Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

ATWEINIDOGION A PHREGETHWYR…

GWALL ' GWALL '' GWALL!!!

---------MYNSGYDD Y GOFFADWRIAETH.

: it .. it ."[. CEFNMAWR.

AINON, SIR GARFYRDDIN.

[No title]

,I YR EISTEDDFOD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR EISTEDDFOD. ALBERT DDA. Oddiwrth restr testunau Abertawe, yr hon a gyhoeddwyd trwy holl bapyrau y De a'r Gogledd, gwelir mai testun y gadair yw "Awdl ar y diweddar Dywysog Albert (Albert Dda)," am yr hon y rhodJir gwobr o ugain gini a bathodyn. Er rhoddi mantais bellach i'r rhai sydd ar fedr cyfansoddi, barnwyd mai buddiol fyddai rhoddi ychydig ddyfyniadau o lyfr sydd wedi cael ei gyhoeddi yn ddiweddar gan Mr. Murray, dan yr enw Prif Areithiau ei Uchelder Breninol y Tywysog Cydweddol," at y rhai yr ychwanegwyd Rhagymadrodd, yn cynnwys darluniad o'i gymmeriad. Mae yn amlwg fod def- nyddiau y rhagymadrodd hwn wedi eu rhoddi gan y Frenines ei hun. Y mae yn dangos ei theimlad cariadlawn tuag at ei gOr, ac hefyd mor bell oedd hi a'r wlad yn ddyledus i ddiwyd- rwydd a llafur diflino y Tywysng yn ei chynnorthwyo mewn materion pwysig a gwUdwriaethol. Mae y dyfyniad cyntafa roddwn yn cyfeirio at y cynnyg a roddwyd ar i'r Tywysog gymmeryd priflywodraeth y fyddin Brydeinig, a'r ail ddyfyniad yw ei ateb yntau i'r cynnygiad hwnw. Oddiwrth hyn teflir goleuni mawr ar gymmeriad ei Uchelder Breninol. Wrth ganiatau i'r cofnodiad hwn o ddyddlyfr y Tywysog gael ei gyhoeddi, y mae gan y Frenines amcan arall, heblaw y rhai a nodwyd eisoes. Y mae hyn yn rhoddi cyfleusdra i'w Mawrhydi hysbysu, mewn modd eglur a llavrn, yr hyn y teim- lodd am flynyddau awydd i'w gyhoeddi. Tra yr oedd y Ty- wysog yn fyw, yr oedd gan y Frenines awydd cryf i wneyd yn hysbys i'r byd y cynnorthwy pryderus, parod, a fFyddlawn a gafodd gan ei g*r i gario yn mlaen faterion y wlad. Ni allasai ei Mawrhydi, hyd y nod yr amser hwnw, prin ymgadw rhag hysbysu pa faint o lwyddiant ei theyrnasiad oedd yn ddyledus i'w gynghorion doeth ef; ac yn awr y mae y Frenines yn gorfod dyweyd am y golled anadferadwy a gafodd y wlad, yn gystal a hi ei hun a'i theulu, oddiwrth farwolaeth y Tywysog. Nis gellir yn hawdd ddychymmygu dwysder sefyllfa ei Mawr- hydi, yr hon oedd wedi arfer ymddibynu cymmaint ar ei help cariadlawn a pharod, ond sydd yn awr wedi eu haraddifadu, yn sydyn a llwyr, o hono. Teimla y Frenines fod y llwybr sydd yn awr o'i blaen yn unig a thywy 11, ond ei fod yn llwybr dyledswydd a lIafnr, yn yr hwn, dan fendith Duw, ac yjnddi- byniaeth drylwyr ar serch a chydymdeimlad breingarol ei phob!, y mae hi yn penderfynu ei roddi,—ond, aryr un pryd, y mae yn ymwybodol y bydd diflyg ei ofal a'i gynnorthwy tyner a chariadlawn ef, i'w weled ar lawro achlysuron." Nid oes un galon-yn sicr nid oes yr un galon CJymreig — nad yw yn cydymdeimlo yn ddwys gyda'i Mawrhydi wrth wneyd yr amlygiadau carualdd hyn o'i cholled am \\rr ei myn- wes. Os cawn weled yn y dyfyniad teimladwy yma archolli meddwl y Frenines, cawn yn y nesaf weled gofal, gonestrwydd, ac ymroddiad y Tywysog i gyflawnu ei ddyledswyddau pwysig, mewn modd hollol ddiymhongar. Er lies y cyhoedd y mae yn dewis bod yn gwbl o'r golwg, er ei fod yn llafurio gyda gallua diwydrwydd nad allai ond ychydig ymffrostiu yn eu cyffelyb. y I Yr oedd y Duke of Wellington yn barnu ar lawer o olygiadau, lied bwysig, y buasai yn fanteisiol iawn pe cymmerai y Ty- wysog brif lywodraeth y fyddin Brydeinig yn ei law. Mae yn hawdd i bawb weled fod sefyllfa uchel felly yn demtasiwn mawr i'r mwyafhunanymwadol i'w derbyn. Ond gwrandawer ar y Tywysog yn ei eiriau ef ei bun,— Mae y pwnc a fyddai yn fuddiol i mi gymmeryd Ilywodr- aeth y fyddin Brydeinig wedi ei ystyried yn drwyadl genyf, ac yr wyf wedi dyfod i'r penderfyniad y dylai gael ei reoli gan yr ystyriaetli a wnai hyny fod yn rhwystr, neu yn gynnorthwy, i mi fel cynghorwr ei Mawrhydi i gvflawnu y dyledswyddau hyny ag y mae fy sefyllfa yn eu gosod arnaf. Mae y sefyllfa hon ya uu neillduol a chynnil (delicate). Tray mae brenines yn llafurio dan lawer o anfanteision nad yw brenin yn ddaros- tyngedig iddynt, etto os bydd y freninc51 vn briod, a'tgwryn deall ac yn gwneyd ei ddyledswydd, y .uae llawer o fanteision o'i phlaid hi; fel at y cyfan, y gBllai fod yn fwy Ilesiol nag y gallai brenin fod. Ond i gyrbaedd hyn, dylai y g#r ymgolli yn llwyr yn hanfod swyddol ei wraig,ni ddylai ymgyrhaedd am ddim awdurdod annibynol iddo ei hun,-dylai ymwrthod a phob arddangosiad o orwychder, a pbeidio cymmeryd djm cyf- rifoldeb personol ar wahan oddiwrth ei Mawrhydi, ond gwneyd sefyllfa ei hun yn rhm hanfodol o'i sefyllfa hi; gwneyd pob diffyg i fyny y mae merch yn rhwym o'u dangosyn ngwein- yddiad ei swydd oruchel; gwylio gyda gofal dros holl ranau y gwasanaeth cyhoedd, fet y byddai ar bob adeg yn barod ac yn i alluog i gynnorthwyo a chynghori mewn pob mater pwysig— cydwladwriaethol, gwleidia'dol, cymdeithasol, a phersonol. Heblaw ei fod yn ben naturiol ar ei theulu, yn orchwyliwr dros ei d9, yn drefnwr ei materion personol, ei unig gynghor- ydd mewn pethau gwladyddol, ei chyniioi-thwvr yn ei gwaith gyda swyddogion y llywodraetb, y mae hefyd yn Or i'r frenines, yn athraw i'w phlant, yn ysgrifenydd cyfrinachol i'w Mawrhydi, ac yn weinidog sefydlog a pbarhaol iddi. Yn awr, a fyddai yn gysson a sefyllfa fel yna i ddyn gymmeryd prif lywyddiaeth un o gangenau mwyaf pwysig y gwasanaeth cy- toeddus, a'r cyfrifoldeb annibyno) sydd yn perthyn iddi,— bod yn swyddog gweinyddol dan y goron, derbyn gorehymyn ei Mawrhydio law un o weihidogion y lIywàdriieth, &c.? Yr wyf yn teimlo yn sicr, wedi i mi dderbyn y cyfrifoldeb, nad allaswn adael y gwaith i gael ei wneyd gan unruall,ond y teimlaswn yn ddyledswydd atbenig arnaf ei wneyd fy hun. Ond tra y buaswn fel hynyncyflawnu gorchwylion, y rhai, yr wyf yn sier y gallai unrhyw gadlywydd sydd wedi cael profiad ar faes rhyfel, yr hyn nis cefais i, eu gwneyd yn well, etto by-ddai yn rhaid i mi esgeuluso dyledswyddau ereill, mewn cyssyiltiad a gwaith ei Mawrhydi, nas gallai neb eu cyflawnu ond myfi. Yr wyf yn ofni, gan hyny, y bydd rhaid i mi ym- wrthod a'r anrhydedd uchel o fod yn gadlywydd y fyddin Brydeinig." Y mae cymmeriad mewnol y dyn yn cael ei ddarlnnio yn anfwriadol, ond etto yn ffyddlon, yn y dyf niad hwn, ac yn gosod y Tywysog allan fel un o'r cymmeriadau uchaf i'w efel- ychu. Mae ei ddoethineb, ei onestrwydd, a'i hunanymwadiad yn gyfryw na feddwn ond ychydig o enghreifftiau cyffelyb yn haues dynoliaetli.

[No title]

DYDD MAWRTH, CawEF. 24.

DYDD IAU, CawEF. 26.-

DYDD GWENER, CHWEP. 27.

DYDD LLUN, MAWRTH 2.

DYDD MAWRTH, CHWEP. 24.

DYDD IAU, CHWEF. 26. l }*.

DYDD GWENER, CHWEF. 27.

DYDD LLUN, MAWRTH 2.

[No title]