Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
AT WIR IFORIAID CYMRU BENBALADR.
AT WIR IFORIAID CYMRU BENBALADR. ANWYL FRODYRt-Wrthgyfeirio fy ysgrif atoch fel hyn, y mae hyny ar unwaith yn rboi ar ■ ddfall i chwi fod genyf rhywbeth i ddweyd wrthych; ac mor sicr ag y mae rhwymau ein cytundeb yn rhwymo pawbohonom yn un, dros leisiant ein laith, ein Gwlad, a'n Cenedl, y mae a fyno fy nhraith & phob Ifor yn ddiwahan. Yr wyf yn ystyried, ac yn cydnabod fy annghymhwysder i ddvsgu cannoedd os nid miloedd o'm cydfrodyr, ag sydd yn bresenol yn milwrio dan faner Iforiaeth; er hyny, pan yn gwybod nad yw Iforiaeth yn cynnyrcbu yr holl effeithiau hyfryd hyny, ac yn sicrhau i;ni yr holl bethau da y bwriadwyd hi (er yn sicr y gall), ar ddyngarwct), gwladgarwch, a chenedlgarweh yr Hen Genedl," y mae yn llawn bryd i ni fel Iforiaid i arfer y eymhwysder sydd ynom er urolygu y moddion ydym yn ymddiried ynddynt am ddiogelwch cenedlaethol, a profi-eu heffeith- ioldeb yn ngwyneb yr ymosodiadau- sydd arnom yn bresenol, a barnu oddiwrth effaith a dylanwad moesol a chenedlaethol Iforiaetb ar y genedI. am yspaid saith ar hugain o flynyddau, pa un ai breuddwyd ai ffaith yr ydym yn ei goleddu, pan yn bloeddio allan gyda sel a Drwdfrydedd cymdeithasol, Tra M6r Tra Brython," Oes y byd i'r Iaith Gymraeg," Cymro, Cymru, a Gbymraeg, &c., &c., ac os llwyddaf i dynu sylw fy nghydfrodyr at y pethau yr ydym yn rhy barod o'u diystyru a'u hesgeuluso, o herwydd ein diogi a'n an- ffyddloudeb, ystyriaf fy hun wedi cyflawnu dyledswydd ag sydd wedi ei hesgeuluso er ys blynyddau; ac am yr hon, fe dJichon mai melldith a rheg sydd yn fy aros gan lawer. Mor bell ag yr wyf wedi deall, y mae yn ymddangos i mi fod holl amcanion y sefydliad Iforaidd yn cael eu cyrhaedd yn llawer gwell na'r un mawr a mwyaf angen- rheidiol, sef, coleddu ein Iaith a wedir gan filoedd, a choethi a diwyllio ein Ilenyddiaeth a ddibrisiwyd ac a annghofiwyd dros gyhyd o amser; a byny, am nad ydym yn talu sylw i'r naill beth fel y llall. Gwyddom fod coleddu ein iaith a'n Ilenyddiaeth yn un o brif amcanion yr urdd, a dyma y pethau mwyaf angenrheidiol arnom fel cenedl, er ein cadw rhag myned yn ysglyfaeth i ddylanwad difaol y Saeson a'r Saesneg; ac er mwyn hyny y gwelodd sylfaenwyr Iforiaeth ynoreu ymrwymo pob aelod trwy rym egwyddorion at hyn o ddyledswydd ac oni bai hyn, beth yw Iforiaeth yn welt i'r Cymro nag Odyddiaeth, neu rhyw sefydliad tebyg arall. Y maeeu buddioldeb mewn amgylcbiadau o gyfyngder, a mar- wolaeth, bron yn gyfartal; o ganlyniad, nid yw y naill yn well nâ r llall ar y tir hwnw. Er hyny, yr ydym yn credu mai Iforiaeth yw'r sefydliad y mae y Cymro yn ei garu fwyaf, a hyny am mai er ei les, ei gysur, a'i lawen- ydd ef yn benaf y sefydlwyd yr urdd a'i holl ragorfreint- iau, er codi y Cymro, Cymru, a Chymraeg. Ond gofynaf yn awr, beth y mae Iforiaeth wedi ac yn ei wneyd rhagor nâ'r sefydliadau ereill, er dyrchafu y Genedl Gymroaidd ? A ellir cyfeirio at ryw welliant sydd yn orgraff ein iaith; at ryw lawer o gyfrolau teilwng wedi eu hysgrifenu er addysg y genedl; at ryw eel a brwd- frydedd Iforaidd dros ddysgu, gwybod, a siarad ein laith a dweyd wrtn ben y cyfryw mai argraff a ddy. lanwadodd Iforiaeth yw byn oll? Yr wyf yn ateb, na ellir; ac y mae pob arwyddion, profiad, a ffaith, o fewn terfynau ein Himdeb hydyn hyn, yn dweyd wrthym mai twyllo ein hunain wnawn, os credwn yn amgen; oblegid y mae y gwrthglawdd cadarn ag oedd Iforiaeth i ffurfio er diogelwch ein Iaith, heb weithio ond ychydig arno; ac hyd nes y del hwnw i ben, yn ofer yr ymdrechir diogelu ein terfynau trwy gadw y llifeiriau draw. Er mai pethau felly y darogenid am ran o ddylanwad Iforiaeth cyn yn awr; ond fel arall y mae. Yr ydym heb un gwelliant yn orgraff ein Iaith, na neb yn ein plitb yn gofalu fawr amhyny; ac er treulio llavver iawn o arian gyda'n Heisteudfod bob blwyddyn, nid oes ond cynnyrch nifer fechan iawn wedi dyfod trwy y wasg; ac, er ein holl ymffrost yn hynafiaeth, gwreiddioldeb, a gallu darluniadol ein Iaith; a'n proffes gyboeddus o'n cariad a'n hymlyniad wrthiy yiJJddygiad cyffredin llu o honom yw, nad yw hi yn werth i ni i brynt llyfr ceiniog, a'i dysgu hi i'n plant; onide, paham yr esgeuluswn ei dysgu hi gymmaint ar yr aelwyd, neu paham na chan- iatawn i'n plant ddysgu Cyroraeg yn yr vsgolion Sul; neu, paham na welem gyffredinolrwyM aelodau ein Cyfrinfaoedd yn rhesu eu hunain yn mtilith dysgedigion ac athrawon v sefydliad tra gwerthfawr hwnw, er mwyn dysgu eu hunain, neu ei dysgu i ereill ? atebed y sawl a fyno yr achosion o hyn, ar yr un tir y trigaf fi. Llawer o bethau ereill y gellid ddysgwyl y buasai i ddylanwad yr Unrieb Iforaidd effeithio cyfnewidiad, os nid chwyldroad hollol arnynt cyn yn awr; megys, ein dwyn fel Cenedl i weled y gwarth a'r anfri yr ydym dano wrth beidio a mabwysiadu enwau Cymreigaidd ar ein heiddo bydol; a galw ein hanwyliaid bychain ar enwau Cymroaidd y Gwroniaid Cymreig; ac amlygu ein parch a'n teimladau da i'n pertbynasau ,madawedig mewn iaith a nodwedd, teitwng o olyfwyr Taliesin, Hywel Dda, Catwg, ac Ifor Hael. Yh wir, pan yr ystyriom fod oddeutu pumtbeg mil o wir Iforiaid mewn cylcb mor fechan, y mae yn rhyfedd i ni na fyddai ynfydrwvdd, brad, i gwarth ein bymarferiadau cenedlaetbol, wedi eu hysgubo ymaith cyn hyn,ac na fyddai dylanwad niweidiol ein hymarferiadau beunyddiol, er dileu coffadwriaeth ein henw o blith cenedloedd y ddaear, wedi cynhyrfu ac ennyn pob bardd y tu allan i Iforiaeth, yn gystalaco fewn, i ddefoydLtio ei athrylitb, pob areithiwr, ei hyawdi- edd, a phob gwladgarwr ei ddylanwad moesol, er achub y Genedl, a sicrhau*ei diogelwch, cyn elo hyny yn or- chwyl rhy anhawdd, ac ofer am bytb. Qpd y gwir yw, mai dibrisdod, diogi, a balchder cyffredinol y genedl, sydd yn nodi holl weithrediadau yr Undeb Iforaidd yn y cyssylltiadau hyn oddiar ei sefydliad ac yn lie bod Iforiaid Cymru yn arweinwyr, noddwyr, a dysgawdwyr y jQenedl, y Genedl sydd felly iddynt hwy. Yn awr, frodyr, ai felly y mae hi i fod ? Onid yw hi yn bryd fod gan Iforiaeth rhywbeth teilwng o'i heg- wyddorion i ddangos i'r Genedl yn brawf o'i gallu, yn yr ystyr yr ydym wedi crybwyll? Adolygwn ein dttil ar- wynebol a ffugiol o weithio allan ein hegwyddorion, a diwygiwn yn mhob peth yr ydym ar fai. Ymdrechwn ennyn a meithrin ysbryd a bywyd Cymroaidd trwy holl gyfrinfaoedd ein Undeb, a bydded i bob brawd ystyried yr angenrheidrwydd o fod mewn egwyddor yr hyn ydyw mewn enw. Rhaid i hyn gymmeryd lie, cyn byth y gwelir Iforiaeth dan ei choron, a'i holl amcanion wedi eu henniil, a'i gwisgo ag arwyddion buddugoliaeth, yn brawf o'i gallu, er diogelwch ein Iaith, ein Gwlad, a'n Cenedl. Mountain Ash. IORWERTH GOCH.
GOHEBIAETH 0 MOUNTAIN ASH.
GOHEBIAETH 0 MOUNTAIN ASH. Mae wedi bod yrt anoser lied doreitbiog ymayn ddiweddar, cymmysgedig a dristyreh a liawenydd. Dydd Gwener, y 6ed o'r mis hwn, aeth angladd y diweddar Mr. Williams (Alaw Goch). Miskin, drwy y dref hon. Gorchuddiwyd y ffenestri, cauwyd y siopau, &c., ac yrndyrwyd i'r brif heol i weled yr orymdaith bruddaidd yr oedd yno 15 o gerbydau, a rhai ar feirch. Dylai Mountain Ash dalu teymged o barch i goffad- wriaeth Mr. Williams; efe ddechreaodd suddo at y gloenwog sydd yn yr ardal; gwariodd ugeiniau o filoedd o bunnau yn yr anturiaeth bwysig hon, a throdd allan yn hollol lwyddiannus iddo ef a'i weithwyr, fel mae pwll y Deep Dyffryn yn ffyn- nonell bara beunyddiol i gannoedd o ddynion. Bu yn gadeiriwr mewn darlithiau, yn ysgogydd i eisteddfodau s chyrddau lien- yddol, a rhoddodd yn haelionus o'i eiddo at y temlau ardder- chog sydd yma wedi eu hadeiladu i rymus Dduw Jacob. Mae coffadwriaeth Mr. Williams yn barchus yma, a theimlir colled a hiraeth dwyø ar ei ol. Dranoeth, sef dydd Sadwrn, cawsom amlygiad o deimtadau gwahanol o eiddo y dydd blaenorol. Yr oedd ein anrhyd- eddus gymmydog H. A. Bruce, A.S., yn dod adreu o Lundain. Yr oedd wedi bod ffwrdd am amser maith, ac wedi cael swydd uchel o dan y Llywodraeth. Teimlodd y masnachwyr ac ereill o wyr cyfrifol y drer eibod yn ddyledswydd arnynt i wneyd rbyw arwydd o barch iddo ar ei ddychweliad i'w bulas, y DyfTryn. Parotowydanerchiad, a darllenwyd hi iddo ar safle y rheilffordd pan ddaeth allan o'i gerbyd. Crybwyllwyd am ainryw rinweddau ag oedd yn perthyn iddo fel boneddwr, ac amei ffyddlondeb gydag addysg y Werin—bydd yr ysgoldai ardderchog avdd ganddo yma yn gof-golofnau oesol iddo o'i rinwedd ar y pen hwn. Diolchwyd iddo am yr anrheg dywys- ogaidd a roddodd i'r gwahanol ysgolion tuag at anrhydeddu gwyl priodas Tywysog Cymru y dydd Mawrth canlynol. Golygfa hyfryd oedd gweled torf o hobl parchus yn bennoeth yn y gwynt yn talu parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus. Wedi gorphen darllen yr anerchiad, tynodd y boneddwr eihet, moes-gyfarchodd y gwyddfodolion, a llefarodd gwpwl o eiriau pwrpasol a hynod o addawol. I ddiweddu, rhoddwyd hwre galonog i Mr. Bruce. Mae hanes dydd Mawrth, y lOfed, wedi ymddangos yn barod. DAU O'R BYD AC UN O'R BETTWS.
[No title]
Ymddengys oddiwrth hanes swyddol ddarfod i 6,000 o arfau gael en danfon gan Rwsia yn lladronaidd i Lervia trwy y Tywysogaethau, yr hyn nid oedd gan Rwsia hawl i wneyd. Danfonwyd yr arfau i Poland, lIe y maent yn gwneyd gwasan. aeth da yn nwylaw y Pwyliaid yn erbyn rhengau yr Amber. awdwr. Y TYWYSOG CONSTANTINE A'R PW YLIAID.—Os yw y can. lynol yn wirionedd, y mac'n amiwg fod ar y Tywysog Constan tine ofn y bydd i'r symudiad presenol yn Poland lwyddo, acy ewtogir amherodraeth Rwsia yn fawr o'i herwydd :—Dywed llythyr o Posen fod deisyfiad wedi cael ei wneyd ar Langiewicz i roddi arfau lawr am bythefnos, ac y gwnelai y Tywysog Con- stantine ei oreu yn y cyfamser nid yn unig i gael gan y Llyw- odraeth i gydnabod y byr-gynghrair hwn, ond y byddai iddo hefyd ymdrechu cael breinteb newydd i'r deyrnas, gan nad oedd breinteb 1815 o un gwerth i effeithio y gwellhad angen- rheidiol." RHYWBETH GWERTH El GOFIO.—Mr. Hobson.o 48, Heol Moorgate, Llundain, yn ysgrifenu at Olygyddion y Freeman, a ddywed :—" Mewn cyssylltiad a'r derbyniad sydd newydd gael ei roddi i'r Dywysoges Alexandra o Denmarc, dygwyddodd amgylchiad o beth dyddordeb i'r Bedyddwyr, cyd ddygwydd- iad a ystyrir gyda phleser. Y mae yn hysliyb i lawer o'ch dar- llenwyr pan aeth ein Cenadon cyntaf, Dr. Carey a Mr. Thomas, o Loegr i India, ygwaharddwyd iddynt fyned yno mewn un Hong berthynol i'n cenedl ni; yr oeddynt ar fwrdd llopg yn Portsmouth, ond gorfodwyd hwy i ddyfod allan o honi; yn dychwelyd i Lundain i gydymgynghori, cyfarfuasant a goruch- wyliwr Hong berthynol i Denmarc, ac yn y llong hono yr aeth. ant i India. Wedi cyrhaedd India, ni chaniateid iddynt drig- iannu yn un o'r sefydliadau Prydeinig, ond cawsant gartrefle yn Serampore, yr hwn le oedd yn sefydtiad Daiiaidd y pryd hwnw, fel y crcdwyf. Y cyd-ddygwyddiad yw hyn, mai diacon o Eg- lwy. Fedyddiedig oedd y person a cafodd y fraint o gyflwyno yr anerchiad llongyfarchiadol,ac i roddi y croesawiad cyntaf i'r DywysogesAlexandra pan diriodd yn ein gwlad sef hybarchFaer Margate, Mr. J. B. Fflint." H eblaw y dyddordeb a gynnwys yr uchod i'r enwad Bedyddiedig yn gyffredinol, y mae yn cyn- nwys dyddordeb ychwanegQI i Fedyddwyr Cjmreig, pan gofir mai Cymro yw Mr. Flint o ochr ei fam, yr hon oedd ferch i'r enwog Mr. B. Francis, llawer o hymnau yr hwn a geir yn nghssgliad y Parch. Joseph Harris. LLYTHYR LLEIDR.—Cafwyd y llvthyr canlynol yn llogell Ileidr ieuane a gymmerwyd i fyny yn Efrog. Danfonwyd y llythyr ato gan hen leidr medrus o Spitalfields, Llundain Ben,-Dylecb fod yn Llundain ar y 10fed o Fawrth. Mae Tywysog Cymru yn myued i briod:, goleuir pob lie, ac y mae'r bechgyn' yn dysgwyl gwneyd darby' dJa. Mae yr hen Bill Clark yn dysgwyl cynameryd pedwar ar liugain o gochion [oriorau aur], a'r hen Dom a J Je ddau cynnifer."
.'Søhtbiutt&uu. -
'Søhtbiutt&uu. TEGAI A'R PARCH. T. LEWIS. MR. GOL.,—Y mae genyf gwyn yn eich erbyn. Nid oea genyf ddim ammheuaeth n* chaf le i'w osod gerbron darllen- wyr eich SERBN. Yr ydych yn ofni mai fy amcan oedd rhwydo Mr. Lewis yn fy llythyr ato yn y Faner. Nage, yn wir—y mae genyf barch calon i Mr. Lewis. Yr wyf bob amseryn darllen ei ysgrifau nerthol a boneddigaidd gyda'r hyfrydwch mwyaf. O! nad allem oil ysgrifenu mor deilwng a Mr. Lewis o'r efengyl a broffesvrn. Nid wyf fi wedi cael hyd yn hyn o leiaf, ddim achbs igilio dim oddiwrth yr hyn a ddywedais yn y darlithiau ar Fedydd, ond yn hollol yn y gwrthwyneb. Os ydych yn tybied fod rhywbeth yn wahanoL yn fy llythyr at Mr. Lewis i'r hyn sydd yn fy llyfryn ar Fedydd, yr ydycb heb dalu sylw digon manwd i'r pwnc. Trin- iwch faint fyd ag a fynoch ar fy nadl; ond, yn wir, os pri.dol- wch gau ddybenion i mi. chwi a wnewch yr hyn y mae Holl. wybodaeth yn dyst sydd yn annheg. Fe fuasai yn dda i mi filwaith, ac fe fyddai yn dda i mi y dydd hwn mewn ystyr dym- horol, pe gallwn chwareu y flfori ddwybig. Paham yr ydych chwi yn synu fod Tegai yn ysgrifenu yr un peth yn ei lythyp ag yn ei lyfryn ? Nid wyf am ddadleu dim a chwi ar y pwnc gan nad oes genyf ddim i'w ysgrifenu nad yw ar glawr yn fy llyfryn a'r llythyr dan sylw. Gan fy mod er ys tua chwarter canrif yn arfer ysgrifena I ch cyhoeddladau, ac hyd y gallaf gofio, na chefais unwaith erioed fy ngbau allan genych.nid ammheuwyf n^fydd y croesaw arferol i'r Jliriellau hyn ae y mae genyf gryii hyder y bydd i chwi, Mr. GoL, a Mr. Lewis yr un modd, dderfej-n fy ardyat- iad fel gwirionedd pur. Yr eiddoch ar frys gwyllt, H. TEGAI. [Nid oes un ammbeuaeth yn ein meddwl o berthyHas i bartfh- calon Tegai at Mr. Lewis, ai haelfri dedd fe! ys^rifenwr i'n cy- hoeddiadau, &c., am yr hyn yr ydym yn teimlo yn gariadus tuag ato, ac yn wir ddiolchgar iddo ond nid ydym, ar yr un pryd, yn gallu deall Tegai yn ei "ardyitiad pan yn dyivedvd nad oedd yn ameanu "rhwydo Mr. Lewis. Beth yw tynri ymresymeg un arall i lawr mewn dadl, a dango nad yw y gyfryw r-symeg yn dêg" yn deilwng, yn gywir, &c., ond ymdrechu "rbivydo" yeyf!)'\¥' ymresymwr? Os nad yw T.e¡ai yn caru y gair "rhwydo," cynt- mered ef rhyw air arall yn ei le ef, ac ni bydd gwahaniaeth geuyih ni. Y pwnc yw, fod Tegai yn niethu deall fod Mr. Lewia yn ym- resymu yn gywir (ac nid ots dim arall i'w weled yn ei ys((rif'EÎf yn y Faner), ac o ganlyniad, yn ymdrechu tyuu rhesjtnau Mr^ Lewis i lawr. Gan hyny, mae ein sylwadau ni ar Tegai a Lewis yn sefyll yr un fath, a gadael, os mynir, y gair "rhwydo ar ol — GOL.)
AT Y PARCH. J. W. MAURICE,…
AT Y PARCH. J. W. MAURICE, BETHEL. Ma. GOL.Caniatewch i'r llinellau canlynol i gael ym- ddangos yn y SERKN, mewn atebiad i lythyr hunanol, anovir," eddus, a thwyll.ymresymiadol y person sydd yn dwyn yr env uchod, yr hwn a ymddangosodd, ac a gyfeiriwyd ataf, yn y SEREN am Mawrth 6fed. Mr. Maurice :-Mae yn debyg eich bod yn meddwl i chwi gyflawnu gorchest uwchlaw dynol yn ysgrifeniad eich llythyr diweddaf ataf yn y SUREST. Mae tôn yr anffaeledig, yr an- mhosibl-i-gamsynied, a'r hollwybodol yn rhedeg trwyddo olfi Nid oes dim yn iawn, na thebyg i hyny, mewn dim ond mewii trochyddiaeth. Yr ydych yn guchiog ac yn llidus tuag at bawb ond y trochwyr. Pe na buasai genym yr un cyfrwng i wybod tipyn am danoch ohwi a'ch brodyr ond eich ysgrif fardd.. onol chwi, buasem mewn perygt o feddwl mai holl wybod usion ydych bob un. Mae yn ymddangos eich bod yn meddwl i chwi wneyd ty atebion I yn sarn ond cofiweh mai yn eich dychymmyg eich hunan mae'r holl sarneiddiweh yn bodoli. Mae eich sylwadau ar uy pethau a'n harweiniodd i'r ddadl hon yn gwbl anwireddus. Gall y gair hwn gael ei ddweyd hefyd am eich holl haeriadau drwy gorff eichllythyr, gydali eitbriad o un dywediad. Creadigaethau dychymmygol eich meddwl eich hun ydynt, neu y maent wedi cael eu gwneuthur ar sail adroddiadau penboethiaid anwybodus, fel chwi eich bun. y rhai nad ydynt yn fwy galluog i ail ddweyd un frawddeg yn gywir fel ei llefarwyd hi mwy na'r baban a anwyd ddoe; a rhaid i mi feddwl fod eich ymenydd yn un soft arswydus cyn y gallasai adroddiadau mor ddisail gael y fath ddyfnder ynddo." Yr wyf yn dweyd etto y peth a ddywedais o'r blaen, ac y mae\ yn eithaf cywir, sef fod yna ryw fawredd aruthrol mewn gosod brawddegau annghywir yn ngeneuau ereill, ac yna galw ary broydd a'r bryniau yn nghyd i syllu ar eich deheurwydd* digyffelyb yn dynoethi cyfeiliornad hunan-wneuthuredig." Mae eich sylwadau ar ffigur y broydd n't bryniau"yn addysgiadol iawn. Maent yn dangos eich bod chwi yn sowy- bodus neillduol o Air Duw, neu ynte, fod eich chwaeth chwi yn llawer mwy coethedig nk chwaeth y rhai a ysgrifeDasant y Beibl o dan gyfarwyddyd Ysbryd Duw. Mae yn lied debyg,- er mor ddysgedig a choethedig y mynweh i bobl ddiniwed ae, anllvthyrenog feddwl eich bod, nad ydych mor ryfygus a meddwl, serch dweyd, fod eicb chwaeth isel chwi yn fwy pur ni chwaeth y dynion a lefarasant megys y cynhyrfwyd hwynt gan yr Ysbryd Glan." Felly, rhaid i mi feddwi y blaenaf am danoch, er mor ddiraddiol yw ar fawredd eich gwybodaeth hunan-dybiol, sef nad yw eich gwybodaeth o'r ysgrythyraUr ond bychan iawn. Ac os ydyw hyn yn wir, yr hyn a rwyma, eich sylwadau ni i'w gredu, rhaid eich bod yn rhyfygus ac hunanol ofnadwy, cyn y beiddiasechsiaradamachondemnio ffigur nad oeddech yn gwybod dim yn ei chylch; ac wrth' wneyd hynr, condemnio y dynion y gwelodd Duw yn dda eu dewis i drosglwyddo ei feddwl i'r byd. Gwelwch ffigur o'r un natur yn Micah 6. 1, 2, "A cblywed y bryniau dy lais," Gwrandewch y mynyddoedd," &c. Ai siarad am bethau na wyddoch ddim yn eu cylch ydych yn wastad ? Hen arferiad corachod yw ceisio dangos mawredd eu gwybo aeth-mawredd eu hanwybodaeth fyddai y geiriau mwyaf priodol, trwy ddaros- twng yr hen bregethwyr da a fu yn yr amser gynt. Yr ydych yn siarad yn dduwiol iawn am eich parch i wirionedd, ac yr ydych yn ymdyngedu i ddweyd y gwir, y gwir i gyd, a dim ond y gwir." Ond yr ydych chwi fel llawer ereill, yn foddlon ar ddim ond siarad am y gwir. Nid ydych yn ei wneyd. Pei elech i wrando treialon mewn llysoedd barn, celech weled. llawer iawn o frodyr i chwi. Dywedantyr un ystori a chwi,, a hyny mor gywir a chwi, tra y mae twyll ac anwiredd yn eu calon. Mae eich haeriadau cyn belled oddiwrth y gwir ag. ydyw y dwyrain oddiwrth y gorllewin. Dywedwch am rr mhregeth mai un ryfedd yw hi. Wel, tebyg ei bod yn urr ryfeda i chwi, gan uad ydveh yn gyfarwydd a nac yn gwy- bod am y gwirionedd. Mae eich darluniad o Eglwys Ffaldy. brenin ar gyfnod neillduol yn dangos fod eich galluoedd bardJJ
YR HUGUENOT.
luw yn llaw. Mor wrol! mor dawel! mor benderfynol Saf yn ol, Mazurier Diane, Buconnet! Nid dyma eich lie—nid hon yw eich awr. Nid yw y barnwyr yn cymmeradwyo yn awr—nid oes canmoliaeth yn rhedeg trwy y dorf yn awr. Na! digofaint sydd yn argraffedig ar bob gwedd, ond ar wynebpryd Victor Le Roy a Jac- queline, y rhai a safasant yn wrot dros y gwirionedd, ac a aethant mewn cerbyd tanllyd i gyfarfod â'u Duw yn yr awyr.—T. T.