Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

YR WYTHNOS

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR WYTHNOS DDARLLENYDD anwyl, a fuaist ti eiioed yn Crewe ? Yr ydym yn awr yn ysgrifenu yn y lie rhvfedd hwn. Mae yma bob peth i'w gael. Galletn feddwl mai dyma ganol- fan holl geffylau tan y greadigaeth. Maent yn cychwyn oddiyma i Gaergybi, Llerpwl, Amwythig, Birmingham, Caerodor, Manceinion, Llundain, a Llanrwst. Mae Crewe yn fath o gwch gwenin anferth o fawr,-yn dàl pob peth o bob natur o dan haul. Dyma ger ein bron y "Times," Standard," Y Seren Foreu," a'r Seren I Hwyrol, Post Birmingham," Examiner Manchester, Punch a Fun y cwbl o gymmeriadau y lien led- an, o daranwr mawr y Printing House Square'' hyd y ge;niogwerth ddiweddaf; y eyfrolau duwinyddol o Es- honiad Dr. Gill hyd wibedyn Colenso ac o'r novel tair cyfrol hyd "lJac kthe Giant Killer." Wel, (Jyma le yn iawn i ysgrifenu crynodeb o newyddion yr wythnos, yn nghanol holl newyddion y byd, a sir Aberteifi hefyd ond beth dâl son, mae genym yr wythnos hon lon'd berfa drol o lythyron oddiwrthein cyfeillion caredig yn dymuno ac yn gorchymyn i'w hysgrifau hwy gael ymddangos yn y rhifyn nesaf yn ddiffael." Yn wir, yn wir, mae hyn yn antnhosibl ond er cael mwv o le, caiff ein stori ni fod yn hynod o fyr. Yr ydym wedi meddwl weithiau am fyned i gwsg golygyddol am fis, er mwyn cael clirio y awyddfa am unwaith ond y mae Henri Dafydd y Crydd wedi ein dysgu mai gwell cadw digon o waith ar law, serch gorfod Ilyncu tipynau o gawl tafodau. Wel, o ddifrif felly, mae y Senedd wedi ei hagor. Ag- orwyd hi, ac aeth y noson gyntaf heibio mor ddiniwed a chawl erfin. Cawn, yn ol pob; tebvg, eisteddiad tawel iawn. Mae Arglwydd Derby a Mr. Disraeli yn hynod 0 ddifywyd. Hyd yn hyn nid oes dim rhyw lawer i'w ddysgwyl, ond yr ydym wedi cael digon i'n darbwyllo na fydd dim o bwys i gymmeryd Ile eleni. Mae priodas Tywysog Cymru i gymmeryd lie y lOfed o Fawrth, ac y mae darpariadau mawrion yn cael eu gwneyd er llongyfarch yr amgylchiad hwnw. Mat: ein newyddion o America heb feddu nnrhyw nod- wedd newydd. Mae brenin Prwsia wedi ateb y Senedd yn daeogaidd ac anfoneddigaidd. Mae y terfysg yn para yn Poland, ac amryw ysgarmesion wedi dygwydd, ond heb y gobaith lleiaf anj fod yn llwyddiannus yn y diwedd. Mae yn dda genym alw sylw yr wythnos hon at Yr Eisteddrod." Mae pwyllgor Ileol Abertawe wedi cyd- nabod eu camsyniad, trwy benodi pwyllgor o Gymry i nodi ychydig o destunau Cymreig ychwanegol, tra y mae y testunau i'w hysbysu yri "Baner Cymru "a'r Gwlad- garwr." Wel, dyma ychydig o welliant. Mae y Western Daily Press wedi rhoddi cerydd llym iawn i ni, am ein nodion mewn rhifyn blaenorolar y mater hwn. Geilwn i, A Rev Editor of a so called Welsh newspaper," a gosoda y ffrewyll ar ein cefn am feiddio beio y pwyll- gor; ond ein. cyfiawnhad ni yw, fod y pwyllgor wedi canfod yr un ffolineb ag oeddem ni yn ei nodi allan ac er yn ddiweddar, yn ceisio gwella y gwall hwn. Gall y Western Daily Press a'r pwyllgor benderfynu ein bod ni yn siarad iaith a theimlad 99 o bob 100 o'r Cymry ar y mater hwn.

ARAETH Y FRENINES.

Family Notices

[No title]

[No title]