Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

YRWYTHNOS

;MARWOLAETH ALAW GOCH.

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

GENEDIGAETHAU. Chwet. f8, priod Mr. Thos. Williams, Cerygyrwyn, Llangun- nog, ar ddwy ferch. Mae y fam a'r merched yn dyfod yn mlaen yn rhagorol. Chwef. 3, priod y Parch. J. Rhys Morgan (Lleurwg), Llanelli, ar ferch. MARWOLAETHAU. Chwef. 22, yn 77 mlwydd oed, y Parch. J. Sylvanus, Tanerdy, ger Caerfyrddin. Bu yn weinidog yn nghyfundeb yr Annibynwyr am flynyddau lawer. Chwef. 19, yn 26 oed, wedi ychydig ddyddiau o gystudd trwm, y brawd Theophilus Williams, Ruabon. Yr oedd yr ymadawedig yn bregethwr da yn Gymraeg a Saesneg, ac o ddefnyddioldeb eyff- redinol. Bydd colled mawr ar ei ol. Chwef. 18, y chwaer Barbara Thomas, aelod gyda'r Bedyddwyr yn Carmel, Fron, o gylch 24 oed. Yr oedd yn un o gantorion gorou Carmel. Dydd Gwener, Chwef. 6fed, Miss Elinor Jones, Llanerchymedd, o'r ddarfodedigaeth, yn 30 oed. Ba yn aelod gyda'r Bedyddwyr am 13 o flynyddoedd. Cafodd yr anrhydedd o gredu yn Nghrist, ei wisgo ef yn y bedydd. a chofio am ei angeu, pan yn 17 oed, trwy weinidogaeth y Parch. James Nicholas. Cadwodd ei gwisg gre- fyddol yn lan, a bu farw mewn gobaith am ddedwyddwch a gogon- iant tragwyddol yn y nefoedd. Nos Sadwrn, Chwef. 21, yn 37 oed, ar ol hir gystudd, Mrs. Ed- munds, anwyl briod y Parch. Edward Edmunds, gweinidog y Trefnyddion Calfinaidd yn Mhontneddfechan. Dydd Mercher can- lynol, hebryngwyd ei rhan farwol gyda'r gerbydres i Laneurwg (claddle y teulu), pryd y pregethodd y Parchn. D. Roberts (T.e.), a T. E. James-(B.), Glyn-nedd ac areithiodd Mr. Davies, Llan- trisant, ar Ian y bedd. Yr oedd yr angladd yn un luosog a chyf- rifol, yr hyn a ddangosai y teimlad mawr o barch a feddiannid at Mrs. Edmuud* yn ei bywyd.

CLADDEDIGAETH Y PARCH. JOHN…

Advertising