Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

YR WYTHNOS

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR WYTHNOS MAE y Senedd yn para yn lied dawel, ac hvd yn hyn heb wneyd ond ychydig ag sydd yn meddu dyddordeb i'r dar- llenydd. Y peth mwyaf pwysig i ni yw, a'r peth mwyaf rhwydd gan ein Seneddwyr ei wneyd yw pleidleisio eu henwau at wahanol achosion. Yr unig noswaith y bu y Ty yn llawn eleni oedd y noswaith y daeth Arglwydd Palmerston a chyflog Tywysog Cymru a'i ddarpar-wraig yn miaen. Penderfynwyd yn ddidaro iawn i wneyd ei gyf- log flynyddol yn GAN MIL O BUNNAU. Maeyn deg hys- bysu, fodd bynag, nad yw yr oil o'r swm hyn i ddyfod o'r trethi, ond gwneir hi i fyny mewn rhan o gyllid Duciaeth Cornwall, ac mewn rhan o'r trethi blynyddol. Mae y swm mawr ag sydd wedi ei gynnilo gan y Tywysog Albert yn ei drafodaeth o gyllid y Ddugiaeth, gyda rhent- oedd blynyddol meddiant y Ddugiaeth, yn werth .£60,000 yn y flwyddyn; yna mae y Senedd wedi pleidleisio ^40,000 arall i'w talu yn flynyddol i'r Tywysog. At hyn mae y Senedd wedi penderfynu i wraig y Tywysog i gael y swm o ^10,000 o bunnau yn flynyddol at ei gwas- pnaeth personol ei hun ac os dygwydd iddi gael ei gadael yn weddw ei bod i gael y swm blynyddol o £30,000, tra y byddo hi byw. Heblaw hyn nid oes fawr angen wedi bod am rhyw fan siarad heb fod yn meddu rhyw ddy- ddordeb mawr. Mae yn dda genym fod ein dysgwyliadau am y tal i'r fyddin a'r llynges wedi eu cyflawnu. Mae yramcan-gyf- rifon wedi eu cyhoeddi, a gwelwn fod y Ueihad yn gryn swm uwchlaw DWY FILIWN o bunnau eleni wrtheu cyd- mharu ilynedd. Mae hyn yn achos o lawenydd, pan feddyliom am y cynnydd dychrynllyd sydd wedi bod yn cymmeryd lie bob blwyddyn er ys tymhor bellach ond etto riciae yno ddigon o le i gwtogi llawer er dwyn y treul- ion la^er yn is nag y maent yn awr. Nid ydym yn gwy- bod etto beth fydd cyullun y canghellydd tuag at ddefn- yddio y gweddill dwy filiwn hyn—pa drethi a gant eu lieihau; rhaid aros hyd nes y cawn ei esboniad ef o hyn i ddechreu Ebrill. Mae amryw etholiadau wedi ac ar gymmeryd lie, a braidd yn mhob un o honvnt mae y Toriaid wedi bod yn fuddugoliaethus. Mae yn amlwg fod nerth y Toriaid yn fawr yn y Ty Isafj digon prin y mae gan Palmerston ddigon o rif i ddwyn yn mlaen y gwaith oni bai ei fod yn agos gvmmaint Tori a larll Derby ar bob peth, ond eu trafodaeth a gwledydd tramdr. Nid oes genym le i ddysgwyl am unrhyw fesur o un gwerth oddiwrth ef a'i frodyr yn ystod yr eisteddiad presenol. Mae y bobl megvs o un galon yn gwneyd darpariadau i dreulio dydd priodas ein Tywysog ni yn llawen. Mae y darpariadau mwyaf mawreddog ac amrywiog yn cael eu gwneyd. Mae pobl Llundain yn penderfynu rhoddi i'r Dywysoges Alexandra y derbyniad mwyaf croe sawus a fedrant, heb arbed traul na thrafferth. Mae dinas Llurr- dain yn myned i gyflwyno anrheg iddi yn werth £ 10,000 o bunnau. Go lew. Mae ein newyddion tramor o natur gynhyrfus. Mae Poland yn cael sylw Ewrop. Er fod Rwsia wedi ei dileu hi oddiar fap Ewrop, etto mae ysbryd yr hen ryddgarwyr a'r dewr-ymladdwyr yn para yn Poland. Maent wedi rhoddi llawn dash i Rwsia, er cael ei helpu gan Prwsia, i osod y terfysg presenol i lawr. Mae pethau yn PTwsia fel yr oeddynt—yn ffrae rhwng y brenin &'r bobl. Mae Awstria yn hynod o dawel. Nid oes. dim o un pwys o Itali-

HELYNTION AMERICA.

Y DIWEDDAR MR. GEORGE PALMER,…

EBEN FARDD WEDI MARW!

GOHEBIAETH 0 MOUNTAIN ASH.