Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

(givjfafMjjtW (EMfijtltW.

CYFARFOD MISOL CYMREIG DYFED.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD MISOL CYMREIG DYFED. Cynnaliwyd hwn yn Blaenllyn, ar j 17eg 0 Chwefror. Cyn nygiodd y Dr. Davies, Hwlflfordd, ac eiliodd y brawd Jenkins Trefdraeth, fod y Parch. W. Reynolds i gymmeryd y gadair Yna awd yn mlaen i ystyried prif bwne y GynnadleJd, se Achos Cyfraith Trefangor, a cheisio mabwysiadu rhyw resuran tuag at dalu y draul fawr aeth arnom fel Bedyddwyr i araddi- ffyn ein hen hawliau yn y dernyn tir claddu hyny. Cawd yr holl filiau i mewn, a chafwyd en bod yn cyrhaedd y swoa an- ferth 0 JE549 ac y mae pob Bedyddiwr yn y Sir yn foesol gyfrifol am danynt, yn arbenigol oblegid fod holl gyfarfody dd cynnrychioledig yr enwad yn y Sir wedi penderfynu ae addaw dwyn yr holl draul, ac annog Mr. Rees i'w cynnrychioli yn y brawdl-s. Mae ya wir nad oes yr un gwarth arnom ni am ei golli; i ereill y mae hwnw yn perthyn, am ddwyn ein heiddo oddiarnom; ac yr ydym ni yu cael anughyfiawnder mawr o'i golli. Ond oa gadawwn yn awr y ddyled a dynasom heb ei thatu, bydd yn warth ac yn anfri bythol arnom fel enwad yn y Sir-bydd yn anonestrwydd ac ya Uwfrdra (cowardice) o'r mwyaf, a darostynga fwy arnom fel cyfenwad cyhoeddus yn ngolwg y wlad nS nemawr o bethauaellid ddychymmygu. Am hyny, appelir yn ostyngedig a pharchus at bob un sydd a gradd o barch ynddo at anrhydedd y cyfenwad, at ei safle fel uuig- olyn yn yr enwad, at foesoldeb cyffredin, ac at bob peth sydd yn anrhydeddus a chyssegredig, i ddwys ystyried y pethau hyn, ac i wneyd pob egni, ymdrech, ac aberth sydd yn ei allu, ie, a thu hwut ei allu, er ysgubo ymaith y ddyled aunedwydd hon, a'i chlaJdu, Crtl y dywl::doJù y Barwn Channel, gyda'r cwn a'r cathau, a'r mummies." Penderfynwyd ar y cynllun can- lynol fel yr un tebycaf o ateb dyben yn ngolwg y cwrdd misol yn Blaenllyn, sef, Rhanu y Sir yn ddosparthiadau fel y can- lyn, ac ymddiried eu casglu yn dda i ofal y brodyr a nodir ar eu cyfer:— 1. Tyddewi, Felinganol, Solfach, a Threteio-W. Reynolds a W. Owen. 2. Croesgoch, Trefin, Blaenllyn, a Newton—T. E. Thomas a D. Phillips. 3. Llangloffan, Harmony, Abergwaen, Tabor, Beula, Cas- mael, a Tbrelettert-Williams, Llanglotlan; Rowe, Aber. gwaen a Phillips, Croesgoch. 4. Trefdraeth, Jabez, Caersalem, Penuel, ac Ebenezer- Jenkins, Trefdraeth; George, Jabes; a Jones, Blaenywaen. 5. Blaentfos, Bethabara, Llanfrynach, Blaenywaen, Peny- bryn, Cilgerran, a Gerazirn-J. J. Jones, Ysw., Aberteifi Price, BiaenSbs Jones, Peaybryn Jones, Blaenywaen a Rees yr Hendre. 6. Aberteifi, Penyparc, Ferwig, &c.—J. J. Jones, Ysw., Aberteifi Roberts, Peayparc a Jones, Peuybryn. 7. Cilfowyr, Pontarselly, Rehoboth, Star, Castellnewydd Emlyn, a'r Drefach-Roberts, Tabor; Price, Cilfowyr; Tho- mas, Castellnewydd; a Jones, Star. 8. Bethel, Login, Whittaod, it Chwmfelin-Davies, Bwlch- gwynt. a Thomas, Blaenlliwe. 9. Ffynnon, Glanrhyd-Price, Rhydwilym. 10. Rhydwilym,Carrnel, a Maenclochog—Edwards,Ffynnon. 11. Blaenconin a'r Gelli-Griffiths. Blaenconin. 12. Caerfyrddin, St. Clears, Bwlchgwynt, Bwlchnewydd, Plashed-Mr. Jones, Caerfyrddin, a Mr. Williams, St. Clears. 13 Talog, Salem, ac Ainon-Willianis, Salem. 14. Llanelli-Dr. Davies, Hwlflfordd. 15. Abertawy—Mr. Short, a Mr. Jones, Bethesda. 16. "vilffordd a'i Chyffiniau-Jenkins, Trefdraeth, a W. Owen, Felinganol. 17. Narberth a'i Chyfiiniau Seisnig-Mr. Burditt, Hwl- ffordd, a Williams, Narberth. 18. Y rhanau Seisnig ereill o'r Sir i gael eu hymddiried i*r brodyr yn Hwlffordd. 19. Y rhanau pellenig i'w casglu trwy Ivthvrau. Yn gymmaint a bod y rhan fwyaf o'r swm mawr a enwwyd y o ddyled wedi eu talu yn arian sychion gan y Cyfreithiwr, mae llog yn cael ei godi arnynt hyd nes y telir hwynt i fyny. Am hyny, gwelir yr angenrheidrwydd o fod yn frysiog ac egnioH gael cymmaint ag a ellir i mewn i Galan Mai 0 bellaf. Mae y cyfarfod misol nesaf i gael ei gynnal yn Nghroes- goch, dydd Mercher, y 18fed o Fawrth. Y gynnadledd am 10 o'r gloch, a phregethu yn yr hwyr. Dymunir cael cym- maint ag a ellir o fynegiadau y casgliadau i mewn erbyn hyny. Pregethwyd yn yr hwyr yn Blaenllyn gan Reynolds. Felin- ganol, a Jenkins, Trefdraeth. Yn Newton gan Phillips, Groesgoch, a W. Owen, Felinganol. W. OWEN, Ysg.

SIRHOWY Ar HELYNTION.

ABERTAWE.

CLADDEDIGAETH Y PARCH. JOHN…