Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

MAWRTH Y 10FED AR T BRYNMAWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MAWRTH Y 10FED AR T BRYNMAWR. Dydd mawr oedd y dydd ucfaod ar bob bryn yn Mhrydain, or.d c red wyf na bu fwy ar an bryn ni hwn. Niarbedwyd traul na thrafferth gan y trigolion er dangos en parch tuag at Pywysog a Thywysoges Cymra. Yr oedd arwyddion o fawr- -wdd y diwrnod i'w canfod dydd Llun yn y parotoadau ar ei gyfer; yr oedd pob un mewn Uawn waith yn parotoi er mwyn dangos ei barch ar yr amgylchiad yn ol fel y barnai efe oren; se yn whlith eraill, gwelais un wedi dyfod i'r lie er mwyn tangos ei barch trwy wneyd mwnci o bono ei hunan. Yr oedd wedi gosod dau bolyn yn y ddaear, a rhaff 0 un i'r Hall, ar yr hon y bwriadai gyflawnu gorchestion ? Wedi cael pob peth yo barod, cawsom y fraint (?), wrth fyued heibio, o'i weled yn dringo i fyny felcath; ond ni bu yn hir cyn dyfod i lawr yn bendra mwnwgl, efe a'i bawliau felly trodd poor Finch a'i berformance allan yn fethiant, a diolch am hyny. Ond nid felly fwriadau a chynlluniau pobl ystytiol y Brynmawr. Tuag un o'r gloch dydd Mawrth, gwelaf hen ysgol barchus Reho. both yn dyfod i lawr trwy Beaufort-street, yn cllel ei blaenori gan y cor, yn canu yn soniarus. Erbyn ei bod wedi cyrhaedd Bailey-street, dacw ysgol luosog Tabor yn cymmeryd ei lie ar 01 ysgol Rehoboth; ac erbyn fod yr orymdaith yn llawn, gwelaf yno un ar ddeg o ysgolion yn cymmeryd eu Ileoedd yn 01 eu henafiaeth yr oil yn cael eu blaenori gan ea cerau yn eanu yn ardderchog, gyda'r eithriad o ysgol Modryb Mari (chwedl Mr. Price, Aberdar). Nid oedd ganddi hi gSr; ond gan mai hi oedd y plentyn ieuengaf, tosturiwyd wrthi, a chaf. odd fepthyg y band perthynol i'r gobeithlu. Golygfa ar- dderchog oedd gweled rhwng dwy a thair mil o ddeiliaid yr ysgol Sabbothol yn un orymdaith yn cychwyn tua Cendl. Wedi cyrhaedd yno aethwyd i gae cyfleus, lie yr oedd amryw o ys- ysgolion ereilJ, yn nghyd a rheifflgor Brynmawr, wedi cyfarfod yn nghyd ac wedi canu yr Anthem Genedlaethat gan y sein- dorf, a'r holl ysgolion yn cyduno, cychwynwyd yn oltua Bryn- mawr ac wedi gorymdeithio ychydig trwy y He, aeth yr ysgolion i'r capelo, er mwynhau y te da a'r deisen flasus, y rhai a barotowyd iddynt ar draul nid yr eglwysi yn unig, ond y lie yn gyffredinol. Barnodd masnachwyr y Brynmawr mai y ffordd oreu iddynt ddangos en parch i Dvwysog Cymru ar ddydd ei briodas oedd anrhegu y trigolion a the. Amcanwyd gan rai nad yw yn werth difw) DO tudalenau eich StRKN â'u henwau, i gael rhyw chwareuyddiaethau ofergoelus, y rhai y mae Cymru grefydtlolyn ffieiddio; ond safodd masnachwyr y lie yn eu herbyn. Diolchwn o'n calon iddynt am hyny, a gobeithio y bydd i fasnachwyr a boneddigion pob pant a bryn eu hefelychu. Rhag cynnwys gormod o'ch gofod, terfynaf yn awr, gan ddymuno priodas ddedwydd i Dywysog a Thywysoges Cymru a Uwyddiant i chwithau gyda'r SZRBN Wythnosol.— MORGAN AB IOAW DDU.

:;"PRIODAS TYWYSOG CYMRU.

[No title]

TY YR ARGLWYDDI.

--TY Y CYFFREDIN.

[No title]