Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

fefjjdW.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

fefjjdW. CYFARFOD CHWARTEROL DOSPAUTB ISAF SIR GAER- PYRDDXN.—Cynnelir v cyfarfod hwn yn Sittim, Fflingwm, ar ddyddiau Mawrth a'r Mercher, y 24ain a'r 25ain o'r mis hwn y gynnadledd i ddechreu am hanner awr wedi dau dydd Mawrth. Da frodyr yn y weinidogaeth, gwnewch ymdrech i ddyfod i'r cyf- arfod. Gwyddoch ein bod wedi penderfynu yn ein cyfarfod di- weddaf, nad oes llythyrau personol i gael eu hanfon gan weinidog y lie atoch. ond eich bod i ystyried yr hysbysiad hwn ya gais at bob un o honoch ac os na ellwch ddyfod, hysbyswch hyny yn brydlawn i Mr. Griffiths, fel y gallo anfon am ereill i lanw eich lleoedd. Ffyddlondeb, frodyr, gyda chynllun newydd.—D. WIL- LIAMS, Ysgrifenydd. CAPEL SloN, BRYNMAWR.—Cyapa)iwyd cyfarfod chwar- terol y cape) nchod Sul, Ionawr 16eg, pryd y pregethodd y Parch. F. Evans, Llangynidr, am 10. Am 2, dechreuwyd y cyfarfod gan J. Jones a phregethodd Mr. Evans yn Saesneg, a Mr. Jones, ein parchus weinidog, yn Gymraeg. Am 6, dechreuodd G.- Leek a phregethodd Mr. Evans yn ardderchog iawn. Cawsom gynnnll- eidfaoedd lluosog a phregethau campus ac wrth ystyried caledi yr amser, cawsom gasgliadau tuhwnt i'n dysgwyliad.—J. J. FEUNFOEL.—Cynnaliodd yr eghvys nchod gyfarfodydd gweddio bob nos trwy yr wythnos gyntaf o'r flwyddyn, gan gym- meryd y testunan pwysig a difrifol fel y gosodwyd hwy i lawr gun yr hen frawd o Lanllyfni, yn y SBRKN am Ian, 2. yn brif bwnc ea gweddian; ac y mae yn llawen genym hysbysu darltenwyr y SEREN, ein bod wedi cael cyfarfodydd wrth fodd ein calonau, ar- wyddion fod gwenau yr Arglwydd yn llewyrchu arnom, ac yr ydym yn llawenhau fod effeithiau daionu3 yn barod wedi eu dilyn. PONTHKNRY.—-Anrhegwyd ysgol Sabbothol y lie uchod a ebyffawnder o fara brith, buns, &c.; ac i gynnorthwyo y melinati i droi, cawd cyflawnder o ffrwyth y ddeilen Indiaidd. Yr oedd pawb mewn hwyl yn gwledda ac wedi iddynt gael eu diwallu, yr oedd ybasgedau yn banner llawnion yn myned adref. Diolchwn o galon i'r boneddigesau ollara eu haelioni a'u caredigrwydd. Wedi cael cyflawnder o ymborth corff, cawsom wledd eneidiol. Am 7 o'r gloch, cymmerwyd y gadair gan y Parch. J. Griffiths, yr hwn a lanwodd ei swydd yn anrhydeddus, Yna awd yn mlaen fel y can- lym :-1. Adroddwyd Diangfa'r Caethwas. 2. Gofid Mam. 3. Ymddyddan rhwng Angeu, Enaid, Bedd, a'r Byd arall. 4. Y ddwy Fair wrth y bedd. 5. Gofynion ac ateiion. 6. Y fam a'r plentyn. 7. Adgyfodiad Crist. 8. Ymddyddan rhwng y Fam a'r bachgen. 9. Diolchgarwch plentyn. 10. Y Fam uwch bedd ei phlentyn. 11. Tfin gan y plant. 12. Dadl y Dwfr a'r Tan. 13. Y Byw a'r Meirw. 14. Y Fam a'r plant. 15. Y Rhosyn. 16. Balchder. 17. Cylion a'r btigail. 18. Nid oes genyf fam yn awr. 19. Dadl ar Fedydd. 20.C8ryrAeIwyd. 21. Miriam ac Eliza. 22. Y Ddadl Hyfryd. 23. Dadl yr Ysgol Sabbothol. 24. Tôn gan y plant. Canwydhefydamrywdonauardderchoggan y cor, a chafwyd rhai anerchiadau difyrua gan Mr. Roberts, Felinfoel. Felly terfynwyd un o'r cyfarfodydd ysgol goreu ag y buom ynddo. Y mae Mr. Evans, Ynvshafren (gynt o Alltycadno), wedi codi y lie liwn o farw i fyw. Y mae yn enwog fel arweinydd y cor; ac y mae befyd wedi bod yn offerynol i gyfnewid y capel, fel ymaeyn awr yn un o'r capeli tlysaf yn Nghymru.—Y Fi. TABOR, BRYNMAWR.—Cynnaliwyd cyfarfod adroddiadol yn y lIe uchod mewn cyssylltiad a'r ysgol Sabbothol, nos Lun. Chwef. 2, pryd y llywyddwyd gan ein hanwyl weinidog, y Parch. Morgan Phillips. Wedi iddo wneuthur ychydig sylwadau ar natur y cyf- arfod, galwodd ar y plant i ganu ton yna anerchodd orsedd gras. Yna adroddwyd. 1. Pennill i'r ysgol Sul. 2. Ymdaith y Cristiop. 3. Darostyngiad Critt. 4. Y Nawn. 5. Mawl i'r Cyfryngwr. 6. Duw sydd yn fy ngweled I. 7. Ton gan y c6r. 8. Plant y Cys- tudd mawr. 9. Ffynnon Calfaria. 10. Look at the Moon." I I Yr ysgol Sul. 12. Gwlad fy Ngenedigaeth. 13. Y Negro bach. 14. "Heaven." 15. The Industrious Girl." 16. Canu Triawd. 17. "The Star." 18. Y Gormeswr. 19. DarnoAwdl Dewi Wyn ar Elusengarwch. 20. T6n. 21. Chwedl y Gath a'r Lygoden. 22. Ydych hen, Modryb Catrin. 23. Pennill gan A. W. 24. Ymddyddan rhwng brawd a chwaer. 25. Penderfyniad plentyn da. 26. Rhy hen. 27. Ton gan y plant. 28. The Dying Child." 29. Y Groes. 30. Ymddyddan. 31. Hanes Job. 32. Ton. 33. Y Cadnaw a'r Fran. 34. Dadl yr ysgol Sabbothol. 35. Deuawd. 36. Cynnadledd Maira Martha. 37. Y Ferch Wrthodedig. 38. Y Cyfammod Disigl. 32. Yr ysgol Sabbothol. 40. Yr Iesu a Wylodd. 41. Ymddyddan-" Jesul, Justice, and the Sinner." 42. Moses bach. 43. Triawd. 44. Llythyr Gwen. 45. Pennill i'r ysgol Sul. 46. Ymddyddan rhwng Morgan bach a'i Fam. 47. Deuawd. 48. Trioedd Cysgu yn y Cwrdd. 49. Deuawd. 50. Ton gan y c6r. Felly terfynwyd un o'r cyfarfodydd goreu a gawsom er ys llawer dydd, a phawb yn teimlo yn bryderus am un o'r fath yn fuan etto.—D. Ap M. ABERDAR.—Nos Ian, 29ain, cynnaliodd ysgolion Calfaria, Bethel, Ynyslwyd, a'r Gadlys, eu cyfarfod llenyddol Chwar- terol; pan gawsom areithiau, adroddiadau, a chanu da dros ben. Yr oedd pob ysgol yn gwneyd ei goreu i wneyd y cyfar- fod yn boblogaidd a derbyniol. Da genym feddwl fod y cyfar- fodydd hyn yn debyg o ddyfod yn rhan o'n gweithrediadau tfieolaidd, gan mor ddyddorol y maent. ABKRDAR.—Agor dau Gapel Newydd.—Mae eglwys Cal- faria a'i changenau, yn ngyd a'u gweinidog, yn gweithio gyda diwydrwydd er helaethu yr aebos goreu. Ar ddyddiau Sul a Liun, Rhagfyr 7fed a'r 8fed, agor wyd capel hardd Bethel, ua Inll(tir i'r dwyrain o gapel Calfaria. Mae hwn yn mesurt44 froedfedd wrth 36, ac yn meddu pob cyfleustra a ellir ei d dy- InlUlo, gyda tby byw yn ei ymyl yn feddiant i'r eglwys. Pre- gethwyd yn agoriad hwn gan y brodyr da, yn awr y diweddar ^ai'ch. Daniel Jones, Tongwynlas, a dyma ei wasanaeth cy- boeddusolafj Williams, Llangloflfan Jones, Docks,Caerdydd ^liillips, Trefforest; Jenkins, Troedyrhiw; James, Glyn ■Nedd; ac Evans, Dowlais. Mae yma olygfa anwyl ar yr achos. Awn yn awr at y rhes o gyfarfodydd ag ydym wedi gael er agoriad capel yr Ynyslwyd. Saif hwn tua banner "Hlltir i'r deheu o gapel Calfaria, ac y mae yn mesur 50 troed- tedd wrth 40, ac wedi ei orphen yn hynod o ddestlus—pob Peth at wasanaeth a chysur y gynnulleidfa. Awd iddo i ddech- re« boreu dydd Sul, Chwefror laf, pan gynnaliwyd cyfarfod S^'eddi am-11 o'r gloch. Am 6, yn yr hwyr, pregethodd ein 8weinidog Mr. Price i dorf o bobl, tra yr oedd torf yn gorfod ychwelyd o ddiffyg lie. Holl gynghor Duw oedd y pwnc. edi y bregeth, bedyddiodd Mr. Price saitfe o gredinwyr yn y yddfa newydd. Y cyntaf o'r saith oedd Mr. David Davies, aij n oe<^ We^' treulio dros bumtheg mlynedd ar hugain yn eiod gyda'r Methodistiaid. Dyddian Mercher a Iau canlynol y pyfarfodydd cyhoeddus, pan ddarllenwyd a gweddiwyd Phillips, Trefforest •, Jones, Pentyrch; Nicholas, Aber- an ac Harris, Heolyfelin a phregethwyd gan y Parchn. Wis, Dowlais Davies, Wauntrodau; Johns, Llangendeyrn fi.n^D8' ^>as^el'nedd; Lloyd, Merthyr; Jones, Abertawy; oedd rk' ?ontyPridd; ac Jones, A.C., Caerdydd. Yr bod y^fodydd hyn yn bob peth a allasem ddymuno eu • Xr ydym yn llawenhau fod y deyrnas yn ymeangu. •yfleu^ ^ARMEL> TROEDYRHIW.—Llawen yw genym gael y cor v c^Toeddus yma i ddangos undeb achydweithrediad yma. Nos Fawrth, Ionawr 20, treuliodd y c3r hwn rhyw o dair i bedair awr yn gysurus yn nghwmpeini eu gilydd, er yfed te, canu, ac areithio. Am hanner awr wedi chwech, yn ngwisgfa (vestry) helaeth a chyfleus y capel uchod, yr oedd bwrdd liawn wedi ei hilio, a hyny yn y modd mwyaf trefnus, gan dair neu bedair o wragedd henafiaid y cor. Yna daeth y coc at eu gilydd, yn hen ac ieuainc, yn wrryw a benyw, i yfed te, ac i gyfranogi o'r bara brith. Wedi i bawb gael eu gwala, er tod yma ddigon yn weddill, cod wyd y byrddau i gael y lie yn rhydd at wasanaeth arall; a llawen oedd genym weled y lie yn cael ei orlen wi a dynion ieuainc ein cymmydogaeth, yn neillduol ein hysgol Sul, er gwrando y canu a'r areithio. Er mwyn trefn, cynnygiwyd ac eiliwyd fod y brawd ieuanc W. Jones i IYlvyddu y cwrdd,- yr hyn a wnaeth ei boddlonrwydd cyffredinol. Gan mai canu oedd prif waith y cwrdd, cafwyd amryw ddarnau penigamp; a chafwyd hefyd amryw areith iau byrion gan y cadeirydd, Ap Rhwn, blaenor y gan, D. Davies, a'n parchus weinidog. Cawsom hefyd rai adroddiadau gan John Davies. Yr oedd y canu yn ardderchog, yr areithiau yn tyr ac yn fywiog, ac i'r pwrpas, a'r adroddwr yn ei hwyl fel arfer. Llawen neillduol genym yw cael y fath arwydd o gydweithrediad rhwng y cor, er ein bod yn cael profion bob Sul o hyny. Ein barn yw, mai llawer o'r achos o'r cyd welthredlad yma yw eu bod oil, gyda'r eithriad o ddau neu dri, wedi eu codi gan eu harweinydd ac y maerhnl sereh naturiol gan ddyn at y rhsli fu'ij dechreu ei eg- wyddori, bydded y gelfyddyd beth bynag fyddo, neu y wybodaeth y peth a fo. Er ys tua naw neu ddeg mlynedd yn ol, cyn dyfodiad Mr. E. Owen yma, nid oedd braidd yma yr enw o gor; ond trwy ei ymdrech diflino ef, y mae yma gor ag sydd yn enwogrwydd i'r lie er ys rhai blynyddau. Achos arail o'r cydweithrediad i'm gollVg I yw, tod yr arweinydd yn ddigon o arweinydd ac y mae'r cor yn gyffredinol yn cydnabod hyn. Unwaith y meddylio y dysgvbl ei fod yn gwybod cymmaint a'r athraw, ni fydd heddwch yn hir. Terfynaf yn awr. gan ddymuno pob llwydd iddynt fyned rhag eu blaen.-LL.A.Nc olit LLE. RISCA.-Nos Fawrth, yr 20fed o'r mis diweddaf, yn ystafell yr Ysgol Frytanaidd, cynnaliwyd cyngherdd ardderchog gan gor eglwys y Bedyddwyr, Casbach, dan lywyddiaeth fedrus Mr. G. Rickards. Yr elw i fyned i ddileu dyled y t^ cwrdd." Yn wir, cyngherdd anarferol o lwyddiannus ydoedd. Yr oedd y gynnull- eidfa yn lluosog a pharchus a chwaetfe dda wedi c-tel ei dangos wrth ddewis beth i'w ganu. Yr oedd y canu yn mhell uwchlaw ein dysgwyliad. Yr oeddem, mae'n wir, wedi clywed Ilawer am allu cor y Casbach ond rhywfodd Mugilydd nid oeddym wedi tneddwl fod eu gallu mor rymus nes i hi. weied y fath gynnulleidfa yn cael eu hyagwyd a'u siglo gymmaint g:<ndd; nt. Mae yn rhaid fod yma allu. Aethant trwy yr holl ddarnau yn dda, ond yr oedd rhai yn myned yn well n&'r lleill. Yr oedd rhai darnau yn myned mor dda, nes oedd y bobl am eu clywed ddwy a thair gwaith, ac wedi'n am vn I. Dywedasom fod canmol ar eu chwaeth wrth ddewis beth i ganu ac yn ol ein barn ni, mae'r ganmoliaeth yn gyfiawn. Darnau campus oedd Hail, Judea," How beautiful are the feet," The heavens are telling," "0, lovely peace." Darn da oedd y Lovely Peace yna," meddwn 1 wrth gyfaill oedd yn fy ymyl. Ie," eba yntau, Lovely Piece a'i cauodd o hefyd." "Worthy is the Lamb," "Comfort ye," ac Every valley," aeth yn dda hefyd ond Morfn Rhuddlan, Hen Wlad ty Nhadau, a Dychweliad y Morwr, oeddym yn eu hoffi yn ddirfawr. Y n wir. mae yrhen ala won Cymreig yn dda. Pan oedd Hen Wlad fy Nhadau yn cael ei chanu, "Rhedai llif fel ffrwd o wlaw," o lygaid llawer un yn y gynnulleidfa. Diolch yn fawr i Miss Davies am ei chanu mor dda. Hoffwn eich clywed yn ei chanu etto. Yr oedd y nifer a ganwyd i gyd yn ddini llai na deg ar hugain o ddarnau da. Pe byddai cor Casbach yn dyfod i Risca etto, mae yn debyg iawn na fyddai yma ddim ystafell ddigon eang i gynnwys y gynnulleidfa. Byddai raid gwneyd ryw dent mawr neu rywbeth; o'r hyn loiaf, byddai raid cael ryw gae mawr iawn i'w cynnwys, Yr oeddym yn gallu cael ambell i gipolwg weithiau ar y brawd S. Davies yno, ac ymddangosai wrth ei fodd. Ac ar y diwedd dyma fe yn dyfod i fyny i'r esgynlawr i ddiolch i'r gyn- nulleidfa am eu caredigrwydd, ac yn benaf i Mr. Banks am ei garedigrwydd yn gwneyd yr esgynlawr, &e. Dylasai wneyd hyny hefyd. Dyn campus yw Mr. Banks. Mae yn anmhrisiadwy werthfawr i'r lie hwn. Pob daioni fyddo iddo. Yn awr, yr ydym ninnau yn tewi, gan ddiolch i gantorion Canbach i gyd. Brysiwch yma etto.-O. MOUNTAIN ASH.—Cwrdd Trimisol yr Yagol Sabbothol a gynnaliwyd Ionawr 25. Am ddau, llywyddwyd cyfarfod yr ysgol Sabbothol uchod gan y brawd anwyl a'r diacon ffyddlon, Ifan Siencyn. Adroddwyd pennod ar Aberthiad. Isaac, gan Jane Richards, a gweddiwyd yn fyr a blasus gan y brawd gweithgar, D. Ainon. Yna awd yn mlaen a'r adroddiadau f<-t y canlyn :— Marwolaeth Crist,, E. Thomas. Gwel yr lesii. M. Spencer. Y Sabbath, W. George. Gwahoddiad i'r vsgol Sul, J. Richards. Araeth ar Ddylanwad y Beibl, J, Thomas. Araeth ar Dragyw- vddoldeb, M. Richards. Araeth ar y Drwg o esgeuluso yr ysgol Sul, J. Jones. Pen Calfaria, J. Davies. Y Beibl, D. Evans. Araeth ar Gariad, B. Evams. Araeth ar Onestrwydd, gan R. Richards. Araeth ar yr Ysgol Sabbothol, J. Evans. Myfyrdod wrth y Llyw, gan Jane fach Glyngwyn. Canodd y cor amryw donau melus; ac wedi gweddio gan Mr. Williams, ymadawsom. Am 6, cymmerwyd y gadair gan J. Thomas, lly wydd yr ysgol. Adroddwyd Rhuf. 8 gan W. Watkin, a gweddiodd E. Richards. Adroddwyd Ffynnou Calfaria, gan T. Thomas. Areithiwyd ar y Mab goreu a'r Tad goreu, gan W. Thomas. Dymuniad mewn cwrdd gweddi, a Bedydd Mabanod, gan ddwy ferch fach. Cariad, gan E Thomas. Englynion i'r Gwyliedydd, gan G. Llewelyn. Moses bach, T. Davies. Dydd y Dymhestl, gan A. Richard. Y Bachgen am fod yn angel, W. Thomas. Pennillion Saesneg, M. Williams. Canu triawd. Athrofa yr Efengyl, T. Price. Gwerth Crefydd, R. Williams. Dedwyddwch Crefyddol, G. Llewelyn. Araeth ar yr ysgol Sabbothol, Robert John. Canu pennillion i'r yagol Sabbothol, ar y d6n Hen Wlad fy Nhadau," o waith D. Samuel, Caerfyrddin, pa rai a gyhoeddwyd yn y SERNN. Diolch i Samuel am eu cyfansoddi ar y don ragorol uchod credwn y deuant ar fyr yn wir boblogaidd. Adroddwyd, Pwy sydd ddewr ? gan R. Richard. Araeth ar Weddi y Tyngwr, J. Evans. Mawl i'r Gwaredwr; M. Griffiths. Araeth ar yr ysgol Sd, gan J. Griffiths. Gwed'ii Plentyn Amddifad, aPhenn llion i'r Ysgol, gan ddwy lerch fach. I ddiweddu, cafwyd araeth ragorol ar Weddi y Lleidr ar y Groes, a'i atebiad, gan R. Richards. Cawsom gyfarfodydd rha- gorol.—UK O'R BETTWS. CAERSALEM NEWYDD.—Yr Wythnos Weddi.-Yn mhlith y miloedd, nid y lleiaf yw y He uchod gyda golwg ar yr wythnos weddi. Y mae yr wyl yma yn cael ei chadw yma er. ys tair neu bedair blynedd bellach, a bob tro mae arwyddion fod boddlonrwydd y Nefoedd ar y gwaith. Ar yr wythnos gyntaf yn lonawr, o'r 4ydd hyd yr lIeg, buwyd yn trydan wrth yr un orsedd, curo wrth ddrws yr un trugaredd, erfyn ar yr un Duw i dywallt ei Ysbryd i lawr, ac yn ymbil wrth yr un orsedd fawr am drugaredd ac am faddeuant o'n haml bechodau. Yr oedd y gweddiau yn afaelgar, yu rymus, ac yn deimladwy iawn a'r brodyr mewn hwyl a bias yn clodfori ac yn moliannu yr Arglwydd am ei fawr drugaredd tuag atom; a dymuniad enaid pob gwir gredadyn yw, i'r had da gafodd ei hau gael dyfnder daear; a bydded i egwyddorion y grefydd Griationogol gael eu dadlenu a'u datguddio i lawer yn ad- newyddol yn yr ardal yma, a thrwy y byd yn gyffredinol; a gwawried y boreu pan y byddo lesu yn ben moliant trwy y ddaear, heddwch fel yr afon, a chyfiawnder fel tdnau'r mor.— RHOSYNOG. SEION, TRBFORRXS.—Cynnaliwyd cwrdd adroddiadol yn y lie uchod ar y Sabbath, yr lleg o'r mis diweddaf. Trefn y cyfar- fod oedd fel y canlyn :-]. Adroddwyd y bennod gy/itaf o Gawa&u Salomon gan W. Morgans. 2. Canwyd ton gan y cor; ac wedi anerch gorsedd gras gan T. Williams, a chanu ton gan y gynnull- idfa, anerchwyd y cyfarfod gan ein gweinidog, ar Ddyledswyddyr aelodau crefyddol tuag at yr Ysgol Sabbothol, yn nghyd a'r niwed oedd yn nglyn a difaterweh ar y pen hwn. Yna galwodd ar yr adroddwyr i adrodd y darnnn ag oeddent w?di eu trysori yn eut cof. 1. Deuwch i'r Wvl," gan John Evans. 2. P.» le maey meddwyn?" gan J. Lewis. 3. Tr^ethawd ar Obaith y Cristion^ gan D. Maddock. 4. Y Mor," gan J. Evans ac E. Benjamin. 5. Yr ysgol Sabbothol," gan J. Lewis. 6. Cvhoeddiad Genedig- aeth y Messiah, gan W. Davies. 7. Dadl y Gwrtheiliwr a'r Cre- fyddwr, gan D. John, J. Davies, a J. Evans. 8. Ton gan y cor« 9. Llywodraeth y Messiah, gan D. Thomas. 10. Araeth ar y Daioni o gynnal cyfarfodydd adroddiadol. 11. Pennillion o Gym- helliad i uno a'r Ysgol Sabbothol, gan D. John. 12. Dadl i Fyny ac i Lawr, gan M Evans a M. Davies. 13. Yr Ysgol SAbbothol- beth ydyw ? gan E. Morgans. 14. Dadl Ann a Betsy, gan Susaø. Morgan* a S. Thomas. 15. Dydd y Farn, gan R. Both wick. 16. Profiad Cristion mewn cwrdd gweddi, gan M. Davies. Felly ter- fyn wyd yr adroddiadau. Wedi canu, a cheisio bendith y Nef ar y cyfarfod, ymadawodd pawb wedi eu mawr foddloni. Gyd. phriodoldeb y gallwn ddweyd, Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethatx mawrion." Er dyfodiad ein brawd hoff, y Parch. R. Richards, i'n plith, y tnae degau wedi eu bedyddio, a degau hefyd o wrthgilwyt wedi dychwelyd yn ol i d9 eu Tad. Llwydd mawr a'i dilyno, modd-DZWI Ap DKWI.

CYFARFOD CHWARTEROL DYFED.

MYNEGYDD Y GOFFADWRIAETH.