Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
ATWEINIDOGION A PHREGETHWYR…
ATWEINIDOGION A PHREGETHWYR TEITHIOL. .tf ANWYL FRODYR,—Dymnuem eich hysbysu yn barchus fod amgylchiadau yn galw arnom fel eglwys ynNgharmel, Troed. ,:yrbiw, i beidio cyhoeddi neb yma i bregethn ond ar nos Lun a nos lau. Nis gallwn dderbyn cyhoeddiadau neb ond ar y nosweithiau a nodwyd. Pan fyddo angen pregethwr amom-, -ein barferiad yw anfon am dano. Am hyny, carem yn fawr i'r pregethwyr teithiol yma (nid ein gweinidogion 'parchus) i beidio â'n blino o gwbl. Pan fyddo angen am eich gwasan- aeth,bydd yn dda genym eich gweled,a byddwn yn sicroroddi gwybodaeth brydlawn i chwithau, fel y galloch ymbarotoi ar gyfer derbyniad croesawus a gwrandawiad astud. Hyd nes y gwnelom hyn, da frodyr, peidiwch a'n blino. JoSEJ-H DAVIBS, 1. RICHARD EVANS," DAVIB PAVIES, DAVID HKNGOED, WILLIAM JOHN, JOHN ROBERTS, Diaconiaid.
GWALL ' GWALL '' GWALL!!!
GWALL GWALL GWALL! Mewn perthynas i'r hysbysiad yn nghylch Casgliad Bryn- hafod yn y Rhifyn diweddaf o SEREN CYMRU, y mae gwall wedi dygwydd, naill ai arnaf fi neu ar y cyssodydd ond gan nad ar ba un o honom y dygwyddodd, yr oedd yn bollol an- fwriadol; sef fod y Parch. D. Williams, Llwyndafydd, wedi addaw casglu yn yr eglwysi canlynol:- Llanrhystyd, Moria, Aberystwith, Jezreel, Cwmsymlog, Penrhyncoch, Talybont, Pontrhydfendigaid, a Swyddffynnon. Anwyl frawd Williams, gobeithio na bydd i chwi dram- gwyddo o herwydd hyn, oblegid y mae yn ddrwg iawn genyf ei fod wedi dygwydd; ac erfyniwyf eich moddeuant yn ngwydd darllenwyr lluosog,SEREN CYMRU. Ydwyf, dros eglwys Brynhafod, Yr eiddoch yn ostyngedig, Llandyssil. E. LEWIS.
---------MYNSGYDD Y GOFFADWRIAETH.
MYNSGYDD Y GOFFADWRIAETH. Y mae yn ddrwg genyf fod unrhyw eglwys yn cael cam yn y5: hysbysiad o'i thanysgrifiadau, ac yr wyf yn sicr nad oes neb wed' cael hyny yn wirfoddol' Ond y mae eglwys Tanlan, ac amryw ereill, yn anfwriadol wedi cael cam mawr felly trwy hysbysu ei thanysgrifiadau yn mhell islavtr yr hyn ydyw, sef yn lie £ l 5s. y Tnee ei thanysgriadau yn X9 14s. Da iawn, Tanlan ffyddlon. Sylwer hefyd nad yw yr hysbysiadau yn rhoddi dim ond y symiau ag a osodir i lawr yn y cyfarfod casglu, ac felly nid y'nt yn dangos y s wm derfynol yn yr eglwys. Felly y mae gydag amryw a'r rhai canlynol. Cefals y pleser o gynnorthwyo y Parch. R. Williams, Hengoed, trwy eglwysi gwaelod Morganwg yr wythnos ddiweddar a chawsom gyfarfodydd hyfrydlon neillduol—pregeth ac ara^th yn mhob man, ac ambell ddiwrno l ddau gyfarfod y dydd. Diolchwn am y serbhogrwydd a gawsom Dymunol iawn genyf glywed fod Sir Gaernarfon yn ddiwyd wrth y gorchwyl o gasglu; ac os yw gohebiaeth Mr. Bowser wedi aflonyddu meddyliau ein brodyr gogleddol rhyw yehydig, hyderlvyf y bydd yr eglurhad wyf wedi ei anfon i'r Great a SBREN CYWRU yn foddlonol, ac os nid felly y mae gan yr Ysgrifenyddion st8r etto i'w dwyn allan ary mater. Cymru YN UN am byth, meddaf fi, beth bynag. Y mae y JB5,000 cyntaf at y Drysorfa wedi eu gosod ar ddu a gwyn yrydym yn awryny CHWECHED Fit,. Dyma list dderbyniedig yn ychwan- ego I a. c. 8. c. Witton Park (etto) 1 10 0 Ebenczer, Ijlanguncog 12 1 0 Capel Newydd, (etto) 13 0 0 Mountain Ash.. 48 2 0 Salem, Troedyrhifr 40 0 OCoedduon. 10 0 0 H engoed' 50 0 0 Penprysg & 8 0 l< Gelligaer 8 8 0 Paran 10 0 0 Berthhvyd ll 6 6Tondu.1114 0 Tanlan 9 14 0 Pil 20 15 6 Libanus, Waunclyndaf 7 16 0 Tregolwyn. 4 13 0 Smyrna. Porthyrhyd 390 Bontfaen 18 0 0 Cwmsarnddu 7 10 0 Llanilltyd fawr 25 0 0 Llanymddyfri 15 14 e- Gortwn 20 0 0 Rhandirmwyn 712 0 Llancarfan. 32 0 0 Bwlchyrhiw 4 II 0 Cadoxton 12 0 0 Bethel, Cwmpedol 15 5 OTwynyrodyn 13 0 0 Salem, Caio 11 11 OCroesyparc. 5 0 0 > Maesycwmmwi\ LL. JENKINS.
: it .. it ."[. CEFNMAWR.
it it ."[. CEFNMAWR. Nos Lun, yr 20fed o Chwefror, cynnaliwyd cyfarfod yn y Taber- lJacl, Cefnmawr, mewn cyssyiltiad a'r Drysorfa Gofifadwriaethol. Etholwj-d y gweinidog i'r gadaij;. yr hwn, wedi eghiroamcan y cyf- arfod, a ahvodd ar y brodyr canlynol i anerch y boblJones, Llangollen Williams, Garth H. C. fl owells, Cefnbychan; a Lr. Evans, Gefnmawr. Nid oedd y cvnnulliad ond bychan, ônd cafwyd cyfarfod da, a chahvyd list,noble o addewidion, ond y mae cyfarfod arall i'w gynnal yn Seion; wedi y caffer hwnw, danfonir y list i SEREN CYMRU. Cawsom brawf nos Lïn diweddaf, yn aeddgar\vch y dywedwyr a pharodrwydd y bobl i addaw, fod yn mhohl y JVorth galonau i verthfawrogi y Drysorfa fendigedig hon. Dasifonir cofres yr addewidion i'r brawd Ll. Jenkins. A. J. P.
AINON, SIR GARFYRDDIN.
AINON, SIR GARFYRDDIN. Cawsom ddwy <1darlith yn Ainon yn mherthynas i'r Drysorfa —nn gan y brawd Di. I-avies, Login, tna diwedd mis Hydref, a'r llall gan y brawd D. Williams, Salem, Mydrim, yn nechreu y mis pressnol. Y r ydym yn teimlo yn ddielchgar i'r ddau frawd am en hymweliad. X S. c. Tanysgrifiwyd yn y cwrdd cyntaf 7 4 6 Yn yr ail 2 0 0 .1 £9 4 6 J. LL.
[No title]
Mae llywodraeth y Gwrthryfelwyr wedi benthyca putri mil- iwn o bunnau oddiwrtli Erlmiger a'i Gyf., Paris a Frankfort, a rhai o wyr ariauog Llundain a Llynlleifiad. Bu far!? Mr. Daniel Whittle Harvey, prifddirprwywr hedd- geidwaid dinas LInndai:), yr,vythnos ddiweddaf. Yr oedd yn ddyn nid anenwog yn y Senedd cyn iddo gael ei bennodi i'r swydd hono. Mae llongiad arall o arlwyon wedi cyrhaedd Llynlleifiad o .America ar gyfer y dyoddefaint yn swydd Lancaster.
,I YR EISTEDDFOD.
YR EISTEDDFOD. ALBERT DDA. Oddiwrth restr testunau Abertawe, yr hon a gyhoeddwyd trwy holl bapyrau y De a'r Gogledd, gwelir mai testun y gadair yw "Awdl ar y diweddar Dywysog Albert (Albert Dda)," am yr hon y rhodJir gwobr o ugain gini a bathodyn. Er rhoddi mantais bellach i'r rhai sydd ar fedr cyfansoddi, barnwyd mai buddiol fyddai rhoddi ychydig ddyfyniadau o lyfr sydd wedi cael ei gyhoeddi yn ddiweddar gan Mr. Murray, dan yr enw Prif Areithiau ei Uchelder Breninol y Tywysog Cydweddol," at y rhai yr ychwanegwyd Rhagymadrodd, yn cynnwys darluniad o'i gymmeriad. Mae yn amlwg fod def- nyddiau y rhagymadrodd hwn wedi eu rhoddi gan y Frenines ei hun. Y mae yn dangos ei theimlad cariadlawn tuag at ei gOr, ac hefyd mor bell oedd hi a'r wlad yn ddyledus i ddiwyd- rwydd a llafur diflino y Tywysng yn ei chynnorthwyo mewn materion pwysig a gwUdwriaethol. Mae y dyfyniad cyntafa roddwn yn cyfeirio at y cynnyg a roddwyd ar i'r Tywysog gymmeryd priflywodraeth y fyddin Brydeinig, a'r ail ddyfyniad yw ei ateb yntau i'r cynnygiad hwnw. Oddiwrth hyn teflir goleuni mawr ar gymmeriad ei Uchelder Breninol. Wrth ganiatau i'r cofnodiad hwn o ddyddlyfr y Tywysog gael ei gyhoeddi, y mae gan y Frenines amcan arall, heblaw y rhai a nodwyd eisoes. Y mae hyn yn rhoddi cyfleusdra i'w Mawrhydi hysbysu, mewn modd eglur a llavrn, yr hyn y teim- lodd am flynyddau awydd i'w gyhoeddi. Tra yr oedd y Ty- wysog yn fyw, yr oedd gan y Frenines awydd cryf i wneyd yn hysbys i'r byd y cynnorthwy pryderus, parod, a fFyddlawn a gafodd gan ei g*r i gario yn mlaen faterion y wlad. Ni allasai ei Mawrhydi, hyd y nod yr amser hwnw, prin ymgadw rhag hysbysu pa faint o lwyddiant ei theyrnasiad oedd yn ddyledus i'w gynghorion doeth ef; ac yn awr y mae y Frenines yn gorfod dyweyd am y golled anadferadwy a gafodd y wlad, yn gystal a hi ei hun a'i theulu, oddiwrth farwolaeth y Tywysog. Nis gellir yn hawdd ddychymmygu dwysder sefyllfa ei Mawr- hydi, yr hon oedd wedi arfer ymddibynu cymmaint ar ei help cariadlawn a pharod, ond sydd yn awr wedi eu haraddifadu, yn sydyn a llwyr, o hono. Teimla y Frenines fod y llwybr sydd yn awr o'i blaen yn unig a thywy 11, ond ei fod yn llwybr dyledswydd a lIafnr, yn yr hwn, dan fendith Duw, ac yjnddi- byniaeth drylwyr ar serch a chydymdeimlad breingarol ei phob!, y mae hi yn penderfynu ei roddi,—ond, aryr un pryd, y mae yn ymwybodol y bydd diflyg ei ofal a'i gynnorthwy tyner a chariadlawn ef, i'w weled ar lawro achlysuron." Nid oes un galon-yn sicr nid oes yr un galon CJymreig — nad yw yn cydymdeimlo yn ddwys gyda'i Mawrhydi wrth wneyd yr amlygiadau carualdd hyn o'i cholled am \\rr ei myn- wes. Os cawn weled yn y dyfyniad teimladwy yma archolli meddwl y Frenines, cawn yn y nesaf weled gofal, gonestrwydd, ac ymroddiad y Tywysog i gyflawnu ei ddyledswyddau pwysig, mewn modd hollol ddiymhongar. Er lies y cyhoedd y mae yn dewis bod yn gwbl o'r golwg, er ei fod yn llafurio gyda gallua diwydrwydd nad allai ond ychydig ymffrostiu yn eu cyffelyb. y I Yr oedd y Duke of Wellington yn barnu ar lawer o olygiadau, lied bwysig, y buasai yn fanteisiol iawn pe cymmerai y Ty- wysog brif lywodraeth y fyddin Brydeinig yn ei law. Mae yn hawdd i bawb weled fod sefyllfa uchel felly yn demtasiwn mawr i'r mwyafhunanymwadol i'w derbyn. Ond gwrandawer ar y Tywysog yn ei eiriau ef ei bun,— Mae y pwnc a fyddai yn fuddiol i mi gymmeryd Ilywodr- aeth y fyddin Brydeinig wedi ei ystyried yn drwyadl genyf, ac yr wyf wedi dyfod i'r penderfyniad y dylai gael ei reoli gan yr ystyriaetli a wnai hyny fod yn rhwystr, neu yn gynnorthwy, i mi fel cynghorwr ei Mawrhydi i gvflawnu y dyledswyddau hyny ag y mae fy sefyllfa yn eu gosod arnaf. Mae y sefyllfa hon ya uu neillduol a chynnil (delicate). Tray mae brenines yn llafurio dan lawer o anfanteision nad yw brenin yn ddaros- tyngedig iddynt, etto os bydd y freninc51 vn briod, a'tgwryn deall ac yn gwneyd ei ddyledswydd, y .uae llawer o fanteision o'i phlaid hi; fel at y cyfan, y gBllai fod yn fwy Ilesiol nag y gallai brenin fod. Ond i gyrbaedd hyn, dylai y g#r ymgolli yn llwyr yn hanfod swyddol ei wraig,ni ddylai ymgyrhaedd am ddim awdurdod annibynol iddo ei hun,-dylai ymwrthod a phob arddangosiad o orwychder, a pbeidio cymmeryd djm cyf- rifoldeb personol ar wahan oddiwrth ei Mawrhydi, ond gwneyd sefyllfa ei hun yn rhm hanfodol o'i sefyllfa hi; gwneyd pob diffyg i fyny y mae merch yn rhwym o'u dangosyn ngwein- yddiad ei swydd oruchel; gwylio gyda gofal dros holl ranau y gwasanaeth cyhoedd, fet y byddai ar bob adeg yn barod ac yn i alluog i gynnorthwyo a chynghori mewn pob mater pwysig— cydwladwriaethol, gwleidia'dol, cymdeithasol, a phersonol. Heblaw ei fod yn ben naturiol ar ei theulu, yn orchwyliwr dros ei d9, yn drefnwr ei materion personol, ei unig gynghor- ydd mewn pethau gwladyddol, ei chyniioi-thwvr yn ei gwaith gyda swyddogion y llywodraetb, y mae hefyd yn Or i'r frenines, yn athraw i'w phlant, yn ysgrifenydd cyfrinachol i'w Mawrhydi, ac yn weinidog sefydlog a pbarhaol iddi. Yn awr, a fyddai yn gysson a sefyllfa fel yna i ddyn gymmeryd prif lywyddiaeth un o gangenau mwyaf pwysig y gwasanaeth cy- toeddus, a'r cyfrifoldeb annibyno) sydd yn perthyn iddi,— bod yn swyddog gweinyddol dan y goron, derbyn gorehymyn ei Mawrhydio law un o weihidogion y lIywàdriieth, &c.? Yr wyf yn teimlo yn sicr, wedi i mi dderbyn y cyfrifoldeb, nad allaswn adael y gwaith i gael ei wneyd gan unruall,ond y teimlaswn yn ddyledswydd atbenig arnaf ei wneyd fy hun. Ond tra y buaswn fel hynyncyflawnu gorchwylion, y rhai, yr wyf yn sier y gallai unrhyw gadlywydd sydd wedi cael profiad ar faes rhyfel, yr hyn nis cefais i, eu gwneyd yn well, etto by-ddai yn rhaid i mi esgeuluso dyledswyddau ereill, mewn cyssyiltiad a gwaith ei Mawrhydi, nas gallai neb eu cyflawnu ond myfi. Yr wyf yn ofni, gan hyny, y bydd rhaid i mi ym- wrthod a'r anrhydedd uchel o fod yn gadlywydd y fyddin Brydeinig." Y mae cymmeriad mewnol y dyn yn cael ei ddarlnnio yn anfwriadol, ond etto yn ffyddlon, yn y dyf niad hwn, ac yn gosod y Tywysog allan fel un o'r cymmeriadau uchaf i'w efel- ychu. Mae ei ddoethineb, ei onestrwydd, a'i hunanymwadiad yn gyfryw na feddwn ond ychydig o enghreifftiau cyffelyb yn haues dynoliaetli.
[No title]
Maent yn talu gini yr un ameisteddleoedd yn y ffenestri yn Llundain er gweled yr orymdaith freiniol ar v 7fed, a chym- maint a chau punt am jf'; • fawr mewn sefyllfa fanteisiol. Ymddengys fodcostau bob blwyddyn yn £ 158,869, o'r hyn y telir ^72,648 raffu, a'r gweddill i'r swyddpg- ion. Mae y ,i Speaker;"sct j Cadeirydd, yn derbyn £ 5000 y flwyddyn. Mae Arglwydd Paimerston wedi condemnio ymddygiad Am- herawdwr Ffrainc yn listio Negroaid yn Affrica i ymladd yn Mexico.
DYDD MAWRTH, CawEF. 24.
DYDD MAWRTH, CawEF. 24. Ar gynnygiad Esgob Bangor, darllenwyd ysgrif Gwasan- aeth Seisnig yn Eglwysi Cymru yr ail waith. Wedi i fynegiad pwyllgor y rheifflgorau fod dan sylw, go- hiriodd eu harglwyddiaethau am ugain mynyd wedi chwech.
DYDD IAU, CawEF. 26.-
DYDD IAU, CawEF. 26. Darllenwyd ysgrif Gwadddliad Tywysog Cymru y waith gyntaf. Pasiodd ysgrif y Gwasanaeth Seisnig fa Eglwysi Cymru drwy bwvllgor.
DYDD GWENER, CHWEP. 27.
DYDD GWENER, CHWEP. 27. Wedi ychydig eiriau gan larll ElIenborough ac Iarll Rus- sell, o berthynas i'r cytundeb rhwng Rwsia a Phrwsia gyda golwg ar Poland, Ar gynnygiad Iarll Granville, darllenwyd ysgrif Gwaddoliad Tywysog Cymru yr ail waith. Bu pwnc yr Alltudiaeth i Awstralia Orllewinol dan sylw wedi hyny. Galwwyd sylw y Ty hefyd gan Esgob Exeter at ordeiniadau neillduol a wnawd gan Bwyllgor Prif-ysgol Durham.
DYDD LLUN, MAWRTH 2.
DYDD LLUN, MAWRTH 2. Pasiodd ysgrif gwaddoliad Tywysog a Thywysoges Cymru drwy bwyllgor. DarlIenwydysgrif Diysbyddiad Tir yn yr Iwerddoi) yr ail waith, a rhai ysgrifau dibwys ereill. Daeth Tywysog Cymru i'r Ty am hanner awr wedi pump.
DYDD MAWRTH, CHWEP. 24.
DYDD MAWRTH, CHWEP. 24. Wedi i'r Anrhyd. W. Addington gymmeryd ei lwon a'i sedd drcs Devizes, yn lie y Cadben Gladstone, Rhoddodd Mr. Monsell rybydd y byddai iddo gynnyg am ganiatadiddwyn ysgrif i mewn er cofrestii priodasau yn yr Iwerddon dydd Iau. Rhoddodd Mr. Hubbard rybydd y byddai iddo yn fuan ddwyn ysgrif i mewn er ad-drefnu treth yr incwm. Mewn atebiad i Mr. F. Smith, dywedai Syr G. Grey y dygid ysgrif i mewn yn fuan er attal danfoniad pysgod eog allan o'r Deyrnas Gyfunol yn ystod y misoedd argaeol. Mewn atebiad i Syr G. Bowyer, dywedai Mr. Layard nad oedd un rytundeb wedi ei wneyd rhwng y Llywodraeth a'r Brenin Victor Emmanuel o berthynas i bersonati a gyhuddid o gyflawnu troseddau yn Itali, y rhai a drigent yn Malta. Awgrymai y Llywodraeth y gellid pasio deddf leol, fel yn y trefedigaethau, er rhoddi fyny troseddwyr neillduol. Der- byniwyd yr awgrymiad; ac yr oedd deddf wedi ei pharotoi, ac wedi ei gosod dan ystyriaeth y Cynghor yn Malta. Mewn atebiad i Mr. Hadfield, dywedodd Argl. Palmerston na fyddai i'r Ty gwrdd ar ddydd priodas Tywysog Cymru. Wedi ychydig siarad o berthynas i gyflafareddiad Ffrainc a Lloegr yn America, Cynnygiwyd gan Syr J. Hay fod y T^ dydd Iau yn fl'urfio yn bwyllgor er ystyried anerchiad ^i'w Mawrhydi, yn cym- meradwyo gostyngiad yn nhatiad a gwobr-gyflogau swyddog- ion llyngesol. Cynriygiai Argf. Palmerston welliant, fed y t aros hyd nes y byddai i'r pwyllgor a bennodwyd yn 1861 anfon i mwn eu myneglad. Wedi dadl hirfaitb, cytunwyd a'r gwelliant. Mewn atebiad i Mr. Newdegate, dywedai Argl. Palmerston fod y Dywysoges Alexandra yn Brotestant.
DYDD IAU, CHWEF. 26. l }*.
DYDD IAU, CHWEF. 26. l }*. Cymmerotld Mr. Barber ei lwon a'i sedd dros Lisburne. Mewn atebiad i Argl. Churchill, dywedai Argl. C. Paget fod mynegiad wedi ei dderbyn oddiwrth yr Is-gadben Lefroy, llywydd llong ei Mawrhydi Investigator, o berthynas i'w bynt yn y liong hono mor bell. a Rabba, ar yr afon Niger, 400 o filltiroedd i gauolbartb Affrica, ac nid oedd ganddo un gwrth- wynebiad i'w osod ar y bwrdd, os oedd ei arglwyddiaeth yn dymuno hyny. Wedi i wladlywiaeth y deyrnas hon yn India fod dan sylw, ymfFurfiodd y Ty yn b>- vllgor cyflenwadol, a phleidleisiwyd y symiau canlynol: — £ » •5,322 i Swyddfeydd y Llynges; ^229,695 i Warchodiu y Glanau; £ 71,901 i'r Dosparth Celfyddydol; £188,310 i'r sefydliad cartrefol; jf36,370 i'r sefydliad tramor; £1,1I2,878 i gelfyddydwyr gartref, &c.; £ 69,951 at gyflogau celfyddydwyr yn ngwledydd tramor.
DYDD GWENER, CHWEF. 27.
DYDD GWENER, CHWEF. 27. Dywedodd Syr G. Grey y byddai i gorfforaeth dinas Llan- dain fyned i gwrdd a Thywysog Cymru a'r Dywysoges Alex- andra i Safle-y Bricklayer's Arms. Mr. Reed, yr hwn a wysiwydo fiaeny T^ am ysgrifetm llythyr anfoneddigaidd at Mr. F. Smith, aelod Seneddol dros Chatham, a wnaeth ymddiheurad. Ar fod y Ty yn ymfTurfio yn bwyllgor cyflenwadol, cynnyg- iodd Mr. Hennessy anerchiad i'r Frenines ar achos Poland, yn dymuno ar y Llywodraeth Brydeinig gymmeryd dan sylw y cytundebau a wnawd o berthynas i ryddid y Pnyliaid. Siaradodd amryw ary mater, ond ni ddaethwyd i un pender- fyniad ar y mater.
DYDD LLUN, MAWRTH 2.
DYDD LLUN, MAWRTH 2. Wedi i rai pethau dibwys fod dan sylw, galwwyd sylw at y mater o adeiladu Hongau tebyg i'r Alabama yn Lloegr at was- anaeth Taleithiau Deheuol America, gan Mr. Caird. Dywedai Mr. Layard fod sylw y Llywodraeth wedi ei dynu at amryw longsu agydynt yil cael eu hadeiladu yn bresenol at y pwrpas hwnw, fel y dywedir, ond nad oedd un hysbys- iaeth wedi ei derbyn a gyfiawnhau y Llywodraeth i weithredu yn ol y gyfraith. Gallai ef, fodd bynag, sicrhau yr aelod an- rhydeddus fod gorchymyn caeth wedi ei roddi i svylio pob Hong ammheus.
[No title]
Dywedir y bydd i ymchwiliad mewydd gael ei wneyd yn fuan i'r amgylchiadau hynod o barthed i lofruddiad y plentyn Francis Saville Kent, yn Road, ar y 29ain o Fehefin, 1860. Dywed y Liverpool Daily Pod: Y mae genym awdurdod i ddweyd fod Llywodraeth Lincoln wedi gwrthod cynnyg newydd Ffrainc o gyfryngu." Mac Esgob Exeter wedi rhoddi ei lyfrgell dduwinyddol i Sir Cernyw, ac y mae yr Archddeoniaeth wedi penderfynu adeiladu ty cyfleus yn Truro i ddati y llyfran.