Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I- pM. CYMYG MANTEISIOL I YSGOLION. Y BEDYDDWYRCY MREIG-EU HANES, EU SEF- JL YLLFA, A'U DYLEDSWYDD, aef Llythyr Cymmanfa Bedyddwyr Morganwg, 1862. Gan y Parch. Thomas Price, Aberdar. Mae ychydig o'r ail-argraffiad o'r Llythyr hwn, yn cyn- nwys yr anercihiad at yr eglwysi heb ystadegau y Gymmanfa, ar law. Mae yr ysgrifenydd yn credu yn ostytigedig fod ynddo "wybodaeth fuddiol i ieuenctyd Cymru, ac am hynv mae yn ei Ityn- nyg iddynt ar y telerau rbadlawn hyn:—Ar dderbyniad swllt mewn stamps, anfonir 20 copi trwy y post; bydd y cludiad yn ddwy geiniog, felly, bydd y llythyr yn cael ei werthu am ddimai y copi. Ni wneir un sylw o unrhyw gais am dano heb fod y llythyr yn cynnwys y til, sef swllt, a'r gyfer pob 20 copi, ac ni ddanfonir ni llai nS gwerth swllt ar y teleraa hyn. Danfoned y neb a chwen- nycho eu cael aty Parch. Thomas Price, Aberdar. Ar yr un telerau a'r uchod, DYLEDSWYDD A RHAGOLYGON Y BEDYDDWYR, sef Pregeth gan y Parch. William Walters, Castellnewydd- ar-y-Tyne. Cyfieithedig gan Thomas Price, Aberdar. Hefyd, ar yr un telerau, PWNC YSGOL-YR EFENGYL Alf LLWYDDIANT. 1- Gan T. Price, Aberdar. Etto, ar yr yr un telerau, PWNC YSGOL-Y DULL 0 FED YDDIO. Gan Thomas Price, Aberdar.
AT EIN GOHEBWYR, &c.
AT EIN GOHEBWYR, &c. EIN DEHBYNI ADAU.— Parch. W. Hughes-Abia Bach—Amran Glanyrafon-Dau o'r Byd, &e.—T. Thomas, Bethel-J. W.- Meiriog-Lledfelin-J. E. J.-Parch, T. Lewis-Parch. E. E. Jones. ABIA BACH.-l. Mae gwaith y Dr. Benedick wedi ei ranu yn sections ac aid yn ganrifoedd. Mae yn wir dda, a'r argraffiad elaf yw yr un a wnawd yn Efrog Newydd yn 1860. 2. Nis gallwn ddywedyd oddiar brofiad werth cymharol gweithiau Baird a Belcher, ond fod y ddau wedi derbyn canmoliaeth uchel iawn. 3. Pris y Baptist Almanac yw chwech cheiniog. Gell- wch gael yr oil gan Trubner & Co. AMRAM.—Mae yr achos y cyfeiriwch ato yn gyfry w ag afuasai yn cyfiawnbau yr eglwys i adael y mater i gael ei dringan y diacon- iaid ac ychydig frodyr o'r eglwys, yn hytrach «&'i ddwyn o flaen yr holl;eglwys. Wrth gwrs, dyledswydd y personau hyn yw chwilio i mewn i'r achos, a dwyn eu mynegiad i'r eglwys yn y cwrdd eglwysig rheolaidd nesaf. Nid y rhyw deg ywjy cym- meriadau mwyaf priodol i drin mater o'r fath y cyfeiriwch etto. DAVID WALTERS, Nova Scotia.-Diolch icbwi am eich llythyr dyddorol, a'ch adgofion caredig am Aberdar a Chalfaria. Bydd yma ddegau yn llawenhan i glywed eich bod yn iach a chysurus, ac yn cofio am yr Ysgol Sul a'r cyfarfodydd. Da genym hefyd glywed am eich ymdrech i sefydlu Ysgol Sul yn Oldham Dig- gins. Duw fyddo gyda chwi, ac yn eich llwyddo. CYFARFOD Y BEDYDDWYR CABTH YN LLUNDAIN.—Mae yn dda genym na fydd Cymru yn absenol yn y cyfarfod hwn. Bydd Cymmanfa Morganwg yn cael ei chynnrychioli gan y 'y brodyr-Thomas, Caerdydd, a Price, Aberdar; a Chymmanfa Dinbych, &c., yn y Gogledd, gan y brawd Owen, Rhyl. Mae eglwys Aberdar yn danfon dan genad i fyny yn mhersonau y Meistri E. G. Price, a David Evans, draper. Bydd eglwys Glyn Nedd yno trwy ei gweinidog, y Parch. T. E. James. J. D. a'n hysbysa fod r Parch. Ebenezer Morgans wedi derbyn gal wad galonog yr eglwys yn y Twyngwyn. H. AMos.-Diolch yn fawr amalw sylw at wall. Mae y llyfr i'w gael oddiwrth y cyfieithydd, Mr. John Williams, Londen Warehouse. Trecynon, Aberdar. Daw un am rot, neu bedwar am swllt, trwy y post. YSQOLION ABERDAR.—Yn y nesaf.
TALIADAU.
TALIADAU. Derbyniwyd taliadau oddiwrth,-W. J. Troedyrhiw, T. M' Fron Gron, D. J. R. Llanymddyfri, T. LL Rudry Mill, W. R. Casbach, R. K. Castellnedd, T. G. Ystalyfera, D. L. Llandyssil, Mrs. J. Ysgubor Fawr.
SYL W E H, !
SYL W E H, Dymuna y Cyhoeddwr hysbysu y derbynwyr, e herwydd i ni golli un wythnos ar ddechreu y fiwyddyn, na fydd ond 12 Rhifyn yn y chwarter hwn felly, bydd y Rhifyn nesaf yn terfynu y chwarter. COFIER EIN TELERAu-taliad cyn pen wythnos ar ol derbyn y Rhifyn diweddaf o'r chwarter, onite gosodir 2g. yn rhagor ar bob un, yr hyn nid yw yn ormod gyferbyn a'r gost ych- wauegol a roddir arnom. Nis gall neb, ond y dynion hyny nad ydynt yn ei chyfrif yn bechod i beidio talu am lyfrau, deimlo yn anfoddlawn i'r telerau hyn.
ARIANDY CYNNILO Y LLYTHYRFA…
ARIANDY CYNNILO Y LLYTHYRFA A PHLANT GOiiDDERCHAIDD. TEIMLASOM ni hyfrydwch nid bychan i alw sylw cynnar at Ariandai Cynnilo y Llythyrfa, gan ein bod yn eu hystyried ar lawer golwg yn traragori ar yr hen Ariandai Cynnilo. Ac felly yr ydym yn ystyried etto. Ond mae o bwys i ni gael sylw ein darllenwyr at un agwedd neillduol o'r sefydliadau newyddion. Yn mhlith y rheolau, cawn y ganlynol, yn dal perthynas a dosparth neillduol—dosparth a ddylai gael ein cydymdeimlad a'n cydweithrediad er diogelu eu heiddo, sef plant ag ydynt wedi eu geni oddiallan i'r cylch priodasol; h.v., bastarddiaid. y I SECTION 20.—" If any depositor being illegitimate, shall die intestate, leaving any persan or persons who, but for the illigitimacy of such depositor, and of such person or persons, would be entitled to the money due to such deceased deposi- tor, it shall be lawfull for the Postmaster General, with the authority, in writing, of the Barrister-at-law appointed to certify the rules of Savings Banks, to pay the money of such deceased depositor to any one or more of the persons who, in his opinion, would have been entitled to the same according to the Statue of Distribution, it the said depositor, and such other person or persons had been legitimate." Wedi darllen y Section yna yn ngoleu synwyr cyffredin, credasom fod yna ddarpariad arbenig i'r sylw; ond nid felly y mae mewn gweithred, ac mewn gwirionedd. Mae y cwbl a fedd y plentyn gordderch, yr hwn a fydd marw yn ddiewyllys, yn myned yn eiddo y Goron yn awr fel cynt, yn ol geiriad eglur y section yna o ddeddf yr Ariandai Cynnilo. Daeth amgylchiad o dan ein sylw yn ddiweddar, a roddodd i ni lawer iawn o drafferth, ac er rhy- bydd i ereill, cyhoeddwn lythyron yr awdurdodau ar y pwnc. Ni fydd i ni gyhoeddi yr eiddom ni o'r tu arall, gan y bydd yn ddigon rhwydd casglu eu hamcan-oddiwrth yr atebion. Bydd i ni yn fwr- iadol newidenw y gwr ieuanc, ac enw ei fam, a lie eu trigfa. Mae genym reswm neillduol dros hyn; bydd pob peth arall *air a Ilythyren fel y maent yn eu llythyron hwy. Bu farw y gwr ieuanc yn nech- reu Rhagfyr, heb wneyd unrhyw ewyllys. Yr oedd ychydig o bunnoedd yn ddyledus iddo lie yr oedd yn gweithio trwy garedigrwydd George Fisher, Ysw., cafwyd y cyfryw yn gyflawn. Ar yr 8fed o Ion. 1863, gwnawd cais am yr ychydig bunnoedd ag oedd y bachgen wedi eu gosod yn Ariandy Caer- dydd. Mewn atebiad derbyniwyd y llythyr can- lynol:— Savings Bank Department, General Post Office, London, E.C., 14th January, 1863. Sir,—Referring to your letter of the 8th instant, I beg to inform you that, according to Law, the property of illegitimate persons, who die intestate becomes forfeited to the Crown, and that, therefore, the deposits of the late Evan John cannot be paid to his mother. I have to add, that if a memorial be sent by, or on behalf of Mary John, to the Lords of Her Majesty's Treasury, stating the facts of the case, and praying their Lordships to allow payment to be made to her, it is highly probable that author- ity may be given to this department to comply with that request. In the meantime the deposit book, and the certificate of the depositor's birth, will be retained here. I am, Sir, Your obedient servant, GEO. CHETWYND, Controller. The Rev. T. Price. Danfonasom lythyr maith yn ol, yn dadleu hawl y fam ar dir Section 20 o'r Act; ond y cwbl yn ofer. Cawsom yr atebiad canlynol yn derfynol ar y mater:- Savings Bank Department, General Post Office, London E.C., 16th January, 1863. Sir,—I beg to acknowledge the receipt of your letter of yesterday's date, and to inform you that your view of the case in question is inaccurate, and that the money deposited by the late Evan John can only be paid upon the conditions mentioned in my previous letter on the subject. I am, Sir, Your obedient servant, Gzo. CHETWYND, Controller. The Rev. T. Price. Darfu i ni ar nnwaith ddarparu memorial i Arglwydid y Trysorlys, a thrwy garedigrwydd Henry Awstin Bruce, Ysw., A.S., cawsom fynediad at y gwtr mawr hyn. Yn y memorial hwn, darluniwyd sef- yllfa a chymmeriad y marw, sefyllfa a theilyngdod y fam, a'r cam a effeithid trwy yspeilio y tlawd er cyfoethogi y Goron. Cawsom yma wrandawiad parchus a boneddigaidd. Mewn canlyniad, eawsom y Ilythyr nesaf:— Savings Bank Department, General Post Office; London, E.C., 28th January, 1863. SIR,-Referring to your memorial addressed to the Lords Commissioners of Her Majesty's Treasury, relative to the pay- ment of the deposits of the late Evan John, I request that you will inform me whether that person left a widov or any children. I am. Sir, Y our:obedient servant, GEO. CHETWYND, Controller. The Rev. T. Price. Atebwyd hwna trwy ddangos mai gwr ieuane heb fod yn briod oedd Evan John, ac mai ei fam, Mary John, oedd yr nnig berthynas a hawl i'r arian. Wel, wedi aros mis etto, eawsom lythr arall, yn cynnwys ffurf i ni wneyd ein llw fod Evan John wedi marw. Yr oeddem ni er ys dau fis wedi gwneyd ardysteb ein bod wedi ei gladdu ef; ond dyma y Hythyr :— Savings Bank Department, General Post Office, London, E.C., 28 February, 1863. SIR,-I beg to enclose a Form of Declaration of the death and identity of the late Evan John, which you will be good enough to sign in the presence of a Justice of the Peace, and return to this Department. I beg also to enclose a Form of Notice of Withdrawal, which should be signed by the mother of the late depositor, and returned with the Declaration. When these documents are received, a warrant for repay- ment, to Mary John, of the uieneys deposited by her late son shall be issued. I am, Sir, Your obedient servant, GEO. CHETWYND, Controller. The Rev. T. Price. Wel, yr oeddem yn ennill rhyw ychydig bob tro yr oedd y goleu yn fwy cryf, a'n gobeithion yn fwy bywiog. Aethom o flaen yr ynadon gwnawd y llw augenrheidiol; cawd yr ysgrit oddiwrth y fam dan- fonwyd y cwbl i Lundain drachefn a choronwycF ein llatur trwy gael y llythyr canlynol :— Savings Batik Department, ¡ General Post Office, London, E.'C., 11 March, 1863. SIR,-I beg to acquaint you, that a warrant for repayment at the Robin Goch Post Office, to Mary John, of the moneys- deposited by the late Evan John, has to-day been issued andl forwarded to her address. I am, Sir, Your obedient servant, GRO. CHETWYND, Controller. The Rev. T. Price. Terfynwyd y drafodaeth trwy i'r fam gael yr arianr. a ninnau yn danfon llythyr i ddiolch am barodrwydd a boneddigeiddrwydd yr awdurdodau yn eu holl. ohebiaethau a mi. Ond fe welir ar unwaith mai nid bach yw y drafferth yn y mater. Mae un gair yn ddigon Na fydded i un mab neo- merch o ordderch fyw bedair awr ar hugain be6 wneyd ewyllys ar yr hyn sydd ganddynt; pe bai hyn yr ychydig yn yr Ariandy Cynnilo, neu bar o hosanau yn hongian ar bost y gwely. Cofiwch, nid ydym am i chwi godi yr arian o'r Llythyrdy; maent yn llawn mor ddiogel yno ac unrhyw fan arall; ond os marw fyddwch yn ddi- ewyllys, y G-bron bia dim a feddoch pan yn marw. Mae mor rhwydd a rhad i wneyd hyn, fel mai gresyn fyddai i'r Goron gael ei chyfoethogi a chyunildeb rhyw weithiwr caled, a hyny o ddiffyg ychydig eiriau ar bapyr. GWNEWCH EWYLLYS.
Family Notices
PRIODASAU. Mawrth 7, yn nghapel y Bedyddwyr, Twyngwyn, gan John Williams, gweinidog cynnorthwyol, ac yn ngwydd y cofrestrydd, John Harris, Cymmer, ger Pontypridd, & Ruth Edmunds, Gelli- groes, ger Pontllanffraith, Mynwy. MARWOLAETHAU. Mawrth 12, yn 21 oed, Evan, mab Daniel Jones, Brynaru, Llanwenog. Claddwyd ef yn mynwent newydd Brynhafod, cape! y Bedyddwyr. Mawrth 11, yn 82 mlwydd oed, Mrs: Margaret Lewis, Llanid- loes, gweddw y diweddar Mr. Richard Lewis, eigydd, Pantcaer Llangurig. Bedyddiwyd hi vn Llanidloes yn haf 1812, gan y di- woddar Barch. Thomas Thomas, Nantgwyn, ftlly yr oedd hi wedi bod yn aetod gydalr Bsdyddwyr am banner can mlynedd. Cladd- wyd hi yn mynwent eglwys y Bedyddwyr yn St. Idloes, a gwein- yddwyd ar yr achos gan y Parch. Thomas Evans, Capel Newydd. Boed heddwch i'w llwch.—RHO ETA. Mawrth 13, Sarah, priod Thomas Thomas, saer, a merch Tho- mas a Sarah Jones, Garegaman-isaf, Cross Inn, ar ol cystudd byr ond trwm iawn, yn 33 mlwydd oed. Bu yn aelod ffyddlawn gyda'r Bedyddwyr yn Cress lna am y denr mlynedd diweddaf. Yr oedd e1 buchedd a'i hymarweddiad yn cywir brofi fod dylanwad achubol gan y gwirionedd ar ei henaid, a bod efengyl Crist wcdi bod ya allu Duw er ei hiacbawdwriaeth. Mawrth 8, yn 40 mlwydd oed, Anne, anwyl briod Mr. Thomas Thomas, Penybedd, plwyf Pembre. Bu yr ymadnwedig yn aelod hardd a diwyd gyda'r Bedyddwyr yn Siloam, Cydweli, am flyn- yddoedd lawer, a theimlir coiled mawr ar ei hol. Meddai ar rinweddau tuhwnt i'r cyffredin. Gadawodd briod heff, pedwar o blant, a Ilawer o berthynasau a chyfeillion i alaru ar ei ol. Claddwyd hi yn Rsheboth, pryd y gweinyddodd v Parch. John Reynolds, hen.—J. R.
[No title]
YSGOL FRYTANAIDD MEIDRIM.-Ar y lOfed o'r mis hwn, dartu i gyfeillion yr ysgol uchod anrhegu y plant ac ereill a the a theisen hyfryd yn yr ysgoldy newydd. Y mlfurfiodd tua hanner cant o blant, ac amrywiol ereill, yn orymdaith, er myned drwy y pentref i awchlymu tipyn ar yr archwaeth, yn cael eu blacnori gan y Parchedigion Jenkins, Cana, a Williams, Salem, yn nghyd a Charles Mansfield, Ysw., ieu., Abertawe. Wedi myned trwy y pentref, dychwelasom yn ol i'r ysgoldy, er cyfranogi o'r te da a'r deisen flasus ag oedd wedi eu parotoi i ni gan y gwragedd medrus. Wedi i bawb gael eu digoni gan. y danteithion uchod, ac i'r byrddau gael eu clirio, cymmerwyd y gadair gan Mr. Mansfield, yr hwn a alwodd ar y plant i ar- ddangos eu dawn canu, yr hyn a wnaethnat trwy ganu amryw douau yn swynol dros ben, nes oedd ein calonau yn llawen. Wedi darfod a'r canu, cynnygiodd ein cadeirydd iechyd hir a dedwyddwch paihaus i Dywysog Cymru a'i briod hawddgar, yr hyn y cydunwyd gan y plant drwy guro eu dwylaw. Cynnyg- iwyd ac eiliwyd diolchgarwch i brif noddwyr yr ysgol, ac hefyd i'r gwragedd caredig ag oedd yn gweinyddu ar y plant. Cyn- nygiwyd diolchgarwch i Mr Mansfield am ei fedrusrwydd yn y gadair. Penderfynwyd hefyd fod llythyr o gydymdeinjlad i gael ei anfon oddiwrth y pwyllgor hwn at Mrs. Williams, gweddw y diweddar D. Williams, Ysw., (Alaw Goch), yn ei gofid a'i thrallod presenol, 9 herwydd colli mor sydyn ei phriod hawddgar a charedig, yr hwn a roddodd y tir am ddim ar ba un y mae yr ysgoldy yn y He hwn yn sefyll, yn nghyd ag d620 tuag at ei adeiladu. Terfynodd y cyfarfod, a phawb wedi eu boddloni. Da genyf allu hysbysu y cyhoedd fod yr ysgol uchod yn dod yn mlaen yn rhagorol, ond gellir gydag ychydig o ffyddlondeb a chydweithrediad wneyd yn well.— D. W. PBNYGARN, GIR LLANFYNYDD.—Ar y lOfed o'r mis hwn, cafwyd gwledd ragorol yn y lie uchod odea bara brith, er cof am briodas Tywysog Cymru. Cafodd 35 o blant yr ys^ol ddyddiol, yn nghyd a 25 o hen bobl eu diwallu yn gysurus. Dymunein hir oes a llwyddiant i Mrs. Evans, Penygarn; Mrs. Davies, Penybank; Mrs. Thomas, Trebwl; Mis. Tho- mas, Finant; Mrs. Price, Carpenter, a Mrs. Davies, Panty- garn, am eu caredigrwydd a'u serchogrwydd y dydd hwnw, A trwy iddynt ddyfod & digonedd o de, siwgr, a bara, yn nghyd a gweinyddu ar y pryd. Dymuniad pawb yma yw, priodas dda i'r Tywysog a'i gymhares.-G. CEFNMAWR.—Y diwrnod byth gofiadwy hwnw, Mawrth lOfed, darfu i weithwyr Mr. Jonathan Jones, Stone Merchant, Cefnmawr, gyflwyno i Mr. Wm. Ryland Jones, y mab, Feibl Teuluaidd mawr ac ysblenydd, yn dysteb o barch iddo am ei ymddygiadau caredig tuag atynt fel gweithwyr bob amser, gyda dymuniad ar iddo fod yn feddiant teuluol o dad i fab, o fab i *yr, o wyr i or-wyr. &c. &c., hyd nes y byddo ei ddail yn dadfeilio gan amser, a bod iddo ef, ei briod, a'i blant oil feddiannu y trysor anmhrisiadwy sydd yn gynuwysedig yn 1 Beibl.—UN. :V.