Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

GOHEBIAETH 0 MOUNTAIN ASH.

Y CYNHWRF EISTEDDPODOL.

LLYFR TONAU CYNNULLEIDFAOL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYFR TONAU CYNNULLEIDFAOL AT WASAN- AETH ENWAD Y BEDYDDWYR. At Mr. Asaph Glyn Ebwy. ANWYI, SYR,—Crybwyllwyd yn ddiweddar yn y SEREN am Lyfr Tonau Cynnulleidfaol at wasanaeth ein henwad fel Bed- yddwyr, gan R. Lewis, Caerdydd, ac ereill; a meddyliasom y pryd hwnw y buasai'r bwlebyn cael ei lanw. Otid erbyn heddyw, yr ydym yn ofni fod y cwbl wedi syrthio i'r llwch, a ninnau yn sefyll mewn mawr angen am y cyfryw. Cawsom ar ddeall yn y SEREN yn ddiweddar fod yr enwog J. R. Morgan (Lleurwg) wedi ymgymmeryd a'r gwaith o wneyd Llyfr Hymnau at ein gwasanaeth, a da iawn genym weled yr antur- iaeth, a dymunwn lwyddiant iddo o eigion calon. Ond pa beth am y Llyfr Tonau, frodyr ? Y mae yn beth gwrthun iawn i flaenoriaid canu orfod myned i faesydd enwadan ereill i loffa tônani ganu yn ein cynnulleidfaoedd; ac yr ydym yn dra sicr fod yn ein plith fel enwad o Fsdyddwyr gerddorion mor tedrus agun enwad trwy Gymru benbaladr. Gan hyny, yr ydym ni, y rhai y mae ein henwau isod, yn cynnyg ac yn dymuno arnoch chwi, Mr. Asaph Glyn Ebwy, gymmeryd y peth o dan eich sylw, a chymmeryd at y gorchwyl eich hunan a gwydd- om fod cannoedd o'ch brodyr yn barod i eilio y cynnygiad. Felly, terfynwn ar hyn o bryd, gan obeitbio cael llinell neu ddwy oddiwrthych ar y mater, a hyny yn fuan, trwy gyfrwng SEEBN CYMRU. Ydym, yr eiddoch, &c., JAMES. REBS, Ysgrifenydd. DAVID WALTERS, Henaf, DAVID WALTERS, leu., WILLIAM JONES, Blaenoriaid Canu Penuel, Cwmafon.

YMGOMIAD BYR A MR. LL. JENKINS,…

i.■■ ENGLYN Pit SABBATH.

.ARALL I "SEREN CYMRU."

ARALL I IESU GRIST.

DEG PENNILL

HYNT Y BEDYDDWYR YN Y GOGLEDD.