Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

YR WYTHNOS

YR EISTEDDFOD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR EISTEDDFOD. Ymddengys fod yn dra dymunol ac angenrheidiol galw sylw neillduol at y penderfyniadau canlynol a basiwyd yn nghylitrfod Cynghor yr Eisteddfod. Penderfynwyd (XVIII.) Fod cais caredigyn caeI ei wneyd at y beirdd a'r tlenorion ianfon testunau i'r Ysgrifenydd Cyff. redinol, erbyn diwedd mis Mawrth, fel y gallo y Cynghor ffurfio rhestr o'r prif destunau erbvn Eisteddfod 1864, a'i chyhoeddi yn fwy cyflawn yn Eisteddfod Abertawe." mae cwyn cyffredinol yn cael ei wneyd oblegid byrder yr amser rhwng cyhoeddiad rhestr o'r testunau yn gyflawn, a'r amser y bydd y cyfansoddiadau yn cael eu hanfon i fewn. Nid oes neb yn teimlo hyny yn fwy nglr Cynghor ei hun, ac y maent yn dra awyddus i'w wella mor fuan ag y byddo modd. Trwy fod yn gofyn cymmaint o amser i berffeithio cyfansodd- • iad yr Eisteddfod, yr oedd anhawsderau ar y ffordd nas gall neb ond y profiadol eu hatngyfTred yn ddyladwy. Ond hyd- erir fod y rhwystrau oil, bron, wedi eu sy:nud, ac y gellir ey- 1 hoeddi rhestr yn bur agos i gyflawn, o leiaf Hwyddgn cyn cyn- g naliadyr Eisteddfod y bydd y cyfansoddiadau yn cael eu barnu ynddi. Er galluogi y Cynghor i wneyd hyny, taer erfynir ar t bawb sydd yn ewyllysio yn dda i gynnydd a dyrchafiad y genedl i anfon testtinaua farnnat hwy yn addtts i'r Eisteddfod r nesaf. Y mae cylch ymdrechiadau Yr Eisteddfod yn cyr- haedd i holl ganghenau gwybodaeth gyffredinol,-traethodau, barddoniaeth, gwyddoriaeth, celiyddiaeth,t dymunir cael testuuau da, ac, hyd y gellir, ymarferol, yn yr holl ganghenau hyn. Y mae gan y Cynghor le i grcdu, oddiwrth y lluaws tystiolaethau sydd eisoes wedi dyfod i law, fod Rhestr Aber- tawe, fel y mae yn awr o flaen y cyhoedd, yn cael ei hystyr- 1 ied yn un o'r rhai goreu a gynnygiwyd erioed gan un Eis- s teddfod. Ond nid ydynt yn foddlon ar wneyd.yn dda, oa gellir gwneyd yn wolt. Y maent yn awyddus, o ganlyniad, i gael Rhestr 1864 yn well na hon; ac os ceir ffyddloudeb a » chynnorthwy cyfeillion cynnydd y genedl, ni ammheuir na wneir hyn yn anrhydeddus. Anfoneil pawb y rhestr a alio, ac os na chymmeradwyir hwynt oil y tro hwn, byddant wrth law erbyn amser dyfodol. 7Penderfyriwyd (XIX.) Fod y Cynghor yn dymuno am. Ilygu eu diolchgarwch i'r personau hyny sydd yn anfon aw- grymau, mewn ysbryd caredig, i'r papyrau newyddion, tuag at I wella a pherffeithio cynllun yr Eisteddfod, a dymunir arnynt f hwyac ereill barhau y cymmwynasau hyn, trwy anfon, yn gyfrinachol i'r Ysgrifenydd, fel y caffo y Cynghor gyfleustra i'w defnyddio. Nid oes dim a foddia y Cynghor yn fwy na chael cyunorth- wy oddiwrth wyr profiadol, y rhai fydd yn ewyllysio yn dda i'w cydgenedl. Pe yr anfonai pob un awgrymau pwrpasol, tuag at gwblhau yr amcan teihvng hwn i'r Ysgrifenydd, gellid yn fuan gael Yr Eisteddfod i arddangos, mewn modd ffyddlon a tharawiadol, deimlad a doethineb y genedl. Y mae cael awgrymau yn y papyrau cyhoedd us yn dra manteisiol, ond y mae yn hawdd dirnad fod llawer o ddefnyddiau gwerthfawr o angenrheidrwydd yn colli. Mae yr Ysgrifenydd yn awr yn cadw 11 Llyfr Awgrymau," lie y cofnodir pob peth a fernir sydd o duedd ymarferol, ac o wasanaeth i gwblhau amcan y Cynghor a'r wlad. Dichon nas gellir defnyddio pob petb a dderbynin, ar unwaith, ond rhoddir sylw dyladwy i'r cwbl; ac mor fuan ag y ceir adeg gyfleus i'w defnydilio, gwneir hyny yn ddioedi. Anfoner pob hysbysiaeth o'r natur yma i Mr. W. Williams (Creuddynfab), Ysgrifenydd Yr Eisteddfod, Llandudno.

Family Notices

MARWOLAETH Y PARCH. DANIEL…

aut$iøu Q1)artrtfø1.

(!!)yfarlø4yd4 Qf)tt(ydtiot.