Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

YRWYTHNOS

;MARWOLAETH ALAW GOCH.

Family Notices

CLADDEDIGAETH Y PARCH. JOHN…

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

y SEREN—E.K.&.L. Jones—Gwalialaw—Thomas tyatts—Eliza VV neeter—Idris o'r Cwm-James Douglas-Morgan Jenkinil-J. C. W.-F. Treg- trail-William Garmon-Dr. Prichard-Cynddelw. CVMRO.-Nid yw eich gohebiatth wedi dyfod i law. Dichon ei bod wedi ei gwrthod am ei bod dros bwysu-ond nid ydym yn sicr. CRYNFE 0 GWMNEDD.—Mae yn ddrwg genym nas gallwn ddeall yn hollol beth sydd geriych mewn golwg wrth ysgrifenu. EGLWT8 EBENEZKR, DYFBD.—Deallwn fod yr eglwYI barchut hon wedi rhoddi galwad unfrydol i'r brawd ieuanc David Grif- fiths, o Athrofa Pontypwl, gynt o Aberdar, a'i fod yn meddwl decbreu ar ei waith pwysig tua chanol yr haf ddyfodol. Y Byd Cymreig A BBDYDD.-Gwelwn fod perchenog a golygydd y BVd Cymreig wedi penderfynu am y Bedydd, ei fod i gael ei gau allan o'r Zfycf." Wei, dyna ddymuniad llawer wedi ei gael-cau bedydd allan o'r byd ond cofied y 11 Byd Ceiniog" fod y Bsdydd wedi byw cyn iddo ef gael ei erthylu o Gyfaill y Werin," a debris y Swyddfa hono, a bydd Bedydd fyw yn y byd wedi i" Fyd" ceiniog Castellnevrydd Emlyn fyned i ffordd ei lysdi|d, y Cyfaill." Mawr yw haerllugrwydd rhyw fath o gymineriadau-cau Bedydd allan o'r Byd Cymreig." Dyna y fiat wedi myned allan, ac, o gwrs, dyna ben ar y Bedydd. Byddwch yn bwyllog, garedigion, yr ydych yn ymladd yn erbyn Duw, a'r hyn a ordeiniwyd gan Dduw. Saif Duw a'i ordinhadau pan fyddo y Byd Cymreig yn myned i danio canwyllau. Y gwirionedd yw, mai ffolineb yw i un Bedyddiwr ddysgwyl cael agor ei ben ar y pwnc sydd yn ein nodweddu ni fel enwad, yn y y Byd Cymreig, y Faner Gymreig, yr Herald Cymreig, na dim arall Cymreig sydd yn nwylaw y Taenellwyr. Agorir dadleuou yn y papyrau hyn cyhyd ag y bydd hyny yn ateb dyben y Taenellwyr yna, yn y nick of time, pan ddelo y Bedyddiwr i siarad i bwrpas, a dwyn cnewullyn y ddadl i'r golwg, mae y Golygydd yn cau y drws, gan nad yw dadleu ar fedydd yn fuddiol. Mae yn bryd i ni fel Bedyddwyr ddyfod yn gall ar y pen hwn. Cawn gymmaint o chwaren teg gan wasg y Pab ei hun ag a gawn gan y wasg Daenellyddol Gymreig. HEB DALU.—Uythyr o Gaerdydd, ac un arall o Gaerffili, a dwy geiniog ar bob un; un o Rumni a phedair ceiniog un o Pitsburg, 01 America, & dau swllt i dalu arno. Mae y rhai hyn oil yn ddiogel yn Llundain-gall eu perchenogion eu cael oddiyno. Yr ydym wedi blino talu. Mae ein hamyneddgydalrceiniogau yn pallu, ac nid heb achos yn wir. D. JONES.—1. Difaterweh am achos eu heneidiau sydd yn peru i ddynion gysgu o dan y weinidogaeth am fynyd yn y byd. 2. Beth sydd i'w wneyd? Anhawdd gWybod; byddai yn dda genym wybod—byddai y receipt yn un o werth mawr. DIACON.-I. Mortmain Act sydd enw ar ddeddf a wnawd yn amser Iorwerth .1 er rhwystro dynien pan ar wely angeu i roddi eu tiroeed a'u meddiannau i'r eglwysi a'r mynachlogydd, fel yr oedd llawer wedi gwneyd, a thrwy hyny yn cyfoethoji y llwyth offeiriadol a mynachaidd ar draul yapeilio eu plant eu hunain. Yn awr er gwneyd rhodd yn dda at achos crefyddol, rhaid iddi gael ei gwneyd oleiaf un ftwyddyn cyn marw y rhoddwr. 2. Magna Charta, neu y Freinlen Fawr, sydd enw arysgrif bwysig a gafodd y Barwniaid gan y Brenin John, er sicrhau hawliau y deiliaid yn erbyn gormes y breninoedd yr oedd mor bwysig fel y gelwid hi Breinlen Fawr, neu weithiau Breinlen Rhyddid. Llawnodwyd hi yn Runaymede-lle rhwng Staines a Windsor. SCHOL.AR.-LJ.din wr oedd Cicero, a Groegwr oedd Demosthenes. EISTEDDFOD CAERFYKDDIN.—Mewn atcbiad i dri neu bedwar o lythyrau, dymunem ddywedyd ein bod yn cydymdeimlo yn hollol i'r mudiad daionus hwn. Mae yr amcan yn dda mae y bon- eddigion sydd yn blaenori yn foneddigion o ymddiried felly, o eigion calon, dywedwn, Duw yn rhwydd i Eisteddfod Caerfyr- ddin yn 1863. Er mwyn arbed amser a thraCorth, bydded i'n Gohebwyr anfon eu cynnyrchion, yn ol eu gwahanol dueddiadau, fel y canlyn IIifr Pob hanesion-crefyddol a chymdeithasol, archebion, a thaliadau, i Mr. W. M. Evans, Seren Cymru Office, Car- marthen. £ ST Y TRAETHODAU, GOHEBIABTHAU, &O.—Rer. T. PRICB, JROSE COTTAGE, ABERDARE. IW YR YSGRXFAU EGLWYSIG, o nodwedd yr erthyglau ar- weiniol Eglwysig, A:o., — Rer. B. EVANS, PBNTDRBF HOUSE, NEATH. t&T Y FARDDONIABTH,—Rev. J. R. MORGAN (Lleurwg), LLANELLY, CARMARTHENSHIRE. "SEREN" CYMRU" WYTHNOSOL. Pais SIREN CTJlRU i dderbynwyr a dalant am dani wrth ei derbyn. neu a dalant cyn pen wythnos ar ol i'r chwarter ddyfod yn ddyledul, yw Is. Ie. y ehwader; neu 11. 3c. 01 na wneir hyny. TIIIMUR yn ddiolchgar i'n dosparthwyr am gael niler y derbyn wyr yn 4, 9,13, &c., er arbed traul y postages. Nis gellir caniatau y postage pan fyddo y nifer dan 4. TALIADA U. Derbyniwyd taliadau oddiwrth,—T. M. Fron Gron, J. E. W. Bangor, S. LI. D. Maaceinion, a E. G. Abertawe.