Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

AMERICA.

Y GWRTIIRYFEL YN POLAND.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GWRTIIRYFEL YN POLAND. Wilna, Chwef. 16. Y mae trefydd a chymmydogaethau Llywodraethau Wilna a Grodno, wedi eu cyhoeddi gan y Llywodr- aeth Rwsiaidd mewn sefyllfa o warchae. Y mae llonyddwch wedi ei adferyd i gymmydogaeth Kiew. Cracow, Chwef. 17. Mae mil a phum cant o filwyr Rwsiaidd wedi cyr- haedd Michaloyice. Gorchfygwyd corff o wrthry- felwyr gan Swientyka Tysz. Yr oedd amryw gat- rodau o filwyr Rwsiaidd wedi cychwyn yn erbyn y gwrthryfelwyr dan lywyddiaeth Langeiriez. Cracow, Chwef. 18. Y mosododd y gwrthryfelwyr ddoe ar Manchow, ond buont aflwyddiannus. Gosodwyd Manchow wedi hyny ar dan. Yn yr ymosodiad ar Manchow, lladd wyd 300 o'r gwrthryfelwj r. Dywed y Patrie fod y gwrthryfel wedi gwasgaru drwy holl deyrnas Poland. Y mae Llywodraethwyr Taleithiau Lithuania a Volhyna, wedi gwrthod anfon milwyr i gynnorthwyo y Bkwsiaid, gan yr ofnant y bydd eu hangen arnynt hwy i amddiffyn eu Taleith- iau eu huilain. Cracow, Chwef. 20. Mae y Llywydd yn ddiolchgar i Lywodraeth Prwsia am amddiffyniad y cyffin rhwng Prwsia a Pholand-Rwsiaidd ond dywed y buasai unrhyw ymyriad arbenig yn beryglus i Posen. Posen, Chwef 20. Ymosodwyd ar Staszow gan y Rwsiald, ond gwrthgyrwyd hwy. Paris, Chwef. 21. Dywed y Constitutional fod ymyriad Prwsia yn y gwrthryfel Polaidd wediei wneyd yn gwestiwn Ew- ropaidd. Berlin, Chwef. 21. Mewn eisteddiad ar faterion Polaidd, nid oedd na Gweinidogion na Dirprwywyr Breninol yn bresenol, ac ni ddanfonwyd neges gan y Llywodraeth. Ys- grifenwyd hyn fel ffaith neillduoi ar y Ilyfr. Cvtun- wyd yn unfrydol ar gynnyg a wnawd gan y rhydd- frydwyr o barthed i Poland. Berlin, Chwef. 22. Cyhoeddir mewn amryw bapyrau heddyw ddarfod i'r cyffin Rwsiaidd Dobryw, gyferbyn a'r gyffin-dref y Ily Brwsiaidd Gollub, gael ei feddiannu am wyth awr yn ystod y nos rhwng dyddiau Mercher a Iau, gan fil- wyr Prwsiaidd, o herwydd v cri y byddai i'r gwrthry- felwyr ddyfod yno. Berne, Chwef. 22. Dywedir fod cyfran o'r ffoedigion Polaidd yn bwr- iadu cynnyg gorsedd Poland i'r Count Walewski, os bydd i'r deyrnas gael ei hail sefydlu. Cracow, Chwef. 22. Nid yw y llythyr gerbyd o Warsaw wedi cyrhaedd yma, gan fod y dramwyfa reilfforddawl rhwng y He hwnw a Chracow wedi cael ei chau fyny. Y mae'r ftaith hon yn cadarnhau y swnfod brwydr wedi cym- meryd lie ger Petrikan a Radousk.

--+-MARK-LANE. LLUNDAIN.

MARCHNAD ANLFEILIAID LLUNDAIN.

PRISOEDD YMENYN A CHAWS.

MARCHNAD YD LLYNLLEIFIAD.

MARCHNADOEDD CYMREIG.