Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
(givjfafMjjtW (EMfijtltW.
(givjfafMjjtW (EMfijtltW. PISGAH, PIL.-Gan ein bod yn bresenol yn byw wrth supplies, ac yn trefnu hyny am fit yn mlaen, carem i bob pregethwr fyddo yn ymweled a ni ar y Sabbath, i wneyd hyny trwy anfon ei gyhoeddiad fit cyn ei ddyfodiad, er mwyn trefn. DANIEL HOPKIN, DAVID JENKINS, THOMAS EVANS, Diaconiaid. "AMRYW FATHAU 0 BOBL."—Traddodwyd darlith ar y testun uchod yn nghapel Ebenezer, Merthyr, nos Lun, Chwef. 9, i gynnulleidfa luoiog a boneddigaidd. Yr oedd y ddarlith yn ddi- fyrus dros ben ond yn hollol rydd oddiwrth bob anfoesgarwch a gwaeledd. Yr oedd ei holl dnp-dd at wneuthur dynion yn well, yn naturiol ac ysbrydol. Ar ol eistedd dwy awr a hanner i wrando traddodiad y ddarlith, ymadawodd yr holl gynnulleidfa wedi eu llwyr foddloni. Ni ryfeddir pan hysbyswyf mai Lleurwg oedd y darlithi wr, a'r Parch. J. Evans, Abereanaid, yn ygadair. Cafwyd gan y darlithi wr i ymrwymo i draddodi ei ddarlith ar y testun uchod yn Hebron, Dowlais, doch-reu y mis hwn. Llwyddwyd gan eglwys Einon, Merthyr, hefyd i gael ei addewid i draddodi darlith iddynt hwythau yn fuan ar ol hyny ar Roger Williams." Gwelir wrth hyn faint poblogrwydd Lleurwg yn y gymmydogaeth hon.—D. 0. EBENEZER, LLA"NKLIAN.-Cynnaliodd yr ysgol Sabbothol uchod ei chyfarfod chwarterol yn y lie uchod Sul, Chwef. 8. Am 3 o'r gloch, dechreuwyd trwy i W. Williams adrodd 2 Pedr, a gweddiodd Thos. Jones ac wedi cael tôn gan y cor, dechreuwyd adrodd—1. Yr ysgol Sabbothol, gan R. Jones. 2. Pwnc yagol o waith T. Ltwis Rumni, ar Daniel, gan wyth o fechgyn ieuainc. 3. Rhoddodd H. Jones (sef yr holwr) anerchiad byr, a rhoddodd yr hen bennill hwnw allan i'w ganu,- Pwy yno ddechreua y gan ?" a chanwyd ef gyda hwyl annghyffredin. 4. Araeth dda a chyn- nwvsfawr gan R. Williams ar Fuddioldeb addyat; Fpreuol. 5. Cyflymder amser, gan J. Jones. 6. Adrodd 2 Pedr 3 gan M. Edwards. 7. Gweddi plentyn, gan J. Williams. 8. "Gogoniant Euphrata a Seren Bethlehem," gan M. Williams. 9. Dadl Ann a Betsi, o'r Athraw, gan A. a M. Jones. 10. Cysur Seion, gan M. Davies. 11. Araeth gan J. Williams, ar Ffydd!ondeb gyda'r Y Igol Sul. 12. Ton gan y cor. Nid oeddym yn dysgwyl cael cyfarfod mor dda o herwydd absenoldeb y Parch. J. James, ein parchus weinidog; ond trodd y fantol yr ochr oreu. Cawsom gyf- arfod da, a gobeithio y dilynir ef & bendith.—G. GLYN-NEDD.—Teilwng 0 Bfelychiad.-Darfu i'r cyfeillion parchus, Mr. John Thomas, Llythyrdy, Glyn-nedd; Mr. Thomas Howel Thomas, Fenallt; a Mr. David Rees, Arolygwr gwaith glo y Bwllfalr Onn, anrhegu yn ddiweddar Ysgol Sabbothol y Bedydd- wyr yn y lie hwn it rhes 0 Feiblau, Testamentau. a Ilyfraurhagorol ereill. Yr wyf dros yr Yagot, yn dymuno diolch yn galonog iddynt am eu caredigrwydd Cristionogol, gan obeithio yr efelychir of gan lawer ag sydd yn y cyffelyb gyfleusdra i wneyd daioni. Glyn-nedd. MoRGAw ETAXS, Arolygwr. LLANBFYDD.—Ar y25ain a'r 26ain o Chwefror, cynnaliwyd cyfarfod pregethu yn y lie hwn. Y brodyr a weiniasant oeddynt Prichard, Dinbych Evans, L'erpwl; Jones, Llanberis; Thomas, Llangefni. Ar y dydd canlynsl, pregethodd yr un brodyr yn Llan- sanan. Cafwyd pobl lawer i wrando yn y ddau garrdd. Pregeth. odd y brodyr yn ol eu harfer, a hyderwn fod llawer 0 les wedi ei wneyd.-G. CYFARFOD DAU-PISOL FFMNT.—Cynna!iwyd y cyfarfod uchod yn Helygen nos Lun a dydd Mawrrh diweddaf. Y brodyr a bregethasant eeddynt Evans, Llundain; Davies ac Owen, Rhyl Samuel, Rhuddlan; Jones, Wyddgrug; Jones, Penyfron a Hughes, Lixwm. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon gan Jones, Penyfron Evans, Llundain; a D. Jones. Bagillt. Y mae y gan- moliaeth uchelaf yn cael ei rhoddi i'r cyfarfod hwn. Y nesaf i fod yn Rhuddlan.—LLEWELYN. LLANDDDOCH.—Nos Fercher, y 25»in o'r mis diweddaf, yn yssfold^ y lie uchod, traddodwyd darlith ar yr Ysgol Sabbothol a'i Llyfr, gan D. W. Lewis. Am hanner awr wedi chwech, taflwyd y drysau yn agored, ac erbyn saith, yr oedd y lie yn orlawn o bob! hen ac ieuainc. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen Salm a gweddio; yna trwy unfiydol lais y gynnulleidfa, etholwyd Capt. G. Bowen i gymmeryd y gadair, yr hwn mewn araeth fer ond i'r pwrpas, a eglurodd natur y cyfarfod. Wedi hyny, gal wodd ar y darlithydd i ddechreu, yr hwn a'i athrylith a'i ddawn fel areithiwr medrus, a rwymodd glustiau pawb oedd yn wyddfodol wrth ei wefus am awr a hanuer. Yna terfynwyd trwy ganu y d/xology, a phawb yn ymadael wedi eu llwyr foddloni, ac yn tystio na chlyw- sant well dweyd erioed.—UN OBnu YNO. PONTYPWL.-Nos Iau, Chwef. 19eg, traddodwyd darlith ar y Diluw (Seisnig), yn nenadd y dref uchod, gan y Parch. T. Thomas, D.D., Llywydd Athrofa Pontypwl. Cymmerwyd y gadair gan y Parch. W. D. Harwood, yr hwn mewn araeth fer a phwr- pasol, a alwodd ar y parchus ddarlithydd at ei orchwyl. Nid oes angen canmol y ddarlith—digon yw dweyd ei bod yn deilwng o'r darlithiwr a'r testun. Parhaodd y darlithydd i anerch y gynnull- eidta am yn agos i ddwy awr; ac yr oedd a^wedd y bobl yn fwrando yn profi eu bod yn cael eu llwyr foddloni. Meddyliem y yddai yn fraint i drigolion Lloegr a Chyinru yn gvlfredinol gael y cyfleusdra o'i gwrando. Dymnnaf hir oes i'r darlithiwr, a go. beithiwyf y caf y fraint etto yn fuan o'i glywed yn darlithio ar ryw destun buddiol araU.—ANTHRoros. BETHEL, LLANELn.—Cyanatiwyd cyfarfod yn yr addoldy uchod nos Lun, Chwef. 2, er neillduo pedwar o frodyr da eu gair 1 r swydd ddiaconaidd. Neillduwyd hefyd, a hyny yn unol achyd- lyniad y Cwrdd Chwarter, y brawd ffyddlon David Job i gyflawn waith y weinidogaeth, fel y gallai fod yn fwy gwasanaethgar yn yr eglwysi cymmydogaethol. Traddodwyd pregeth dda a phwrpasol i'r diaconiaid gan y brawd R. D. Roberts, Llwynhendy, ac nn arall hwylus a dylanwadol i'r gynnulleidfa gan y brawd M. Roberts, Felinfoel. Cafwyd cynaulleidfa luosog a chwnld rhagorol, ac hy- derwn y b/dd i'n hanwyl frodyr a neillduwyd lanw eu swyddau pwysig er anrhydedd iddynt hwy eu hunain, a lies mawr i eglwys Crist.-W. HUGHES. FBLINHKLI.—Cyfarfod Ysgol.—Lie poblogaidd ar lan y Menai, hanner y ffordd rhwng Bangor o Cha-rnarfon, yw'r Felin- heli. Yr eedd yma hen felin amser vn ol, yn troi yn nghwr y dwr hallt. Porth Dinorwig y gelwir y lie fynychaf, am mai yma yr an- fonir llechau clpddfa fawr Dinorwig i'w llwytho. Mae'r lie yn cynnyddu yngynvtnmewn poblogaeth. Mte gan y Bedyddwyr gapel byehan hardd yn y He, ac ychydig o aelotlita gweithgnr yn ymdrechu codi'r achos i sylw a pharch yn y gymmydogaeth. Chwef. 20, arlrhegwydplant yr ysgol a the gan dair o'r chwiorydd. Mrs. Jonesyw y tair. Gwnaethant yn rhagorol. Yroedd y plant wrth eu bodd. yn chwareu ac yn neidio fel mynod, ar ol cael eu di- wallu a the a bira brith. Ynyr hwyr, eynnaliwyd cyfarfod cy- hoeddus i adrodd a chanu. Yr oedd y capel yn orlawn. Cyn- ddelw yn y gadair yn cadw bywyd a threfn yn y cyfarfod. Plant yr Ysgol yn adrodd yn dda iawn ac ystyried eu hoedran, o dan ar- weiniad yr arolygydd, sef Mr. Isaac Jones, y station master. Daethai amryw 0 Gaernarfon yno i gynnorthwyo, ac adroddwyd tri neu bed war o bynciau yn gampus gan dair 0 ferched ieuainc, sef Miss Roberts, Miss Jones, a Miss Prichard, o ysgol Caersalem. Yr oeddynt yn arddangos y galtu o gofio mewn msdd hynod. Ni chlywais nemawr yn y Deheudir yn rhagDri ar iynt. O ld y mae plant y South yn gyffredin, 0 herwydd mwy 0 ddysg ac ymarferiad, yn medru rhoddi mwy o fywiogrwydd areithyddol yn eu hadrodd- iadau nS phlant y North yma; ond mae cystal peiriannau siarad, os nad gwell, yn y Gogledd. Maent yn fwy Cymroaidd yn eu hacenion, ond fod ganddynt ormod 0 a, fel mae gan y Dehenwyr ormod o h. Ond y canu isel yw y canu yn Felillheli etto ond daeth cor Sardis, Llanberia, i lawr i gynnorthwyo. Cantorion ar- dderçhog ydynt. Tua 15 oedd eu nifer. Er nad wyf i fyn farnwr canu, etto mi a wn ragor rhwng canu a brefu. Nid oedd yma ddim brefu, ond canu nes ymwresogi pob calon yn y lie. Canasant ddeg neu ddeuddeg o ddarnau, a tneitnlir yn ddiolchgar iddynt am eu gwasanaeth. Cafodd pawbeu llwyr faddloni yn ein gweithred- iadau, a chyfranodd y gynnulleidfa yn hatlionus ar y diwedd at drysorfa yr eglwys ya y lie. Yr eiddoch oil, CYNDDILW. DAKWAIN.-Nosyr21ain o Chwef., fet yroedd Mr. Morris, Llandre, Llanfrynach, yn nghyd fi mab cadben gwaith marn plwm Llanfrynach, a Mr, D. Evans, masnachydd ymborth, Cilgerran, yn dychwelyd adref 0 farchnad Aberteifi, pob un yo ei gerbyd. Ymddengys ea bod wedi bod gormod yn nghwmpeini y duw Bacchus a'r canlyniad fu iddynt fyned i yru am y cyntaf fel hobgoblins, nes agos i ladd a chlwyfo am. ryw ar y ffordd fawr. Bussai Mr. Frederick Jones, gof, yn Penybryn, wrth bob tebyg wedi cael ei glwyfo, os nid ei ladd gan yr andrasiaid, oni bai ei wraig ei d) nn ef naill ochr. Yr oedd yn ddycbrynllyd arnynt, a gwaeth fyth i feddwl cyfarfod a hwynt yo y tywyllwch. Ychydig wedi pasio Glanpwllalon, dacw hwynt wedi cyflawnu yr hyn oedd llawer yn ei ofni, sef clwyfo rhywun. Erbyn bod eu sftn hwynt wedi darfod ar ein clustiau, dyma waedd am ddyfod a goleu. Dyna lie yr oedd James, gwas Mr. W. Williams, cyffeiriwr, Aberteifi, yr hwn oedd yn myned i'r dref, ac yn dyfod yn erbyn y tri person crybwylledig ar gefn ceffyl; er ei fawr anffawd, tarawodd olwyn y car diweddaf, sef eiddo Mr. D. Evans, yn erbyn clun ol y ceffyl gyda'r fath nerth nes y torodd c-yaimal ac asgwrn yr egwyd. Methodd fyned yn mhellach S'r ceffyl nS Glanpwll- afon, He y mae ef yn awr o dan oftsl Mr.,Wilson, Aberteifi, meddyg anifeiliaid. Da genym gael ar ddeall fod adnod yn cael ei rhoddi i'r tri Uanc o Feibl Victoria ac hyderwn y gwna les iddynt yn ol lIaw, yn gystal ag yo rhybydd i ereill i beidio gyru ar hyd nos, gan ei bod ya rhy beryglus ar hyd y dydd i gyfeillion Mr. Sion Heiddyn, chwaethach ar hyd y nos.
CYFARFOD MISOL CYMREIG DYFED.
CYFARFOD MISOL CYMREIG DYFED. Cynnaliwyd hwn yn Blaenllyn, ar j 17eg 0 Chwefror. Cyn nygiodd y Dr. Davies, Hwlflfordd, ac eiliodd y brawd Jenkins Trefdraeth, fod y Parch. W. Reynolds i gymmeryd y gadair Yna awd yn mlaen i ystyried prif bwne y GynnadleJd, se Achos Cyfraith Trefangor, a cheisio mabwysiadu rhyw resuran tuag at dalu y draul fawr aeth arnom fel Bedyddwyr i araddi- ffyn ein hen hawliau yn y dernyn tir claddu hyny. Cawd yr holl filiau i mewn, a chafwyd en bod yn cyrhaedd y swoa an- ferth 0 JE549 ac y mae pob Bedyddiwr yn y Sir yn foesol gyfrifol am danynt, yn arbenigol oblegid fod holl gyfarfody dd cynnrychioledig yr enwad yn y Sir wedi penderfynu ae addaw dwyn yr holl draul, ac annog Mr. Rees i'w cynnrychioli yn y brawdl-s. Mae ya wir nad oes yr un gwarth arnom ni am ei golli; i ereill y mae hwnw yn perthyn, am ddwyn ein heiddo oddiarnom; ac yr ydym ni yu cael anughyfiawnder mawr o'i golli. Ond oa gadawwn yn awr y ddyled a dynasom heb ei thatu, bydd yn warth ac yn anfri bythol arnom fel enwad yn y Sir-bydd yn anonestrwydd ac ya Uwfrdra (cowardice) o'r mwyaf, a darostynga fwy arnom fel cyfenwad cyhoeddus yn ngolwg y wlad nS nemawr o bethauaellid ddychymmygu. Am hyny, appelir yn ostyngedig a pharchus at bob un sydd a gradd o barch ynddo at anrhydedd y cyfenwad, at ei safle fel uuig- olyn yn yr enwad, at foesoldeb cyffredin, ac at bob peth sydd yn anrhydeddus a chyssegredig, i ddwys ystyried y pethau hyn, ac i wneyd pob egni, ymdrech, ac aberth sydd yn ei allu, ie, a thu hwut ei allu, er ysgubo ymaith y ddyled aunedwydd hon, a'i chlaJdu, Crtl y dywl::doJù y Barwn Channel, gyda'r cwn a'r cathau, a'r mummies." Penderfynwyd ar y cynllun can- lynol fel yr un tebycaf o ateb dyben yn ngolwg y cwrdd misol yn Blaenllyn, sef, Rhanu y Sir yn ddosparthiadau fel y can- lyn, ac ymddiried eu casglu yn dda i ofal y brodyr a nodir ar eu cyfer:— 1. Tyddewi, Felinganol, Solfach, a Threteio-W. Reynolds a W. Owen. 2. Croesgoch, Trefin, Blaenllyn, a Newton—T. E. Thomas a D. Phillips. 3. Llangloffan, Harmony, Abergwaen, Tabor, Beula, Cas- mael, a Tbrelettert-Williams, Llanglotlan; Rowe, Aber. gwaen a Phillips, Croesgoch. 4. Trefdraeth, Jabez, Caersalem, Penuel, ac Ebenezer- Jenkins, Trefdraeth; George, Jabes; a Jones, Blaenywaen. 5. Blaentfos, Bethabara, Llanfrynach, Blaenywaen, Peny- bryn, Cilgerran, a Gerazirn-J. J. Jones, Ysw., Aberteifi Price, BiaenSbs Jones, Peaybryn Jones, Blaenywaen a Rees yr Hendre. 6. Aberteifi, Penyparc, Ferwig, &c.—J. J. Jones, Ysw., Aberteifi Roberts, Peayparc a Jones, Peuybryn. 7. Cilfowyr, Pontarselly, Rehoboth, Star, Castellnewydd Emlyn, a'r Drefach-Roberts, Tabor; Price, Cilfowyr; Tho- mas, Castellnewydd; a Jones, Star. 8. Bethel, Login, Whittaod, it Chwmfelin-Davies, Bwlch- gwynt. a Thomas, Blaenlliwe. 9. Ffynnon, Glanrhyd-Price, Rhydwilym. 10. Rhydwilym,Carrnel, a Maenclochog—Edwards,Ffynnon. 11. Blaenconin a'r Gelli-Griffiths. Blaenconin. 12. Caerfyrddin, St. Clears, Bwlchgwynt, Bwlchnewydd, Plashed-Mr. Jones, Caerfyrddin, a Mr. Williams, St. Clears. 13 Talog, Salem, ac Ainon-Willianis, Salem. 14. Llanelli-Dr. Davies, Hwlflfordd. 15. Abertawy—Mr. Short, a Mr. Jones, Bethesda. 16. "vilffordd a'i Chyffiniau-Jenkins, Trefdraeth, a W. Owen, Felinganol. 17. Narberth a'i Chyfiiniau Seisnig-Mr. Burditt, Hwl- ffordd, a Williams, Narberth. 18. Y rhanau Seisnig ereill o'r Sir i gael eu hymddiried i*r brodyr yn Hwlffordd. 19. Y rhanau pellenig i'w casglu trwy Ivthvrau. Yn gymmaint a bod y rhan fwyaf o'r swm mawr a enwwyd y o ddyled wedi eu talu yn arian sychion gan y Cyfreithiwr, mae llog yn cael ei godi arnynt hyd nes y telir hwynt i fyny. Am hyny, gwelir yr angenrheidrwydd o fod yn frysiog ac egnioH gael cymmaint ag a ellir i mewn i Galan Mai 0 bellaf. Mae y cyfarfod misol nesaf i gael ei gynnal yn Nghroes- goch, dydd Mercher, y 18fed o Fawrth. Y gynnadledd am 10 o'r gloch, a phregethu yn yr hwyr. Dymunir cael cym- maint ag a ellir o fynegiadau y casgliadau i mewn erbyn hyny. Pregethwyd yn yr hwyr yn Blaenllyn gan Reynolds. Felin- ganol, a Jenkins, Trefdraeth. Yn Newton gan Phillips, Groesgoch, a W. Owen, Felinganol. W. OWEN, Ysg.
SIRHOWY Ar HELYNTION.
SIRHOWY Ar HELYNTION. Mae llawer o bethau pWYlig yn myned heibio yn lied ddi- sylw yn y gymmydogaeth boblogaidd hon, a hyny o ddiffyg gohebydd i'w hanfon atoch i'w cyhoeddi. Ond wrth weled hanesion Heoedd e eill yn eich SEREN kchar, tsimlais awyddi anfon yr haneqyn canlynol atoch fy bun. Mae yn yr ardal hon rhyw greadur tebyg i ddyn a elwir S- P-, a chwympodd tri neu bedwar o hen dai iddo yn ddiweddar ar ol perthynas iddo, ac y mae hynv wedi codi yr etifedd i'r fath raddau yn ei olwg ei hun nes ydyw o'r diwedd wedi credu mai ar ei ysgwyddau ef y gorphwys y gorchwyl pwysig o lywodraethu pawb o'i gwmpas, ac 0 herwydd ei fod wedi llyncu cymmaint o wynt a phwysigrwydd, mae ef ya gollwng ei dafod i fyned heb un attalfa, ac a yn ei flaen yn mhob materion, yn enwedig os bydd tueddiad ynddynt i ni- weidio rhyw greadur tlawd o fewn terfynau ei aliuoedd. Mae- rhywbeth yn ddiweddar, yn mhlith pethau gwyntog ereill, wedi taro yn ei goryn meddal y dylasai gael ei alw yn Frenin Twyn y Due; a'r canlyniad fu iddo gyfarfod ryw ddiwrnod yn ddiweddar a chrug o gyfeillion difyr ar y cruise yn y Rising Sun, ac wedi iddo roddi tipyn yn weddol 0 ffrwyth y brag i'r rhai hyny, hysbysodd iddynt ei ddymuniad am gael ei goroni. Cydsyniodd y cwmni oil a'i gais, a choronwyd ef yn y fan yn 01 j defodau arferol, a rhoddwyd banllefau o gymmeradwyaeth i'r cjroniad, tra parhaodd Shoni i gyfrmu ffewyth yr heiddyn iddynt. Mr. Gol., yr wyf yn ysgrifenu yr hanesyn hyn atoch, gan obeithio y gwnewch ei gyhoeddi i'r dyben o'i wneyd yn hysbys i lywodraethau ereill, i'w gydnabod ef, a derbyn negeseuwyr rheolaidd oddiwrtho, a meddyliwch am ei wneyd yn hysbys i'r brenin sydd ar frodorion cyntfonog creigydd Gibraltar a lleoedd o'r fath. Dymunaf wneyd ya hysbys i holl dryrnas- oedd y byd, os bydd i'r brenin hwn ddyfod ar eu traws, am gadw pob peth o'i olwg os bydd lie i ffeindio rhyw fai arno, neu os byddant am ei gadw yn gSl rhag y stewardiaid. Bydded holl deyrnasoedd y byd yn barod i ryfela 1efyd am fod y brenin hwn wedi bod ynrhyfela & phawb o'i gymmydogion yn barod, a phawb fig yntan, felly mae'n gampus yn ygelfyddyd hono. Clwyfwyd ein teimladau yn chwerw wrth gael ein hamddifadn o'n hathraw da a'n cymmydog anwyl Cyndiclw o'n mysg, ori3 dyma mi wedi cael ein breintio ag anrhydedd mawr, trwy gael brenin arnom i adfywio ein teimladau isel etto. Dyma i ni franin newydd, Llawn o frad, a chlec, achelwydd, A.gochelwch ei ystranciau, Rhag iddo rywdro dori'ch gyddfau. GwaJrTTDD.
ABERTAWE.
ABERTAWE. Hysbys ddigon yw, mai tref eang brydferth a phoblogaidd iawn yw Abertawe. Yr ydym yn ddigon parod i gyfaddef el bod yn gyfochrog ag unrhyw dref o'i maintioli mewn masnach a bywiogrwydd ond ammheus genym addeil hi i'w chymbaru a llawer un yn ei sefydliadau gwir wasanaethgar ac adeiladol i'r trigolion. Y mae yn un o'r trefydd anhawddaf a wyddom am danynt i'w chyffroi mewn cyssylltiad a phethau crefyddoL Mae play neu mesmerism yn y Theatre yn cael llawer mwy o* sylw na darlith neu gwrdi pregethu yn yr addoldy ac y mae y concerts of secular music yn llawer mwy poblogaidd na'r sacred. Beth bynag, achoswyd cryn dipya o gyffro yn y dref nos Lun, Chwefror 16eg, trwy fod Cor Cwmtawe yn rhoddi dadgadiad o Messiah Handel. Cynnwysai y cor 300 o gantorion, heblaw gwasanaeth llawer 0 gerddorion enwog ereill, megys Mrd. Whaite, Bristau; Jones-Hewson, Merrick, Rosser, Aberdar; Mr. a Mrs. Fricker, Miss Edmunds, a Miss. Harrison, ac yn cael eu llywyddu gan Mr. Wm. Griffiths,. Ynyspenllwch. Yr oedd y capel eang yn orlawn wran- dawwyr, ac ymadawwyd wedi "tair awr 0 ganu cysson, gyda. phob arwyddion fod pawb wedi eu llwyr foddloni. Nos Fawrth, Chwefror 24ain, cawsom yr hyfrydwch o wran- daw Mr. Jones, Bethesda, yn traddodi ei ddarlith ar y Ddwy Fil, yn Bethlehem, Cruglas. Gwyddetn am Mr. Jones fel pregethwr o'r blaen, ond ni wyddem am dano fel darlithydd hyd y nos hono. Heb fyned lawer yn ol ac yn mlaen, yn uaig dywedwn ein bod wedi gwrando llawer 0 ddarlithio ar y pwnc o'r blaen, ond rhagora hon yn mhell arnynt oil. Yr oedd ynddi y crynodeb a weddai i bob darlithiwr fyfyrio wrth gasglu hanesion. Gobeithio y gweithir yn Bethlehem yn deilwng o'r ddarlith a gawsant. Mae diwrnod mawr i fod yn Abertawe dydd Mawrth nesaf, sef dydd priodas Tywysog Cyraru. Ond odid na chedwir ef yn ddydd gwyl trwy y deyrnas. Bydd yma lawei o bettiau yn cael eu dwyn yn mlaen-arolygiad ar y rheifflgorau, y gwa- hanol glybiau yn cerdded, a ball ya yr hwyr, y mynediad i mewn trwy docynau deg swllt yr un. Ond cynnygiad y Maer yw y gareu o honynt oil, sef cael gwyl de i holl Ysgolion Sab- bothol y dref. Dyn trwyddo yw Maer presenol Abertawe, sef Evan M. Richard, Ysw. Y mae symudiadau crefyddol ya cael y sylw blaenaf ganddo ef bob amser. Hir oes iddo. cael y sylw blaenaf ganddo ef bob amser. Hir oes iddo. GWALIALAW-
CLADDEDIGAETH Y PARCH. JOHN…
oedd yn llawer mwy o Buritan riag y bu yn ei flynyddoedd boreuol. Ystyrid ef yn un o'r rhai mwyaf dysgedig yn y wlad, ac yn un o'r bynafiaethwyr blaenaf o fewn y dywysogaeth. Yr oedd yn fo- neddwr diledryw; yr oedd yn un o'r rhai mwyaf heddychol a di- gynhen a allesid gael; yr oedd yn ynad hwddwch yn ystyr fanylaf y gair; yr oedd ynwir fedrus a gofalus i ostegu ymrafaelion mewn cymmydogaeth; cynghorai ei gymmydogion yn ddifrifol i ymgadw mor ddyeithr ag y medrent i swyddfa y cyfreithiwr arbedodd draul a gofid i laweroedd ddegau o weithiau yn y dull hwn. Yr oedd yn hynod o garedijj i roddi pob cefrogaeth a allai i fechgyn a fyddent yn awyddus am wybodaeth a dysg. Derbyniodd yr ysgrif- enydd lawer o garedigrwydd oddiar ei law pan yn fachgenyn yn yr yagol; ac wedi hyny, cyfranodd a benthycodd lawer o lyfrau gwerthEawr i mi pan na feddwn nemawr o lyfrau, na moddion i'w cael. Er i mi droi allan yn yraneillduwr selog, ymddygai yn y modd parchusaf tuag ataf hyd ddydd ei farwolaeth. Byddai ei lyfrgell yn wastad at fy ngwasanaeth, beth bynag a fyddai arnaf eisieu; a byddai -yn fynych o wasanaeth mawr i mi pan fyddai arnaf eisieu ysgrifenu rhywbeth mewn cyfeiriad hanesyddol. Cefais fenthygllyfrau pwysig ganddo pan yn ysgrifenu ar Babydd- iaeth, y rhai a fuont o ddefnydd Mawr i mi Y mae YA tayfryd genyf gael eyfle i wneyd cymmaint a hyn o gydnabyddiaeth am hen gymmydog parchus a hynaws, ac yn neiIldnoI i gydnabod y carsdig- rwydd a gefais oddiar ei law. Bydded heddweh i'wlwch, a bydd- ed ei weddw a'i deulu yn fendigedig gan yr Arglwydd. Llanllyfni. R. JONES.