Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

..I Y CAETHWASANAETH AMERICANAIDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y CAETHWASANAETH AMERICANAIDD. GOHEBIAETH 0 GAERODOR. MR. GOL.,—Gyda dymuno eich Uwyddiant gyda'r SEREN wythnosol, dymunaf eich hysbysa i gyfarfod LLU- osog iawn gael ei gynnal yma yn y Broad Mead Rooms (lie pwrpasol er cynnal cyfarfodydd) ar yr 28ain o'r cyn- fis, er dangos cydymdeimlad ag Anti-Slavery Policy Ab- raham Lincoln, Llywydd Unol Daleithiait America, pryd yr anerchwyd y cyfarfoc1 gan y Mrd. Handel Cosham a George Tompson; a'r Parchedigion J. Rooper, N. Hay- croft, H. Dowcs, W. Jdmes, T Hacking, a Fugitive Slave, diweddar gerbydwr i wraig Jefferson Davis. Wedi i'r cadeirydd, Mr. George Thoxa's, cwacer cyfrifol yn y dref hon, agor y cyfarfod mewn araeth bwrpasol, cododd Mr. Handel Cosham i gynnyg y penderfyniad cyntaf. Cyn- nwysai y penderfyniad y peth a ganlyn, sef, "Fod y cyf- arfod hwn yn edrych ar Gaethwasanaeth, yr hwn sydd yn cadw miliynau o'n cyd-ddynion mewn cadwynau yn Unol Daleithiau America, gyda'r gofid a'r tristwch inwyaf; ac yn dymuno dangos eu cydymdeimlad gwresocaf a'r Llywydd Lincoln a'i weinidogion ar yr adeg bwysig bre- senol, ac yn diolch i bobl America am eu rhodd wertbfawr i'n tlodion yn Swydd Lancaster." Wedi darllen y pen- derfyniad, dywedai ei fod ef yn wastad yn edrych ar ryfel fel y ffordd fwyaf annghristionogol a barbaraidd i benderfynn ymrysoniadau; a phe gallai efe feddwl am fynyd mai y gogledd oedd yn achos 0 rrhyfel dychryn- 11yd hwn, hyd y nod er rhyddhau y caethion, na fuasai neb yn barotach i'w gondemnio nag efe. Ond gallai ef brofi mai y dehau a achosodd y rhyfel, a hyny yn unig er mwyn helaethu terfynau caethfasnach. Er enghraifft, yr oedd pedwar ymgeisydd am y gadair lywyddol; a oes yma ddyn yn meddwl y buasai y rhyfel yn cymmeryd lie pe buasai un o'r tri ag oedd dros gaethiwed yn cael eu hethol i'r gadair ? Beiddiai efe ddywedyd na fuasai. Y mae y rhyfel wedi ei achosi drwy i Mr. Lincoln ennill y dydd. Yna cododd y Parch. J. Rooper i eilio y cynnygiad, a dywedai fod yn ddrwg ganddo ef weled ffrwd opiniynau y cyhoedd yn ddiweddar yn rhedeg tuag at y dehau. Meddyliai mai o achos ei Uwyddiant ar faes y rhyfel oedd hyny ond dywedai fod yn llawn bryd i ni fel Cristionog- ion, ac yn wir fel dynion, i edrych yn mhellach na maes y rhyfel, ac y dylasem ni gydyuideimlo a'r gogledd. Pa beth bynag oedd beiau a gwallau y gogledd, nid oedd dim ond caethfasnach yn ei hystyr helaethaf i'w weled yn y dehau- Y mae yn amlwg mai achos y gogledd yw achos y caeth, ac achos y dehau yw estyniad y lease o gaeth- wasanaeth. Wedi iddo siarad am tua deng mynyd, cododd Mr. Clarke i gynnyg gwelliant ar y cynnygiad, cyn- nwysiad yr hwn oedd "Nad yw Mr. Lincoln a'i wein- idogion yn prisio dim am y caethion, ac mai undeb oedd yr unig beth oeddent yn ei ymofyn, ac nad oeddent yn ddifrifol yn rbyddhad y caethion, am mai gorfodiad oedd ac fod gan y dehau hawl gyfreithiol i'w hannibyniaeth, ac mai y gogledd oedd achos y rhyfel gwaedlyd hwn." Eiliwyd y cynnyg gan Mr. Vickers, a dywedai fod Mr. Lincoln yn ei ysgrif ryddhaol yn debyg i darw yn ym. ladd a'r seren wib. Edrychai Mr. Lincoln ar gaethion y dehau dros ben caethion y gogledd ond cawsai weled fod ei gyrnau yn rhy fyr i gyffWrdd a, hwy. Yna cododd George Tompson, Ysw., a dywedodd nad oedd efe yn myned i wneyd un haeriad fel ag y gwnaeth y llefarwr o'i flaen heb ei brofi a ffaith a phrofai fod Mr. Lincoln a'i weinidogion wedi gwneyd pob peth a all- asent yn gyfreithiol er rhyddhau y caethion. Wel, at y gweithredoedd, un o'rpethau cyntaf a wnaeth Mr. Li n- coln wedi ei etholoedd cynnyg i Loegr yr hawl o ym- chwiliad o dan faner America ar lenydd Affrica. Y mae yn wybodus'braidd i bawb fod rhyddhad y caethion yn y tiriogaethau wedi costio ugain miliwn o bunnau i Loegr tuag ugain mlynedd yn ol. Hefyd, fod y llongau rhyfel sydd yn gwylio glenydd Affrica yn costio miliwn o bunnau bob blwyddyn; a gwnelid hyn ychydig o amser yn ol braidd yn ddiwerth, oblegid pe buasent yn gweled caeth- long, ac yn ei herlid am gryn amser, erbyn y deuai yh agos ati, codai hono y faner Americanaidd, ac nid oedd lie i'w chyffwrdd hi wed'yn, a hithau yn llwythog o gig a gwaed dynol, ac yn myned i'r farchnad appwyntiedig heb un rhwystr. Ond yn awr, trwy offeryngarwch Mr. Lin- coln, wna hi ddim o'r tro i godi'r faner Americanaidd y mae gan y gwylwyr hawl i chwilio pob llong a ddrwg- dybir ac os ceir naill ai Negro neu y cyffeiriau ag yr ad- nabyddir hwy wrthynt, y maent yn eu dwyn i borthladd lie mae eisteddiad cymmysgedig o farnwyr, ac yna con- demnir hwynt fel piratical cruisers. Wei, beth am y ddwy deyrnas negroaidd Portau Prince a Monravia. Yr eedd y ddwy deyrnas hyn wedi eu cydnabod gan bob gallu Ewropaidd gwareiddiedig; ond ni chydnabyddid hwy gan America. Yn awr, y mae Mr. Lincoln wedi en cydnabod, ac wedi eu derbyn i deulu'r cenedloedd yn y Ty Gwyn, Efrog Newydd. Mewn atebiad i'r haeriad fod Mr. Lin- coln wedi rhyddhau y caethion He nad oedd hawl ganddo, a'u cylymu yn dynach yn y lleyr oedd awdurdod ganddo eu rhyddhau, profai mai yn hollol i'r gwrthwyneb yr oedd. Dylid deall y cyfreithiau a benderfynwyd arnynt yn 1787-8. Rhaid i bob Llywydd weinyddu y cyfreithiau hyn, ac nid oes hawl gan un Llywydd i ryddhau un caeth- was tufewn i un o'r talaethau unol; ond gan fod taleith- iau deheuol y wlad wedi codi mewn gwrthryfel, y mae hawl gan Mr. Lincoln, fel pen-lywydd y fyddin, i wneyd a hwy fel y gwel efe oreu. Y peth nesaf a wnaeth oedd, cyhoeddi rhyddid i'r caethion, mor bell ag y gallasai efe. Hefyd, beth am Columbia, yr unig fan yr oedd aw durdod gan Mr. Lincoln, fel Llywydd yr Unol Daleithiau. Yr oedd yno arwerthiadau cyhoeddus o gaethion, a chell- oedd tanddaearol i'r caethion ond yn awr, nid oes un o'r rhai hyn i'w gweled yno, canys y mae Mr. Lincoln wedi eu rhyddhau oil. Ar ol anerch y cyfarfod gan un o'r gweinidogion ereul, cododd dyn du, diweddar gerbydwr Mrs. Jefferson Davis, yr hwn a dderbyniwyd gyda banllefau mawr. Dywedai ei fod ef naw mis yn ol yn gaethwas yn Richmond; ond yn awr yr oedd yn ddyn rhydd. I bwy oedd ef i ddiolch am -ei ryddid ? I Jefferson Davis neu i Mr. Lincoln ? Gwyddai ef o'r goreu. 0, i ffrynd y caetliwas, ac nid i ffrynd caethiwed. Bu yn aelod mewn eglwys o Fedydd- wyr am 11 o flynyddau; ond nis clywodd un pregethwr yn ystod yr amser hwnw ond a fuasai yn berchen caeth- ion. Felly, caethwasanaeth oed(lynt yn ei bregetbu; a beiddiai ddywedyd, pe buasai Mr. Tompson yn dywedyd banner y pethau a ddywedodd yno y noswaith hono yn Richmond, y buasai yn game chicken cyn pen awr. Gall- asai ef sicrhau fod y tair miliwn caethion oedd yn y dehau ya gyfeillion calon i Mr. Lincoln, os ydoedd y dynion gwynion ffordd arall; ?c os oeddent yn cydyui- deimlo ag ef, rhaid iddynt gydymdeimlo â r tair miliwn caethion hyn, ac wrth ddangos eu cydymdeimlad a Mr. Lincoln y buasent yn gwneyd hyny yn fwyaf effeithiol. Yr oedd y dyn du yn hynod am ei resymau nerthol, »c mor witty ag un Gwyddel. Pasiwyd y penderfyniad gyda mwyafrif mawr, a'r cyfarchiad i Mr. Lincoln braidd yn unfrydol. Yna terfynwyd y cyfarfod, wedi iddo bar- hau dros bedair mawr. WILLIAM THOMAS.

Y GYMDEITHAS ADEILA.DU.

GOHEBIAETH O'R GOGLED0.

TY'R CAPEL FRON OLEU.