Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

[No title]

PEN. II.

I DOSRANIAD GEIRIAU,

ENW.

RHIF.

TREFFYNNON A'I HAMGYLCHOEDD

LLYTHYR 0 CARSON CITY.

HYNT Y BEDYDDWYR YN Y GOGLEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYNT Y BEDYDDWYR YN Y GOGLEDD. Er fod y Bedyddwyr yn llai o nifer yn y Gogledd na'r De- heubartb, fe fydd yn dda gan lawer o'n brodyr anwyl yn y Deheu i glywed fod rhyw olwg myned ar gynnydd arnom yn y Gogledd yn y dyddiau hyn. Y mae yn ddrwg genyf ein bod mor ddigyffro gyda symudiad pwysig y Ddwy fil;" er hyny, y mae symudiadau pwysig yn ein plith. Symudiad go bwysig oedd sefydlu athrofa newydd yn Llangollen, ac y mae yn llawen genym feddwl ei bod yn dod yn mlaen yn llewyrchus iawn. Y mae ein gwyr ieuainc yn llafurus, ac yn cynnyddu fel cedrwydd yn Libanus. Er nad oes rhyw lwyddiant mawr yn ein plith, etto y mae rhyw ychydig yn barhaus yn cael eu bedyddio yn y rhan fwyaf o eglwysi y Gogledd. Y mae mwy o adeiladu capelydd yn y Gogledd nag a fu erioed. Y mae y cyfeillion yn Ffestiniog yn dechreu adeiladu addoldy cyfleus mewn ardal lie y mae m I- oedd o ddynion y mae y cyfeillion yn Llanddoget, ger Llaln- rwst, yn bwriadu cael addoldy newydd yn ddioed, ac y mae mawr angen am dano. Y mae capel newydd wedi ei wneyd yn ddiweddar iawn cydrhwng Llangerniw a Llanfair Talhaiarn, mewn dyffryn hardd lie nad oedd un addoldy o fewn milltir- oedd. Y mae Mr. Anwyl, Bodgynwch, yn haeddu parch a diolch am gynnyg lie mor ddymunol i'r Bedyddwyr yn ymyl ei balas, yn nghyd a llawer o garedigrwydd heblaw hyn. Bu Mr. Robert Roberts (brawd y Parch. Moses Roberts, Felin- foel), er nad yw ond aelod cyffredin, yn llwyddiannus i gasglu ugeiniau o bunnau at y capel newydd hwn. Casglodd dros 40 punt yn y Deheubarth, a gwnaeth y cwbl yn onest a ffyddlawn. Yr wyf yn gallu sicrhau hyn, gan fy mod yno yr wythnos ddiweddaf. Y mae capel newydd yn cael ei adeil- adu yn Llanfair Talhaiarn, un o'r dyffrynoedd tlysaf yn sir Dinbych. Y mae addoldy Saesneg mawr ac arddercbog yn cael ei adeiladu yn Rhyl. Cefais gyfle i weled addoldy newydd Abergele y mae yn adeilad hardd, digou i gynnwys 500 neu ragor o wrandawwyr. Y mae dau cant punt wedi eu casglu yn barod ato. Y mae capel newydd yn cael ei adeiladu yn Ngholwyn, ychydig filltiroedd o Abergele. Y mae capel newydd at wasanaetb y Saeson newydd gael ei adeiladu yn Llandudno. Y mae capel newydd hardd, newydd gael ei adeilad'u yn Llangoed, Mon. Y mae addoldy newydd ardderchog iawn newydd gael ei agor yn Amlwch. Er i mi weled cannoedd lawer o gapelydd, rhai prydferth, yn Morgan- wg a manau ereill. y mae addoldy Amlwch bron yn rhagori ar bob un a welais erioed. Y mae yn anrhydedd i daste Mr. Palmer, yn nghyd ag creill a fuont yn ei gynllunio. Adeilad- wyd addoidai heirdd yn ddiweddar yn Penysam, yn Rhosybol, Llanddeusant, Pont-Rhypont, a Chaergybi, yn ngbyd ag ereill yn ynys Mon. Nid oes llawer o amser er pan adeiladwyd