Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

t ...;iAMERICA/^ -.

POLAND.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

POLAND. Ymddengys oddiwrth y newyddion o'r wlad hon fod y gwrthryfel yn parhau, ac, ar y ewbl, fod y gwrthryfelwyr yn llwyddiannus, Y mae yn awr yn cyrhaedd i Kutno, Kolo, Konin, Slupce, a Pgzdry. Mae Kolo yn meddiant y gwrthryfelwyr. Yn Slupce a Pgzdry, mae'r eryrod Rwsiaidd wedi caeleu tynu i lawr, yr awdurdodau Rwsiaidd wedi cael eu gyru allan, a llywodraeth Bolaidd wedi ei sefydlu. Mae v Rwsiaid wedi cydgyfarfod yn Konin a Kalisch, gan wneyd y cylliddai yn wersyll-dai i'r milwyr. Mae'r tramwyfeydd rhwng gwarchodfa Rwsiaidd Konin a chyffintau Prwsia wedi eu cau fyny gan y gwrthryfel- wyr, y rhai ydynt wedi llosgi pont ar yr afon Wartha. 0 herwydd hyn y mae yn lied gyfyng ar y Rwsiaid, gy z, gan na allant .dderbyn adgyinerthion o Kalisch. Cym.nerodd amryw frwydrau anmhenderfynol le rhwng y gwrthryfelwyr a'u gormeswyr yn nghym- mydogaeth Konin a Kolo; mae'r ddinas gyntaf a enwwyd yn meddiant y Rwsiaid, a'r ail yn meddiant y Pwyliaid. Ilelaethodd y brwydrau eu terfynau hyd at Wloclawek, Radziejow, a Sluzew, ond ni chaf- odd y naill fucHJbgoliaeth ar y Hall yn un o honynt. Ymladdwydhefyd yn Biala ac Oskza. Nid yw y many-lion wedi dyfod i law o un o'r brwydrau, ond gymmaint ag oeddynt, yr oedd pobjin o'r brwydrau yn troi o du y gwrthryfelwyr. Newyddion o Cracow, dyddiedig Mawrth 6, a'n hysbysant fod yr awdurdodau Rwsiaidd wedi gwa- hardd mordwyaeth ar y rhan o'r Vistula sydd yn fFurfio y cyffin rhwng Gallicia a Poland. Dywed y Czas heddyw ddarfod i Pieskowaskala gael ei llosgi gan y Rwsiaid ar ol y frwydr a ddy- gwyddodd yno ddoe. Dygwyddodd frwydr ger Tarnowa a Skala rhwng y Rwsiaid a'r Pwyliaid dan Langiewicz. Maeddwyd y ltwsinid, a gyrwyd hwy arffo mewn annhrefn mawr.

[No title]

MARK-LANE. LLUNDAIN.

MARCHNADOEDD CYMREIG.

PRISOEDD Y METELOEDD, &c.

[No title]