Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

AMERICA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AMERICA. Efrog Newydd, Chwef. 7. Nid oes newydd o werth ei grybwyll wedi dyfod oddiwrth fyddin Hooker, gan fod cyflwr drwg y ffyrdd yn gwneyd pob symudiad yn annichonadwy. Dyjpedir fod Than o lynges y Gwrthryfelwyr dan M'Gruder yn Galveston wedi ail gyrnmerydy Sabine 'Pass, Texas, yn nghyd a'r llong Morning Light, nifer o fagnelao, a rhyw gymmaint o arlwyon rhyfel. Ar y 4ydd, darfu i M'Gruder gyhoeddi hysbysiad fod Galveston aholl arfordir Texas mewri cyflwr o warchae.1 Yr oedd chwrsjh ugain o longau wedi hwylio o Newbero, oil yn ^wym i borthladdoedd y Dehau; ac yr oedd y MetTimac newydd yn gorwedd saith neu wyth milltir i'j tu isaf i Richmond. t Y r oeddys yn codi gwrthgloddiau yn mhob cyf- eiriad er amddifFyfl^chmood, prif ddinas y Gwrth- ryfelwyr. Dywed y brysebion diweddaf o Vicksburg fod yr hurdd-Iong Undebdl, Queen of the West, wedirhedeg y gwarchae yn Vicksburg- ar yr 2il. Ymosodwyd arni gan gant o fagnelau ar yr un pryd pan yr oedd yn myned heibio. Ymosodwyd arm hefyd gan agerlong, ond gwnawd honb yn ddiles yn fuan gan y Queen of the West, yr hon fu dan dan y gelyn am dri chwarcer awr. Mae y gwrthryfelwyr wedi symud o'r tu ol i Fred- ericksburg. Ymosodasant ar wnfadau yr Undebwyr ger Ynys 10, ond trechwyd hwy. Dywed y Charleston Despatch ddarfod i'r Gwrth- ryfelwyr agor tan o un o'u magnelfeydd ar y gwnfad Undebol P. Smith," yr hdhoedd yn gorwedd yn Stone Hiver, ac iddiroddi mewn yn mhea awr. Yr oeddys yn ei pharotoi i fyned i'r mor dan luman wrthryfelgar. Dywedir y bydd i Butler gymmeryd lie HaIIeck. Y mae dau gynnyg o flaen Llywodraeth Indiana er dwyn oddiamgylch gymmanfa i benderfynu telerau heddwch. Y mae Llywodraeth Efrog Newydd wedi pasio penderfyniad yn datgan hyder yn Llywodraeth Lincoln, ac yn gwystlo eu cydweithrediad yn y gwaith o lethu y gwrthryfel. M ae Mr. Wendel Phillips wedi bod yn darlithio yn Brooklyn, gan annog y bobl i hawlio oddiwrth y Llywydd Lincoln fyddin o 500,000 o Negroaid,wedi eu harfogi yn briodol, erbyn y laf o Fai. Mae y camlas ag y mae y Cadfridog Grant yn eu ffurfio, yn un holtol newydd, Profoddi yr un a wnaethpwyd gan y Cadfridog Williams yn ddiwerth. Yn ol y newyddion diweddaf yr oedd y dwfr yn dechreu llifo i mewn iddo. Y mae,nifer lluosog o filwyr wedi glanio, ac wedi cyrehu dros yr orynys i fan gyferbyn a Warrington, lie y maent yn awr yn gwersyllu. Y maent mewn sefyllfa ag y gallant dramwy at y fyddin sydd ar ochr isaf Louisiana, os llwydda'r fvddin hyny i basio am- ddifFynfa Hudson. Y mae gan yr Undebwyr yn awr lu y ddwy ochr i Vicksburg, ond credir na chynnygir gwneyd dim byd nes y cyramerir amddifFynfa Hud- son, ac yr una y Cadfridog Banks a'r Cadfridog M'Clernand. Efrog Newydd, Chwef. 8. Dysgwylir i'r Llywydd Lincoln osod y Cadfridog M'Clellan yn ol ei swydd fel Prif Lywydd y fyddin o fewn yr wythnos nesaf. Nid yw pennodiad Hooker ond am dymhor byr. Nid oes dim o bwys yn ddysgwyjiedig o Vicksburg am fis. Hyderir y bydd y catnlas -yn barod erbyn hyny. Ymosodwyd ar lynges warchaeol Charleston yn ddisvmmwth gan longau y Gwrthryfelwyr, ar forau y 31ain o'r cynfis. Suddwyd un o longau yr Undeb, niweidiwyd un arall, a gyrwyd y lleill o'r golwg. Ar hyn danfonodd y Gwrthryfelwyr hysbysiad i bob tnan fod y gwarchae wedi ei godi, a bod rhyddid i longau fyned i mewn i ac allan o Charleston yn ddi- luddias am dri ugain niwrnod. O'r tu arall, dywed- wyd nad oedd y gwarchae wedi ei godi, ac nad oedd yn beth hynod yn y byd fod y llongau heb fod yn ganfyddadwy ar ddiwrnod niwlog. Mae y pwnc wedi cael ei drin gan newyddiaduron America d Lloegr, ood yr oeddynt braidd yn ddieithriaid yn barhu nad oedd y gwarchae wedi darfod, hyd y nod cyn clywed hanes yr Undebwyr o'r mater; ac wedi cael hwnw, y mae yn ymddangos yn eglur fod y gwarchae mor gadarn -ag erioed. Gofynwyd barn y Llywodraeth Brydeinig ar y pwnc, gan un o aelodau y Senedd, ond gommeddwyd ei roddi. Ymddengys ddarfod i bedwar Or llongau gwarchaeol ddychwelyd i'w gorsaf ger Charleston yn yr hwyr, a boreu dranoeth yr oedd yno ugain o longau. Pasiwyd yr ysgrif i arfogi negroaid gan y Cyn- nrychlolwyr ar yr 2il o Chwefror drwv fwyafrif o 83 yn erbyn 54. Y mae yn awdurdodi y Llywydd i ar ogi cynnifer o negroaid ag a farno efe yn ofynol ros ystod o ddim mwy na phum mlynedd. Bydd eu bwyd, eu dillad, a'u harfau yr un ag a roddir i'r milwyr ereill. Gellir pennodi swyddogion gwyn neu ddu arnynt, ond ni fvdd gan swyddog du un awdur- dod dros filwr gwyn. Ni fydd i negroaid perthy.nol i feistri teyrngarol gael eu cymmeryd fel hyn i wasan- aeth y Llywodraeth. Cyhuddwyd negrp o ledrad yn ddiweddar yn St. Louis, Missouri. Codwyd y pwnè, Ai dyn caeth ai rbydd oedd efe pan gyflawnodd y weithred. Dygwyd tystiolaeth i brofi ei fod gynt wedi bod yn gaethwas yn Mississippi. Datganodd y Barnwr mewn araeth gynnwysfawr fod y negro yn ddyn rhydd drwy rym teyrngri y Llywydd Lincoln. M«wn ymdrech a gymmerodd le ar yr afon Cum- berland rhwng nongau yr Undebwyr ac eiddo y Gwrthryfelwyr, cymmerodd yr olaf oddeutu ugain o negroaid oddiar fyrddau y llongau Undebol, ac heb unrhith o brawf, arweiniwyd hwy i gae ar bwys, cyJymwyd' eu dwylaw, a saethwyd hwy oil mewn gwaea oer. Diangodd dau drwy neidio o fwrdd un o'r llongau i'r dwfr, lie yr oeddynt yn dal eu hunain fyny wrth yr helm, a dim ond eu penau yn y golwg. 11. Gwelwvd hwy o'r tir, danfonwyd milwyr mewn badau atynt, saethwyd hwy yn eu penau nes oedd eu bym- y enydd yn daenedig dros wyneb y dwfr. Dyma beth mae y Gwrthryfelwyr yn wneyd a phob negro a fydd mor anffod.us a chwympo i'w dwylaw, a dyma'r getbern uffernol ag y mae rhai yn y wlad hon yn eu canmol mor uchel. Elrog Newydd, Chwef. II. Nid yw byddin y Potomac wedi symud. Gwnawd cynnyg gan yr Undebwyr i wthio llinellau y Gwrth- ryfelwyr yn ol yn nghymmydogaeth rorkstown, ond ni fuyn llwyddiannus. Collodd yr Undebwyr 30 rhwng clwyfedigion a IIaddedigion nid oedd son am golled y Gwrthryfelwyr. Cyrhaeddodd anturiaeth Forster Port Royal ar y 3lain o'r cynfis, ac yr oedd i adael yn uniongyrchol er cyhnorthwyo yn yr ymosodwyd ar Charlestown. ¡. Yr oedd yr hurddlong Undebol, Queen of the West, yn gwneyd dystryw mawr ar y Mississippi. Mae y Gwrthryfelwyr yn cadarnhau eu safle yn Fort Hudson, ac yn derbyn adgyfnerthion beunydd. Yr oedd yr Undebwyr wedi cymmeryd Lebanon, a 600 o garcharorion; Yr oedd y gwnfad Uudebol Montaulk wedi rhoddi fyny yr ymosodiad ar AmddifFynfa M' Allester: Tarawwyd y Montaulk chwech a deugain o weithiau, ond ni wnawd niwed o un pwys iddi. Gwnaeth agerlong, yr hon a dybid oedd yr Ala- bama, ei hymddangosiad ger y South West Pass yn ddiweddar. Cymmerwyd nifer o long-lywwyr i gar- char am ymddyddan a hi.

Y GWRTIIRYFEL YN POLAND.

--+-MARK-LANE. LLUNDAIN.

MARCHNAD ANLFEILIAID LLUNDAIN.

PRISOEDD YMENYN A CHAWS.

MARCHNAD YD LLYNLLEIFIAD.

MARCHNADOEDD CYMREIG.