Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

(givjfafMjjtW (EMfijtltW.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

(givjfafMjjtW (EMfijtltW. PISGAH, PIL.-Gan ein bod yn bresenol yn byw wrth supplies, ac yn trefnu hyny am fit yn mlaen, carem i bob pregethwr fyddo yn ymweled a ni ar y Sabbath, i wneyd hyny trwy anfon ei gyhoeddiad fit cyn ei ddyfodiad, er mwyn trefn. DANIEL HOPKIN, DAVID JENKINS, THOMAS EVANS, Diaconiaid. "AMRYW FATHAU 0 BOBL."—Traddodwyd darlith ar y testun uchod yn nghapel Ebenezer, Merthyr, nos Lun, Chwef. 9, i gynnulleidfa luoiog a boneddigaidd. Yr oedd y ddarlith yn ddi- fyrus dros ben ond yn hollol rydd oddiwrth bob anfoesgarwch a gwaeledd. Yr oedd ei holl dnp-dd at wneuthur dynion yn well, yn naturiol ac ysbrydol. Ar ol eistedd dwy awr a hanner i wrando traddodiad y ddarlith, ymadawodd yr holl gynnulleidfa wedi eu llwyr foddloni. Ni ryfeddir pan hysbyswyf mai Lleurwg oedd y darlithi wr, a'r Parch. J. Evans, Abereanaid, yn ygadair. Cafwyd gan y darlithi wr i ymrwymo i draddodi ei ddarlith ar y testun uchod yn Hebron, Dowlais, doch-reu y mis hwn. Llwyddwyd gan eglwys Einon, Merthyr, hefyd i gael ei addewid i draddodi darlith iddynt hwythau yn fuan ar ol hyny ar Roger Williams." Gwelir wrth hyn faint poblogrwydd Lleurwg yn y gymmydogaeth hon.—D. 0. EBENEZER, LLA"NKLIAN.-Cynnaliodd yr ysgol Sabbothol uchod ei chyfarfod chwarterol yn y lie uchod Sul, Chwef. 8. Am 3 o'r gloch, dechreuwyd trwy i W. Williams adrodd 2 Pedr, a gweddiodd Thos. Jones ac wedi cael tôn gan y cor, dechreuwyd adrodd—1. Yr ysgol Sabbothol, gan R. Jones. 2. Pwnc yagol o waith T. Ltwis Rumni, ar Daniel, gan wyth o fechgyn ieuainc. 3. Rhoddodd H. Jones (sef yr holwr) anerchiad byr, a rhoddodd yr hen bennill hwnw allan i'w ganu,- Pwy yno ddechreua y gan ?" a chanwyd ef gyda hwyl annghyffredin. 4. Araeth dda a chyn- nwvsfawr gan R. Williams ar Fuddioldeb addyat; Fpreuol. 5. Cyflymder amser, gan J. Jones. 6. Adrodd 2 Pedr 3 gan M. Edwards. 7. Gweddi plentyn, gan J. Williams. 8. "Gogoniant Euphrata a Seren Bethlehem," gan M. Williams. 9. Dadl Ann a Betsi, o'r Athraw, gan A. a M. Jones. 10. Cysur Seion, gan M. Davies. 11. Araeth gan J. Williams, ar Ffydd!ondeb gyda'r Y Igol Sul. 12. Ton gan y cor. Nid oeddym yn dysgwyl cael cyfarfod mor dda o herwydd absenoldeb y Parch. J. James, ein parchus weinidog; ond trodd y fantol yr ochr oreu. Cawsom gyf- arfod da, a gobeithio y dilynir ef & bendith.—G. GLYN-NEDD.—Teilwng 0 Bfelychiad.-Darfu i'r cyfeillion parchus, Mr. John Thomas, Llythyrdy, Glyn-nedd; Mr. Thomas Howel Thomas, Fenallt; a Mr. David Rees, Arolygwr gwaith glo y Bwllfalr Onn, anrhegu yn ddiweddar Ysgol Sabbothol y Bedydd- wyr yn y lie hwn it rhes 0 Feiblau, Testamentau. a Ilyfraurhagorol ereill. Yr wyf dros yr Yagot, yn dymuno diolch yn galonog iddynt am eu caredigrwydd Cristionogol, gan obeithio yr efelychir of gan lawer ag sydd yn y cyffelyb gyfleusdra i wneyd daioni. Glyn-nedd. MoRGAw ETAXS, Arolygwr. LLANBFYDD.—Ar y25ain a'r 26ain o Chwefror, cynnaliwyd cyfarfod pregethu yn y lie hwn. Y brodyr a weiniasant oeddynt Prichard, Dinbych Evans, L'erpwl; Jones, Llanberis; Thomas, Llangefni. Ar y dydd canlynsl, pregethodd yr un brodyr yn Llan- sanan. Cafwyd pobl lawer i wrando yn y ddau garrdd. Pregeth. odd y brodyr yn ol eu harfer, a hyderwn fod llawer 0 les wedi ei wneyd.-G. CYFARFOD DAU-PISOL FFMNT.—Cynna!iwyd y cyfarfod uchod yn Helygen nos Lun a dydd Mawrrh diweddaf. Y brodyr a bregethasant eeddynt Evans, Llundain; Davies ac Owen, Rhyl Samuel, Rhuddlan; Jones, Wyddgrug; Jones, Penyfron a Hughes, Lixwm. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon gan Jones, Penyfron Evans, Llundain; a D. Jones. Bagillt. Y mae y gan- moliaeth uchelaf yn cael ei rhoddi i'r cyfarfod hwn. Y nesaf i fod yn Rhuddlan.—LLEWELYN. LLANDDDOCH.—Nos Fercher, y 25»in o'r mis diweddaf, yn yssfold^ y lie uchod, traddodwyd darlith ar yr Ysgol Sabbothol a'i Llyfr, gan D. W. Lewis. Am hanner awr wedi chwech, taflwyd y drysau yn agored, ac erbyn saith, yr oedd y lie yn orlawn o bob! hen ac ieuainc. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen Salm a gweddio; yna trwy unfiydol lais y gynnulleidfa, etholwyd Capt. G. Bowen i gymmeryd y gadair, yr hwn mewn araeth fer ond i'r pwrpas, a eglurodd natur y cyfarfod. Wedi hyny, gal wodd ar y darlithydd i ddechreu, yr hwn a'i athrylith a'i ddawn fel areithiwr medrus, a rwymodd glustiau pawb oedd yn wyddfodol wrth ei wefus am awr a hanuer. Yna terfynwyd trwy ganu y d/xology, a phawb yn ymadael wedi eu llwyr foddloni, ac yn tystio na chlyw- sant well dweyd erioed.—UN OBnu YNO. PONTYPWL.-Nos Iau, Chwef. 19eg, traddodwyd darlith ar y Diluw (Seisnig), yn nenadd y dref uchod, gan y Parch. T. Thomas, D.D., Llywydd Athrofa Pontypwl. Cymmerwyd y gadair gan y Parch. W. D. Harwood, yr hwn mewn araeth fer a phwr- pasol, a alwodd ar y parchus ddarlithydd at ei orchwyl. Nid oes angen canmol y ddarlith—digon yw dweyd ei bod yn deilwng o'r darlithiwr a'r testun. Parhaodd y darlithydd i anerch y gynnull- eidta am yn agos i ddwy awr; ac yr oedd a^wedd y bobl yn fwrando yn profi eu bod yn cael eu llwyr foddloni. Meddyliem y yddai yn fraint i drigolion Lloegr a Chyinru yn gvlfredinol gael y cyfleusdra o'i gwrando. Dymnnaf hir oes i'r darlithiwr, a go. beithiwyf y caf y fraint etto yn fuan o'i glywed yn darlithio ar ryw destun buddiol araU.—ANTHRoros. BETHEL, LLANELn.—Cyanatiwyd cyfarfod yn yr addoldy uchod nos Lun, Chwef. 2, er neillduo pedwar o frodyr da eu gair 1 r swydd ddiaconaidd. Neillduwyd hefyd, a hyny yn unol achyd- lyniad y Cwrdd Chwarter, y brawd ffyddlon David Job i gyflawn waith y weinidogaeth, fel y gallai fod yn fwy gwasanaethgar yn yr eglwysi cymmydogaethol. Traddodwyd pregeth dda a phwrpasol i'r diaconiaid gan y brawd R. D. Roberts, Llwynhendy, ac nn arall hwylus a dylanwadol i'r gynnulleidfa gan y brawd M. Roberts, Felinfoel. Cafwyd cynaulleidfa luosog a chwnld rhagorol, ac hy- derwn y b/dd i'n hanwyl frodyr a neillduwyd lanw eu swyddau pwysig er anrhydedd iddynt hwy eu hunain, a lies mawr i eglwys Crist.-W. HUGHES. FBLINHKLI.—Cyfarfod Ysgol.—Lie poblogaidd ar lan y Menai, hanner y ffordd rhwng Bangor o Cha-rnarfon, yw'r Felin- heli. Yr eedd yma hen felin amser vn ol, yn troi yn nghwr y dwr hallt. Porth Dinorwig y gelwir y lie fynychaf, am mai yma yr an- fonir llechau clpddfa fawr Dinorwig i'w llwytho. Mae'r lie yn cynnyddu yngynvtnmewn poblogaeth. Mte gan y Bedyddwyr gapel byehan hardd yn y He, ac ychydig o aelotlita gweithgnr yn ymdrechu codi'r achos i sylw a pharch yn y gymmydogaeth. Chwef. 20, arlrhegwydplant yr ysgol a the gan dair o'r chwiorydd. Mrs. Jonesyw y tair. Gwnaethant yn rhagorol. Yroedd y plant wrth eu bodd. yn chwareu ac yn neidio fel mynod, ar ol cael eu di- wallu a the a bira brith. Ynyr hwyr, eynnaliwyd cyfarfod cy- hoeddus i adrodd a chanu. Yr oedd y capel yn orlawn. Cyn- ddelw yn y gadair yn cadw bywyd a threfn yn y cyfarfod. Plant yr Ysgol yn adrodd yn dda iawn ac ystyried eu hoedran, o dan ar- weiniad yr arolygydd, sef Mr. Isaac Jones, y station master. Daethai amryw 0 Gaernarfon yno i gynnorthwyo, ac adroddwyd tri neu bed war o bynciau yn gampus gan dair 0 ferched ieuainc, sef Miss Roberts, Miss Jones, a Miss Prichard, o ysgol Caersalem. Yr oeddynt yn arddangos y galtu o gofio mewn msdd hynod. Ni chlywais nemawr yn y Deheudir yn rhagDri ar iynt. O ld y mae plant y South yn gyffredin, 0 herwydd mwy 0 ddysg ac ymarferiad, yn medru rhoddi mwy o fywiogrwydd areithyddol yn eu hadrodd- iadau nS phlant y North yma; ond mae cystal peiriannau siarad, os nad gwell, yn y Gogledd. Maent yn fwy Cymroaidd yn eu hacenion, ond fod ganddynt ormod 0 a, fel mae gan y Dehenwyr ormod o h. Ond y canu isel yw y canu yn Felillheli etto ond daeth cor Sardis, Llanberia, i lawr i gynnorthwyo. Cantorion ar- dderçhog ydynt. Tua 15 oedd eu nifer. Er nad wyf i fyn farnwr canu, etto mi a wn ragor rhwng canu a brefu. Nid oedd yma ddim brefu, ond canu nes ymwresogi pob calon yn y lie. Canasant ddeg neu ddeuddeg o ddarnau, a tneitnlir yn ddiolchgar iddynt am eu gwasanaeth. Cafodd pawbeu llwyr faddloni yn ein gweithred- iadau, a chyfranodd y gynnulleidfa yn hatlionus ar y diwedd at drysorfa yr eglwys ya y lie. Yr eiddoch oil, CYNDDILW. DAKWAIN.-Nosyr21ain o Chwef., fet yroedd Mr. Morris, Llandre, Llanfrynach, yn nghyd fi mab cadben gwaith marn plwm Llanfrynach, a Mr, D. Evans, masnachydd ymborth, Cilgerran, yn dychwelyd adref 0 farchnad Aberteifi, pob un yo ei gerbyd. Ymddengys ea bod wedi bod gormod yn nghwmpeini y duw Bacchus a'r canlyniad fu iddynt fyned i yru am y cyntaf fel hobgoblins, nes agos i ladd a chlwyfo am. ryw ar y ffordd fawr. Bussai Mr. Frederick Jones, gof, yn Penybryn, wrth bob tebyg wedi cael ei glwyfo, os nid ei ladd gan yr andrasiaid, oni bai ei wraig ei d) nn ef naill ochr. Yr oedd yn ddycbrynllyd arnynt, a gwaeth fyth i feddwl cyfarfod a hwynt yo y tywyllwch. Ychydig wedi pasio Glanpwllalon, dacw hwynt wedi cyflawnu yr hyn oedd llawer yn ei ofni, sef clwyfo rhywun. Erbyn bod eu sftn hwynt wedi darfod ar ein clustiau, dyma waedd am ddyfod a goleu. Dyna lie yr oedd James, gwas Mr. W. Williams, cyffeiriwr, Aberteifi, yr hwn oedd yn myned i'r dref, ac yn dyfod yn erbyn y tri person crybwylledig ar gefn ceffyl; er ei fawr anffawd, tarawodd olwyn y car diweddaf, sef eiddo Mr. D. Evans, yn erbyn clun ol y ceffyl gyda'r fath nerth nes y torodd c-yaimal ac asgwrn yr egwyd. Methodd fyned yn mhellach S'r ceffyl nS Glanpwll- afon, He y mae ef yn awr o dan oftsl Mr.,Wilson, Aberteifi, meddyg anifeiliaid. Da genym gael ar ddeall fod adnod yn cael ei rhoddi i'r tri Uanc o Feibl Victoria ac hyderwn y gwna les iddynt yn ol lIaw, yn gystal ag yo rhybydd i ereill i beidio gyru ar hyd nos, gan ei bod ya rhy beryglus ar hyd y dydd i gyfeillion Mr. Sion Heiddyn, chwaethach ar hyd y nos.

CYFARFOD MISOL CYMREIG DYFED.

SIRHOWY Ar HELYNTION.

ABERTAWE.

CLADDEDIGAETH Y PARCH. JOHN…