Price, ail oreu, Eliza Stephens. 4. Canu Deuawd o Anthem Manches- ter. 11 o gwplau yn cystadlu, y goreu, S. Edwards, a'i gyf- aill. 5. Beirniadaeth Englyn i'r Cof. 11 yn cystadlu y goreu, John Price. 6. Canu yr Hen dderwen," tair yn cystadlu rhanwyd y wobr rhwng Sarah Edwards ac. Eliza Phillips. 7. Adroddwyd darn o gywydd Gwraig Lot. 5 yn cystadlu rhan- wyd y wobr rhwng, John Williams a D. Phillips. 8. Beirniad- aeth y pum pennill i Danchwa Cethin. 8 yn cystadlu; y gorau, H. James (Gwerfyl). 9. Canu y Milwr Clwyfedig, gan goreu plant. 3 chor yn cystadlu, y goreu Cefn Juvenile Choir. 10. Beirniadaeth can i Cored newydd y Plymouth. 6 yn cystadlu y goreu James Thomas. 11. Canu Llydaw gan hen ddynion uwchlaw 52 oed. Un cwpl ddaeth yn mlaen, a chawsant y wobr. 12 Canu pennill o'r gerdd genedlaethot i derfynu y cyfarfod. Y cyfarfod 2 o'r gloch. Yn 13, Canu Pennill, &c. 14. Anerchwyd y cyfarfod gan G. Lewis. 15. Canu Triawd, Pa Dduw sydd fel tydi, &c. 8 plaid yn cystadlu; y goreu W. Watkins ali gyfeillion. 16. Imortality of the Soul. 7 yn cys- tadlu y goreu, Christmas Evans, yrail—Rhanwyd yr ail wobr rhwng Keziah Williams laf a Keziah Williams yr 2il. 17. Canu Morfa Rhuddlan un yn canu, sef Alawen, a chafodd y wobr. 18. Beirniadaeth y Bryddest ar Effeithiau Niweidiol y Rhyfel, &c. 4 yn cystadlu; y goreu D. Jones (Dafydd Mor- ganwg). 19. Darllen Ton. 4 plaid yn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhwng James Thomas a'i gyfeillon, a Thomas Morris a'i gyfeillion. 20. Adroddwyd y Gwr Llariaidd a'r Wraig Annyri. ad 5 plaid yn cystadlu Rhanwyd y wobr rhwng loan Lleirj a Phrisila, ac Asaph a Gwenfron. 21. Full Fathom five. 7 Plaid yn cystadlu y goreu Jane Watkins a'i chyfeillion. 22. Canu Bywyd yr Unig. 5 yn cystadlu y goreu Asaph Cynon. 23. Canu Softly fall the shades of evening. 6 cor yn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhwng c9r)#iPn> Bethel, ac Einon. 24. Canu peunill o'r gerdd Geriftdl^efhol. Y cyfarfod 6 o'r gloch. *25. tT«nu pennill o'r gerdd genedl- aethol. Anerchiad gan James Thomas. 26. Canu unawd, Er i'r ffigysbren, &c. 9 yn cystadlu, y goreu W. Watkins. 27. Adroddwyt! y Cybydd a'r Wraig Haelionus. 7 cwplyn cystadlu goreu Dewi a Mair, ail oreu Jonathan a Dinah. 28. Canu Alderman's thumb; 3 plaid yn cystadlu, gwobrwywyd W. Morris, a'i gyfeillion. 29. Beirniadaeth ar Awdl Farwnad Cawr Cynon 3 yn cystadlu, y goteu Rhisiard ddu o Wynedd.. 30. Canu Deuawd, Clywch 'y si sydd yn y goedwig. 4 cwpl yn cystadlu; y goreu Hannah Evans a'i cbyfeilles. 31. Canu unrhyw Ddifyrgan (catchJ saith plaid yn cystadlu, y goreu Thos. Jones a i gyfeillion. 32. Araeth Byrfyfyr; testun, Pob peth. Wyth yn cystadlu rhanwyd y wobr rhwng J. Evans, a D. Williams. 33. Canu Anthem, Can Debora, pedwar c6ryn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhwng corau Ebenezer a Silo. Ac felly terfynwyd gwaith y dydd. Yr oedd y cynnutliadau yn hynod o fawr, yn neillduol am chwech—yr oedd y He yn orlawn. Dangosodd y Llywyddion a'r Beirniaid fedrusrwydd mawr yn nghyflawniad eu swyddau. Yr oedd medrusrwyddy cystadleuwyr hefyd yn dangos eu bod wedi llafurio yn ddies- gus. Yroedd clywed y Beirniad medrus, Mr. Rees Lewis, mor fanol yn nodi ffa«-leddau, a rhagoriaetbau y cerddorion, yn profi ei fod yn tneddu galluoedd cymhwys i'r gwaith, ac nad, oedd ganddo fawr amser i edrych o'i ddeutu, tra'r oedd y cys- tadleuwyt* yn ymdrechu am y dorch. Yr wyf yn credu bod pawb o honom wedi cael ein boddloni, oddieithr y cystadleuwyr aflwyddiannus; bid sicr yr -oedd yn rhaid iddynt hwy gael achwyn ychydig ar absenoldeb (?) Mr. Whare tfcy.rhaggwneyd ein Heisteddfod yn eithriad yn mhlith Eisteddfodau y dywys- ogaeth. B. DAVIES, Ysgrifenydd.

NEILLDUAD aWEINIDOG YN ZOAR,…

YMDDYDDANION Y TEULU.