Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

YRWYTHNOS

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YRWYTHNOS MAE yr Arglwyddi wedi rhoddi eu sylw i achos Poland, a da genym fod larll Ellenborough ac larll Russell yn llwyr a hollol gondemnio ymddygiad Rwsia yn y rhyfel angenfilaidd hwn tra y maent yn un mor benderfynol yn eu condemniad o ymddygiad gormesol brenin Prwsia, yn ei ymyriad creulon a. rhyddid trigolion Poland. Mae brenin Prwsia wedi troi yn fath o geispwl i Alexandra o Rwsia yn y mater. Mae yn ymddwyn fel gormesdeyrn o'r radd flaenaf. Mae yn syn i ni os na fydd iddo redeg ei yrfa i ben lawer yn gynt nag y mae, yn ei wallgofrwydd presenol, yn ei feddwl. Mae Ffrainc o'r tu arall yn dangos mwy o gydymdeimlad a Poland na allasem ddysgwyl oddiyno. Mae hyd y nod Awstria wedi gwneyd gwrthdystiad yn erbyn ymddygiad Prwsia yn yr achos hwn. Mae ein newyddion o America yn dangos pa fath dderbyniad a gafodd cynnygiad Napoleon L-gyfryngu rhwng y pleidiau rhyfelgar. Ychydig amser yn ol, fe gofia ein darllenwyr i Napoleon geisio cael gan Loegr i gyduno ag ef i gynnyg cyfryngwriaeth rhwng y Gog- lawrhydi wrthod anamserol. Yn •vcu. ^vvueya y cynnygiad ar ei gyf- nroiueb ei hun. Mae Mr. Seward, dros v Llywydd Lincoln, wedi gwrthod y cyfryw gyrinygiad, a hyn yn holfol a phenderfynol, ac wedi rhoddi hint i Napoleon i gofio cynghor Die Dywylly Pob dyn i feindio ei fusnes ei hunan." Purion, Mr. Seward. Nid rhyw lawer o fendith sydd yn canlyn ymyriad Louis Napoleon. Mae Itaii yn ddigon o siampl. Er fod llawer iawn o wa- hanol olygiadau gwleidyddol yn y Gogledd, a llawer iawn o rwystrau yn cael eu taflu ar lwybr Mr, Lincoln, etto mae y teimlad yn gryf y bydd i'r Undeb gael ei adferyd yn y man. GARTREP, mae Tywysog Cymru a'r Dywysoges Al- exandria yn cael yn agos holl sylw y wlad, o'r orsedd i lawr i'r bwthyn; pawb megys am ddangos eu teimlad da at y par ieuanc. Mae yn dda genym weled oddiwrth yr hanesion nad yw y tlodion yn cael eu hanghofio, gan fod y rhan fwyat, os nid yr oil, o'rtrefniadau yn cymmeryd i mewn y tlodion. Mae Cymru yn penderfynu dangos ei theyrngarwcb ar yr adeg mewn modd cynbes a chalonog. Mae aelodau Ty y Cyffredin yn myned trwy eu gwaith yn dawel a didaro iawn. Nid oes ond ychydig o fater- ion ag sydd yn tynu sylw y wlad. Nos Wener ddiweddaf daeth achos Poland i sylw, a da genym feddwl i Senedd Prydain lefaru yn eglur a difloesgni ar y mater. Yr oedd holl deimlad y Ty o blaid i Poland gael chwareu teg, ac yn condemnio ymddygiad barbaraidd Rwsia a Prwsia. Ni fydd hyn heb ei effaith briodol yn Ewrop, yn gystal ag ar deimladau y dyoddefwyr eu hunain. Mae llong arall yn llawn o fwydydd i weithwyr swydd Lancaster wedi cyrhaedd o America. Mae y fath ddan- gosiad o gydymdeimlad yn yr Americeniaid yn debyg o gael effaith dda i rwymo y ddwy wlad mewn serch a chariad at eu gilydd. Mae yn dda genym fod y wind mewn amryw gyfarfodydd cyhoeddus yn dangos ei theimlad yn erbyn caethiwed, ac o blaid ymdrechion y Gogledd i ddiddymu y gaethfasnach. Mae yn ddrwg genym fod masnach y wlad yn para mewn cyflwr difywyd. Mae y gwaith yn ychydig, a'r cyflogau yn isel.

;MARWOLAETH ALAW GOCH.

Family Notices

CLADDEDIGAETH Y PARCH. JOHN…

Advertising