Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

AT EIN GOREBWYR, &c. Ruf DERBYNIADAU.—Yr Huguenot Johh Brynmôl-Roger Thomas—Parch.John Evans—Deon—Adolphus—Gwrandawwr —Dewi—Rufus—W. Morgan—Bunyan—M. B.—Parch. D. Morris, &c. PARCH. THOMAS THOMAS.—Derbyriiwch ein diolchgarwch am eich addewid garedig; mae eich caredigrwydd chwi a'ch cyn- nyrchion yn wir dderbyniol genym ni a'n darllenwyr. OWEN RICHARDS.—Mae yn ymddibynu yn holiol ar pa faint o Phariseaeth sydd yn yr ysgol. Yr ydym ni wedi bod yn yr arferiad o ddosparthu SERRN GOMIR, yr Athraw bach, &c., yn yr ysgol trwy y blynyddnu, ac ni welsom rhyw ddrwg mawr yn deilliaw o hyny a goddefwch i ni ddywedyd gair, pe byddem niyn cau yr Ysgolion Sabbothol yn erbyn llenyddiaeth grefyddol Cymru, gel lid o fewn tymbor bychan iawn ymattal rhag argratfu unrhyw lyfr Cymreig o gwbl. Ein Hysgolion Sabbothol sydd yn cadw ein llenyddiaeth yn fyw. Cauwch ddrws yr Ysgol Sul, a rhaid i'n llenyddiaeth farw. Felly, chwi welwch ein bod ni yn ateb eich gofyniad yn gadarnhaol. PARCH, JAMES JAMER.-Di.)ch yn fawr i chwi am draethodau buddugol Eisteddfod Colwyn. Nid ydym etto wedi cael ham- dden i'w darllen ond, er hyny, diolchwn yn wresog i chwi am danynt, a chant ein sylw dioed. ELIAs.-Cailf ein sylw mor fuan ag y byddo modd. BKIRNIAIJAETH GLYN NEDD.—Mor fuan ag a allwn. WILLIAM MORGAN.—Pe byddai i ehwi dda) ary cyfarwyddiadau gwelwch ar unwaith nad oes dim i fyned at y Cyboeddwr heb fyned trwy law y Golygwyr, ond Hanesion, a hyny yn unig er mwyn arbed amser; ond mae pob traethodau, gohebiaethau, gofyniadau. atebion, &c., i fyned trwy ddwylaw y Golygwyr. Nid yw y Cyhoeddwr yn proffesu bod yn gyfrifol am y thai hyn, o* na fyddant wed! eu Mawnodi gan un o'r Golygwyr. Ond mae rhai o'n gohebwyr mor anfoneddigaidd a balch a danfon eu pethau i'r Swyddfa, gyda y gorchymyn arferol, am iddynt gael ymddangos yii y" SRREN nesaf yn ddiffael." Mae y Cy- hoeddwr weithiau yn danfon y cyfryw yn ol i'r Golygwyr, neu fe ddiebon yn eu cyflivyno i'r Printer's Devil, er sychu y rollers. Mae gair yn ddigon i gall. Os ydych am gael sylw i'ch gohebiaethau, bydded i ni gael goiwg arnynt. Cofiwch befyd nad yw y Cyhoeddwr yn proffesu cydnabod derbyniadan mae yr enwau a welwch yn y golofn hon oil yn perthyn i'r Golygwyr, ac nid i'r Cyhoeddwr. Mae gan y Cyhoeddwr ddigon o waith heb ofalu am y pethau hyn. BUNT AN.—Mae Heresiaeth yh golygn cyfeiliornad oddiwrth y gwirionedd fell}*, yr ydych yn iawn yn eich darnodiad o Hereticiaid. AT KIN GOHEBWYR AWENYDDOL. Yr ydym yn ddiweddar wedi derbyn cryn faich o bob peth o dan yr enw Barddoniaeth. Tra yn teimio yn ddiolchgar i'n gohebwyr, etto nis gallwn lai nag annog llawer o honynt i fyfyrio mwy, i ddysgu ysgrifenu yn well, ac i fydryddu yn fwy rheolaidd, cyn meddwl am anfon eu cynnyrchion i'r wasg. Yr ydym wedi derbyn yn ddi weddar y rhai canlynol MORFIL, Pontypridd.-Digon i ddangos pa fath awenydd yw y Morfil hwn yw y llinellau canlynol Dychymmyg, os wy'n cofio, Nid oedd yn hynod iawn, Ond falloyn ri hynod I fi ei hateb 'n iawn." SIOR GWENFFRWD.—Rhyysgafnyn wir, "Sior" bach ceisiwch etto. LLWVD-Y-BAW.—Y mae y brawd sawyr-ber yma wedi anfon Gofiniad," gyda dymuniad taer ar ei An wil- adael Yr bin a ganlin ymddangos yn SKREN ÇYMRU. Yr ydym wedi gosod y Gofiniad" mewn lie diogel, fel y gaHom oi gyboeddi pan fydd Llwyd-y-baw mor garedig ag egluro beth yw meddwl y llinell yma,— Fe gilia yn angeu o'r golwg heb gel." CRWYDRYN, Pontypridd.—Gwael dros ben. ROSYNOG, Tirdeunaw.—Er nad ydyw eieh can yn cwbl gyfateb i'r hyn a ddysgwyliasem i enghraifft o lawer o farddoniaeth sydd genych yn eich dydd-lyfr, agy bwriadwch, "arannogaeth lluaws o gyfeillion," y rhai a ystyriwch yn ddynion o feddwl, chwaeth, a darfelydd barddonol," fod, etto cailf ymddangos yn ei thro. DAI O'R WLAD.—Rhy wallus. GWYDDON BACH.' -Diwygiweh eich englyn, yn enwedig y drydedd linell, ac antonwch ef i ni. MARY W ALLTER.-Lled dda, Mary; y mae yn y Swyddfa. IORWKRTH AP GWILYM.—Bydd i'ch cyfansoddiad chwi gael sylw priodol wedi i chwi anfon i ni ddwy geiniog bapyr yn lie y ddwy geiniog fu raid i ni dalu am eich Ilythyr. f Er ys ychydig amser yn ol, derbyniasom sypyn o gyfansoddiadau buddugol oddiwrth Mr. Isaac Benjamin, Rumni a rhaid i ni ddywedyd wrtho ef, fel wrth "Iorwerth ap Gwilyin," y cailf cynnyrchion ei awen eu hanfon i'r wasg ar ol iddo ef anfon i ni y chwe cheiniog orfu arnom dalu am ei sypyn. Er mwyn arbed amser a thrafferth, bydded i'n Gohebwyr anfon eu cynnyrchion, yn ol eu gwahanol dueddiadau, M y canlyn :— 43t- Pob hanesion—crefyddol a chymdeithasol, archebion, a thaliadau, i Mr. W. M. Evans, Seren Cymru Office, Car- marthen, Y TRAETHODAU, GOHEBIAETHAU, &C.—Rev. T. FRICB, ITOSE COTTAGE, ABERDARE. T e- YR YSGRIFAU EGLWYSIG, o nodwedd yr erthyglau ar- weiniol Eglwysig, &c., — Rev. B. EVANS, PENYDREP HOUSE, NEATH. Y FARDDONIAETH,—Rev. J. R. MORGAN (Lleurwg), I,LANELLY, CARMARTHENSHIRE. T ALIADA U Derbyniwyd taliadau oddiwrth-R. D. Caerodor, 1. J. Llan- efydd, J. F. Nantyglo, J. J. Pentre Estyll, S. M. Bedwellty, B. T. Castellnawydd Emlyn, E. S. Dafen, B. E. Wern Wen. DAIjIEH. STLW. Teimlem yn ddioAchgar i'n dosparthwyr ffyddlawn am ymdrecbu cael rhif y derbyn wyryn 4, 9, 13, &c., gan yr arbedai hyny lawer yn y cludiad. Lie nad yw y derbynwyr yn ateb i'r rhif uchod, ymdrecher cael derbyniwr neu ddau yn ychwaneg, er gwneyd y rhif i ateb i'r uchod.

YR WYTHNOS

ARAETH Y FRENINES.

Family Notices

[No title]

[No title]