Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
AT EIN GOREBWYR, &c. Ruf DERBYNIADAU.—Yr Huguenot Johh Brynmôl-Roger Thomas—Parch.John Evans—Deon—Adolphus—Gwrandawwr —Dewi—Rufus—W. Morgan—Bunyan—M. B.—Parch. D. Morris, &c. PARCH. THOMAS THOMAS.—Derbyriiwch ein diolchgarwch am eich addewid garedig; mae eich caredigrwydd chwi a'ch cyn- nyrchion yn wir dderbyniol genym ni a'n darllenwyr. OWEN RICHARDS.—Mae yn ymddibynu yn holiol ar pa faint o Phariseaeth sydd yn yr ysgol. Yr ydym ni wedi bod yn yr arferiad o ddosparthu SERRN GOMIR, yr Athraw bach, &c., yn yr ysgol trwy y blynyddnu, ac ni welsom rhyw ddrwg mawr yn deilliaw o hyny a goddefwch i ni ddywedyd gair, pe byddem niyn cau yr Ysgolion Sabbothol yn erbyn llenyddiaeth grefyddol Cymru, gel lid o fewn tymbor bychan iawn ymattal rhag argratfu unrhyw lyfr Cymreig o gwbl. Ein Hysgolion Sabbothol sydd yn cadw ein llenyddiaeth yn fyw. Cauwch ddrws yr Ysgol Sul, a rhaid i'n llenyddiaeth farw. Felly, chwi welwch ein bod ni yn ateb eich gofyniad yn gadarnhaol. PARCH, JAMES JAMER.-Di.)ch yn fawr i chwi am draethodau buddugol Eisteddfod Colwyn. Nid ydym etto wedi cael ham- dden i'w darllen ond, er hyny, diolchwn yn wresog i chwi am danynt, a chant ein sylw dioed. ELIAs.-Cailf ein sylw mor fuan ag y byddo modd. BKIRNIAIJAETH GLYN NEDD.—Mor fuan ag a allwn. WILLIAM MORGAN.—Pe byddai i ehwi dda) ary cyfarwyddiadau gwelwch ar unwaith nad oes dim i fyned at y Cyboeddwr heb fyned trwy law y Golygwyr, ond Hanesion, a hyny yn unig er mwyn arbed amser; ond mae pob traethodau, gohebiaethau, gofyniadau. atebion, &c., i fyned trwy ddwylaw y Golygwyr. Nid yw y Cyhoeddwr yn proffesu bod yn gyfrifol am y thai hyn, o* na fyddant wed! eu Mawnodi gan un o'r Golygwyr. Ond mae rhai o'n gohebwyr mor anfoneddigaidd a balch a danfon eu pethau i'r Swyddfa, gyda y gorchymyn arferol, am iddynt gael ymddangos yii y" SRREN nesaf yn ddiffael." Mae y Cy- hoeddwr weithiau yn danfon y cyfryw yn ol i'r Golygwyr, neu fe ddiebon yn eu cyflivyno i'r Printer's Devil, er sychu y rollers. Mae gair yn ddigon i gall. Os ydych am gael sylw i'ch gohebiaethau, bydded i ni gael goiwg arnynt. Cofiwch befyd nad yw y Cyhoeddwr yn proffesu cydnabod derbyniadan mae yr enwau a welwch yn y golofn hon oil yn perthyn i'r Golygwyr, ac nid i'r Cyhoeddwr. Mae gan y Cyhoeddwr ddigon o waith heb ofalu am y pethau hyn. BUNT AN.—Mae Heresiaeth yh golygn cyfeiliornad oddiwrth y gwirionedd fell}*, yr ydych yn iawn yn eich darnodiad o Hereticiaid. AT KIN GOHEBWYR AWENYDDOL. Yr ydym yn ddiweddar wedi derbyn cryn faich o bob peth o dan yr enw Barddoniaeth. Tra yn teimio yn ddiolchgar i'n gohebwyr, etto nis gallwn lai nag annog llawer o honynt i fyfyrio mwy, i ddysgu ysgrifenu yn well, ac i fydryddu yn fwy rheolaidd, cyn meddwl am anfon eu cynnyrchion i'r wasg. Yr ydym wedi derbyn yn ddi weddar y rhai canlynol MORFIL, Pontypridd.-Digon i ddangos pa fath awenydd yw y Morfil hwn yw y llinellau canlynol Dychymmyg, os wy'n cofio, Nid oedd yn hynod iawn, Ond falloyn ri hynod I fi ei hateb 'n iawn." SIOR GWENFFRWD.—Rhyysgafnyn wir, "Sior" bach ceisiwch etto. LLWVD-Y-BAW.—Y mae y brawd sawyr-ber yma wedi anfon Gofiniad," gyda dymuniad taer ar ei An wil- adael Yr bin a ganlin ymddangos yn SKREN ÇYMRU. Yr ydym wedi gosod y Gofiniad" mewn lie diogel, fel y gaHom oi gyboeddi pan fydd Llwyd-y-baw mor garedig ag egluro beth yw meddwl y llinell yma,— Fe gilia yn angeu o'r golwg heb gel." CRWYDRYN, Pontypridd.—Gwael dros ben. ROSYNOG, Tirdeunaw.—Er nad ydyw eieh can yn cwbl gyfateb i'r hyn a ddysgwyliasem i enghraifft o lawer o farddoniaeth sydd genych yn eich dydd-lyfr, agy bwriadwch, "arannogaeth lluaws o gyfeillion," y rhai a ystyriwch yn ddynion o feddwl, chwaeth, a darfelydd barddonol," fod, etto cailf ymddangos yn ei thro. DAI O'R WLAD.—Rhy wallus. GWYDDON BACH.' -Diwygiweh eich englyn, yn enwedig y drydedd linell, ac antonwch ef i ni. MARY W ALLTER.-Lled dda, Mary; y mae yn y Swyddfa. IORWKRTH AP GWILYM.—Bydd i'ch cyfansoddiad chwi gael sylw priodol wedi i chwi anfon i ni ddwy geiniog bapyr yn lie y ddwy geiniog fu raid i ni dalu am eich Ilythyr. f Er ys ychydig amser yn ol, derbyniasom sypyn o gyfansoddiadau buddugol oddiwrth Mr. Isaac Benjamin, Rumni a rhaid i ni ddywedyd wrtho ef, fel wrth "Iorwerth ap Gwilyin," y cailf cynnyrchion ei awen eu hanfon i'r wasg ar ol iddo ef anfon i ni y chwe cheiniog orfu arnom dalu am ei sypyn. Er mwyn arbed amser a thrafferth, bydded i'n Gohebwyr anfon eu cynnyrchion, yn ol eu gwahanol dueddiadau, M y canlyn :— 43t- Pob hanesion—crefyddol a chymdeithasol, archebion, a thaliadau, i Mr. W. M. Evans, Seren Cymru Office, Car- marthen, Y TRAETHODAU, GOHEBIAETHAU, &C.—Rev. T. FRICB, ITOSE COTTAGE, ABERDARE. T e- YR YSGRIFAU EGLWYSIG, o nodwedd yr erthyglau ar- weiniol Eglwysig, &c., — Rev. B. EVANS, PENYDREP HOUSE, NEATH. Y FARDDONIAETH,—Rev. J. R. MORGAN (Lleurwg), I,LANELLY, CARMARTHENSHIRE. T ALIADA U Derbyniwyd taliadau oddiwrth-R. D. Caerodor, 1. J. Llan- efydd, J. F. Nantyglo, J. J. Pentre Estyll, S. M. Bedwellty, B. T. Castellnawydd Emlyn, E. S. Dafen, B. E. Wern Wen. DAIjIEH. STLW. Teimlem yn ddioAchgar i'n dosparthwyr ffyddlawn am ymdrecbu cael rhif y derbyn wyryn 4, 9, 13, &c., gan yr arbedai hyny lawer yn y cludiad. Lie nad yw y derbynwyr yn ateb i'r rhif uchod, ymdrecher cael derbyniwr neu ddau yn ychwaneg, er gwneyd y rhif i ateb i'r uchod.
YR WYTHNOS
YR WYTHNOS DDARLLENYDD anwyl, a fuaist ti eiioed yn Crewe ? Yr ydym yn awr yn ysgrifenu yn y lie rhvfedd hwn. Mae yma bob peth i'w gael. Galletn feddwl mai dyma ganol- fan holl geffylau tan y greadigaeth. Maent yn cychwyn oddiyma i Gaergybi, Llerpwl, Amwythig, Birmingham, Caerodor, Manceinion, Llundain, a Llanrwst. Mae Crewe yn fath o gwch gwenin anferth o fawr,-yn dàl pob peth o bob natur o dan haul. Dyma ger ein bron y "Times," Standard," Y Seren Foreu," a'r Seren I Hwyrol, Post Birmingham," Examiner Manchester, Punch a Fun y cwbl o gymmeriadau y lien led- an, o daranwr mawr y Printing House Square'' hyd y ge;niogwerth ddiweddaf; y eyfrolau duwinyddol o Es- honiad Dr. Gill hyd wibedyn Colenso ac o'r novel tair cyfrol hyd "lJac kthe Giant Killer." Wel, (Jyma le yn iawn i ysgrifenu crynodeb o newyddion yr wythnos, yn nghanol holl newyddion y byd, a sir Aberteifi hefyd ond beth dâl son, mae genym yr wythnos hon lon'd berfa drol o lythyron oddiwrthein cyfeillion caredig yn dymuno ac yn gorchymyn i'w hysgrifau hwy gael ymddangos yn y rhifyn nesaf yn ddiffael." Yn wir, yn wir, mae hyn yn antnhosibl ond er cael mwv o le, caiff ein stori ni fod yn hynod o fyr. Yr ydym wedi meddwl weithiau am fyned i gwsg golygyddol am fis, er mwyn cael clirio y awyddfa am unwaith ond y mae Henri Dafydd y Crydd wedi ein dysgu mai gwell cadw digon o waith ar law, serch gorfod Ilyncu tipynau o gawl tafodau. Wel, o ddifrif felly, mae y Senedd wedi ei hagor. Ag- orwyd hi, ac aeth y noson gyntaf heibio mor ddiniwed a chawl erfin. Cawn, yn ol pob; tebvg, eisteddiad tawel iawn. Mae Arglwydd Derby a Mr. Disraeli yn hynod 0 ddifywyd. Hyd yn hyn nid oes dim rhyw lawer i'w ddysgwyl, ond yr ydym wedi cael digon i'n darbwyllo na fydd dim o bwys i gymmeryd Ile eleni. Mae priodas Tywysog Cymru i gymmeryd lie y lOfed o Fawrth, ac y mae darpariadau mawrion yn cael eu gwneyd er llongyfarch yr amgylchiad hwnw. Mat: ein newyddion o America heb feddu nnrhyw nod- wedd newydd. Mae brenin Prwsia wedi ateb y Senedd yn daeogaidd ac anfoneddigaidd. Mae y terfysg yn para yn Poland, ac amryw ysgarmesion wedi dygwydd, ond heb y gobaith lleiaf anj fod yn llwyddiannus yn y diwedd. Mae yn dda genym alw sylw yr wythnos hon at Yr Eisteddrod." Mae pwyllgor Ileol Abertawe wedi cyd- nabod eu camsyniad, trwy benodi pwyllgor o Gymry i nodi ychydig o destunau Cymreig ychwanegol, tra y mae y testunau i'w hysbysu yri "Baner Cymru "a'r Gwlad- garwr." Wel, dyma ychydig o welliant. Mae y Western Daily Press wedi rhoddi cerydd llym iawn i ni, am ein nodion mewn rhifyn blaenorolar y mater hwn. Geilwn i, A Rev Editor of a so called Welsh newspaper," a gosoda y ffrewyll ar ein cefn am feiddio beio y pwyll- gor; ond ein. cyfiawnhad ni yw, fod y pwyllgor wedi canfod yr un ffolineb ag oeddem ni yn ei nodi allan ac er yn ddiweddar, yn ceisio gwella y gwall hwn. Gall y Western Daily Press a'r pwyllgor benderfynu ein bod ni yn siarad iaith a theimlad 99 o bob 100 o'r Cymry ar y mater hwn.
ARAETH Y FRENINES.
ARAETH Y FRENINES. MAE Araeth y Frenines ar agoriad yr eisteddiad pre- seriol o'r Senedd wedi ei darllen gan ddirprwywyr penqdedig ganddi hi. Mae hon eleni yn ysgrif hollol ddiniwed, ac heb gynnwys cymmaint ag un syniad nad oedd o'r blaen yn adnabyddus i'n darllenwyr. Mae yn dechreu gyda chyfeiriad at briodas Tyw- ysog Cymru, gyda dymuniad am i'r senedd i wneyd darpariadau priodol ar gyfer y par ieuanc. Cyfeiria hefyd at ddymuniad y Groegiaid am gael y Tywysog Alfred yn Frenin, a noda fod rhwystrau gwleidyddol ar y ffordd i Alfred i dderbyn yr anrhydedd. Mae yn lled-awgrymu y bydd y trethi am y flwyddyn hon yn liai nag y maent'wedi bod. Mae hyn yn gysur i'r treth-dalwr, er nad yw y wybodaeth hon yn oewydd. Mae y cyfeiriad at America yn cadarnhau ein tyb- iaeth flaenorol, na fydd i'r wlad hon ymyraeth yn materion y taleithiau Americanaidd. Mae yr araeth yn datgan teimlad y weinyddiaeth o blaid rhoddi i fyny yr Ynysoedd Ionaidd, er ffurfio undeb a gwlad Groeg. Heblaw hynyna nid oes yn yr araeth ddim yn galw am ein sylw. Felly, mae yn dda genym i dori ein llith yn fyr, er rhoddi lie i rai o lawer o'r pethau sydd yn ein swyddfa yn aros am ymddangos ar dudalenau SEREN CYMRU.
Family Notices
GENEDIGAETHAU. Ion. 20, priod Mr. Owen Davies, Well-street, Dowlais, dos- parthwr SBREN CYMRU, ar ferch, yr hon a enwwyd yn Ann. Ion. 22, priod Mr. Wm. Owen, pwyswr, Glan-y-mor, Janelli, ar fab. Chwef. 1, priod y Parch. T. Jones, Penybryn, ar ferch, yr hon a enwwyd yn Marianna Louisa. PRIODASAU. Chwef. 5, yn Tabor, Brynmawr, gan y Parch. M. Phillips, yn mhresenoldeb Mr. T. Jones, cofrestrydd, Mr. Edward James a Miss Martha Thomas, y ddau o Gendl. Rhag. 17, yn Bethesda, Maesaleg, gan y Parch. T. Thomas, y gweinidog, Mr. Edward Russell a Mrs. Sarah Richards. I*n. 24, yn yr un lie, a chan yr un gweinidog, Mr. W. Tamplin i Miss Aun Davies. MARWOLAETHAU. Ion. 26, ail fab i Mr. Thos. George, Scotland-hill, Llandugwydd yn 4 mlwydd oed, o'r dolur gwddf, Ion. 30, yn dra disymmwth, yn 64 mlwydd oed, Mr. Solomon Edwards. Bu yr ymadawedig yn aelod am flynyddau yn Mheny- graig, Brymbo, capel y Bedyddwyr. Claddwyd ef yn y Cefn- bychan. Ion. 27, yn 75 mlwydd oed, wedi hir gystudd, bu farw Mr. Edmund Davies, saer maen, Pontardawe. Yroedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr; a'i ddymuniad olaf oedd am i'r Arglwydd ei dderbyn mewn tangnefedd.
[No title]
Dywedir fod Hong ryfel y Gwrthryfelwyr Americanaidd, yr Alabama, wedi cymmeryd agerlong Galifforniaidd ynyr hon yr oedd miliwn a banner o ddoleri. Cymmerodd longau heblaw, ond hon oedd y fwyaf gwerthfawr.
[No title]
CYFYNGDER GWBITHWYR SWYDD LANCASTER.—Dymutiaf hysbysu y cyhoedd drwy gyfrwng y SERKN, tod y cas^liadau can- lynol wedi dyfod i law yn ddiweddar at yr achos uchod :—Bwlch- newydd, Plashed, &c., £ 5 10* Ffynnonhenry, £ 1 10s.; Nazar- eth, Hendygwyn, £ 1 is. 3c.; Ebenezer, Llangunnog, £1 5s. Byddai yn dda i'r eglwysi sydd yn bwriadu cyfranu at yr achos hwn ei wneyd yn ddioed.—H. W. JONES, Caerfyrddin. CWM: RHONDD.A.- Y mae y cwm hwn wedi bod yn dra enw- og yr wythnosau diweddaf yma mewn rhedegfeydd ac ymladd- feydd, pa rai sydd yn felidith lie bynag y byddont, i feistri a gweithwyr ac yn achos i lawer teulu oddef eisieu eu bar* beunyddiol. Trueni yw meddwl fod neb mor ffol a dilyn soth- ach ag sydd yn gwneuthur cymmaint o niwed i gymdeithas yn gyffredinol. Clywais fod ychydig o weithwyr yn ddiweddar wedi colli rhai ugeiuiau o bunnau mewn un rhedegfa. Y mae- pethau fel hyn yn ddigon i ddodi meistri i gredu y gall y gweithwyr fyw wrth lai o gyflog nag y maent yn gael yn bre- senol. A pha rhyfedd, gan fod y tylwyth hyn fel pe a'u holl egni yn ceisio ganddynt gredu hyn ? Ond nid digon iddynt ymladd a rhedeg ar ddyddiau o'r wythnos, ond y maent ya sathru dydd yr Arglwydd dan eu, traed. Pythefnos yn ot yr oedd dau yn ymladd ar y Sabboth ond fe'u hattaliwyd gan yr awdurdodau gwladol cyn iddynt orphen eu gwaith. Ac y mae yn dda genyf eich hysbysu fod meistr y gwaith wedi eu hatta. i weithio, ac wedi rhoddi rhybydd i ereill a fu yn ru gweled ymadael mewn mis. Da iawn, onite ? Gobeithio y gwnaL ychwaneg o feistri ei efelyehu yn hyn,—M. B. PARCH LLE MAE PARCH YN DDYLEDUS."—Nos Lun, 27ain o'r mis diweddaf. Cyfarfu cyfeillion dyngarol Rhosyn Morganwg yn ystafell y gyfrinfa, Rose & Castle. i'r dyben. anrhjdeddus o wobrwyo Jenkin Davies, Ysw., P.P.G.M., reI amlygiftd teilwng a brawdgarol, yn ymgodi oddiwrth ei barod- rwydd a'i haelionusrwydd tuag at ei frodyr yjn mhob amgylchiad a chyfyngder. Yn union am 8 o'r gloch, etholwjd y Parch T. Price i gymmeryd y gadair, yr hyn a wnaeth yn nghanol teim- ladau brwdfrydig y gynnulleidfa'luosog a pharchns. Syrthiodd Ar ei orchwyl yn ei arddull hapus arferol, trwy nodi amryw o enghreifftiau pwrpasol, ar bwysigrwydd a dylanwad y gym- deithas ddyngarol. ¡[ na galwodd ar y c8r i roddi t6n, yr hyn- a wnaethant mewn dull swyngar a dedwydd. Wedi cael amryw anerchiadau, cododd y cadeirydd y tlws i fyny yn ngwydd y dorf, ac wedi darllen y cerfiad, trosglwyJdodd ef i Mrs. Evans (yr hon a gynnorthwyid gan T. Johnson Roberts), i'w gyf- lwyno i Mr. Davies, yr hwn a ddychwelodd ei ddiolchgarwch i'r cyfarfod am y fath wohr "anhaeddiannol" meddai; ond" pallai iaith etto, yr oedd ei ymdrech i lefaru yn createim- ladau dwysion yn mhob mynwes. Kisteddodd y gwobrwy- edig i lawr yn nghanol y brwdfrydedd mwyaf, ac yna cafwyd ton dlos a thoddedig gan y c6r. Yn ganlynol cawsom amryw anerchiadau, rhyddieithol a barddonol, gan amryw o'r swydd- ogion. Yr oedd y cor hefyd yn tueddu i ddifyru y cyfarfod; ac ar y diwedd pasiwyd pleidlais o ddiotchgarwch iddo am ei wasanaeth. Talwyd yr un anrhydedd hefyd i Swyddogion jr Dosparth am eu presenoldeb, yn nghyd ag i Mr. a Mrs. Evans am eu hymdrechion yn mhob ystyr. Wedi talu parch i'r Cad- eirydd, am ei barodrwydd bob amser i bresenoli ei hun y» mhlith, ac yn nghyforfodydd y dosparth gweithiol, ymadawodtf pawb yn Hawen. CWMAMAK.—Lie hynod o isal a digalon yw hwn, yn wladol a chrefyddol, a hyny er ya rhagor na dwy flynedd bellach y gweitbfeydd penaf wedi sefyll, heb un ergyd yn cael ei weithio ynddynt; teuloedd lawer wedi gymud i (anau ereill i fyw; degau o dai yn weigion, a golwg druenus arnynt; a'r rhai sydd yma ar ol ydynt yn llawn eu trafferth yn yindrechu cadw eu bunain rhag prinder ymborth, heb son am ddillad; ac er hyny,. o'r braidd yn gallu ymuniawnu, can gymmaint eu gofidiau. Hefyd, y mae crefydd yr addfwyn Oen yn ei haragylchiadaa allanol yn dyoddef yn drwm eglwysi wedi eu lleihau yn eu haelodau cynnulleidfaoedd yn ychydig; y weinidogaeth yn cwyno yn dost; a phawb o honom yn hiraethn am well amser na'r un presenol. Ond yn ein galar, mae genym achos i law- enhau canys yn y cwm hwn y mae boneddiges gwerth ei galw felly sef gwraig F. Perkins, Ysw.; a gellir dweyd amdaniei bod yn un o'r gwragedd mwyaT haelionus a charedig ag sydd yn y dywysogaeth. Prif hyfrydwch ei bywyd ydyw llesoli y tlawd, y weddw, a'r amddifaid. Treulia lawer diwrnod o bob wythnos (a nosweithiau hefyd, os bydd angen,) i ymweled a'r tludion yn eu bythynod, i weini i'r rhai cystuddiol, i agor ei Haw, a hyny yn hdaeth i'r rhai anghenog ohonynt; a mynych iawn y gellir gweled ymborth yn cael ei anfon ganddi i rai sydd mewn prinder, y rhai ydynt yn ami yma y dyddiau hyn. Trueni na fuasai codau llawnion llawer o hen gy bydd ion creulon a chaled eu teimladau yn meddiant y foneddiges haelionus a chlodfawr hon ac yna ni buasai rhaid i dlodion y lIe hwn ddy- oddef llawer o dlodi a gwasgfa y dyddiau hyn fel y maent. Darfu i'r foneddiges hon, er ys blynyddau yn ol, sefydlu try- sorfa yn ei phalas ei hun, gyda'r dyben i gynnorthwyo y gwrth- ddrycbau crybwylledig i brynu dillad iddynt eu hunain, er ea cadw rhag oerfel y gauaf a gerwindeb y tywydd ac y mae y drysorfa erbyn hyn yn gref a llwyddiannus, a'i deiliaid yn ychwanegu bob blwyddyn. Mae rhagoroldeb a buddioldeb y sefydliad yn dyfod fwrfwy i'r golwg y naill flwyddyn ar 01 y llall, fel y mae y deiliaid yn awr yn rhifo rhai ugeiniau. Boreu dydd Llun, bob wythnos, daw ytlodion yn mlaen glu ceiniogau, ac ereill &'u dwy geiniogau, tra bydd rhai yn rhoddi rhagor, y rhai a gedwir ganddi am flwyddyn, pryd y bydd iddi eu dych- welyd yn ol iddynt yn ddefnyddiau dillad, fel yr ewyllysiont hwy eu hunaiu. Dydd Sadwrn, Ion. 31, ymgynnullodd pawb o honynt at eu gilydd i ystafell t9 y farchnad i dderbyn eu eyfran a chyn iddynt ymadael, darfu iddi eu hanrhegu hwyntr un ac oil, a pbrydd a o de a theisen fraith a blasus, yn rhad a dymunai gyda gwen siriol ar iddynt fwynhau iechyd a chysur y flwyddyn bresenol; yna ymadawsant, a phawb yn canmol eu cyfran, ac yn bendithio y foneddiges; ac yn wir, gallasent ganmol, canys nid rhyw second hand goods oeddynt, ond defnyddiau o'r fath oreu allesid gael am arian. Aolod ydyw o Eglwys Loegr, er hyny nid oes ynddi y duedd leiaf i ormesu y rhai a dderbyniant o'i charedigrwydcl, i ddyfod i'r un man a hi, fel y gwneiai Mary Morrice, o Sir Aberteifi, ychydig amser yn of, a'r rhai oedd dan ei llywodraeth Phardaidd. Bendithion fyrdd a orphwyso ar y foneddiges haelionus hon, a hir oes a gaffo hi i wneyd daioni, yw dymuniad didwyll-JoHN EVANS. HYSBYSIAD.—Hyn sydd i hysbysu nad yw David Bowen yn aelod na phregethwr yn bresenol yn Carmel, Cefncoedycymmer, gan ei fod wedi ei ddiarddel mewn cyfarfod rheolaidd a gynnaliwvd ar yr achos, Ionawr laf, 1863. EDWARD MORRIS, gweinidog, JOHN HUGHBS, WILLIAM LHWIS, WJLLIAM WILLIAMS, JOHN JAMKS, RICHARD JONKS, Diaconiuid—