Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

IPATAGONIA. i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PATAGONIA. i Anwyl Gyfeillion" Y mae llawer iawn o ddadleu wedi bod yn nghylch y wlad uchod ar faesydd y newyddiaduron. Diau y dylai fod beddwch weithian rhwng y ddwy blaid, Credwyf nad oes angen sibrwd gair o berthynas i'r wlad ond gan fod y cyfeillion addien hyny o Mountain Ash wedi anfon nodyn i'r SEREN yd ei chylch, a chan fod eu darluniad o honi dipyn yn rhy wallus, bvddai yn llesol ei ateb, rhag i un o'r vmfudwyr dybied fod yr'anturiaeth yn rhy beryglus iddynt. Diau fod y cyfeillion hyn wedi eu gorlenwi a syniadau isel annghyffredin am yr ysgogiad, gan eu bod a'u boll egnLyn ceisio perswadio eu cyfeillion rhag myned yno. Dichon f3d yn well ganddynt iddynt fyned n giprys rhwng gwahanol genedloedd y ddaear nag ymfudo at eu gilydd i Patagonia, lie y cant feddiannu tir- oedd heb drais, a nodi terfynau eu rhyddid euhunain, a mwyn- hau pob peth yn iaith ac arferion eu hen wlad. Pe buasai y cyfeillion yma wedi darllen ychwaneg am Patagonia, ni fuasent yn crybwyll am dani fel ag y gwnaetbant. Y mae yn wir fod y wlad yn breswylfa i ychydig o anwariaid, tua 6,000 o nifer, a'r wlad tua mil 0 filltiroedd o hyd, a naw cant 0 hanner oled. Er mwyn cael gwybod sut ddyuion yw y Patagoniaid, edrycher yn ngweithiau y Cadbeniaid King a Fitzroy, ac yn llyfr Mr. Mayne Reed ar Odd People," tudal 436, pa rai a fuont yn y wlad yn ei chwilio trwyddi. Dywedant nad oes achos i neb, pwy bynag, bfni y Patagoniaid. Crybwyllant am danynt fel bodau gwareiddiedig a boneddigaidd yn yr holl ymdrafodaeth a fu rhyngddynt a hwy; ac y mae yr holl dystion ag sydd wedi bod yn nrchwilio y wlad yn dywedyd ei bod yn llawn anifeiliaid, da, defaid, cetfylau, a phob math o ednod. Profa hyn nad oes ynddi ond ychydig iawn o greaduriaid rheibus. Dywed deg ar hugaino dystion, wedi iddynt gerdded ar hyd a lied y wlad, o For y Werydd hyd fynyddoedd yr Andes, ac yn eu holau, na ddarfu iddynt ar hyd eu holl daith weled un Hew, artli, blaidd, na Ilwynog, nac un creadur rheibus srall; ac am ffrwythlondeb ei thir a diogelwch ei phorthladdoedd, dywedent ei bod yn un o'r gwledydd mwyaf manteisiol yn yr holl fyd i sefydlu Gwladychfa. Cawn yr hanesion mwyaf dymunol am dani; gan hyny, betb dal ymegnion i berswadio'r Gwladych- ychwyr rhag myned yno. Myned sydd raid o hen Walia. Hyderaf y meddianna y cyfeillion hyn ysbryd ail i Llewelyn. Gwel y pennillion isod Ha, fy nghyfaill mwyn caredig, Mi anturiaf dros y mor, Tua Phatagonia'n llawen, Cadarn yw yi Arglwydd lor; Y mae hono'n wlad ysbfenydd, Hen hil Gomer fydd yn well ■ gael ei meddiannu'n gartref, Gwn, nac u» o'r gwledydd pell. Na fvdd fachgen ofergoelus, O fy nghyfaill hoff ei wedd, Draw uefydlwn ni Wladychfa Wych heb tagnel croch 11a chledd Nid oes dim yn Patagonia Greaduriaid rheibus iawn, Cawn lonyddwch yn ei mynwes O'r boreu-ddydd hyd brydnawn. Beth dal ofni, d'vved, fy nghyfaill, 1 Gwedd y mor a'i donaumaith? Gwir fod llawer wedi soddi 'Ngwael eu gwedd i'w fynwes laith Rhaid rayn'd ymaith 0 hen Walia, » Bleiddfaid ynddi sydd yn llawn, Ffrwyth ein llafur bob diwrnod Ysglyfaethiry pfydnawn. Miloedfl sydd o Gymry gloewion Dros y mor yn myned ffwrdd, Ffwrdd af finnan drosodd hefyd Pa beth bynag ddaw i'm cwrdd Gan obeithio Hwyddaf acw, Draw yn Patagonia gn Ar fy nhyddyn bach fy hunan, Acwln gweithio byddaf fi. i Ymwrola lnghyfaill alriol, Paid ag ofni'r crychiog li'; Paid a goddef I estraniaid Awdurdodi arnat ti Dere gyda'th gyfaill hawddgar Heb un dychryn dan dy fron, Ni feddiannwn Patagonia, Ilyfryd fyd 'nol croesilr don. Castell. LLYWELYN. [NODIAD.—Dymunem unwaith ac am byth hysbysu ein darllen- wyr, nad ydym ni, fel Golygwyr SBKEN CVKRU, yn cymtner- adwyo neb pa bynag i fvned i Patagonia. Byddai yn llai peryglus yn ein golwgni i chwi geisio sefydlu yn y Lloer. Nid ydym am i un Cymro yn mhen blynyddau yn Patagonia i'n melldithio am ei dwyllo yn SEREN CYMRU. Mae gair yn ddigon.—GOL.]

GOHEBIAETH O'R GOGLEDD.'

AMLWCH.

CWRDD CHWARTER Y BEDYDDWYR…

ABERDAR.

EGLWYS BRYNHAFOD AT EGLWYSI'.Y…

GOHEBIAETH 0 MOUNTAIN ASH.