Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
DYDD MAWRTH, CHWgF. 10.
DYDD MAWRTH, CHWgF. 10. Dywedai Iarll Normanby gan nad oedd Llywodraeth Lloegr wedi hysbysu un gwrthwynebiad i adferiad awdurdod y Pab gan arfau Ffrainc, y byddai iddo ef ddwyn sylw at frys-neges- euon o berthynas i Rufain dydd Llun. Galwai Iarll Stanhope sylw at y pryder a'r dychryn a achos- wyd gan ysgelerderau yn y brif-ddinas yn ddiweddar, ac hys- bysai ei fod ef yn barnu y byddai yn well pe byddai y Llyw- odraeth wedi gosod y gyfraith mewn grym ar y mater, yn lie penriodi dirprwyaeth. Mewn atfbiad i Iarll Derby, dywedai Iarll Granville, os condemnid troseddwr cyn i'r ddedfryd flaenorol fod ar ben, na ychwanegid ei ail ddedfryd at yr un flaenorol. Dywedai Arglwydd Cranworth na fyddai hyny yn gyfreithlawn. Dy- wedai larH Granville hefyd ei fod ef yn credu nad oedd Red. path wedi cael tocyn rhyddhaol, ond ei fod yn awr yn y dref- edigaeth lie yr anfonwyd ef.
DYDD IAU, CnwEF. 12.
DYDD IAU, CnwEF. 12. Galwwyd sylw y Ty gan Argl. Ravensworth at fynegiad y dirprwywyr gyda golwg ar sefydlu porthladdoedd noddfaol, a gwasgai yr angenrheidrwydd o'u darparu, yn enwedig ar y glanau gogleddddwyreiniol. Dywedai Due Somerset mai y swm gofynol tuag at wneyd y porthladdoedd noddfaol byn oe.ld £ 4,000,000, ond fod y cym- mydogaethau a dderbynient y budd mwyaf oddiwrthynt yn gwrthod dwyn rhan o'r draul. ac yr oedd y llong-feddianwyr yn wrthwynebol i dalu toll. Credai et inai y fford I oreu fyddai defnyddio llongau mwy effeithiol yn y fasnach ar y gororau.
DYDD GWENER, CUWEF. 13.
DYDD GWENER, CUWEF. 13. Dywedai Due Argyll, nad oedd y Llywodraeth yn bwriadu dwyn utirliyw fesur i mewn ei- rbeoli ffyrdd mawrion yn yr Ysgotland, gan fod yr Ysgotiaid yn gwrthod dyfod i un cytun- deb ar y mater. Cyflwynwyd rhai deisebau gan Iarll Ellenborough oddiwrth swyddogion yn India, yn achwyn o herwydd colli manteision neillduol a ddeallant hwy oeddynt wedi eu caniatau iddynt gan y Senedd. Dywedai Due Argyll ei fod ef yn credu fod yr achwyniadau heb un sail iddynt.
DYDD LLUN, CHWEF. 16.
DYDD LLUN, CHWEF. 16. Gofynai Iarll Derby, pa bryd y bwriadai y Llywodraeth osod cofres o'r mesurau a fwriadai ddwyn gerbron ar y bwrdd. Dywedai Iarll Granville mai ychydig o fesurau a allent gael eu dechreuad yn Nhy yr Arglwyddi, ond y dygid llygriad ffos- ydd tanddaearol gan Weithfeydd Fferyllawl yn fuan dan eu sylw. Dywedai Iarll Derby ei fod ef yn credu fod y cyhuddiadau a ddygid yn erbyn Mr. Christie, gyda golwg ar y gweithred- iadau diweddar yn Brazil, yn (lebyg o fod yn gywir.
DYDD MAWRTH, CHWEF. 10.
DYDD MAWRTH, CHWEF. 10. Ar gynnyg Mr. J. R. Stuart, gorchymynwyd fod copi o'r ohebiaeth rhwng yr Ysgrifenydd dros India a'r Llywodraethwr Cyfftedinol, o berthynas i wrteithisd cotwm yn India, a'r rhag- olygon gyda golwg ar y cyflenwadau a ellir ddysgwyl oddiyno yn ystod y flwyddyn bresenol, i gael ei osod gerbron. Dygwyd i fyny atebiad ei Mawrhydi i anerchiad yTy, a darllenwyd ef. Wedi hyny, rhoddodd Mr. M'Mahon rybydd o'i fwriad i alw sylwy Ty at y cyfyngder yn yr Iwerddon. Mewn atebiad i Argl. Hotham, dywedai Syr G.C.Lewis, fod yn mwriad y Llywodraeth i fabwysiadu rhai o gymmer- adwyaethau y dirprwywyr a bennodwyd llynedJ er edrych i mewn i sefyHfa y rheifl-gorau. Dywedai Syr G. Grey fod mesur yn cael ei barotoi er cyf- newid y gyfraith berthynol i werthiad diodydd a gwirodydd poetliion. Mewn atebiad i Syr F. Kelly, dywedai y Cyfreitliiwr Cyff- redinol, nad oedd y Llywodraeth yn gweled un angen cyfnewid y gyfraith o berthynas i fethdalwyr. Rhoddwyd caniatad i Mr. Allcock i ddwyn mesur i mewn, er lleihau y dreth eglwya. Dywedai Mr. Peacock, ei fod ef yn barnu nad oedd y Llyw- odraeth wedi gweitbredu yn ddoeth, drwy roddi yr Ynysoedd lonaidd i Groeg canys, drwy hyny, byddai Corfu yn fath o safle bygythiol i Awstria a Thwrci. ^Dywedai Argl. Palmerston, fod rhai pobl yn credu fod y Llywodraeth, gydag un ergyd a'r ysgrifell, wedi rhoddi yr Ynysoedd Ionaidd i Groeg. Ni wnawd y fath beth. Yr oedd Llywodraeth ei Ma\v$hvdi wedi hysbysu i'r Groegiaid, os byddai iddynt hwy ddewis penadur yn mha un y gellid gosod ymddiriedaeth y byddai iddo lywodraethu y wlad yn dda, dichon y mabwysiadid mesurau ei, unP yr ynysoedd a Groeg; ond ei bod yn angenrheidiol ymgynghori a galluoedd ereill, a phobl yr Ynysoedd Ianaidd, yn gyntaf.
DYDD MERCHER, CHWEF. 11.
DYDD MERCHER, CHWEF. 11. Argynnygirid ail-ddarlleniad ysgrif y Pysgodfeydd Gwy- ddelig, gan Mr. M'Mahon, cynnvgiwyd gwelliant gan Mr. Butt; fodd bynag, wedi dadl hir, tynwyd y gwelliant yn 01, a darllenwydyr sgrif yr ail waith. Rhoddwyd caniatad i Mr. Newdegate i ddwyn ysgrif j fewn, er sefydlu taliad neillduol yn lie y dreth eglwys. Rhoddwyd caniatad hefyd i Argl. Raynham i ddwyn mesur i mewn er attal ymosodiadau ar fenywod a phlaa);
DYDD IAU, CHWEF. 12.
DYDD IAU, CHWEF. 12. Gosododd Argl. C. Paget amcan-gyfrifon y llynges ar y bwrdd. Hysbysai Mr. Gibson, nad oedd y Llywodraeth yn bwriadu ymyraeth, yn ystod y flwyddyn bresenol, a rheolaeth rheil- ffyrdd. Dywedai Syr G. Grey, fod Redpath wedi cael tocyn rhydd- haol yn y drefedigaeth lie yr anfonwgd ef, ond nas gallasai dd:- chweb-d i Lop.gr beh fadGeuant cyflawn.. 6ofyzial Mr. Vjjliers am ganiatad i ddwyn ysgrif i mewn er pathau am amser pellach Ddeddt Gynnorthwyol Undebau y Tlodion a basiwyd yii y Senedd ddiweddaf. Wedi dadl hir, rhoddwyd caniatad:t ddwyn yr ysgrif i mewn. Rhoddwyd caniatad i Mr. Milner Gibson i ddwyn ysgrif i mewn. er rheoleiddio y gweithrediadau dan gyfreithiau neill- duol, er sefydlu a chynnal gwefrebau (telegraphs). Ar gynnygiad Syr S. Northcote, gorchymynwyd gwyseb jiewydd i ethol aelod Seneddol dros Devizes.
tDYDD GWENER, CHWEF. 13.
t DYDD GWENER, CHWEF. 13. Rhoddodd Mr. Hopvyood rybydd, y byddai iddo ef, dydd Llun, ofyn pa un a oedd y Llywodraeth yn bwriadu ymyraeth aphwnc y dreth eglwys yn ystod yr eisteddiad presenol. Rhoddodd Mr. Forster rybydd, y byddai iddo ar y 3ydd o Fawrth, gynnyg fod pwyllgor neillduol i gael ei flurfio, er edrych i mewn i weithrediadau cyfreithiau helwriaeth. Cynnygiai Mr. Peacock, fod anerchiad i gael ei gyflwyno i'r Goron, yn dymuno na fyddo caniatad yn cael ei roddi i werthu fforestydd y Goron er amgau tir o fewn i 15 milltir i'r brif- ddinas. Ar raniad y T9, pleidleisiodd 113 dros y cynnyg, a 73 yn ei erbyn. Yr oedd y Llywodraeth yn y llairif. Yna, ffurfiodd y Ty yn bwyllgor ar Fanciau Cynnilo y Llythyrdy, a banciau cynnilo ereill. Cynnygiai Canghellydd y Drysorlys benderfyniad, er ei alluogi ef i ddwyn mesur i mewn o berthynas i'r banciau cynnilo. Nid oedd v mesur yn effeithio dim ar reoliad cyffi-ediziol y trysorfeydd, ond a pher- thynas un dosparth a'r llall. Yn bresenol nid oedd un inodd cyfreithiol i ddirwyn i fyny yr hen fanciau, a dymunai ef rwydd- hau y ffordd er dwyn hyny oddiamgylch, os ewyllysid gwneyd hyny. Wedi ycliydig: ymddyddan, caniatawyd i ddwyn y mesur i mewn. Yn ganlynol, cymmerodd dadl hirfaith le o berthynas i'r dreth ar ddybaco, yr hon a ddiweddodd drwy roddi caniatad i Mr. W. Martin i ddwyn ysgrif i mewn er lleihau rnwymedig- aethau tafarnwyr ac ereill, ae i attal cyflawniad twyll arnynt. Rhoddwyd caniatad i Mr. A. Smith i ddwyn ysgrif i mewn er gwellhau y modd y cymmerir pleidleisian mewn etholiadau trefol.
DYDD LLUN, CHWEF. 16.
DYDD LLUN, CHWEF. 16. Mewn atebiad i Mr. Hopwood, dywedai Syr G. Grey, nad oedd y Llywodraeth yn bwriadu dwyn un mesur gerbron ar bwnc y dreth eglwys yn yr eisteddiad presenol. Gofynai y Milwriad Sykes, a oedd yn wir fod Rwsia a Ffrainc, drwy gytundeb diweddar a'r Llywodraeth Dartaraidd, wedi cymmeryd meddiant, ac yn amgaeru, tiriogaeth neillduol yn China. Dywedai Mr. Layard nad oedd y Llywodraeth wedi derbyn un hysbysiaeth swyddogol ar y mater. Darllenwyd ysgrif cofrestriad genedigaethnu a marwolaethau (Iwerddon) yr ail vaith. Rhoddwyd caniatad i ddwyn ysgrif i mewn er gwneyd heol newydd o'r Mansion House i Black- friar's Bridge. Wedi darllen ysgrif Banciau Cynnilo y Llythyrdai yr ail waith, gohiriodd y Ty am hanner awr wedi pump.
• 1tUt$iøU iiyfMiwl,
• 1tUt$iøU iiyfMiwl, Cyfarfu Dug Rntland a damwain y Sadwrn diweddaf wrth hela. Taflwyd ef oddiar ei geffyl, a chafodd niwed mawr ar ei wddf, ei gefn, a'i ystlys. Ffrwydrodd gweithiau pylor y Meisttiaid Barker, ger Ulver- stone, yr wythnos ddiweddaf, a chollodd tri o'r gweithwyr eu bywydau, a chlwyfwyd pump. Mae yr oil o'r tai wedi eu llwyr ddinystrio. Cymmerodd ffrwydriad o nwy (gas) leyr wythnos ddiweddaf yn y Cock Inn, Fenton, swydd Stafford, a lladdwyd tri o ber- sonau—Mrs. Leach, a'i merch, a'i phlentyn. LLOFRUODIAETH ERCHYLL YN FFHAINC.—Cyflawnwyd llofruddiaeth farbaraidd gan bedwar is-ringyll o'r 40ain gatrawd o wyr trapcl, ger Lyons, yn Ffrainc. Yr oedd itermwr yn dych- welyd gartref olldeutn deg o'r gloch y nos gyda'i wraig ipuanc, wedi bod ar ymweliad yn nh9 ei thad hi. Ar rtfordd cyfarfu- asant a'r pedwar is-ringyll, y rhai oeddynt yn myned tua'r gwer- syll. Ymdrecbodd y milwyr wahanu y gwr a'r wraig oddiwrth eu gilydd, ac yn yr ymdrech lladdwyd y gwr yn y fan. Pan gyrhaeddodd y newydd y gwersyll, yr oedd yr holl filwyr a'r swyddogion yn y lie yn llawh cynddaredd yn erbyn yr is-ryng- yllion am eu gweithred giaidd, a gwnawd tanysgrifiad er cyn- northwyo y weddw dman, yr hon sydd wedi ei gadael yn ddwy ar hugain oed a dau o blant amddifaid, un yn ddwy flwydd oed, a'r llall yn wyth mis. Nid oedd y g*r druatt ond deg ar hugain oed. Dilynwyd ei gorff i'r bedd gan yr holl gatrawd, ac y ,mae y Hofruddion yn ngharchar. GWASANAETH NEWYDD I GYLCHBAls.-Pan oedd y ger. bydres ar ei thaith o Glasgow i Greenock ychydig ddiwrnodau yn ol, yr oedd yn un o'r cerbydau ferch ieuanc brydweddol, ac am dani gylchbais o faintioli anferth. Yr oedd hi yno yn eithaf gweledig i bawb pan oedd y gerbydres yn myned i mewn i'r geuffordd, ond wedi dyfod maes i oleu dydd y pen draw; yr oedd hi wedi myned o'r golwg. Ynganodd un o'r teithwyr ei ryfeddod, gan ofyn heth oedd wedi dyfod o honi. Atebwyd ef gan ferch arall, All right:'? a chan nodi a'i bys at rywbeth a ymddangosai fel sypyn o ddillad, dywedai fod ei chyfeilles wedi encilio i mewn i'w chvlchbais Ei Jyben dros hyn oedd, ei bod am ddianc casglydd y tocynau yn yr orsaf nesaf, gau nad oedd ganddi docyn. Cyn gynted ag yr awd drwy yr orsaf, ai ymddangosodd y ferch yn ei holl ogoniant yn nghanol banllefau y teithwyr, y rhai a. fwynhaent yn ddirfawr y ddyfais trwy yr hon y twyllwyd cwmpeini y rheilffordd. Y GEORGE (-"EtISWOLI).-Mae'r Ilong hon, yn llwythog a chyflenwad o angenrheidiau bywyd, addanfonwyd gan drigoUon America i'r trueiniaid yn swydd Lancaster, wedi cyrhaedd Liverpool, ac yn unol a chais y Llywodraeth, rhoddwyd iddi gyfarchiad breninol ar ei dyfodiad i mewn i'r porthladd. Heb. law y cig, y blawd, y gwenith, &c., dygodd gant ac wyth o filoedd o ddoleri er esmwythau gwasgfeuon y bobl. DALIAD FFUGIWR. Y mae beddgeidwaid Paris wedi newydd (Idil dyn ieuanc, yr hwn oedd wedi ysbeilio cwmpeini aniaetliyddol 3 11 Aberdeen o swm fawr o arian. Yr oedd yn teithio dan yr envv Stanley, ac yn bedair ar bumtheg oed. Cymmerodd ystafell yn y Rue de Clichy. Dilynwyd ef gan un o heddgeidwaid dirgel Aberdeen, ac un o aelodau y gymdeithas. Ymddeugys rnai ysgrifenydd ydoedd yn ngwasanaeth y cwm- peini, ac iddo trugio enw un o'r aelodau wrth bapyr, trwy yr hwn y darfu iddo godi y swm q X960 wedi hyny iddo fyned i Lundain, lie y gwariodd ddeugain punt ar oriawr a chadwyn, ac oddiyho ffodd i Ffrainc. Aeth ei erlynwyr at benaeth yr heddgeidwaid, a ehawsant gynnortliwv dirgel wasanaethydd, yr hwn a'u tywysodd yn yr b-ivyr i d proffiswr ieitboedd ag oedd ar y pryd yn traddodi darlith, ac yno, er eu syndod, oedd y sawl oeddynt yn chwilio am dano. Trodd Stanley yn brudd iawn pan ganfu ei hen gyfeillion, ond gau fyned yn mlaen at gynnrychiolydd y cwmpeini, dywedodd, Maddeuwch i mi; mi gollais fy mhen pan gyflawnais y weithred ddrwg." Wrth ei chwiiio, ni chafwyd arno ond ychydig ddarnau o aur, ond yn ei ystafell, cafwyd nodau un o fanciau Aberdeen am j £ J640 wedi eu rholio fyny yn daclus yn maril ei lawddryll.
AMERICA.
AMERICA. Efrog Newydd. Ion. 30. Mae anturiaeth y Cadfridog Undebol M'Clernand wedi glanio ar ochr Louisiana ar yr afon Mississippi, PPI, pum milltir yn is na'r afon Yozoo, yn agos i Vicks- burg. Y r oedd dwy gatrawd ar waith yn ail agor y camlas er troi llwybr yr afon o'r cwrs arferol. Gadawodd y Cadfridog Grant Memphis ary 27ain i fyued i Vicksburg. Y mae ugain o gatrodau Undebol yn Baton Houge. 0 ZD 0 Y mae llu mawr Undebol hefyd yn Warrentown. Y mae'r Cadfridog Banks yn New Orleans etto. Mae yr Undebwyr wedi dinystrio yr agerlong haiarn-beiriog "Cotton," berthynol i'r Gwrthrvfel- wyr vn Bayouche. Y maent hefyd wedi amgylchu y milwyr ar y tir, a thybid y byddai raid i'r Gwrthry- felwyr roddi fyny eu harfau. Mae yr agerlong Montak wedi hwylio o Port Z5 r5 Royal er dkl yr agerlong wrthryfelgar Nashville vii yr afon Ogchee. Mae yr agerlong wrthryfelgar Orietto wedi cyr- haedd Havannah, ac wedi hwylio oddiyno drachefn. Cymmerodd nifer o longau bychain ger Cardenas. Tybir ei bod yn awr wedi. hwylio i India Ddwyrein- iol. Mae dau Senedd-dy Missouri wedi pasio pender- fyniad yn galw ar y Congress i ganiatau pum miliwn ar hugain o ddoleri er rhyddhau y caethion. Dygwyd penderfyniad i mewn i'r Senedd yn Jersey i'r perwyl fod y bobl wedidigaloni o herwydd yr aflwyddiant milwrol, am yr hwn nid oedd y Cad- fridogion ar y maes yn gyfrifol, ac mai yr unig ffordd i achub y wlad oedd adfer y Cadfridog M'Clellan. Efrog Newydd, Ion. 31. Y Cadfridog Couch sydd yn llywyddu asgell ddehau byddin y Potomac, a'r Cadfridog Mead y canol. Mae'r asgeH aswy dan y Cadfridog W. F. Smith, a'r fyddin achlysurol dan y Cadfridog Siegel. Mae'r eira yn chwech troedfedd o drwch yn Fal- mouth, a'r ffyrdd yn annhramwyadwy. Mae y Cadfridog Burnside i gael ei holi gan bwyllgor Seneddol o barthed i'r ymyriad a'i gynHun* iau gan swyddogion is-raddol. Mae poblogrwydd y Cadfridog M'Clellan yn cyn- nyddu. Y mae ef yn awr yn Boston, ac yn caeltwys- ged o sylw yno. Bwriedir rhoddi iddo dderbyniad cyhoeddus. Derbyoiwyd cynnygiad yn Congress i osod M'Clellan wrth beu y fyddin gyda banllefau o gym- meradwyaeth o'r orielau cyhoeddus. Dywedir fod y Gwrthryfelwyr wedi cael eu trechu yn Savannah. Nid yw Congress y Gwrthryfelwyr yn ffafriol i fesurau dialeddol Jefferson Davis. y Mae yr agerlongau Prydeinig, 11 Rising Dawn" ac it Antonina," wedi cael eu cymmeryd gan yr Un- debwyr. Dywedir fody Cadfridog Cororan wedi trechu y ■G-wrthrt felwyr dan y Cadfridog Prynne, yn Suffolk, Virginia. Hysbysir gan y newyddiaduron Gwrthryfelgar fod yr Undebwyr yn cyrchu o Newbern mewn dwy golofn, y naill i Kingston, a'r llall i Willmington. Mae llynges Undebol o 92 o longau yn gorwedd YI1 mhorthladd Beaufort. Dywed y Tribune fod y gweinidog Ffrengig yn gwadu ei fod ef yn ymdrechu dwyn oddiamgylch ymyriad. Cymmerir y bleidlais yu y Congress ar yr ysgrif yn awdurdodi (Furfiad catrodau y negroaid ar ddydd Llull nesaf. Mae Mr. Wardsworth o Kentucky wedi hysbysu yn y Congress, os danfonir cfttrodau o negroaid drwy Kentucky, y bydd i'r Kentuckiaid wrthwyaebu eu mynediad drwy'r dalaeth. Mae y Cadfridog Hooker wedi. ei bennodi i brif lywyddiaeth byddin y Potomac. Y mae gwahanol farnau am ei gymhwysderau. Dywed yr Herald lei fod wedi profi fod ynddo gymhwysderau ymladdol, ond fod gydag efetto i brofi y galllywyddu ddau can mil o wyr. Mae'r un papyr yn barnu pe buasai M'Clellan wedi cael ei ail bennodi, y buasai hyny wedi calonogi y fyddin, a rhbddi hyder i'r wlad. Taenir y gair y bydd i fyddin y Potomac gael ei thori fyny, a'i danfon i ymosod ar fanau ereill yn lIe Richmond. Mae y Cadfridog Hooker wedi dewis prif gynnuli- fan gwahanol i eiddo Burnside. Dywedir fod pedwar ugain o swyddogion i gael eu symud o'r fyddin am ddefnyddio iaith anmhiiodol tuag at eu penaethiaid o barthed i symudiad M'Clellan a'r ddedfryd ar y Cadfridog Fitzjohn Porter. Bydd i anturiaeth M'Clernand gydweithredu yn union a'r Cadfridog Grant mewn ymosodiad nevvvdd ar Vicksburg.