Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YMDDYDDANION Y TEULU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMDDYDDANION Y TEULU. GAN Y PRYFGOPYN. PEN. VI. Ar nos Wener cyn y ddro yn y Gwaith Mawr, yr oedd Morgan Jones yn lied brysur yn gwneyd i fyny ei gyf- rifon, a t'hyfrifon amryw o weithwyr oedd o dan ei ofal, ac un a'r Hall yn dyfod i mewn ar negeaeuau, a phob un vn cael gair serchus oddiwrth Mr. Jones a'i wraig dda. Pan oedd Morgan Jones ar osod ei hun mewn agwedd i orpbwys a mwynhau cyfeillach y teulu, daeth cnoc etto ar y drws. Agorwyd ef gan Maria, ac mewn eiliad gwridiodd hyd wreiddiau ei gwallt; ond estynai ei Haw allan, yr hon a wesgid yn garedig gan law mor onest a fu yn cydio mewn morthwyl erioed. Pwy sy' 'na, Maria?" gofynai y fam. U William Parry, mam," oedd yr ateb, ac yn para i edrych yn wridiog. Dewch i mewn, William, gadewch i ni gael eich gwel'd," meddai Morgan Jones. Ar hyn, daeth dyn ieuanc tal, cryf, a hoew i mewn, gan ddal ei het yn ei law chwith, tra yn estyn y ddeheu i gael ei siglo yn serchus gan ben y teulu. Ac wedi cael amser i longyfarch Mrs. Jones, a'r rhelyw o'r teulu, der- byniodd y gwahoddiad i eistedd i lawr, a gwneyd ei hun gartref. "Wel," meddai Morgan Jones, sut yr ydych wedi ymdaro er pan welsom chwi o'r blaen? B'le yr y'ch wedi bod? gan y deallwyf na ddarfu i chwi aros yn hir gydag en gin y rhelway. H Wel, naddo, Syr," meddai William Parry. Cam- synied ynwyf oedd gadael y lIe hwn. Take in hollol oedd concern y Railway newydd. Gadewaist hwynt yn fuan. Buais am dymhor yn Abercarn, ond nid oeddwn wrth fy modd yno; felly, daethym i'r gwaith newydd wrth Crymlin, lie yr wyf yn awr am dymhor, beth bynag. Mae y gwaith yn eithaf caled, ond y mae y gyflog yn lied dda mewn rhai rhanau o'r gwaith." "Abercarn,meddai Morgan Jones. "Dynallemae yr eglwys o'r ffasiwn newydd, on te fe ? Beth ma nhw yn ei galw—yr Eglwys Bresbyteraidd Gymreig, ne rhyw shwdenw fel hyny ?" le, dyna'r fan, nhad," meddai Robert; H ae yno y mae y Parch- Mr. Charles, gynto Drefecca, yn offeiriad." William, chwi allwch rhoi tipyn o'i hanes i ni, ond odid," meddai pen y teulu. Gallaf, am a wn I," meddai; ond fel llawer obeth- au ereill yn y by(I yma-'great cry but little wool,' ys dywed y d-I pan oedd yn cneifio y mochyn 'slawer dydd. Mae mwy o swn o lawer nag sydd o sylwedd ac mae yr eglwys yn ei hagwedd newydd yn debyg o fod yn fwv o felldith nag o ddaioni o lawer." "Am dir caton 1'r dyn, shwd i chi yn meddwl hyn?'' gofynai Shon mewn tipyn o syndod. Mae yn hawdd iawn cyfrif am hyn," atebai William Parry. Mae yr eglwys yna yn protfesu bod yn eglwys rydd, ac etto yn fath o eglwys wladol; ac ar y pretence ei bod yn rhydd ac yn efengylaidd, mae dysgwyliad i bawb sydd o dan grafangau Arglwyddes Llanofer i fyned iddi, ereubod yn aelodau mewn eglwysi ereill. Mae mwy o erlidigaeth wedi cael ei acbosi eisoes gan yr eglwys hon nag a fu yn yr ardal am y can mlynedd diweddaf. Mae dynion crefyddol yn dechreu gwerthu eu hegwyddorion -rhai er mwyn gwen, a rhai rhag ofn gwg rhyw would. be-men-in-authority, y rhai ydynt ag enw Lady Llanover ar flaen eu tafodau mor llipa a chawl erfin. Y pwnc mawr yw, llanw yr eglwys serch gwaghau pob lie arall o addoliad yn yr ardal. Cesglir deiliaid Arglwyddes Llan- over o bellder mawr o ffordd i ddyfod i'r eglwys hon- rhai o honynt yn myned heibio i'w capeli eu hunain, er bod yn bresenol i blygu y glin i ddelw newydd Abercarn." 'Dwy I etto ddim yn gallu deall peth fel yna, Wil- liam, meddai Morgan Jones, gan grafu ci ben. "Wei, 'dwy I ddim yn meddwl -y buaswn innau yn ei' ddeall, oni buasai fy mod yno, ae yn dyst o'r pethau," oedd ateb William Parry. Dyna, er enghraifft, i es- bonio fy meddwl, Mr. George mae e'n un o hen ddiacon- iaid eglwys y Bedyddwyr yn Bulah ac yn wir, dan gofiO, y mae y Mr. George presenol yn aelod yn eglwys Bulah) Mae ef yn agent o dan Lord Llanover. Mae ef yn lied arwyddo mai dymuniad Lady Llanover yw iddo ef fyned i'r eglwys. Mae ef yn myned iddi yn gysson iawn a'r hyn syddyn hynod yw, ei fod yn dadleu a'i hen frodyr yn Buiah y gaU fyned yno mor ami ag y myn, a chadvr ei aelodiaeth yn Bulah yr un fath, ddim ond iddo ef gadw y cymmundeb yn Bulah. Mae nid yn unig yn myned ei hunan, ond yn mwy na hanner gorfodi ereill i fyned hefyd, gan ysgwyd uwch eu penau enw Lady Llanover. Mae pethau fel hyn yn debyg o effeithio drygau dychrynllyd7 drygau nas gallesid eu eyflawnu gan Eglwys Loegr-ïe,. nas gallesid eu gwneuthur gpja Eglwys Rhufain ei hun. Yn wir, mae drwg mawr yn cael ei wneyd yn barod." Duw faddeuo iddi nhw," meddai Morgan Jones. Mi alia I ddeall tipyn o erlid crefyddol oddiwrth y Pab,. neu ddyn fel Harri o Exeter ond wfft fyth pan fyddo rhyw swyddogion bach fel y Mr. George hwn yn myned i erlid-mae yn ofnadwy dros ben." "Nhad," meddai Robert, "fy marn I, chwi wyddoch, yw, fod cyfeiliornad ac erlid yn fwy genuine yn Eglwys Rhnfain nag mewn un man arall. Mae y counterfeits crefyddol sydd yn dyfod mor agos i'r gwirionedd yn fwy peryglus na chyfeiliornad ag y gall pob pfentyn weled mai cyfeiliornad yw. Ac y mae yn hawdd genyf gredu yr hyn a ddywed William Parry, y gwna Eglwys Bresby-" teraidd Abercarn fwy o ddrwg na phe buasai hanner dwsin o Eglwysi Gwladol yno." Ond aroswch, fy mechgyn mavrr I," meddai Morgaiit r Jones. "Ydych chwi ddim yn meddwl y bydd i Lady Llanover ganiatau i ryw rai fel y George hwn i ddi- raddio ei henw, trwy lusgo ei deiliaid i'r eglwys hon yn awr yn fwy nag o'r blaen ? Na, na, bydd i drigolion yr ardal ar unwaith i alw cyfarfod, a threfnn mesuran i osod y mater o flaen Lady Llanover, a mentref un peth, y gosodir terfyn ar y busybodies sydd yn awr yn ei henw yn gwarthruddo rhyddgdrweh ac anmhleidgarwch y fonedd- iges o Lanover." Wel, dyna, mae pawb yn dywedyd nad oes neb yn licio dechreu," meddai William. Wel, b'le mae y wasg ? B'le mae y beehgyn sydd yn arfer 'sgrifenu ? Cynhyrfer y boys, cynhyrfer y boys, ac yn fuan codir digon o storom i chwythu y flFwlach hyn i gered etto. Felly y Uefarai Morgan Jones wedi ei gynhyrfu trwyddo. Ar hyn, dygwyddodd fod gan Maria rhyw neges yn y pentref, a gosododd y fonet fach shonea ar ei phen, a ffwrdd k hi. 1 Ac fe ddygwyddodd i William Parry gofio yn sydyn fod eisieu myned arno yntau. Felly, wedi ffar- welio a'r teulu, dilynodd gamrau Maria, ac yn y fan yr oedd wrth ei hochr, a'i llaw hi yn gynhes o fewn,ei fraich yntau ac felly, ac felly, ac felly-ond ni ddywedaf y glee a fu o'r pentref ac yn ol. 0 na, na, yn wir.

j DARLITH AR HANES JOSEPH…

! YR HUGUENOT.